Sefydlu patrymau iaith dda er mwyn gwella safon

  • Slides: 15
Download presentation
Sefydlu patrymau iaith dda er mwyn gwella safon y Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Sefydlu patrymau iaith dda er mwyn gwella safon y Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Ysgol Morfa Nefyn

Ysgol Morfa Nefyn Mae Ysgol Babanod Morfa Nefyn ym mhentref Morfa Nefyn ger Pwllheli,

Ysgol Morfa Nefyn Mae Ysgol Babanod Morfa Nefyn ym mhentref Morfa Nefyn ger Pwllheli, Gwynedd. Mae’r ysgol yn darparu ar gyfer disgyblion rhwng 3 ac 8 oed, gyda 37 o ddisgyblion ar y gofrestr eleni. Cymraeg yw iaith bob dydd yr ysgol a phrif gyfrwng y dysgu a’r addysgu. Fe addysgir Saesneg yn ffurfiol ym Mlwyddyn 3. Daw oddeutu 70% o’r disgyblion o gartrefi ble siaredir Cymraeg.

Modelu! • Mae’n bwysig bod oedolion yn modelu iaith dda a chyfoethog bob amser.

Modelu! • Mae’n bwysig bod oedolion yn modelu iaith dda a chyfoethog bob amser. • Mae angen dangos i blentyn pa mor bwysig yw siarad yn eglur a chlir a mynegi eu hunain yn gywir. • Mae’n bwysig i oedolion gywiro ynganiad a brawddegau plant yn ddyddiol!

Patrymau brawddeg dyddiol Amser llefrith “Wyt ti eisiau llefrith Cai? ” “Oes plis” neu

Patrymau brawddeg dyddiol Amser llefrith “Wyt ti eisiau llefrith Cai? ” “Oes plis” neu “Na dim diolch. Os gwelwch yn dda ga i ddŵr? ” Y siop ffrwythau “Os gwelwch yn dda ga i fanana? ” Cofrestrau dyddiol e. e. Cofrestr cerdded i’r ysgol “Do dwi wedi cerdded i’r ysgol heddiw/ Na dydw i ddim wedi cerdded i’r ysgol heddiw. ”

 • Mae llafaredd yn cael lle canolog wrth addysgu yn Ysgol Morfa. •

• Mae llafaredd yn cael lle canolog wrth addysgu yn Ysgol Morfa. • Defnyddir ystod eang o dechnegau i sicrhau bod y dysgwyr yn meistroli ynganu a mynegiant er mwyn magu hyder mewn iaith. • Llafaredd yw’r gwreiddiau i sicrhau safonau llythrennedd.

Targedu buan! Athrawes anghenion dysgu ychwanegol yn targedu yn fuan (blwyddyn Derbyn) trwy weithgareddau

Targedu buan! Athrawes anghenion dysgu ychwanegol yn targedu yn fuan (blwyddyn Derbyn) trwy weithgareddau llafaredd ac ymarferol. Dilyn gweithgareddau therapydd iaith i gyflwyno geirfa, cwestiynau a phatrymau brawddegau yn briodol. Cymorthyddion yn atgyfnerthu gwaith yr athrawes anghenion dysgu ychwanegol yn ystod yr wythnos a’u targedu mewn sesiynau 1: 1 ac ar lawr dosbarth.

Cywiro dyddiol Cywiro ynganiad geiriau a brawddegau gan gynnwys llythrennau dwbl. Cywiro patrymau brawddeg

Cywiro dyddiol Cywiro ynganiad geiriau a brawddegau gan gynnwys llythrennau dwbl. Cywiro patrymau brawddeg gan osod disgwyliadau uchel hyd yn oed yn y Meithrin. Sicrhau fod disgyblion yn ateb cwestiynau yn gywir e. e. Oes/ Nac oes, Ydy/ Nac ydy Ydw/ Nac ydw

Ynganiad Sicrhau fod disgyblion yn ynganu llythrennau yn gywir o’r cychwyn cyntaf. Adrodd y

Ynganiad Sicrhau fod disgyblion yn ynganu llythrennau yn gywir o’r cychwyn cyntaf. Adrodd y wyddor yn ddyddiol a chanolbwyntio ar ynganiad bob plentyn. Defnyddio wyddor sain weledol i ganolbwyntio ar sŵn llythrennau. Ymarferion llythrennau dwbl dyddiol e. e. lli, lla, llw, lle chi, cha, chw, che Ynganu llythrennau dwbl o fewn brawddegau yn ddyddiol mewn sesiwn ‘cynhesu i fyny’. e. e. Mae’r ddafad ddrwg yn bwyta’r ddeilen yn yr ardd. Cywiro dyddiol o fewn y sesiynau a thargedu unigolion.

Sesiwn ymarfer ynganu dyddiol: Y wyddor – a am afal b am blodyn… chi

Sesiwn ymarfer ynganu dyddiol: Y wyddor – a am afal b am blodyn… chi cha chw che lli lla llw lle Mae’r ddafad ddrwg yn bwyta’r ddeilen yn yr ardd.

Cyngherddau a Gwasanaethau Mae dysgu geiriau caneuon a llefaru ar gyfer cyngherddau yn datblygu

Cyngherddau a Gwasanaethau Mae dysgu geiriau caneuon a llefaru ar gyfer cyngherddau yn datblygu llafaredd disgyblion. Yn ysgol Morfa mae disgyblion yn cael cyfle i gymryd rhan mewn cyngerdd yn dymhorol. Bydd blwyddyn Derbyn yn dysgu llefaru a chanu ar gyfer y cyngerdd Diolchgarwch ym mis Hydref bob blwyddyn. Mae gwasanaethau boreol a sesiynau canu dosbarth ac ysgol gyfan yn gyfle arbennig i ymarfer ynganu a mynegi yn glîr.

Dysgu geirfa ymestynol newydd Rydym yn gosod disgwyliadau uchel yn ysgol Morfa gan fwydo

Dysgu geirfa ymestynol newydd Rydym yn gosod disgwyliadau uchel yn ysgol Morfa gan fwydo geirfa ymestynol i’r disgyblion yn fuan. Cynnwys geirfa ymestynol newydd o fewn thema. Bydd yr athrawon yn creu fersiwn llafar o’r stori sy’n cynnwys iaith a geirfa ymestynol e. e. ansoddeiriau, ebychiadau, dywediadau, idiomau. Sicrhau dealltwriaeth o’r geiriau drwy waith drama a chwarae rôl dyddiol. Atgyfnerthu defnydd o’r eirfa yn llafar ac ysgrifenedig drwy gydol y thema: 1. Gemau loto 2. Chwarae rôl 3. Ysgrifennu brawddegau dyddiol 4. Ardaloedd y Cyfnod Sylfaen

Camau ysgrifennu Cynllunio gan feddwl am y camau perthnasol sydd yn arwain at y

Camau ysgrifennu Cynllunio gan feddwl am y camau perthnasol sydd yn arwain at y gwaith ysgrifennu gorffenedig. 1. Gweithgareddau llafar Chwarae rôl, gwaith drama, gemau llafar 2. Gweithgareddau ymarferol dyddiol Gemau i atgyfnerthu dealltwriaeth o’r geiriau, ymarferion ysgrifennu. 3. Asesu ar Gyfer Dysgu Cyfle dyddiol i gywiro sillafu, adnabod camgymeriadau, asesu gwaith partner, adnabod MPLl. 4. Ysgrifennu Darn o waith ysgrifenedig estynedig cywir.

Llafaredd cyn ysgrifennu (cynllunio wythnosol) 1. Cynllunio - meddwl am ffocws llafar yr wythnos

Llafaredd cyn ysgrifennu (cynllunio wythnosol) 1. Cynllunio - meddwl am ffocws llafar yr wythnos (gan gynnwys y plant meithrin) 2. Cyflwyno’r ffocws yn llafar. 3. Ymarfer dyddiol drwy dasgau ymarferol. 4. Bwydo’r gwaith llafar i’r tasgau ysgrifennu.

Engraifft o gynllunio wythnosol Thema Gwlad y Rwla 1. Ffocws llafar – geirfa lleoli

Engraifft o gynllunio wythnosol Thema Gwlad y Rwla 1. Ffocws llafar – geirfa lleoli 2. Cyflwyno’r ffocws yn llafar gan ddefnyddio poster Gwlad y Rwla. 3. Ymarfer dyddiol drwy dasgau ymarferol (gemau atgyfnerthu a ffocws ychwanegol) 4. Ysgrifennu brawddegau yn cynnwys y geirfa lleoli.

Felly, drwy gadw llafaredd yn flaenllaw ganolog yn y dysgu a’r addysgu, sicrheir safonau

Felly, drwy gadw llafaredd yn flaenllaw ganolog yn y dysgu a’r addysgu, sicrheir safonau llythrennedd uchel. Iaith lafar gyfoethog Ysgrifennu graenus