Maes Cwricwlwm Mathemateg a Rhifedd Cyfnod Allweddol Dau

  • Slides: 7
Download presentation
Maes Cwricwlwm: Mathemateg a Rhifedd Cyfnod Allweddol Dau Uchaf – Blwyddyn 6 Ewro 2016:

Maes Cwricwlwm: Mathemateg a Rhifedd Cyfnod Allweddol Dau Uchaf – Blwyddyn 6 Ewro 2016: Adnodd cwricwlwm Cymru ar gyfer disgyblion 711 mlwydd oed

Tasg Rydych chi wedi cael y dasg o Ddadansoddi Gêm yn un o gemau

Tasg Rydych chi wedi cael y dasg o Ddadansoddi Gêm yn un o gemau grŵp Cymru yn Ewro 2016. Ewch ati i gasglu ystadegau ar chwaraewyr Cymru a graffio eu perfformiad.

Sgiliau Ff. Ll. Rh a Chysylltiadau Cwricwlwm Llythrennedd Ff. Ll. Rh (Blwyddyn 6 )

Sgiliau Ff. Ll. Rh a Chysylltiadau Cwricwlwm Llythrennedd Ff. Ll. Rh (Blwyddyn 6 ) Ysgrifennu – archwilio gwahanol ffyrdd o gyflwyno gwaith yn briodol, e. e. tablau Ysgrifennu – defnyddio nodweddion a diwyg sydd wedi’u llunio er mwyn cyflwyno data a syniadau’n glir Rhifedd Ff. Ll. Rh(Blwyddyn 6 ) 6. D 3 – echdynnu a dehongli gwybodaeth o ystod gynyddol o ddiagramau, amserlenni a graffiau (gan gynnwys siartiau cylch) 6. D 4 – cyflwyno data drwy ddefnyddio: tablau, tablau amlder, siartiau bar, siartiau data wedi’u rhannu i grwpiau a graffiau llinell

Terfynau Amser • Cyflwyno’r dasg. Rhannu’r Power. Point sy’n tynnu sylw at wahanol ddulliau

Terfynau Amser • Cyflwyno’r dasg. Rhannu’r Power. Point sy’n tynnu sylw at wahanol ddulliau o ddadansoddi gemau. • Archwilio gwahanol ffyrdd o gasglu a chynrychioli data. • Canfod pa gêm i’w defnyddio i gasglu data. • Dewis a dylunio tabl i gofnodi’r data. • Cyflwyno’r data gan ddefnyddio gwahanol graffiau neu siartiau (gan ddefnyddio TGCh os yn bosibl). • Rhoi cyflwyniad ar y canfyddiadau i’r dosbarth.

Gweithgaredd – cam wrth gam 1. Dangos y fideo – BBC: Data Analysis gan

Gweithgaredd – cam wrth gam 1. Dangos y fideo – BBC: Data Analysis gan ddechrau’r fideo ar 08. 27 – 12. 25 2. Cyflwyno’r her ac archwilio’r Power. Point. 3. Archwilio beth yw ystyr ‘Dadansoddi Gêm’ a pham ei fod yn bwysig. 4. Dangos y gwahanol fathau o ddata y gall disgyblion eu creu. 5. Penderfynu ar gêm i’w gwylio. 6. Penderfynu ar ba ran o’r gêm maent eisiau cofnodi gwybodaeth. 7. Dewis pa chwaraewyr i’w dilyn. 8. Dylunio tablau amlder. 9. Gwylio’r gêm a chasglu’r data. 10. Dehongli a chyflwyno’r data gan ddefnyddio graffiau bar, pictogramau, graffiau llinell neu siartiau cylch. 11. Paratoi cyflwyniad i’w roi i’r dosbarth (mae TGCH yn opsiwn) 12. Rhoi cyflwyniad i’r dosbarth ar y canfyddiadau.

Adnoddau, gwefannau a llyfrau defnyddiol • BBC i. Player http: //www. bbc. co. uk/iplayer/categories/sport/highlights

Adnoddau, gwefannau a llyfrau defnyddiol • BBC i. Player http: //www. bbc. co. uk/iplayer/categories/sport/highlights • ITV Player - http: //www. itv. com/hub/categories/sport • BBC Sport – Pêl-droed http: //www. bbc. co. uk/sport/football • BBC – Arsylwi a dadansoddihttp: //www. bbc. co. uk/education/guides/zmfg 87 h/activity • Fideo – BBC – ‘Data Analysis’ – Dechrau’r fideo ar 08. 27 - 12. 25 http: //www. bbc. co. uk/education/clips/z 9 r 3 gk 7 • Power. Point – Dadansoddi gêm

Meini Prawf Llwyddiant – Ydych chi’n gallu. . . • Deall y term Dadansoddi

Meini Prawf Llwyddiant – Ydych chi’n gallu. . . • Deall y term Dadansoddi Data? • Ymarfer casglu gwahanol fathau o ddata? • Canolbwyntio ar un agwedd neu chwaraewr yn y gêm? • Casw’r daflen casglu data yn syml ac yn hawdd ei defnyddio? • Cofnodi data yn gywir? • Dehongli a chyfwlyno canfyddaidau gan ddefnyddio’r templedi a ddarperir? • Rhoi cyflwyniad hydersu i’r dosbarth?