Maes Cwricwlwm Iechyd a lles Cyfnod Allweddol Dau
- Slides: 7
Maes Cwricwlwm: Iechyd a lles Cyfnod Allweddol Dau Isaf – Blwyddyn 4 Ewro 2016: Adnodd cwricwlwm Cymru ar gyfer disgyblion 7 -11 mlwydd oed
Tasg Mae tîm Cymru wedi bod yn hyfforddi’n galed wrth baratoi ar gyfer Ewro 2016. Yn eich gwersi Addysg Gorfforol ac yn ystod amser chwarae, defnyddiwch rai o ddriliau CBDC i ddatblygu eich sgiliau eich hunain. Ydych chi hefyd yn gallu meddwl am eich syniadau hyfforddi eich hunain?
Sgiliau Ff. Ll. Rh a Chysylltiadau Cwricwlwm CA 2 Addysg Gorfforol – Iechyd, ffitrwydd a lles 1. Datblygu, cadarnhau a chymhwyso’r sgiliau a’r technegau sydd eu hangen i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau cystadleuol. 2. Gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y sgiliau hyn a thechnegau penodol. 3. Archwilio’r egwyddorion sydd wrth wraidd gwahanol weithgareddau. Llythrennedd Ff. Ll. Rh (Blwyddyn 4 ) Darllen – darllen testunau, gan gynnwys testunau heb fawr o gliwiau gweledol, yn annibynnol, ganolbwyntio. Llafaredd – cyfrannu i drafodaeth grŵp, gan helpu pawb i gymryd rhan. *Gweler y driliau unigol i weld disgrifiad o’r sgiliau*
Terfynau Amser • Athro – gwnewch yn siŵr eich bod yn gyfarwydd â’r gweithgaredd yr ydych chi wedi’i ddewis ar gyfer eich dosbarth. • Defnyddiwch wers addysg gorfforol, amser chwarae neu glwb ar ôl ysgol i addysgu gweithgaredd o’r pecyn adnoddau i’r dosbarth, tîm neu grŵp o blant. • Ceisiwch annog disgyblion mwy Abl a Thalentog i ddefnyddio’r pecyn i ddatblygu eu driliau eu hunain.
Gweithgaredd – cam wrth gam 1. Dod yn gyfarwydd â’r Pecyn Adnoddau 2. Penderfynu ar y gweithgaredd(au) yr hoffech eu haddysgu i’r dosbarth, clwb neu grŵp o ddisgyblion. 3. Rhannu’r canllaw cam wrth gam â’r disgyblion: • Sut mae’n edrych • Sut i chwarae • Newidiadau i’r gêm 4. Monitro cynnydd y gweithgaredd, gan “newid y gêm” os oes angen. 5. Annog disgyblion Medrus a Thalentog i arwain y sesiynau a defnyddio’r Pecyn Adnoddau i ddylunio eu driliau hyfforddi eu hunain. 6. Dirwyn y gyfres o weithgareddau i ben gyda thwrnamaint llawn hwyl, ganolbwyntio ar y sgiliau a gyflwynwyd i’r disgyblion.
Adnoddau, gwefannau a llyfrau defnyddiol • CBDC: Pecyn o Weithgareddau Pêl-droed: • Taflenni Gweithgareddau Ymarferol 1 -4: Troi, Pasio a Rheoli. • Taflenni Gweithgareddau Ymarferol 5 -8: Penio, Ergydio ac Arbed Goliau. • Taflenni Gweithgareddau Ymarferol 9 -12: Driblo, Rhedeg â’r Bêl ac Amddiffyn.
Meini Prawf Llwyddiant – Ydych chi’n gallu. . . • Pasio gyda chywirdeb? • Rheoli pêl-droed gyda thu mewn eich troed? • Troi yn effeithlon gyda’r bêl? • Penio’r bêl gyda hyder? • Defnyddio rhan gywir eich troed i ergydio â phŵer? • Dal a thaflu gyda mwy o hyder? • Driblo pêl-droed gyda rheolaeth? • Chwarae gan fwynhau a bod yn deg?