Cwricwlwm i Gymru Troir gornel MATHEMATEG A RHIFEDD

  • Slides: 17
Download presentation
Cwricwlwm i Gymru: Troi’r gornel MATHEMATEG A RHIFEDD: Y DAITH HYD YN HYN Nicola

Cwricwlwm i Gymru: Troi’r gornel MATHEMATEG A RHIFEDD: Y DAITH HYD YN HYN Nicola Morgan / Marilyn Lewis

‘Cwricwlwm i Gymru’ • Dyfodol Llwyddiannus – yr 2 il genhedlaeth – ‘Cwricwlwm Newydd’

‘Cwricwlwm i Gymru’ • Dyfodol Llwyddiannus – yr 2 il genhedlaeth – ‘Cwricwlwm Newydd’ (Priestley a Biesta, 2013) • Nodweddion: • • Y dysgwr yn ganolog i'r broses Llacio rheoliadau ynghylch mewnbwn (nodi cynnwys) Cael cydbwysedd rhwng gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau Pwyslais ar ymreolaeth ymarferwyr ac ysgolion • Mae’r cwricwlwm newydd yn wahanol • Meddwl • Arferion • Nid rhywbeth sy'n cael ei greu unwaith yw cwricwlwm – mae’n broses barhaus

Creu Cwricwlwm: sut mae mynd ati • Model o gyd-greu, gyda’r ysgolion arloesi yn

Creu Cwricwlwm: sut mae mynd ati • Model o gyd-greu, gyda’r ysgolion arloesi yn ganolog i'r broses • Hwylusir gan Lywodraeth Cymru ac Arweinwyr Consortia Rhanbarthol • Cefnogaeth gan arbenigwyr: Estyn, Cymwysterau Cymru, CAMAU, arbenigwyr academaidd, arbenigwyr mewn Meysydd Dysgu a Phrofiad penodol (NNEM) • Cynllunio a datblygu mewn gweithdai 2 ddiwrnod bob mis ers mis Ionawr, ynghyd â gwaith ymchwil helaeth, gan gynnwys dulliau rhyngwladol / arferion gorau / gwersi a ddysgwyd

Gwyddoniaeth a Thechnoleg • • Mae cysylltiad agos rhwng gwyddoniaeth a thechnoleg, ac mae’r

Gwyddoniaeth a Thechnoleg • • Mae cysylltiad agos rhwng gwyddoniaeth a thechnoleg, ac mae’r naill yn dibynnu ar y llall Manteisio ar chwilfrydedd ynglŷn â’r byd naturiol a'r byd ffisegol drwy ymchwil, esbonio a dealltwriaeth Rhoi cyfle i ddysgu sut mae technoleg a chynllun cynnyrch yn meithrin gwybodaeth wyddonol a gwybodaeth fel arall i wella ansawdd bywyd pobl Cyflwyno cyfrifiadureg i blant a phobl ifanc rhwng 3 ac 16 oed i helpu i greu manteision economaidd a chymdeithasol i bawb sy'n cael ei addysgu yng Nghymru Beth sy'n bwysig ym maes Gwyddoniaeth a Thechnoleg: • Y byd amrywiol rydym yn byw ynddo a’i le yn y bydysawd • Mae angen cymhwyso gwybodaeth a dealltwriaeth er mwyn llunio, dyfeisio, arloesi a darganfod atebion i broblemau

‘Cwricwlwm i Gymru’: Y Pedwar Diben • Dysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu

‘Cwricwlwm i Gymru’: Y Pedwar Diben • Dysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes • Cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith • Dinasyddion egwyddorol, gwybodus sy’n barod i fod yn ddinasyddion i Gymru a’r byd • Unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas

Dysgwyr uchelgeisiol, galluog. . . • Dangos gwybodaeth fathemategol ddofn sy'n briodol i oed

Dysgwyr uchelgeisiol, galluog. . . • Dangos gwybodaeth fathemategol ddofn sy'n briodol i oed a gallu • Cyfathrebu syniadau a dulliau mathemategol yn ysgrifenedig ac ar lafar • Datblygu sgiliau mathemateg a rhifedd cadarn mewn gwersi mathemateg a rhifedd a'u defnyddio mewn gweithgareddau a phrofiadau trawsgwricwlaidd • Annog disgyblion i fod yn chwilfrydig, â meddwl agored, yn barod i dderbyn camgymeriadau a dysgu ohonynt mewn ffordd fathemategol bwrpasol • Annog disgyblion i ddod o hyd i wybodaeth rifiadol a'i deall mewn ffordd bwrpasol er mwyn bod yn ddysgwyr annibynnol gydol oes • Egluro cysyniadau a syniadau mathemategol, gan wirio atebion wrth ddatrys problemau • Meithrin diddordeb brwd parhaus mewn mathemateg sy'n bwrpasol i anghenion disgyblion yn y dyfodol

Cyfranwyr mentrus, creadigol. . . • Annog dysgwyr i gymryd risgiau wrth ystyried gwahanol

Cyfranwyr mentrus, creadigol. . . • Annog dysgwyr i gymryd risgiau wrth ystyried gwahanol ffyrdd o fynd i'r afael â phroblemau mathemategol a rhifiadol • Hyrwyddo sgiliau datrys problemau mathemategol a rhifiadol a sgiliau rhesymu fel bod dysgwyr yn hyderus wrth fynd i'r afael ag amrywiol broblemau, gan gynnwys rhai mewn cyd-destunau go iawn • Hyrwyddo creadigrwydd wrth ystyried gwahanol ffyrdd o ddatrys problemau • Datblygu gwydnwch wrth ddefnyddio sgiliau mathemategol mewn ymateb i heriau mewn gwaith creadigol, wrth weithio’n unigol ac mewn grwpiau • Sicrhau bod dysgwyr yn gymwys i ddadansoddi sefyllfaoedd mathemategol a llunio ymatebion rhesymegol iddynt

Dinasyddion egwyddorol, gwybodus. . . • Creu cyfleoedd i gael trafodaethau sy'n seiliedig ar

Dinasyddion egwyddorol, gwybodus. . . • Creu cyfleoedd i gael trafodaethau sy'n seiliedig ar dystiolaeth • Galluogi dysgwyr i ddadansoddi data’n feirniadol i ffurfio barn wybodus am faterion cymdeithasol, gwleidyddol, economaidd ac amgylcheddol • Hyrwyddo dealltwriaeth disgyblion o gyllid personol, lleol, cenedlaethol a rhyngwladol

Unigolion iach, hyderus. . . • Datblygu hyder a gwydnwch i wynebu a goresgyn

Unigolion iach, hyderus. . . • Datblygu hyder a gwydnwch i wynebu a goresgyn heriau ac i ddatrys problemau er mwyn bod yn ddysgwyr annibynnol gydol oes • Annog disgyblion i ddefnyddio eu sgiliau rhifedd ar draws y cwricwlwm i wneud dewisiadau a phenderfyniadau effeithiol, gwybodus a sicrhau iechyd a lles da gydol oes • Rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau i ddysgwyr reoli cyllid personol nawr ac yn y dyfodol, gan ddefnyddio gwybodaeth a data i asesu risg • Galluogi dysgwyr i ddeall ac ymgymryd â gwahanol rolau o fewn grŵp i ffurfio cysylltiadau cadarnhaol sydd wedi'u seilio ar ymddiriedaeth a pharch

Cwmpas, ffiniau a natur unigryw. . . • Maes Dysgu a Phrofiad un ddisgyblaeth

Cwmpas, ffiniau a natur unigryw. . . • Maes Dysgu a Phrofiad un ddisgyblaeth yw mathemateg a rhifedd, ac, yn wahanol i rai Meysydd Dysgu a Phrofiad amlddisgyblaethol eraill, gellir llunio diffiniad mwy cryno ohono, sy’n canolbwyntio ar ddisgyblaethau mathemateg a rhifedd, gan roi gwybodaeth a sgiliau am oes i ddysgwyr. • Efallai fod mathemateg a rhifedd yn unigryw gan eu bod yn rhoi’r hyder, y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar ddysgwyr i ddatblygu ym mhob maes dysgu yn ystod eu bywydau yn yr ysgol a thu hwnt • Drwy feistroli cysyniadau a phrosesau mathemategol a rhifiadol, bydd dysgwyr yn gallu eu cymhwyso'n briodol ym mhob maes dysgu arall • Mae mathemateg yn helpu pobl ifanc i wneud synnwyr o’r byd o’u cwmpas. Mae’n gyfrwng delfrydol ar gyfer datblygu’r sgiliau sydd eu hangen mewn bywyd bob dydd. • Mae mathemateg yn helpu i ddatblygu gwydnwch, galluoedd datrys problemau a sgiliau meddwl yn rhesymegol, yn ogystal â’r wybodaeth, y gallu i resymu a'r sgiliau sy'n galluogi datblygiad parhaus

Pethau i feddwl amdanynt ar hyn o bryd: Amcanion yr hydref • Sut mae

Pethau i feddwl amdanynt ar hyn o bryd: Amcanion yr hydref • Sut mae strwythuro / cyflwyno’r Maes Dysgu a Phrofiad? • Syniadau Mawr / Cysyniadau allweddol Beth sy’n Bwysig • Fframwaith Dilyniant

Y Farn Bresennol: Beth sy’n Bwysig • Rhifau (…gellir eu defnyddio i gynrychioli meintiau

Y Farn Bresennol: Beth sy’n Bwysig • Rhifau (…gellir eu defnyddio i gynrychioli meintiau a chysylltiadau) • Algebra (Gall patrymau a chysylltiadau gael eu cyffredinoli drwy ddefnyddio symbolau, mynegiadau a hafaliadau) • Geometreg (Gall pwyntiau, llinellau, arwynebau a soledau gael eu disgrifio, eu dosbarthu a’u dadansoddi yn ôl eu priodoleddau) • Mesur a meintioli (Gall priodoleddau rhai gwrthrychau gael eu mesur a’u meintioli gan ddefnyddio meintiau’r uned) • Data (…gellir eu trefnu, eu casglu, eu cofnodi, eu cyflwyno, eu dadansoddi a’u dehongli) • Rheoli arian (Mae cyfrifoldeb ariannol drwy gyd-destunau personol, lleol, cenedlaethol a byd-eang, yn datblygu ymwybyddaieth economaidd, entrepreneuriaeth a sgiliau busnes)

Pethau i feddwl amdanynt ar hyn o bryd: Dilyniant Beth sy'n Bwysig • Cysyniad

Pethau i feddwl amdanynt ar hyn o bryd: Dilyniant Beth sy'n Bwysig • Cysyniad allweddol ‘beth sy'n bwysig’ wedi’i ddatblygu ymhellach i roi syniad o beth mae grwpiau Meysydd Dysgu a Phrofiad yn ei feddwl • Naratif byr ar ddilyniant • Ddim yn gysylltiedig ag oed, ond mae’n rhoi syniad clir o daith dysgwr ar hyd continwwm dysgu e. e. ar ddechrau ac ar ddiwedd y continwwm, ac ar bwyntiau yn y canol • Dylai digon o gynnwys fod yn y naratif hwn i sicrhau bod y cysyniad, a sut gallai’r dysgwr symud ymlaen ar hyd y continwwm, yn cael ei ddeall yn glir

Pethau i feddwl amdanynt ar hyn o bryd: Amcanion y gwanwyn • Drwy weithio

Pethau i feddwl amdanynt ar hyn o bryd: Amcanion y gwanwyn • Drwy weithio gyda CAMAU, cynllunio a datblygu dilyniant a chynnwys manwl (drafft cyntaf y cwricwlwm newydd) Nodyn: • Y diffiniad o’r cwricwlwm ar hyn o bryd – y gwersi a'r cynnwys academaidd a ddysgir yn yr ysgol neu ar raglen neu gwrs penodol. (reference needed) • Diffiniad newydd o gwricwlwm – “yr holl brofiadau dysgu a gweithgareddau asesu y mae’r ysgol yn eu cynllunio wrth geisio cyflawni dibenion addysg y cytunwyd arnynt” (Dyfodol Llwyddiannus t. 106 / 114) - cydbwysedd priodol o wybodaeth, sgiliau, agweddau, cymwyseddau, trefniadaethau, addysgeg ac asesiadau

Diolch yn fawr iawn Rhagor o wybodaeth: • Meysydd Dysgu a Phrofiad – Crynodebau

Diolch yn fawr iawn Rhagor o wybodaeth: • Meysydd Dysgu a Phrofiad – Crynodebau Gweithredol • Blog Diwygio’r Cwricwlwm • Dysg • @Ll. C_Addysg