Canllaw Fy Nghyfraniad Iw ddarllen ai ddefnyddio law

  • Slides: 26
Download presentation
Canllaw Fy Nghyfraniad I'w ddarllen a'i ddefnyddio law yn llaw â Pholisi Fy Nghyfraniad

Canllaw Fy Nghyfraniad I'w ddarllen a'i ddefnyddio law yn llaw â Pholisi Fy Nghyfraniad Gorffennaf 2020 Nesaf

Defnyddio'r canllaw Cynghorion ac awgrymiadau Mae'r ddogfen ganllaw hon yn rhyngweithiol a dylid ei

Defnyddio'r canllaw Cynghorion ac awgrymiadau Mae'r ddogfen ganllaw hon yn rhyngweithiol a dylid ei chwarae fel sioe sleidiau – os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny, dewiswch 'sioe sleidiau' ar y bar offer a'r 'sleid gyfredol' i gychwyn (neu F 5 os yw hynny'n gyflymach). Bydd botymau wrth droed y ddogfen yn mynd â chi i'r dudalen nesaf a/neu flaenorol – defnyddiwch y rhain i lywio drwyddi. Mae rhai sleidiau'n cynnwys hyperddolenni at gynnwys arall – gwnewch yn siŵr eich bod yn eu defnyddio a'r wybodaeth y maent yn cysylltu â hi! Pecyn Cymorth MYC 2020 f 0. 1 Yn ôl Nesaf

Cyflwyniad Cefndir • Fy Nghyfraniad yw ein proses ar gyfer eich helpu i weld

Cyflwyniad Cefndir • Fy Nghyfraniad yw ein proses ar gyfer eich helpu i weld sut mae eich rôl yn cydfynd â'r sefydliad a sut mae'r gwaith a wnewch yn cael effaith wirioneddol ar lwyddiant Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae cytuno ar ddisgwyliadau clir, cael sgyrsiau rheolaidd ac adborth adeiladol wrth wraidd y broses ac mae ffurflen ar gael i'ch helpu chi a'ch rheolwr i gynllunio eich trafodaethau yn ogystal â chofnodi eich cyflawniadau a'ch cynllun gweithredu. • Mae'r Canllawiau a'r Pecyn Cymorth hwn wedi'u cynllunio i'ch helpu chi a'ch rheolwr i gael y budd mwyaf posibl o'r broses. Pecyn Cymorth MYC 2020 f 0. 1 Yn ôl Nesaf

Beth yw Fy Nghyfraniad? Ble ydw i'n ffitio a beth yw'r disgwyl? Fy Nghyfraniad

Beth yw Fy Nghyfraniad? Ble ydw i'n ffitio a beth yw'r disgwyl? Fy Nghyfraniad yw ein proses ar gyfer eich helpu i weld sut mae eich rôl yn cyd-fynd â'r sefydliad a sut mae'r gwaith a wnewch yn cael effaith wirioneddol ar lwyddiant Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae cytuno ar amcanion clir, cael sgyrsiau rheolaidd ac adborth adeiladol wrth wraidd y broses ac mae ffurflen ar gael i'ch helpu chi a'ch rheolwr i gynllunio eich trafodaethau yn ogystal â chofnodi eich cyflawniadau a'ch cynllun gweithredu. Nod Fy Nghyfraniad yw eich helpu i wneud y gwaith gorau y gallwch. Bydd eich rheolwr yn eich helpu i edrych ymlaen a chytuno ar eich amcanion, cytuno ar yr adnoddau sydd eu hangen arnoch i wneud eich gwaith, trafod y mathau o ddysgu a datblygiad y dylech ymgymryd â hwy ac ystyried eich nodau gyrfa ehangach. Bydd Fy Nghyfraniad hefyd yn eich helpu i fyfyrio ar eich perfformiad yn ystod y flwyddyn sydd newydd fod, yn cynnwys yr hyn a gyflawnwyd gennych, sut y gwnaethoch hynny a sut rydych wedi datblygu a symud ymlaen. Byddwch chi a'ch rheolwr yn defnyddio hwn i gytuno i ba raddau rydych chi'n cwrdd neu'n rhagori ar yr hyn a ddisgwylir gennych neu a oes angen mwy o gefnogaeth arnoch. Mae hyn yn hanfodol nid yn unig i'r hyn rydych chi'n ei gyfrannu, ond i chi symud ymlaen drwy gamau cyflog cynyddrannol hefyd. Pecyn Cymorth MYC 2020 f 0. 1 Yn ôl Nesaf

Pam mae hyn yn bwysig? Ychydig o gyd-destun. . . Mae cael dull rheoli

Pam mae hyn yn bwysig? Ychydig o gyd-destun. . . Mae cael dull rheoli perfformiad effeithiol yn hanfodol er mwyn helpu Iechyd Cyhoeddus Cymru i wireddu ei weledigaeth a chyflawni ei amcanion gweithredol a strategol. Dylem i gyd fod yn glir am yr hyn a ddisgwylir gennym yn ein rolau a sut mae hyn yn cyfrannu at ein timau ac at Iechyd Cyhoeddus Cymru. Nid yn unig ein bod ni fel unigolion yn elwa o gael y canllawiau a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnom i weithio gorau gallwn ni, ond bydd y sefydliad yn elwa o gael gweithlu galluog a brwdfrydig iawn, yn glir ynghylch eu rôl a'u hymddygiad disgwyliedig sy'n cyd-fynd â gwerthoedd. Yn ogystal, gallwn goladu anghenion dysgu a datblygu er mwyn llywio a blaenoriaethu buddsoddiad mewn datblygiad tîm, is-adrannol a sefydliadol yn ogystal â mesur a monitro cynnydd yn erbyn cyflawni ein blaenoriaethau a'n hamcanion. Ceir rhagor o fanylion am rolau a chyfrifoldebau yn ddiweddarach yn y pecyn cymorth. Rydym yn cydnabod y bydd eich gallu i gyfrannu yn dibynnu'n rhannol ar effeithiolrwydd eich rheolwr. Mae'r pecyn cymorth yn rhoi rhai awgrymiadau i reolwyr fyfyrio arnyn nhw ynglŷn â'u rôl yn eich perfformiad. Pecyn Cymorth MYC 2020 f 0. 1 Yn ôl Nesaf

Ei weld ar waith Rhai astudiaethau achos CLICIWCH FAN HYN I CHWARAE Pecyn Cymorth

Ei weld ar waith Rhai astudiaethau achos CLICIWCH FAN HYN I CHWARAE Pecyn Cymorth MYC 2020 f 0. 1 Yn ôl Nesaf

Cyd-weithwyr sy'n siarad Cymraeg Gwybodaeth ychwanegol Gall cydweithwyr sy'n siarad Cymraeg ddewis cael ddefnyddio'r

Cyd-weithwyr sy'n siarad Cymraeg Gwybodaeth ychwanegol Gall cydweithwyr sy'n siarad Cymraeg ddewis cael ddefnyddio'r polisi, y canllawiau a'r ffurflenni yn Gymraeg! Gallwch hefyd ofyn i'r cyfarfod gael ei gynnal yn Gymraeg, ond efallai mai dim ond os yw eich rheolwr yn siarad Cymraeg hefyd y bydd hyn yn ymarferol. Pecyn Cymorth MYC 2020 f 0. 1 Yn ôl Nesaf

Ein Cyfrifoldebau Cliciwch ar bob un am ragor o wybodaeth Y Tîm Gweithredol Cyfarwyddwr

Ein Cyfrifoldebau Cliciwch ar bob un am ragor o wybodaeth Y Tîm Gweithredol Cyfarwyddwr Datblygu Sefydliadau a Phobl Rheolwyr Llinell Pob Cyd-weithwyr Pecyn Cymorth MYC 2020 f 0. 1 Yn ôl Nesaf

Yr Egwyddorion Yn ôl Nesaf

Yr Egwyddorion Yn ôl Nesaf

Egwyddorion Fy Nghyfraniad Crynodeb Deialog ac adborth rheolaidd Wedi'u Dogfennu a'u Cofnodi yn ESR

Egwyddorion Fy Nghyfraniad Crynodeb Deialog ac adborth rheolaidd Wedi'u Dogfennu a'u Cofnodi yn ESR Dwy sgwrs mwy strwythuredig y flwyddyn Mae'n hyblyg gellir cytuno ar newidiadau Perfformiad yn cynnwys: 1. Y Gwaith 2. Ymddygiadau 3. Datblygiad a Thwf Pecyn Cymorth MYC 2020 f 0. 1 Bydd ansawdd y broses yn cael ei sicrhau Dylai pawb baratoi ar gyfer cyfarfodydd Yn ôl Nesaf Dylid darparu cefnogaeth os nad yw'r disgwyliadau'n cael eu cwrdd Dylech drafod y dysgu y mae angen i chi ei wneud a beth allau gysylltu gyda'ch dyheadau gyrfa Mae adnoddau cefnogi ar gael Mae deunyddiau ar gael yn Gymraeg

Y Cylch Yn ôl Nesaf

Y Cylch Yn ôl Nesaf

Rhannu cynllun busnes ac amcanion y tîm Y Cylch Cliciwch nesaf i gael rhagor

Rhannu cynllun busnes ac amcanion y tîm Y Cylch Cliciwch nesaf i gael rhagor o wybodaeth am gyfnodau allweddol Er mwyn deall cyd-destun yr hyn rydyn ni'n ei wneud, dylem i gyd fod â dealltwriaeth o gynllun a nodau'r sefydliad – yn ogystal â beth mae hynny'n ei olygu i'n tîm! O'r fan honno gallwn gael trafodaethau gwerthfawr am ein cyfraniad, sut mae hynny'n troi'n nodau penodol ar gyfer y flwyddyn a sicrhau ein bod yn gwirio'n rheolaidd i weld sut rydyn ni'n ei wneud. Mae cofnodi'r sgyrsiau mwy ffurfiol yn ein helpu i sicrhau ein Bwrdd a Llywodraeth Cymru ein bod yn rheoli perfformiad yn briodol Pecyn Cymorth MYC 2020 f 0. 1 Cyflawni a dathlu llwyddiant unigol a sefydliadol! Trafod cyfrifoldebau unigolion a beth mae eu rôl yn ei gyfrannu Adborth ar gyflawniadau a chyfraniad mewn adolygiadau strwythuredig diwedd blwyddyn Cytuno ar amcanion, disgwyliadau a chynllun datblygu unigolion Sgyrsiau parhaus i fonitro cynnydd - yn cynnwys cyfarfod Datblygiad Cyflog lle mae hynny'n briodol Yn ôl Nesaf

Trafod Cyfrifoldebau a Chytuno ar Ddisgwyliadau Beth a Sut Yn seiliedig ar eich cyfrifoldebau,

Trafod Cyfrifoldebau a Chytuno ar Ddisgwyliadau Beth a Sut Yn seiliedig ar eich cyfrifoldebau, dylech drafod a chytuno ar nifer o amcanion ar gyfer y cyfnod sydd i ddod. Dylech anelu at gael dim mwy na phump neu chwe o amcanion gwaith a dylai hyn roi syniad am lefel y manylder sydd ei angen. Nid yw hyn yn golygu rhestru pob tasg a wnewch ond dylai gwmpasu prif feysydd eich gwaith a'r rhai a allai effeithio ar Ddatblygiad Cyflog. Dylai eich amcanion fod yn rai CAMPUS: Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol a Synhwyrol Nid dim ond yr hyn rydych chi'n ei gyflawni sy'n bwysig ond sut rydych chi'n gwneud hynny. Gall y ffordd rydych chi'n gweithio a sut rydych chi'n ymddwyn gael effaith ar y ffordd rydych chi'n cael eich gweld, pa mor dda rydych chi'n perfformio a bydd hefyd yn effeithio ar berfformiad a morâl y rhai sy'n gweithio gyda chi. Mae gwerthoedd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn nodi'r hyn sy'n ein gwneud ni'n 'ni' a dylai ein hymddygiad fod yn gyson â nhw bob amser: • Cydweithio gyda • Ymddiriedaeth a pharch tuag at • Gwneud gwahaniaeth Wrth osod amcanion gwaith, dylech chi a'ch rheolwr hefyd feddwl sut y byddwch yn eu cyflawni a sut y byddwch yn dangos yr ymddygiadau hyn ar ddiwedd y flwyddyn. Pecyn Cymorth MYC 2020 f 0. 1 Yn ôl Nesaf Rhagor am amcanion CAMPUS Rhagor am ddangosyd dion ymddygiad

Trafod a Chytuno ar Gynlluniau Datblygu Eich datblygiad a'ch twf Mae gan bob un

Trafod a Chytuno ar Gynlluniau Datblygu Eich datblygiad a'ch twf Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i wneud y gorau gallwn ni yn ein gwaith; mae hyn yn cynnwys diweddaru ein gwybodaeth a'n sgiliau ac awgrymu ffyrdd o wella'r hyn rydyn ni'n ei wneud a/neu sut rydyn ni'n ei wneud. Os oes gennych chi ddyheadau ar gyfer rôl wahanol, byddwch hefyd yn chwilio am gyfleoedd i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau fydd yn eich paratoi ac yn eich helpu i gael swydd newydd. Gall amcanion datblygu gynnwys camau mor syml â darllen erthyglau priodol, neilltuo amser ar gyfer myfyrio, mynychu sesiynau cinio a dysgu, cymryd rhan mewn cyfleoedd hyfforddi neu ddysgu priodol a gynigir ar draws y sefydliad neu'n ehangach. Bydd angen i chi a'ch rheolwr ystyried faint o amser a beth yw cost rhai opsiynau datblygu a'r enillion tebygol ar fuddsoddiad. Gall y tîm Datblygu Sefydliadol a Phobl gynnig cyngor a chefnogaeth i chi a'ch rheolwr yn y maes hwn. Gan ei bod yn ofynnol i gydweithwyr drafod a chofnodi eu lefelau sgiliau Cymraeg presennol (fel yr amlinellir ym Mholisi Fy Nghyfraniad), rydym yn eich annog i ystyried pa ddatblygiad yr hoffech ei wneud, naill ai i ddatblygu sgiliau Cymraeg sylfaenol neu i adeiladu ar unrhyw sgiliau gennych yn barod. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar safle mewnrwyd Pobl a Pholisïau. Pecyn Cymorth MYC 2020 f 0. 1 Yn ôl Nesaf Hyfforddiant Statudol a Gorfodol Mae ein polisi hyfforddi yn ei gwneud hi'n ofynnol i bawb gwblhau eu hyfforddiant statudol a gorfodol cyn ymgymryd â datblygiad personol neu broffesiynol arall. Dylech chi a'ch rheolwr sicrhau eich bod yn gyfredol ac os nad ydych yna mae angen ichi sicrhau eich bod yn dilyn unrhyw hyfforddiant sy'n weddill cyn gynted â phosibl

Monitro Cynnydd Cynnwys adolygiad canol blwyddyn Dylech chi a'ch rheolwr gael sgyrsiau rheolaidd i

Monitro Cynnydd Cynnwys adolygiad canol blwyddyn Dylech chi a'ch rheolwr gael sgyrsiau rheolaidd i wneud yn siŵr bod pethau ar y trywydd iawn a bod gennych yr hyn sydd ei angen arnoch i wneud y gwaith. Mater i chi a'ch rheolwr yw pa mor aml a ffurfiol yw'r cyfarfodydd; yn aml mae pobl yn dal i fyny'n rheolaidd ar rai agweddau ar eu gwaith megis e. e. prosiectau penodol, ond dydyn nhw ddim yn sylweddoli bod y rhain hefyd yn agweddau gwerthfawr ar y broses Fy Nghyfraniad. Chi a'ch rheolwr sy'n gyfrifol am nodi unrhyw broblemau posibl (boed yn ymwneud â chyflawni gwaith neu sut rydych chi'n ei wneud) cyn gynted ag y byddant yn dod i'r amlwg. Ddylech chi ddim aros tan yr adolygiad diwedd blwyddyn gan y gall fod newidiadau neu addasiadau y gallwch chi a'ch rheolwr eu gwneud i ddod â chi'n ôl ar y trywydd iawn – mae hyn hefyd yn allweddol i sicrhau bod y broses Datblygiad Cyflog yn deg, yn dryloyw ac yn wrthrychol. Bydd yr adolygiad canol blwyddyn yn debygol o gael ei gynnal tua mis Hydref ac mae hwn yn amser da i drafod hyfforddiant a datblygiad, yn enwedig os ydych yn ystyried opsiynau sydd â chost uniongyrchol ynghlwm wrthynt. Bydd eich rheolwr yn anelu at goladu holl ofynion y tîm a fydd yn ei dro yn bwydo i mewn i gynlluniau gweithlu is-adrannol neu gyfarwyddiaethol, gan hysbysu ceisiadau am y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Datblygir cynlluniau gweithlu mewn partneriaeth â'r tîm Datblygu Sefydliadol a Phobl, sy'n coladu ac yn adolygu ar ran y sefydliad cyfan. Pecyn Cymorth MYC 2020 f 0. 1 Yn ôl Nesaf Cliciwch yma am arweiniad ar newid amcanion Cliciwch yma am arweiniad i ddod yn ôl ar y trywydd iawn ac am gymorth ychwanegol

Cliciwch yma am fwy o ganllawiau ar baratoi Adolygu Perfformiad Adolygiad Diwedd Blwyddyn Dylech

Cliciwch yma am fwy o ganllawiau ar baratoi Adolygu Perfformiad Adolygiad Diwedd Blwyddyn Dylech feddwl am yr hyn rydych wedi'i gyfrannu at ganlyniadau eich tîm, eich is-adran, eich prosiect neu'ch sefydliad gan gynnwys lle rydych wedi adeiladu ar waith, syniadau neu ymdrechion pobl eraill, a lle mae eich cyfraniad wedi helpu eraill i lwyddo. Ar gyfer pob un o'ch amcanion dylech ddisgrifio i ba raddau rydych wedi cyflawni eich amcan gynnwys cerrig milltir allweddol. Rhowch eich cyfraniad gan gynnwys sut y gwnaethoch y gwaith yn ogystal â beth wnaethoch chi e. e. os oedd angen i chi weithio gyda thîm arall neu greu rhywbeth newydd, ceisiwch ddisgrifio sut aethoch chi ati. Dylech gynnwys heriau y bu i chi eu goresgyn a sut rydych chi'n mesur llwyddiant e. e. a wnaethoch chi gwrdd â therfynau amser, cyflawni o fewn y gyllideb, cael yr effaith a gynlluniwyd gennych ac ati. Ar ôl adolygu eich amcanion a thrafod adborth gyda'ch rheolwr, byddwch gobeithio yn cytuno ynghylch i ba raddau rydych chi'n cwrdd â'r perfformiad a ddisgwylir gennych yn eich swydd. Bydd eich rheolwr yn crynhoi ac yn defnyddio graddfa werthuso i gadarnhau hyn. Byddant yn cymryd tri ffactor i ystyriaeth: Cwrdd â'ch amcanion gwaith Pecyn Cymorth MYC 2020 f 0. 1 Cyflawni mewn ffordd sy'n unol â'n gwerthoedd Yn ôl Nesaf Cynnal a datblygu sgiliau a gwybodaeth

Mesuriadau Perfformiad a Chefnogaeth Nesaf

Mesuriadau Perfformiad a Chefnogaeth Nesaf

Gwerthuso Perfformiad Beth, sut a'r twf/y dysgu Dylech chi a'ch rheolwr gytuno ar y

Gwerthuso Perfformiad Beth, sut a'r twf/y dysgu Dylech chi a'ch rheolwr gytuno ar y disgrifiad gwerthuso sy'n adlewyrchu i ba raddau rydych chi wedi bodloni neu ragori a y disgwyliadau arnoch yn eich rôl bresennol A Mae fy effaith a'm cyfraniad yn uwch na'r hyn a ddisgwylir gan y rôl B Mae fy effaith a'm cyfraniad yn unol â disgwyliadau o rôl C Mae fy effaith a'm cyfraniad yn uwch na'r hyn a ddisgwylir gan y rôl Ch rhy gynnar i benderfynu Pecyn Cymorth MYC 2020 f 0. 1 Yn ôl Nesaf Cofiwch! Mae gosod disgwyliadau clir a chael deialog rheolaidd drwy gydol y flwyddyn yn hanfodol er mwyn cytuno ar sgôr perfformiad teg

Cefnogaeth Ychwanegol Cael yn ôl ar y trywydd iawn Efallai y bydd adegau y

Cefnogaeth Ychwanegol Cael yn ôl ar y trywydd iawn Efallai y bydd adegau y gallech ei chael hi'n anodd cwrdd â'ch amcanion. Efallai y bydd nifer o resymau dros hyn ac er y gallai rhai fod y tu hwnt i'ch rheolaeth, efallai mai chi neu newid yn eich amgylchiadau sy'n gyfrifol am rai ohonyn nhw. Dylech chi godi hyn gyda'ch rheolwr cyn gynted â phosibl. Peidiwch ag aros tan eich adolygiad diwedd blwyddyn neu'ch cyfarfod Datblygiad Cyflog - gadewch iddyn nhw eich helpu chi. P'un ai chi neu'ch rheolwr sy'n codi'r ffaith bod eich perfformiad, neu'r ffordd rydych chi'n gweithio yn unol â'n gwerthoedd, yn peri pryder, byddant yn gweithio gyda chi i ddatblygu cynllun i'ch helpu i fynd yn ôl ar y trywydd iawn. Efallai y bydd ymyriad tymor byr neu fach i ddod â chi'n ôl ar y trywydd iawn – e. e. cytuno ar derfyn amser diwygiedig neu ail-flaenoriaethu tasgau. Ni ddylai'r ymyriad trawiad ysgafn a thymor byr hwn bara mwy na phythefnos ac ni ddylai gael unrhyw effaith ar y tîm ehangach na'u gwaith. Dylai hyn hefyd ddigwydd o fewn y flwyddyn perfformiad (Ebrill - Mawrth). Os oes angen cefnogaeth tymor hwy neu fwy strwythuredig, dylid dilyn cam cyntaf ac anffurfiol Polisi Galluogrwydd Cymru Gyfan. Mae modd gofyn am gyngor ac arweiniad gan y Tîm Pobl. Pecyn Cymorth MYC 2020 f 0. 1 Yn ôl Nesaf !

Cofnodi Fy Nghyfraniad Yn ôl Nesaf

Cofnodi Fy Nghyfraniad Yn ôl Nesaf

Dogfennu a chofnodi Fy Nghyfraniad Cyfarfodydd strwythuredig • Mae'r Cofnod Perfformiad, Datblygiad a Lles

Dogfennu a chofnodi Fy Nghyfraniad Cyfarfodydd strwythuredig • Mae'r Cofnod Perfformiad, Datblygiad a Lles Fy Nghyfraniad ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg ac i'w weld LINK. Mae'r ffurflen wedi'i chynllunio i roi fframwaith a chanllaw syml i chi a'ch rheolwr ar gyfer cynnal a chofnodi'r sgyrsiau wrth i chi weithio drwy gyfnod yr adolygiad. Mae defnyddio ffurflen safonol ar draws y sefydliad yn cefnogi cysondeb ac ansawdd a thrwy ddefnyddio'r ffurflen yn eich sgyrsiau, gallwch chi a'ch rheolwr fod yn hyderus eich bod wedi ymdrin â'r holl feysydd y dylech eu trafod. • Mae'n bwysig cadw cofnod o'ch sgyrsiau yn enwedig lle rydych yn cytuno ac yn cofnodi cytundebau, camau gweithredu a phenderfyniadau. Efallai y bydd y ffurflen cynnig mewnbwn gwerthfawr os ydych yn llunio portffolio at ddibenion datblygiad proffesiynol. • Noder, rhaid llenwi ffurflen ar wahân ar gyfer Datblygiad Cyflog. • Mae lles yn parhau i fod wrth wraidd yr hyn a wnawn, felly er y gall y manylion fod yn ysgafn ? ? , gobeithio y bydd gofyn sut ydych chi ar ddechrau pob sgwrs yn rhoi cyfle i fod yn agored. Cliciwch fan hyn i fynd at ESR a chofnodi eich trafodaethau strwythuredig Pecyn Cymorth MYC 2020 f 0. 1 Yn ôl Nesaf

Meddyliau Rheolwyr Yn ôl Nesaf

Meddyliau Rheolwyr Yn ôl Nesaf

Meddyliau Rheolwyr Rhywbeth i gnoi cil arno. . . a rhai amcanion! Fel rheolwr,

Meddyliau Rheolwyr Rhywbeth i gnoi cil arno. . . a rhai amcanion! Fel rheolwr, mae'r rhan fwyaf o'ch amser a dreulir ar reoli perfformiad yn debygol o gael ei dreulio ar sgyrsiau gyda'ch staff a rhoi adborth iddynt ar eu perfformiad, ond pa mor aml ydych chi'n myfyrio ar beth yn union rydych chi wedi'i wneud i'w helpu i wneud eu cyfraniad. Gall y pwyntiau isod eich helpu i feddwl am yr hyn y dylech fod yn ei wneud a gellir ei ddefnyddio hefyd pan fydd eich rheolwr eich hun yn adolygu eich perfformiad fel rheolwr. Gall y pwyntiau isod eich helpu i lunio eich amcanion eich hun ar gyfer y flwyddyn i ddod. Disgwyliadau: Os nad yw aelodau eich tîm yn glir ynghylch yr hyn a ddisgwylir ganddynt, mae hi bron yn amhosibl iddynt berfformio'n effeithiol. Eich cyfrifoldeb chi yw hyn yn amlach na pheidio. Pa mor siŵr ydych chi bod eich disgwyliadau'n cael eu deall yn glir? Gallu: Mae angen i aelodau eich tîm feddu ar y sgiliau, yr adnoddau a'r tueddfryd iawn i gyflawni disgwyliadau y cytunwyd arnynt. Beth ydych chi wedi'i wneud i gefnogi datblygiad cymwyseddau drwy hyfforddi a dysgu drwy brofiadau? Oes gan eich tîm yr holl adnoddau, offer ac amser angenrheidiol i gwrdd â disgwyliadau? Agwedd: Waeth pa mor glir y gallai aelodau eich tîm fod ar ddisgwyliadau tasgau na pha mor fedrus ydynt i'w cyflawni, os nad ydyn nhw am wneud hynny, fyddan nhw ddim yn perfformio'n effeithiol. Beth ydych chi wedi'i wneud i feithrin ymrwymiad a hunanhyder? Ydych chi wedi mynd i'r afael ag ymddygiadau amhriodol rydych wedi bod yn dystion iddynt drwy gydol y flwyddyn? Cyfle: Gall aelodau eich tîm fod yn glir ynghylch yr hyn a ddisgwylir ganddynt a meddu ar yr holl allu ac agwedd dda yn y byd ond os nad ydych chi'n rhoi cyfle iddyn nhw brofi eu hunain fyddan nhw byth yn perfformio. Ydych chi neu'ch tîm yn gyfrifol am ganlyniadau yn hytrach na thasgau? Ydych chi wedi cynnig adborth adeiladol pan fydd pethau wedi mynd o chwith? Tybed ydych chi wedi dal eich gafael ar y grym? Pecyn Cymorth MYC 2020 f 0. 1 Yn ôl Nesaf

Cysylltiadau Ychwanegol ac Adnoddau Yn ôl Nesaf

Cysylltiadau Ychwanegol ac Adnoddau Yn ôl Nesaf

Ailedrych ar y Canllawiau Dolenni defnyddiol • Fideos Fy Nghyfraniad • Rhestr wirio i

Ailedrych ar y Canllawiau Dolenni defnyddiol • Fideos Fy Nghyfraniad • Rhestr wirio i gydweithwyr • Rhestr wirio i reolwyr • Rhoi a derbyn adborth • Datblygiad Cyflog • Ffurflenni Fy Nghyfraniad • Polisi Fy Nghyfraniad Pecyn Cymorth MYC 2020 f 0. 1 Yn ôl Nesaf

Cysylltwch â Datblygu Sefydliadau a Phobl People. Support. PHW@wales. nhs. uk

Cysylltwch â Datblygu Sefydliadau a Phobl People. Support. PHW@wales. nhs. uk