Cyfnod Allweddol 2 Uchaf Cylchoedd a Chroesau Cyfnod

  • Slides: 4
Download presentation
Cyfnod Allweddol 2 Uchaf Cylchoedd a Chroesau Cyfnod Sylfaen Da neu Ddrwg? Drwy drafodaeth

Cyfnod Allweddol 2 Uchaf Cylchoedd a Chroesau Cyfnod Sylfaen Da neu Ddrwg? Drwy drafodaeth a drama bydd disgyblion yn ystyried a yw ystod o weithredoedd yn dda neu’n ddrwg. Yn ystod ‘amser dweud wrth Tarian’, byddant yn atgoffa Tarian sut i ddangos parch, gofal ac ystyriaeth tuag at eraill. Cyfnod Allweddol 2 Isaf Cerrig a Ffyn Bydd disgyblion yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau bywiog er mwyn adnabod y gwahanol fathau o fwlio a deall yr effaith y mae’n ei gael ar eraill. Byddant yn dysgu beth i’w wneud a lle i fynd am gymorth. Drwy amrywiaeth o weithgareddau, yn cynnwys trafodaeth, gwneud penderfyniadau a chwarae rôl, anogir disgyblion i werthfawrogi a dathlu gwahaniaeth diwylliannol ac amrywiaeth. Addysgir disgyblion hefyd i adnabod sut y gall stereoteipiau arwain at ragfarn neu droseddau casineb. Cyfnod Allweddol 3 Torri’r Cylch Gan ddefnyddio amrywiaeth o ffotograffau a senarios bydd disgyblion yn dysgu dangos empathi gyda phrofiadau a theimladau pobl eraill. Byddant yn ystyried effeithiau niweidiol bwlio a dulliau pendant o ddelio ag ef. Mae’r wers hefyd yn amlygu y gall agweddau ar fwlio ddod yn droseddau yn ddiweddarach mewn bywyd. Cyfnod Allweddol 3 Hunaniaeth Ddiwylliannol Cyfnod Allweddol 2 Uchaf Wnes i Ddim Meddwl Drwy drafodaeth ddosbarth, gwaith pâr ac ystyriaeth feirniadol, bydd disgyblion yn archwilio’r angen i ddeall gwahaniaethau diwylliannol ac adnabod mynegiant o ragfarn a stereoteipio. Anogir disgyblion i werthfawrogi cyfle cyfartal, amrywiaeth ddiwylliannol a chrefyddol a pharchu eu hurddas eu hunain ac urddas pobl eraill. Cyfnod Allweddol 3 ’Dewis Kiddo’ Mae’r wers hon yn defnyddio darnau o’r DVD "COW" i archwilio peryglon tynnu sylw wrth yrru. Drwy weithgareddau rhyngweithiol a gwaith grŵp mae’n amlygu’r gyfraith parthed gyrru ac yn archwilio’r canlyniadau ar gyfer pawb sy’n gysylltiedig, boed hynny’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol. Mae’r DVD a’r wers hon yn edrych ar ymddygiad gwrthgymdeithasol a’i ganlyniadau o safbwynt y dioddefwr a’r tramgwyddwr. Gwneir hyn drwy weithgareddau rhyngweithiol yn cynnwys gwaith grŵp. Cyfnod Allweddol 4 COW Bydd disgyblion yn archwilio canlyniadau trosedd o fewn y system cyfiawnder ieuenctid gyda chymorth DVD. Bydd asiantaethau eraill megis y Timau Troseddau Ieuenctid, Ynadon Heddwch, Gwasanaeth Carchardai EM, Cymorth i Ddioddefwyr â’r Gwasanaeth Tân yn ymuno â’r heddlu i gyflwyno gweithdai rhyngweithiol. Cyfnod Allweddol 4 Amrywiaeth Cymunedol Drwy drafodaeth a gwaith grŵp bydd pobl ifanc yn dysgu gwerthfawrogi amrywiaeth ddiwylliannol ac yn adnabod sut y gall stereoteipiau arwain at ragfarn a throseddau casineb. Bydd senarios datrys problemau yn eu cynorthwyo i ddod yn fwy ymwybodol o asiantaethau cymorth yn y gymuned. Cyfnod Allweddol 4 Hawliau a Chyfrifoldebau Bydd disgyblion yn archwilio’r angen i fod yn ymwybodol ac, os bydd angen, i herio anghyfiawnder cymdeithasol, camfanteisio ac atal hawliau dynol. Mae’r wers yn ceisio codi ymwybyddiaeth ynglŷn ag agweddau, disgwyliadau ac ymddygiad mewn cymdeithas tuag at berthynas gan gynnwys y gwahaniaeth rhwng priodasau a drefnir a phriodasau dan orfod.

Cyfnod Sylfaen Pwy? Beth? Ble? Cymer Ofal! Bydd disgyblion yn cyfarfod Tarian y ddraig

Cyfnod Sylfaen Pwy? Beth? Ble? Cymer Ofal! Bydd disgyblion yn cyfarfod Tarian y ddraig byped. Gyda’i gilydd byddant yn penderfynu beth i’w wneud â chwdyn a ddaethpwyd o hyd iddo sy’n cynnwys casgliad o wrthrychau bob dydd a allai wneud niwed iddynt. Cyfnod Allweddol 2 Isaf T. A. S. K Lu Drwy arddangosfa goginio llawn hwyl, bydd disgyblion yn gwella eu gwybodaeth am dybaco, alcohol a thoddyddion. Cyfnod Allweddol 2 Uchaf Adenydd i Hedfan/ Eich Dewis Chi Bydd disgyblion yn datblygu eu hymwybyddiaeth o beryglon a chanlyniadau cyffuriau anghyfreithlon. Naill ai drwy wylio disgyblion hŷn yn perfformio ‘Adenydd i Hedfan’ neu drwy gymryd rhan mewn carwsél o weithgareddau yn ‘Eich Dewis Chi’’. Cyfnod Allweddol 3 Edifar y Dydd, Ar ôl gwylio’r fideo ‘Edifar y Dydd’ gall y bobl ifanc archwilio’r broses gyfreithiol o fod a rhan mewn, bod ym meddiant neu gyflenwi sylweddau anghyfreithlon. Cyfnod Allweddol 4 Cyfraith Cyffuriau Drwy wers ryngweithiol bydd disgyblion yn cynyddu eu gwybodaeth am ddosbarthiad cyffuriau a cyffuriau newydd sy’n ymddangos (NEDs) a’r canlyniadau a’r cyfreithiau sy’n llywodraethu camddefnyddio sylweddau. Cyfnod Allweddol 2 Uchaf Felly, beth yw’r broblem? Bydd disgyblion yn dysgu am effeithiau andwyol camddefnyddio alcohol a thoddyddion. Bydd clip DVD yn ysgogi trafodaeth ynglŷn ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, yfed sbri a’i effaith ar y gymuned. Rhoddir gwybodaeth ynglŷn â ble i fynd am gymorth. Cyfnod Allweddol 3 Datrys y Broblem Defnyddir DVD i annog disgyblion i ystyried peryglon a chanlyniadau arogli toddyddion. Bydd gwaith grŵp a gweithgareddau cadair boeth yn rhoi cyfleoedd i ddisgyblion drafod cwestiynau allweddol am bwysau cymheiriaid a chymryd risgiau. Cyfnod Allweddol 3 Meddwl am Yfed! Gêm fwrdd a darn o DVD sy’n herio gwybodaeth y disgybl am alcohol a’r gyfraith a’r ffyrdd yn gall alcohol effeithio ar eich ymddygiad. Rhoddir negeseuon diogelwch cadarnhaol a chanllawiau i’r disgyblion gyda gwybodaeth am linellau cymorth. Cyfnod Allweddol 4 Trwbwl Dwbwl Anogir disgyblion i ystyried effeithiau camddefnyddio alcohol. Mae clipiau DVD emosiynol yn archwilio canlyniadau camddefnyddio alcohol. Yna bydd disgyblion yn ystyried sut i leihau’r risg i’w diogelwch personol a chynigir canllawiau iddynt ynglŷn â ble i fynd am gymorth.

Cyfnod Sylfaen Pobl Sy’n Ein Helpu! Bydd cymhorthion gweledol yn helpu disgyblion i nodi’r

Cyfnod Sylfaen Pobl Sy’n Ein Helpu! Bydd cymhorthion gweledol yn helpu disgyblion i nodi’r pum gwasanaeth a all eu helpu mewn argyfwng. Drwy chwarae rôl byddant yn ymarfer gwneud galwadau 999 priodol ac yn egluro wrth Tarian beth y maent wedi ei ddysgu. Cyfnod Allweddol 2 Uchaf Byddwch yn Seiber Ddiogel Mae’r wers hon yn canolbwyntio ar ferch ifanc sydd yn ddiarwybod yn ddioddefwr bwlio seibr. Dengys y DVD pa mor agored i niwed y mae plant i’r math hwn o fwlio a’r effaith y gall ei gael ar eu bywydau. Mae’r wers yn amlygu'r broblem ac yn hyrwyddo trafodaeth a dadl ynglŷn â’r mater. Cyfnod Allweddol 2 Isaf Ffrind neu Elyn! Drwy waith grŵp a thrafodaeth bydd disgyblion yn dechrau sylweddoli y gall dieithriad gysylltu â hwy yn eu cartref, dros y ffôn ac yn y gymuned. Bydd senarios yn eu cynorthwyo i ddewis y camau cywir i’w cymryd. Cyfnod Allweddol 3 Perthnasoedd Diogelach Drwy ddiffinio beth sy’n gwneud perthynas dda bydd pobl ifanc yn dechrau deall y pum math o gam-drin domestig. Anogir hwy i ddod yn ymwybodol o’r hyn y gellir ei wneud a’r asiantaethau sydd ar gael i roi cefnogaeth. Cyfnod Allwedol 3 Edrychwch Pwy sy’n Siarad Diogelwch ar y Rhyngrwyd Yn y wers hon bydd disgyblion yn dysgu sut i aros yn ddiogel ar y rhyngrwyd drwy amrywiaeth o weithgareddau a gwaith grŵp. Bydd disgyblion yn trafod defnydd cadarnhaol a negyddol y rhyngrwyd, yn arbennig mewn perthynas â dieithriad. Cyfnod Allweddol 4 Na yw Na! Mae’r wers hon yn cyflwyno’r syniad o gydsynio ac yn datblygu strategaethau sy’n rymuso’r bobol ifanc i ddeall cydsyiad rhywiol. Bydd y disgyblion yn gwylio DVD er mwyn agor y ddadl am gydsyniad rhywiol, y gyfraith a’r canlyniadau gan archwilio scenarios sy’n galluogi’r disgyblion i wneud penderfyniadau gwybodus. Mae’r wers hefyd yn tynnu sylw at yr asiantaethau cefnogol lleol a chenedlaethol.

Cyfnod Allweddol 2 Uchaf Dychmygwch Hyn! Cyfnod Sylfaen Chwarae yn Saff Mae’r wers hon

Cyfnod Allweddol 2 Uchaf Dychmygwch Hyn! Cyfnod Sylfaen Chwarae yn Saff Mae’r wers hon yn defnyddio amrywiaeth o adnoddau gweledol, propiau a stori sy’n helpu disgyblion i adnabod lleoedd diogel i chwarae gan atgyfnerthu pwysigrwydd dweud wrth oedolyn yr ydynt yn ymddiried yn ble fyddant pob amser. Cyfnod Allweddol 2 Isaf Cadw’n SMART Addysgir y disgyblion am gadw’n ddiogel arlein trwy gwylio animeiddio am Rhys a Celyn sy’n chwarae gêm arlein. Mae gweithgareddau’r gwersi wedi selio ar reolau SMART. Cyfnod Allweddol 2 Uchaf Criw Craff Bydd disgyblion yn cyfranogi mewn cyfres o weithdai diogelwch i ystyried pryd, ble a sut y gallant fod mewn perygl. Cyflwynir y rhain gan ystod eang o asiantaethau. Cyfnod Allweddol 3 Ar y Bws Mae’r wers hon yn atgyfnerthu'r angen i deithio’n ddiogel ar drafnidiaeth ysgol ac yn archwilio ymddygiad anghyfrifol a chanlyniadau difrifol ymddwyn mewn modd peryglus. Mae’r amrywiaeth o weithgareddau yn pwysleisio bod cadw at reolau yn hanfodol ar gyfer eu diogelwch hwy eu hunain ac eraill. Cyfnod Allweddol 3 Pam Arfau? Gan ddefnyddio amrywiaeth o weithgareddau bydd disgyblion yn dysgu deall risgiau a chanlyniadau cario arfau. Mae’r wers yn codi ymwybyddiaeth o sefyllfaoedd risg, y gyfraith ynglŷn ag arfau mewn mannau cyhoeddus, ar dir ysgol ac ymateb yr heddlu. Drwy amrywiaeth o weithgareddau, yn cynnwys trafodaeth a gwaith grŵp, bydd disgyblion yn dysgu sut i ddefnyddio ffôn symudol yn ddiogel ac adnabod bwlio ffôn symudol. Bydd disgyblion hefyd yn dysgu sut i riportio digwyddiad ddefnydd amhriodol o ffôn symudol. Cyfnod Allweddol 2 Uchaf Hawl i fod yn Ddiogel Mae’r wers hon yn canolbwyntio ar hawl pob plentyn a pherson ifanc i deimlo’n ddiogel. Drwy weithgareddau dosbarth a gwaith grŵp gofynnir i ddisgyblion ystyried amrywiol sefyllfaoedd diogel ac anniogel, sut y gellir lleihau risg ac at bwy y gallant droi os bydd angen cymorth neu gefnogaeth arnynt. Cyfnod Allweddol 3 Diogelwch Personol Gan weithio yn barau a grwpiau bydd pobl ifanc yn trafod ardaloedd o broblemau yn lleol a’r tu hwnt. Maent yn ystyried y ffactorau a all effeithio ar eu diogelwch personol a phryd y gallai hyn ddod yn fater i’r heddlu. Bydd senarios yn eu cynorthwyo i archwilio strategaethau i’w defnyddio yn eu bywydau eu hunain. Cyfnod Allweddol 4 Twyll Peryglus Yn seiliedig ar ddigwyddiad bywyd go iawn mae’r DVD yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio stori Lucy. Cysylltiwyd â hi gan ddyn ar y rhyngrwyd a oedd yn dynwared Asiantaeth Modelu. Mae e’n meithrin perthynas amhriodol gyda Lucy a chyn bo hir mae Lucy’n dioddefwr o gamfanteisio rhywiol. Gan ddefnyddio trafodaeth a gweithgareddau rhyngweithiol mae’r wers yn canolbwyntio ar adnabod yr arwyddion rhybudd cynnar sy’n dangos nad yw popeth yn iawn ac mae’n annog y disgyblion i ddarganfod cyfleoedd er mwyn gwneud dewisiadau cadarnhaol ac i gadw’n ddiogel.