CORNELIUS Y CANWRIAD: Newyddion Da i’r Cenhedloedd Actau pennod 10 Dylunio: Gary Craig Addasiad Cymraeg: Nigel Davies
Un tro, roedd yna ganwriad o’r enw Cornelius. Roedd yn addoli Duw Israel. Un diwrnod, wrth iddo weddïo, ymddangosodd angel iddo mewn gweledigaeth. Anfon ddynion i Jopa i nôl dyn o’r enw Simon Pedr. Rwy’ am i ti siarad ag e.
Drannoeth, roedd Pedr ar y to yn gweddïo. Cafodd weledigaeth am anifeiliaid yn disgyn o’r nefoedd.
Roedd yr anifeiliaid i gyd yn rhai nad oedd crefydd yr Iddewon yn caniatáu i’r bobl eu bwyta. Paid â dweud mai aflan yw’r hyn mae Duw wedi ei wneud yn lân. Alla’ i ddim. Dw i erioed wedi bwyta anifeiliaid aflan fel y rhai hyn. Pedr, fe gei di fwyta’r anifeiliaid hyn.
Ar yr un pryd, cyrhaeddodd y dynion a anfonwyd gan Cornelius a dyma nhw’n gofyn a oedd Pedr yno. Fi yw Pedr. Sut alla’ i eich helpu?
Aeth Pedr gyda’r dynion i dŷ Cornelius a chafodd ei wahodd i ddweud y newyddion da am Iesu wrthyn nhw. Credodd Cornelius a’r rhai oedd gydag e. Dyma’r bobl gyntaf, oedd heb fod yn perthyn i genedl yr Iddewon, ddaeth i gredu yn Iesu. Rwy’n gweld nawr bod Duw yn barod i dderbyn pobl o bob cenedl.
Daeth yr Ysbryd Glân ar Cornelius a’r rhai oedd gydag e a buon nhw’n moli Duw yn uchel.
Deallodd Pedr bod y weledigaeth gafodd e am yr anifeiliaid yn wir hefyd am bobl. Dywedodd Pedr wrth ei gyd-Iddewon bod Duw yn derbyn pobl o bob cenedl sy’n credu yn ei Fab, Iesu Grist. Mae hyn yn profi bod Duw yn derbyn pawb! Felly, nid Iddewon yn unig sy’n blant i Dduw? Mae hwn yn rhyfeddod i ni.