Ymson H Ll Cynnal Beth ydi Ymson Mewn
Ymson H. Ll. Cynnal.
Beth ydi Ymson? Mewn ymson rydych chi’n meddwl yn uchel. Chi sy’n sairad ac yn sôn am eich teimladau.
Iaith ac Arddull Ysgrifennu yn y person cyntaf, e. e. Dwi’n. . Ysgrifennu am deimladau, e. e. Dwi’n difaru. . Defnyddio cwestiwn rhethregol, e. e. Tybed beth fydd yn digwydd rwan. . ? Edrych yn ôl ar ddigwyddiad, e. e. Ddoe roeddwn i’n hapus braf. . Edrych ymlaen ar beth â ddaw, e. e. Dwi’n gwybod sut bydd o’n ymateb. .
Mae’r dŵr yn dripian i lawr fy ngwar, dwi’n swatio ac mae mol i’n troi. Gobeithio na fydd neb yn sylwi ar y twll yn y gwydr. Tybed fydd Jôns yn ffonio Dad? Roedd Dad mor falch ohonof ddoe yn y gêm, ond rwan. . Fedra i ei weld o yn gwneud i mi eistedd wrth y bwrdd a’r olwg siomedig yna yn ei lygaid. Dwi eisiau mynd i’r den i guddio. Chwiliwch am y nodweddion § Person cyntaf § Teimladau § Cwestiwn rhethregol § Edrych yn ôl § Edrych ymlaen
Chwiliwch am y nodweddion § Person cyntaf § Teimladau § Cwestiwn rhethregol § Edrych yn ôl § Edrych ymlaen Mi fydd hyn yn hawdd. Dwi mor glyfar ac mae pobl mor dwp, fedra i ddim credu pa mor wirion ydyn nhw! Wel, fyddet ti’n coelio mai nain rhywun ydw i? Edrych arnaf i. . . trwyn hir, clustiau blewog, dannedd miniog? Ydw i’n edrych fel nain o ddifrif? Pan welais i’r eneth fach yna’n sgipio trwy’r coed bore ‘ma , ei basged yn llawn a’i phen hi’n wâg, y peth cyntaf ddaeth i’m meddwl i oedd – cinio. Dim ond ychydig o amynedd rwan, ac mi fydd gen i bryd bach blasus. O! Dwi mor falch fy mod i’n flaidd.
Enghraifft Estynedig Iawn Cat? Rhoddodd Dad ei ben heibio’r drws. ‘Ti’n iawn ? ” gofynnodd. Gwenais arno. Ydw i’n iawn? Dydw i ddim yn siŵr. Mae fy mol i’n troi, mae ngwallt i’n llanast, a does gen i ddim syniad ble rydw i wedi rhoi fy mag ysgol. Dwi’n edrych arnaf fy hun yn y drych - “Wyt ti’n iawn Cat? ” Heddiw ydy’r diwrnod rydw i’n mynd nôl i’r ysgol ar ôl … wel ar ôl yr angladd. Dyna fo rydw i wedi ei ddweud o, a does yna ddim byd ofnadwy wedi digwydd… eto. Mae Dad am fynd a fi i’r ysgol heddiw medda fo - eisiau gair mae o rydw i’n gwybod. Eisiau gair efo Mr Jenkins - gofyn iddo fo gadw golwg arna i. Dwi’n gweld Mr Jenkins rwan yn cadw golwg - ei sbectol fawr yn pipian arna i rownd pob cornel. Mae’r ffôn yn fflachio. Jade sydd yna yn cynnig dod heibio fi ar ei ffordd. Yn y gegin mae Dad wrthi’n gwneud paned, gwenodd – rhyw wen fach, fach “Mae Jade yn dod heibio fi rŵan. ” Dwi’n trio swnio’n normal - ond llais gwichlyd rhywun ar fin crio dwi’n ei glywed. Clep ar y drws ac allan a fi. Edrychais yn ôl - dyna lle roedd Dad yn y ffenestr. Gwenodd a chodi bawd. “Iawn Cat? ” Gwaeddodd Jade o’r ffordd, a rhedais i lawr y llwybr - does gen i ddim bag ysgol, ac mae ngwallt i’n llanast - ond mi fydda i’n iawn.
Ebychiadau: Hwre! Pam fi! O na! Haleliwia! Mawredd mawr! Aaaa! Dydy hyn ddim yn deg! Nid fy mai i oedd e! O Mam bach! Y gorffennol/ presennol/ dyfodol: Dw i’n cofio pan es i……. Mae hyn yn f’atgoffa o’r amser…. Dw i’n gobeithio bydda i’n …. . Mae pethau’n siwr o wella. Cwestiynau rhethregol: Pam fi Duw? Tybed beth mae Jac yn ei wneud nawr? Tybed beth ga i’n anrheg? Teimladau: Wedi cael llond bol Ofnadwy Digalon Wedi diflasu Eiddigeddus Trist Hapus Cariad Anobaith. GCa. D
- Slides: 7