Ffurfiau Ymson Meini Prawf Llwyddiant Cofia fod angen

  • Slides: 29
Download presentation
Ffurfiau

Ffurfiau

Ymson Meini Prawf Llwyddiant Cofia fod angen: • Ysgrifennu yn y person cyntaf. E.

Ymson Meini Prawf Llwyddiant Cofia fod angen: • Ysgrifennu yn y person cyntaf. E. e. Codais yn gynnar… • Ysgrifennu am dy deimladau. E. e. Roedd fy mol i’n troi… • Ysgrifennu am dy feddyliau. E. e. Tybed beth fydd yn disgwydd i mi…? • Edrych yn ôl ar ddigwyddiadau sydd wedi mynd heibio. E. e. Ddoe doedd gen i ddim poen yn y byd… • Edrych ymlaen ar ddigwyddiadau sydd am ddigwydd. E. e. Ys gwn i fydd gen i ffrindiau, beth petai gang Jake yno…?

Ysgrifennu yn y person cyntaf. Meddyliau. Edrych ymlaen at ddigwyddiad. Iawn Cat? Rhoddodd Dad

Ysgrifennu yn y person cyntaf. Meddyliau. Edrych ymlaen at ddigwyddiad. Iawn Cat? Rhoddodd Dad ei ben heibio’r drws. ‘Ti’n iawn Blodyn? ” gofynnodd. Nodiais a gwenu’n ddel, aeth Dad trwodd i’r gegin i wneud paned. Ydw i’n iawn? Dydw i ddim yn siŵr os ydw i’n iawn ai peidio. Mae fy mol i’n troi, mae ngwallt i’n gwrthod mynd i’w le yn iawn, er mod i wedi ei sythu fo, a does gen i ddim syniad ble rydw i wedi rhoi fy mag ysgol. Edrychais arnaf fy hun yn y drych a gofynnais “Wyt ti’n iawn Cat? ” “Iawn Cat!” Sibrydais, mae yna ‘iawn’ yn does? Heddiw ydy’r diwrnod rydw i’n mynd nôl i’r ysgol ar ôl … wel ar ôl yr angladd. Dyna fo rydw i wedi ei ddweud o, a does yna ddim byd ofnadwy wedi digwydd… eto. Mae Dad am fynd a fi i’r ysgol heddiw medda fo. Fel arfer cerdded i’r ysgol fydda’ i, ond heddiw mynnodd ei fod o’n mynd a fi - eisiau gair mae o rydw i’n gwybod. Eisiau gair efo Mr Jenkins - gofyn iddo fo gadw golwg arna i. Dychmygais Mr Jenkins yn cadw golwg arna’ i, ei sbectol fawr yn pipian arna i rownd pob cornel. Fflachiodd y ffôn fach - neges destun - edrychais arni’n sydyn. Jade sydd yna yn cynnig dod heibio ar ei ffordd i mi gael cerdded efo hi. Yn y gegin mae Dad wrthi’n gwneud paned, gwenodd – rhyw wen fach, fach. Cymerais afal o’r bowlen. “Mae Jade yn dod heibio fi rŵan. ” Ceisiais swnio’n normal - ond llais gwichlyd rhywun ar fin crio glywais i. Rhuthrais am y drws, cyn i Dad ddweud dim. Clep ar y drws ac allan a fi. Edrychais yn ôl - dyna lle roedd Dad yn y ffenestr. Gwenodd a chodi bawd. “Iawn Cat? ” Gwaeddodd Jade o’r ffordd, a rhedais i lawr y llwybr - does gen i ddim bag ysgol, ac mae ngwallt i’n llanast - ond mi fydda i’n iawn. Teimladau. Edrych yn ôl ar ddigwyd -diad.

Hunan Asesu: Ydw i wedi. . . Defnyddio. . ais, . . odd Sôn

Hunan Asesu: Ydw i wedi. . . Defnyddio. . ais, . . odd Sôn am deimladau Sôn am fy meddyliau Defnyddio. . Dydw i ddim Sôn am ddigwyddiadau

Er mwyn gwella byddwn i’n: | • _______________________________ • ________________ Yma bydd cyfle i’r

Er mwyn gwella byddwn i’n: | • _______________________________ • ________________ Yma bydd cyfle i’r plentyn drafod y targedau gyda’r athro.

Portread Meini Prawf Llwyddiant Cofia fod angen: • Disgrifio golwg y person • Disgrifio

Portread Meini Prawf Llwyddiant Cofia fod angen: • Disgrifio golwg y person • Disgrifio personoliaeth • Defnyddio iaith gyfoethog – idiomau e. e. a’i ben yn ei blu, • Ansoddeiriau e. e. amyneddgar • Cymariaethau e. e. fel balerina

Portread Personoliaeth Saif ei wallt piws llachar fel blew cath wedi ei dychryn. Yn

Portread Personoliaeth Saif ei wallt piws llachar fel blew cath wedi ei dychryn. Yn ei glust dde, mae clustdlws llachar yn hongian yn llipa a llewys ei grys-t carpiog wedi rhwygo fel tudalen flêr mewn llyfr. Mae ganddo lygaid mawr brown yn chwyrnu’n slei ar bawb a’i wyneb brawychus yn syllu’n filain arnom. Cryna’r llawr fel daeargryn wrth iddo darannu i lawr y grisiau fel ceffyl gwyllt. Tafla ei ddillad ar lawr ei lofft gan wylltio mam yn gacwn. Er ei bod hi’n pregethu dragwyddol ac yn bloeddio, ‘Cadw dy ddillad yn drefnus!’, dydy o ddim yn malio’r un botwm corn, dim ond chwerthin am ei phen. Ychydig iawn o amynedd sydd ganddo – yn sicr does ganddo ddim amynedd efo merch fach ddiniwed a da fel fi. Fy mrawd mawr ydy o. iaith gyfoethog cyffelybiaeth disgrifio - golwg iaith gyfoethog - ansoddair iaith gyfoethog - idiom

Taflen Wybodaeth Meini Prawf Llwyddiant Cofia fod angen: ● cyflwyno gwybodaeth a ffeithiau am

Taflen Wybodaeth Meini Prawf Llwyddiant Cofia fod angen: ● cyflwyno gwybodaeth a ffeithiau am y pwnc ● rhoi pennawd i’r daflen ● defnyddio is-benawdau a pharagraffau byr ● defnyddio lluniau a diagramau ● rhoi sylw i liwiau, maint y ffont a gosodiad eich taflen ● meddwl pwy yw eich cynulleidfa ● defnyddio iaith ffurfiol

PRIF NODWEDDION TAFLEN WYBODAETH PENNAWD IS-BENAWDAU LLUNIAU PARAGRAFFAU BYR

PRIF NODWEDDION TAFLEN WYBODAETH PENNAWD IS-BENAWDAU LLUNIAU PARAGRAFFAU BYR

Araith Meini prawf llwyddiant Cofia fod angen: • cynnwys berfau gorchmynnol e. e. ‘Cofiwch‘

Araith Meini prawf llwyddiant Cofia fod angen: • cynnwys berfau gorchmynnol e. e. ‘Cofiwch‘ ‘Meddyliwch …. ’ • cwestiynau rhethregol e. e. ‘Pwy sydd wedi …? ’ ‘Ys gwn i faint …? ’ • cyfathrebu gyda’r gynulleidfa e. e. ‘Annwyl Gyfeillion’, ‘ffrindiau’, ‘ydach chi …? ’ • ymateb i wrth-ddadleuon e. e. ‘Mi glywsoch gan y lleill fod’ ‘Maen nhw am i chi gredu. . ’ • Defnyddio iaith lafar e. e. ‘dyna be’ wela i’.

Cyfathrebu a chreu naws Oes yna’r fath beth ag arallfydwyr? Annwyl gyfeillion, Diolch i

Cyfathrebu a chreu naws Oes yna’r fath beth ag arallfydwyr? Annwyl gyfeillion, Diolch i chi am roi eich amser prin i ddod yma i wrando arna’i heddiw. Ond na phoener, dwi ddim am eich dychryn na cheisio codi gwallt eich pen [dim fel y rhain gyferbyn â mi]. Achos dwi wedi dod yma i’ch sicrhau chi mai rwts llwyr ydi’r miri arallfydwyr ‘ma – heb os nac oni bai, toes na’m ffasiwn bethau yn bod siwr iawn! Rydach chi’n griw deallus iawn mi wela’, felly gofynnwch i’ch hunain pa bryd oedd y tro diwetha i chi weld soser yn hedfan? Neu ddyn bach gwyrdd? Mi fentra’i ddeud gyfeillion na welodd yr un copa walltog ohonoch chi erioed ddim byd o’r fath. Mi fydd fy ngwrthwynebydd yn taeru’r du yn wyn eu bod nhw yma, yn ein plith ni, yn cadw llygaid barcud ar bob symudiad. Ond os ydyn nhw yma, yn lle maen nhw? Meddyliwch am y peth gyfeillion, os oes ‘na gymaint ohonyn nhw pam nad oes mwy ohonan ni wedi eu gweld nhw? Mynegi barn bendant Berf orchmynnol Cwestiwn rhethregol

ymateb i wrthddadleuon Ailadrodd Mae fy nghyfaill draw fan acw yn siwr o geisio

ymateb i wrthddadleuon Ailadrodd Mae fy nghyfaill draw fan acw yn siwr o geisio ateb fy nadl trwy honni eu bod nhw’n glyfar, yn rhy glyfar i gael eu dal mae’n siwr! Ond cofiwch chi hyn ffrindiau, tydan ninnau ddim yn wirion chwaith. Mae modd esbonio’r ‘digwyddiadau’ a’r ‘dystiolaeth’ wantan maen nhw yn eu cynnig yn rhwydd! Soser hedegog meddech chi? Golau ar gwmwl, awyren, neu hyd yn oed llun o ‘frizbee’ wedi ei dynnu o ongl diddorol – dyna be’ wela’ i. Iath lafar Na, dwi ddim yn meddwl y dylen ni fynd i fwydro’n pennau hefo arallfydwyr, ac yn sicr ddim gwario miloedd yn ceisio profi eu bodolaeth. Chwarae teg, onid oes yna bethau pwysicach i ni boeni yn eu cylch? Beth am broblemau’r amgylchedd? Dioddefaint yn y Trydydd Byd? Na gyfeillion, gadewch i ni roi trefn ar ein planed ein hunain yn gyntaf, cyn mynd i chwilio am fydoedd eraill. Diolch am wrando. Iath lafar

Adolygiad Meini Prawf Cofia fod angen: • Crynhoi’r stori. ee. Y prif ddigwyddiad yn

Adolygiad Meini Prawf Cofia fod angen: • Crynhoi’r stori. ee. Y prif ddigwyddiad yn y stori yw. . . . • Sôn am y cymeriadau. ee. Merch gyffredin yw Eleri. • Rhoi’ch barn ar y stori. ee. Rydw i wedi mwynhau darllen y stori hon.

Sôn am y cymeriadau Adolygiad o’r stori ‘Mae’n Ddrwg Gen I Joe Rees, ’

Sôn am y cymeriadau Adolygiad o’r stori ‘Mae’n Ddrwg Gen I Joe Rees, ’ allan o’r gyfrol ‘Straeon Bob Lliw, ’ –Eleri Llywelyn Morris. Darllenom y stori ‘Mae’n Ddrwg Gen I Joe Rees, ’ allan o’r gyfrol ‘Straeon Bob Lliw, ’ gan Eleri Llywelyn Morris fel dosbarth yn ddiweddar. Seiliwyd y stori ar berson sydd â nam meddyliol arno, o’r enw Joe Rees, a dilynwn ei daith o ar fws. Eistedda wrth ymyl merch o’r enw Eleri, gan geisio tynnu sgwrs â hi. Mae hyn yn peri pryder i Eleri fod pobl eraill ar y bws yn meddwl eu bod gyda’i gilydd. Teimla’n anghysurus yng nghwmni Joe, gan deimlo fod eraill ar y bws yn creu eu stareon eu hunain amdanynt. Ond daw i’r casgliad yn y diwedd fod Joe Rees yn fwy gonest na’r rhan fwyaf o bobl o fewn cymdeithas. Crynhoi’r stori

Down i adnabod amryw o gymeriadau o fewn y stori hon. Caiff ei hadrodd

Down i adnabod amryw o gymeriadau o fewn y stori hon. Caiff ei hadrodd o safbwynt Eleri a chawn olwg ar ei hagwedd hi tuag at fywyd yn gyffredinol. Mae’n meddwl llawer am fywyd o fewn cymdeithas ac am y ffordd mae pobl yn ymddwyn. Rydw i wedi mwynhau darllen y stori yma’n fawr iawn, gan ei bod wedi rhoi darlun o gymdeithas drwy lygaid rhywun arall i mi. Teimlaf fy mod wedi dod i nabod y cymeriadau yn y stori yn dda iawn. Yn fy marn i, llwyddodd yr awdur i greu darlun realistig iawn o fywyd o fewn cymdeithas heddiw. Rhoi’ch barn ar y stori.

Adroddiad Papur Newydd Meini Prawf Cofia fod angen: • Penawdau bachog e. e. ‘Trychineb

Adroddiad Papur Newydd Meini Prawf Cofia fod angen: • Penawdau bachog e. e. ‘Trychineb y Tractor. ’ • Crynodeb o’r digwyddiad. • Adroddiad gan lygad dyst, e. e. ‘O digwyddodd popeth mor gyflym…’ meddai Mrs Williams. • Colofnau. • Is- benawdau.

Manion Môn Y Papur Newydd i CHI! Lleidr Llandyfyrnog Mae heddlu Llangefni yn ymchwilio

Manion Môn Y Papur Newydd i CHI! Lleidr Llandyfyrnog Mae heddlu Llangefni yn ymchwilio i ladrad a ddigwyddodd yn Eglwys Dyfrydog yn ystod oriau mân y bore, dydd Iau diwethaf. Yn ôl yr heddlu cafodd y Beibl a’r Llyfr Gweddi ei ddwyn, yn ogystal â llestri’r Cymun. Mae’r llestri yn arian pur, ac yn werth cryn dipyn o arian. Roedd y rheithor William ap Rhisiart yn siomedig iawn - Melin Llynnon Am eich holl anghenion. Dewch a’ch gwenith atom ni - gwasanaeth cyflym, rhesymol a glân. Melin Llynnon, Llanddeusant. “Rydw i wedi fy siomi’n arw bod unrhyw un yn gallu gwneud rhywbeth mor ofnadwy a dwyn o eglwys sanctaidd, ” meddai, ac ychwanegodd “byddai llawer o bobl yn dod yma i ddarllen y Beibl, gan mai pobl dlawd sy’n byw yma yn Llandyfrydog, ac wrth gwrs nid oes ganddynt Feibl yn eu cartrefi. ” Helgi du ar goll. Fedrwch chi helpu? Mae Dafydd ap Rhys wedi colli un o’i helgwn enwog. Mae’n ateb i’r enw Gel. Mae gwobr hael ar gael am wybodaeth. Pris: 5 c Ychwanegodd bod y Beibl yn unigryw gan ei fod yn arbennig o hardd. . Nid oedd neb o’r ardal wedi gweld dim. Mae Mari Cadwaladr yn byw yn ymyl, ac yn glanhau’r eglwys. “Mi es i fy ngwely toc wedi hanner nos ac roedd pob man yn dawel fel y bedd, ” meddai, “ mi es i’r ffenestr ac edrych draw am yr eglwys cyn mynd i fy ngwely, ond roedd y drws ar gau, a phopeth i’w weld yn iawn. ” Ychwanegodd, “mae’n gywilydd o beth bod pobl yn amharchu lle o addoliad fel hyn!” Mae’r heddlu yn apelio am wybodaeth.

Llythyr Ffurfiol Meini Prawf Cofia fod angen: • Eich cyfeiriad. • Cyfeiriad y sawl

Llythyr Ffurfiol Meini Prawf Cofia fod angen: • Eich cyfeiriad. • Cyfeiriad y sawl sy’n derbyn y llythyr. • Iaith Ffurfiol. • Cyfleu gwybodaeth yn glir • Defnyddio paragraffau i drefnu

Cyfarwyddiadau Meini Prawf Cofia fod angen: • pennawd • defnyddio’r ferf yn gywir e.

Cyfarwyddiadau Meini Prawf Cofia fod angen: • pennawd • defnyddio’r ferf yn gywir e. e. Torrwch, gludwch • cysyllteiriau e. e. Yn gyntaf, wedyn, yna. . • trefnu’n gywir

Gwneud brechdan. Pennawd 1. Yn gyntaf golchwch eich dwylo a’u sychu. 2. Cymerwch ddwy

Gwneud brechdan. Pennawd 1. Yn gyntaf golchwch eich dwylo a’u sychu. 2. Cymerwch ddwy dafell o fara, a’u rhoi ar blât. 3. Nesaf defnyddiwch gyllell i daenu menyn neu farjarin ar un ochr i’r bara. 4. Rhowch lenwad o’ch dewis ar un dafell. Cysyllteiriau 5. Yna, yn ofalus rhowch y dafell arall ar ben y llenwad. 6. Yn olaf defnyddiwch gyllell i dorri’r frechdan yn ei hanner. 7. Mwynhewch! Ffurf gryno’r ferf. (Gorchmynnol) Trefnu

Disgrifiad Meini Prawf Cofia fod angen: • Brawddeg agoriadol effeithiol sy’n dal sylw’r darllenydd

Disgrifiad Meini Prawf Cofia fod angen: • Brawddeg agoriadol effeithiol sy’n dal sylw’r darllenydd • Defnyddio’r synhwyrau – disgrifio sut mae’n edrych, sut mae’n teimlo, (cyfeirio at beth allwch arogli, beth allwch ei glywed hefyd wrth ddisgrifio lle) • Defnyddio ansoddeiriau yn effeithiol • Defnyddio idiomau / Priod ddulliau