Ysgrifennu Ymson Beth ydy ymson Mewn ymson rydych
Ysgrifennu Ymson
Beth ydy ymson? Mewn ymson rydych chi’n dweud beth sy’n mynd drwy eich meddwl. Dylech chi nodi eich teimladau gan dynnu sylw at beth sy’n digwydd o’ch cwmpas. In a soliloquy you say what is going through your mind. You should note your feelings by paying attention to what is happening around you. E. e. Rydw i wedi blino’n lân. Mae’n oer iawn heno.
Dylech chi ysgrifennu yn y person cyntaf. You should write in the first person. E. e. Rydw i’n drist. Rydw i’n oer Rydw i wedi blino’n lân.
Dylech chi ysgrifennu yn yr amser presennol You should write in the Present Tense. E. e. Mae hi’n oer iawn heno. Rydw i’n gallu arogli bwyd hyfryd. Rydw i ar fy mhen fy hun.
Beth sy’n gwneud ymson da? What makes a good soliloquy? Creu awyrgylch: • Ble rydych chi? • Beth sy’n digwydd o’ch cwmpas? • Sut rydych chi’n teimlo? Creating an atmosphere: • Where are you? • What is happening around you? • How do you feel?
Amser gorffennol / presennol / dyfodol Er bod ymson yn cael ei ysgrifennu yn y presennol, mae’n bwysig sôn am y dyfodol a’r gorffennol hefyd. Although a soliloquy is written in the present tense, it’s important to mention the future and the past also. E. e. Mae hi’n oer dros ben, yn union fel roedd hi neithiwr. Baswn i wrth fy modd yn cael brechdan bach.
Er mwyn creu effeithiau ceisiwch gynnwys y canlynol: In order to create effects, try to include the following: • Cwestiynau rhethregol: Ble dylwn i gysgu heno? Beth mae fy mam yn wneud nawr? • Ebychiadau: O na! Pam fi?
Meini Prawf Llwyddiant • Defnyddiwch baragraffau Use paragraphs • Gofynnwch gwestiynau rhethregol Ask rhetorical questions • Defnyddiwch ansoddeiriau a chymariaethau Use adjectives and comparisons • Defnyddiwch idiomau Use idioms • Triwch ail-adrodd i wneud y darn yn ddramatig Try to use repetition - to make the passage dramatic • Ysgrifennwch agoriad syml sy’n tynnu sylw Write a simple opening to capture the reader’s attention. E. e. Pam fi? • Ysgrifennwch ddiweddglo da i gloi’r darn Write a good ending to close the passage.
- Slides: 8