Cwricwlwm i Gymru Troir gornel Y CELFYDDYDAU MYNEGIANNOL

  • Slides: 19
Download presentation
Cwricwlwm i Gymru: Troi’r gornel Y CELFYDDYDAU MYNEGIANNOL: Y DAITH HYD YN HYN Vanessa

Cwricwlwm i Gymru: Troi’r gornel Y CELFYDDYDAU MYNEGIANNOL: Y DAITH HYD YN HYN Vanessa Mc. Carthy, Arweinydd y Maes Dysgu a Phrofiad a Phennaeth Brynnau Primary School Kathryn Lewis, Athrawes arloesi, Porthcawl Comprehensive School

‘Cwricwlwm i Gymru’ • Dyfodol Llwyddiannus – yr 2 il genhedlaeth – ‘Cwricwlwm Newydd’

‘Cwricwlwm i Gymru’ • Dyfodol Llwyddiannus – yr 2 il genhedlaeth – ‘Cwricwlwm Newydd’ (Priestley a Biesta, 2013) • Nodweddion: • Y dysgwr yn ganolog i’r broses • Llacio rheoliadau ynghylch mewnbwn (manylebau cynnwys) • Cael cydbwysedd rhwng gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau • Pwyslais ar ymreolaeth ymarferwyr ac ysgolion • Mae’r cwricwlwm newydd yn wahanol • Meddwl • Arferion • Nid rhywbeth sy'n cael ei greu unwaith yw cwricwlwm – mae’n broses barhaus

Creu Cwricwlwm: sut mae mynd ati • Model o gyd-adeiladu, gyda’r ysgolion arloesi yn

Creu Cwricwlwm: sut mae mynd ati • Model o gyd-adeiladu, gyda’r ysgolion arloesi yn ganolog i’r broses • Hwylusir gan Lywodraeth Cymru ac Arweinwyr Consortia Rhanbarthol • Cefnogaeth gan arbenigwyr: Estyn, Cymwysterau Cymru, CAMAU, arbenigwyr academaidd, arbenigwyr penodol mewn Maes Dysgu a Phrofiad, y Rhwydwaith Cenedlaethol er Rhagoriaeth mewn Mathemateg (NNEM) a’r Rhwydwaith Cenedlaethol er Rhagoriaeth mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg (NNEST) • Cynllunio a datblygu mewn gweithdai 2 ddiwrnod bob mis ers mis Ionawr, ynghyd â gwaith ymchwil helaeth, gan gynnwys dulliau rhyngwladol / arferion gorau / gwersi a ddysgwyd

Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu (ILla. Ch) • Hawl i bob disgybl ddysgu Cymraeg, Saesneg

Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu (ILla. Ch) • Hawl i bob disgybl ddysgu Cymraeg, Saesneg ac iaith ryngwladol o’r ysgol gynradd, gan gynnwys llenyddiaeth i bawb. • Datblygu sgiliau llafaredd cryf mor bwysig â darllen ac ysgrifennu. • Ni ddefnyddir y term Cymraeg Ail Iaith – cydnabod ffyrdd mae disgyblion yn caffael a dysgu Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, ysgolion cyfrwng Saesneg ac ysgolion dwyieithog. • Ysgolion i helpu disgyblion fanteisio ar ieithoedd eraill (e. e. ieithoedd cartref, Iaith Arwyddion Prydain) • Ysgolion i ystyried cynnydd bob disgybl yn rheolaidd a chynllunio i sicrhau eu bod nhw’n datblygu sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth ar hyd continwwm dysgu ieithoedd. Yr hyn sy’n bwysig mewn ILla. Ch: • Cysyniadau sy’n gyffredin ar draws ieithoedd • Hyrwyddo dysgu dwyieithog, amlieithog a lluosieithog • Blociau adeiladu hanfodol er mwyn dysgu a defnyddio ieithoedd yn effeithiol. • Hybu agweddau diwylliannol, hunaniaeth a pherthyn.

‘Cwricwlwm i Gymru’: Y Pedwar Diben • Dysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu

‘Cwricwlwm i Gymru’: Y Pedwar Diben • Dysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes • Cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith • Dinasyddion egwyddorol, gwybodus sy’n barod i fod yn ddinasyddion i Gymru a’r byd • Unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas

Natur unigryw Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol • Unigol ac ar y

Natur unigryw Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol • Unigol ac ar y cyd • Cyfranwyr brwd sy'n barod i gymryd rhan • Emosiwn yn ogystal â chyfleu meddyliau, teimladau a syniadau • Meithrin lles, hunan-barch a gwydnwch • Mwy o hunanhyder, sy'n gallu arwain at well perfformiad ar draws y cwricwlwm.

Dysgwyr uchelgeisiol, galluog. . . • Cyfathrebu'n effeithiol mewn gwahanol ffyrdd a sefyllfaoedd drwy

Dysgwyr uchelgeisiol, galluog. . . • Cyfathrebu'n effeithiol mewn gwahanol ffyrdd a sefyllfaoedd drwy ddysgu sy’n cael ei arwain gan y disgybl • Llais y dysgwr yn hybu perchnogaeth, her, safonau uchel, gwelliannau • Dal y dychymyg a meithrin cariad at ddysgu • Cyfleoedd o ran ymchwilio, atebion, cymhwyso sgiliau, meddwl yn feirniadol

Cyfranwyr mentrus, creadigol. . . • Herio perfformiad a helpu dysgwyr i gymryd risgiau

Cyfranwyr mentrus, creadigol. . . • Herio perfformiad a helpu dysgwyr i gymryd risgiau rhesymegol • Addysgeg greadigol sy'n ei gwneud yn bosib meithrin agwedd gadarnhaol at gymryd risgiau, myfyrio a phrofiadau dysgu ac sy'n adnabod camau i ddatblygu dysgu • Datblygu gallu’r dysgwr o ran bod yn wydn, dyfalbarhau, meddwl yn feirniadol a llythrennedd emosiynol • Mabwysiadu rolau allweddol mewn amrywiol sefyllfaoedd

Dinasyddion egwyddorol, gwybodus. . . • Rhoi cyfle, yn gorfforol ac yn emosiynol, i

Dinasyddion egwyddorol, gwybodus. . . • Rhoi cyfle, yn gorfforol ac yn emosiynol, i ddysgwyr fynegi pwy ydyn nhw, parchu eraill a chydnabod eu hawliau eu hunain • Rhoi cyd-destun ystyrlon i ddysgwyr allu trafod a deall y gwahaniaethau o ran diwylliant rhyngddyn nhw eu hunain ac eraill, a gwerthfawrogi’r gwahaniaethau hyn • Rhoi cyfle i ddysgwyr feithrin gwybodaeth a dysgu am eu diwylliant eu hunain ac am eu cymdeithas a’r byd (ddoe a heddiw)

Unigolion iach, hyderus. . . • Bydd dysgwyr, drwy baratoi, perfformio, creu a myfyrio,

Unigolion iach, hyderus. . . • Bydd dysgwyr, drwy baratoi, perfformio, creu a myfyrio, yn cael yr hyder i gymryd risgiau ac i feithrin cysylltiadau cadarnhaol sy'n seiliedig ar bawb yn dangos parch at ei gilydd. • Datblygu’r meddylfryd cadarnhaol a’r hyder a’r gwydnwch i wynebu a goresgyn heriau ac i ddatrys problemau. • Mae’r hwyl a’r pleser a ddaw o ddysgu yn y Maes Dysgu a Phrofiad hwn yn cyfrannu at ddysgwyr hapus ac iach sy'n barod i gyfrannu.

Pwysigrwydd • Mae’r Celfyddydau Mynegiannol, fel ffordd o sicrhau cynwysoldeb, yn ymestyn posibiliadau i

Pwysigrwydd • Mae’r Celfyddydau Mynegiannol, fel ffordd o sicrhau cynwysoldeb, yn ymestyn posibiliadau i bawb • Mae’r Celfyddydau Mynegiannol yn meithrin sgiliau meddwl yn feirniadol a sgiliau creadigol – er mwyn cwestiynu, creu cysylltiadau, arloesi, datrys problemau, cyfathrebu, cydweithio a myfyrio'n feirniadol – sgiliau trosglwyddadwy y mae galw amdanyn nhw yn y gweithle

Enghreifftiau o orgyffwrdd â Meysydd Dysgu a Phrofiad eraill: • Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu

Enghreifftiau o orgyffwrdd â Meysydd Dysgu a Phrofiad eraill: • Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu – Llafaredd drwy ddrama a cherddoriaeth; Ysgrifennu Creadigol, Ffilm a Ffotograffiaeth • Iechyd a Lles – Deall a mynegi emosiwn; cyflwyno addysg rhyw a chydberthynas drwy’r celfyddydau; sicrhau dysgwyr hyderus, iach a hapus drwy’r celfyddydau • Y Dyniaethau – Dysgu am ddatblygiadau diwylliannol, cymdeithasol a hanesyddol drwy'r Celfyddydau • Gwyddoniaeth a Thechnoleg – Technoleg / cyfryngau digidol (Y Celfyddydau Mynegiannol)

Amcanion yr hydref • Sut bydd y Maes Dysgu a Phrofiad yn cael ei

Amcanion yr hydref • Sut bydd y Maes Dysgu a Phrofiad yn cael ei strwythuro? • Syniadau Mawr – cysyniadau allweddol Beth sy’n Bwysig • Fframwaith Dilyniant

Beth sy'n Bwysig • Cyfres o deitlau ar gyfer prif gysyniadau ‘beth sy’n bwysig’

Beth sy'n Bwysig • Cyfres o deitlau ar gyfer prif gysyniadau ‘beth sy’n bwysig’ i bob Maes Dysgu a Phrofiad • Datganiadau yn hytrach na chwestiwn neu un gair ar ei ben ei hun • Ar gyfer pob cysyniad ‘beth sy’n bwysig’, bydd naratif esboniadol a fydd yn amlinellu o Sail resymegol pam mae’r cysyniad yn ‘bwysig’ o A yw’r cysyniad allweddol yn briodol i'w ddysgu ar draws y continwwm dysgu o Y man cychwyn a’r man gorffen posib o Unrhyw oblygiadau ar gyfer achosion o orgyffwrdd o fewn ac ar draws Meysydd Dysgu a Phrofiad

Pethau i feddwl amdanynt ar hyn o bryd: Datganiad Beth sy’n Bwysig Mae gan

Pethau i feddwl amdanynt ar hyn o bryd: Datganiad Beth sy’n Bwysig Mae gan y Celfyddydau Mynegiannol y pwer i ddatblygu sgiliau technolegol, ymwybyddiaeth o arddulliau ac i gynnig ystod o brofiadau Enghraifft o naratif dilyniant… Bydd disgyblion yn profi amrywiaeth o sgiliau celfyddydau mynegiannol o fewn gwahanol meysydd ac yn cymryd rhan gyda chymhlethdod a sgil technegol cynyddol, gan wneud cyfraniadau ystyrlon sydd yn cyfoethogi eu bywydau. Bydd y dysgwyr yn gallu cymryd rhan yn llwyddiannus mewn gweithgareddau tu allan i'r dosbarth ac yng nghalwedigaethau eu dyfodol. Mae yna gyfleoedd clir ar gyfer gwahaniaethu ac wrth i ddysgwyr ddatblygu, bydd y sgiliau yn fwy cymhleth o ran proses neu canlyniad. Bydd y profiadau personol, bythgofiadwy a chyfoethog y mae celfyddydau mynegiannol yn cynnig a'r sgiliau sy'n deillio yn sgil rhain yn aros gyda'r dygwyr trwy gydol eu hoes.

Amcanion y gwanwyn • Drwy weithio gyda CAMAU, cynllunio a datblygu dilyniant a chynnwys

Amcanion y gwanwyn • Drwy weithio gyda CAMAU, cynllunio a datblygu dilyniant a chynnwys manwl (drafft cyntaf y cwricwlwm newydd) Nodyn: • Y diffiniad o’r cwricwlwm ar hyn o bryd – y gwersi a'r cynnwys academaidd a ddysgir yn yr ysgol neu ar raglen neu gwrs penodol. • Diffiniad newydd o gwricwlwm – “yr holl brofiadau dysgu a gweithgareddau asesu y mae’r ysgol yn eu cynllunio wrth geisio cyflawni dibenion addysg y cytunwyd arnynt” (Dyfodol Llwyddiannus t. 106 / 114) – cydbwysedd priodol o wybodaeth, sgiliau, agweddau, cymwyseddau, anianau, addysgeg ac asesiadau

Diolch yn fawr iawn Rhagor o wybodaeth: • Meysydd Dysgu a Phrofiad – Crynodebau

Diolch yn fawr iawn Rhagor o wybodaeth: • Meysydd Dysgu a Phrofiad – Crynodebau Gweithredol • Blog Diwygio’r Cwricwlwm • Dysg • @Ll. C_Addysg