Cwrs Llafaredd Y Cyfnod Sylfaen Drama Dawns Chwarae
- Slides: 31
Cwrs Llafaredd Y Cyfnod Sylfaen Drama, Dawns, Chwarae Rôl, Byd Bach a dull Pie Corbett o ddweud stori
Ydi hon yn ddraig…? Dangoswch hyn ar eich wynebau. Dangoswch hyn yn eich corff
Beth mae’r ddraig yn hoffi ei wneud? Dangoswch hyn mewn llun llonydd. Dangoswch hyn mewn symudiad.
Ydi hon yn wrach…? Dangoswch hyn ar eich wynebau. Dangoswch hyn yn eich corff
Beth mae’r wrach yn hoffi ei wneud? Dangoswch hyn mewn llun llonydd. Dangoswch hyn mewn symudiad.
Pa symudiadau dawns allwn ni wneud i ddangos nodweddion y thema? Cofiwch y gallwch ddefnyddio holl wahanol rannau y corff – traed, coesau, breichiau pen… Cofiwch hefyd amrywio y symudiadau fel bod rhai yn: • Gyflym • Araf • Troi neu droelli • Neidio • Aros yn yr unfan • Teithio • Yn isel ar y llawr • Yn uchel yn yr awyr • Ar ben eich hun neu mewn pâr
Nodweddion ar gyfer symudiadau dawns:
Lluniau Llonydd
Mae gan y grŵp un munud i lunio y siapau yma gan ddefnyddio pawb yn y grwp
Mae gan y grŵp un munud i lunio y llun llonydd yma gan ddefnyddio pawb yn y grwp
Swynion yn y Crochan! Troi a throi y crochan du, Llygaid llo ac adain pry. Dagrau dreigiau wedi’i dwyn Troi a throi y seimllyd swyn. Beth sy’n mynd i’r crochan?
Beth arall allwn ni roi yn y crochan? Ewch i chwilio am bethau i wneud y swyn…
Defnyddio Chwarae Rôl a’r Byd Bach i ddysgu nodweddion iaith Mae’r Dylwythen Deg osgeiddig Marchog Dewr Ddraig Ffyrnig lleoliad wrth yml o dan o flaen y castell y goeden y graig Dewis brawddeg, creu y llun a defnyddio i-pad i’w gofnodi…
Mae’r dewin doeth o flaen y twr.
Mae’r ddraig ffyrnig yng nghanol y goedwig.
Mae’r wrach greulon o flaen yr ogof.
Mae’r dylwythen deg osgeiddig tu ôl i’r blodau.
Y cam nesaf…. brawddegau estynedig…. • Dechrau gyda berf yn hytrach na ‘Mae’… Cuddiodd y dylwythen deg osgeiddig tu ôl i’r blodau. Ymladdodd y marchog dewr o flaen y castell. Hedfannodd y ddraig ffyrnig heibio’r graig. Carlamodd yr uncorn hudol uwchben y llyn.
Stori dull Pie Corbett Amser maith yn ôl roedd gwrach yn byw mewn bwthyn tywyll, cam yn y goedwig. Roedd hi’n wrach hyll, gâs a chreulon oherwydd ei hoff beth oedd bwyta plant bach i frecwast. Roedd ganddi drwyn hir a cham, gwallt gwyrdd a seimllyd a het bigfain, ddu. Ei ffrind gorau oedd Parddu y frân, a byddai’r ddwy wrth eu boddau yn cuddio yn y goedwig yn barod i ddychryn pawb oedd yn mynd heibio.
Ystumiau Pie Corbett Ystumiau ar yr Agoriadau a’r Cysyllteiriau yn hytrach nag ar yr enwau a’r ansoddeiriau – hyn yn bwydo ‘Geirio Gwych’ ‘Ysgrifennu Ysblenydd’ VCOP.
Stori dull Pie Corbett Amser maith yn ôl roedd tywysoges yn byw mewn tŵr tal, pigfain yn y goedwig. Roedd hi’n dywysoges garedig, hardd ac annwyl, oherwydd ei hoff beth oedd brwsio ei gwallt hir euraidd a gofalu am anifeiliaid bach diniwed. Roedd ganddi wefusau melys a meddal , gwallt tonnog a phrydferth a llygaid pefriog, glas. Ei ffrind gorau oedd Fflwffen ei chath a byddai’r ddwy wrth eu boddau yn gwylio’r cymylau gwyn fflwfflyd yn hwylio heibio’r tŵr…
Stori dull Pie Corbett Amser maith yn ôl roedd _______yn byw mewn ______, ______ yn y _____. Roedd hi’n _______, _______ oherwydd ei hoff beth oedd ______________ Roedd ganddi _________a ____, gwallt _____a ____ a______. Ei ffrind gorau oedd ______a byddai’r ddwy wrth eu boddau yn _______________________________
Thema – ‘Gwyliwch y Ddraig!’ • Gweithgareddau Trawsgwricwlaidd Siarad i ‘Sgwennu: • Sylw parhaus – Atalnodi, llawysgrifen, sillafu. • Sut allwn ni adnabod creadur hudol? • Man- cychwyn – Cael disgrifiadau ar bapur o greaduriaid hudol gwahanol e. e. gwrach, blaidd, ellyll, cawr, dewin, draig, uncorn, mor-forwyn, corrach, tylwyth têg. Rhai lluniau o’r creaduriaid. Bydd yn rhaid i’r plant drafod pa lun a disgrifiad sy’n mynd gyda’i gilydd. Bydd angen i rai o’r disgrifiadau fod heb lun a rhai o’r lluniau fod heb ddisgrifiad er mwyn i’r plant gael cyfle i greu rhai eu hunain.
Thema: Gwyliwch y Ddraig! • Tasgau posib: • Ysgrifennu disgrifiad/portread i fynd gyda llun o greadur hudol. Gellir gwneud hyn yn llafar hefyd. • Creu llun neu fodel (mewn gwahanol gyfryngau) o greadur hudol, ar ôl darllen neu glywed disgrifiad ohono. • Creu lluniau a disgrifiadau o’r newydd gan ddychmygu eu nodweddion. • Creu dawns yn archwilio nodweddion gwahanol greaduriaid e. e. camau mawr y cawr, troi crochan y wrach, chwifio hudlath y tylwyth teg neu’r dewin, sleifio’r blaidd. • Cyfatebu disgrifiadau gyda lluniau. • Gwaith drama/Chwarae rôl. Gêm ddyfalu ‘Pwy ydw i ? ’ ‘Y Gadair Boeth’. • Creu poster ‘Rhybuddio’ neu ‘Yn Eisiau’. • Cyfweliad radio neu deledu gyda llygad-dyst neu erthygl papur newydd. • Clapio rhythm geirfa berthnasol e. e. crochan crwn, hudlath hir.
- Don't delay dawns disarming display
- Only that day dawns to which we are awake
- Don't delay dawns disarming display
- Don't delay dawns disarming display
- Robert graves symptoms of love
- Kata drama berasal dari bahasa yunani kuno yaitu
- Soap opera serial
- Drama türleri
- Natak
- Drama means
- Krismis van map jacobs langvrae
- Elizabethan drama introduction
- Lirika epika drama
- What is tone in drama
- Naturalism in acting
- Pasca pementasan
- Greek god drama
- Teknik penulisan drama
- Inherent drama advertising examples
- Drama uygulama basamakları
- Comedy of manners in restoration period
- Drama bilinç koridoru
- Elements of fiction and drama
- Types of drama
- What is a nonsense poem
- Naturalism in drama
- Yaratıcı dramanın belirgin özellikleri
- Elements in drama
- It is the complex interrelationship between a text
- Stranger things genee
- Ada1o
- Long form tv