Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig a phrosiectau
Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig a phrosiectau Maint Cymru
Beth mae Maint Cymru yn ei wneud? ● helpu cymunedau lleol i warchod pedwar miliwn hectar o goedwigoedd trofannol ● codi ymwybyddiaeth o ba mor hanfodol yw coedwigoedd trofannol i ni ac i’n hinsawdd a hefyd, i'r bywyd gwyllt a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. ● rhedeg gweithdai mewn ysgolion a cholegau ar y goedwig law a newid yn yr hinsawdd
Beth fyddech chi'n hoffi eu gweld yn newid er mwyn gwneud y byd yn lle gwell? Yn eich barn chi, beth yw'r problemau mawr yn y byd?
Mae bod eisiau newid y pethau hyn yn cael eu disgrifio fel nodau Y Cenhedloedd Unedig sy’n penderfynu ar y nodau Beth ydy’r Cenhedloedd Unedig?
Sefydlwyd y Cenhedloedd Unedig ym 1945, fel sefydliad i gael cyfarfodydd lle gall yr holl wledydd yn y byd ddod at ei gilydd a thrafod pethau – i weithio gyda'i gilydd i geisio cael byd mwy heddychlon ac i ddelio â phroblemau fel tlodi Faint o wledydd sydd yn y byd? C. Faint sy’n aelodau o’r Cenhedloedd Unedig? (Answers in Slide Notes)
Yn 2015, penderfynodd gwledydd y Cenhedloedd Unedig ar nodau newydd y Nodau Datblygu Cynaliadwy (NDCau, sy’n aml yn cael eu galw’n nodau byd-eang)
Beth ydy ystyr datblygu cynaliadwy? Newid y byd fel bod pawb yn gallu cael digon heb ddinistrio'r amgylchedd. Defnyddio ein hadnoddau’n ddoeth i fodloni ein hanghenion, heb gyfaddawdu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i fodloni eu hanghenion nhw, ond yn y fath ffordd fel na fydd yn cael dim effaith, neu dim llawer o effaith, ar ein hecosystemau
Mae gan y Cenhedloedd Unedig 17 o Nodau Datblygu Cynaliadwy Pa nodau sydd yr un fath â’r nodau y gwnaethoch chi feddwl amdanynt?
Pasiodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r dyfodol yn 2015. Un o'r nodau yn y Ddeddf honno yw ' Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang '. Hon oedd y ddeddfwriaeth gyntaf yn unrhyw le i sôn am y NDCau, ac am sut mae Cymru’n cyfrannu at y nodau hyn.
Mae Maint Cymru yn trio gwarchod ardaloedd o goedwigoedd glaw. . O dan ba gategori mae hwnnw’n disgyn?
Beth sy’n bwysig am goedwigoedd glaw? Mae amrywiaeth enfawr o blanhigion ac anifeiliaid yn byw ynddynt Mae miliynau o bobl yn byw yn y coedwigoedd ac eu hangen nhw Maen nhw’n amsugno CO 2 ac yn troi’r carbon yn goed, dail a gwreiddiau
Beth sy’n digwydd i’r coedwigoedd? Maen nhw’n cael eu torri lawr– ● ● ● i bori gwartheg i gynhyrchu gig eidion, i dyfu cnydau (ar gyfer bwyd * a thanwydd), I fwyngloddio am fwynau i gael pren ar gyfer papur a defnyddiau eraill i gael olew a nwy i deuluoedd ffermio ar y tir
Felly mae Maint Cymru yn cefnogi cymunedau coedwigoedd. Mae hyn yn bodloni nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol o greu Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang Gadewch i ni edrych ar un o’r prosiectau, a gweld os yw’n bodloni NDCau eraill, yn ogystal â NDC 15.
Mae’r hyn y gallwn ei wneud ym Maint Cymru yn eithaf bach – meddai Wangari Mathai: “Y pethau bychain mae dinasyddion yn eu gwneud. Dyna beth fydd yn gwneud y gwahaniaeth. Fy mheth bach i ydy plannu Coed. ” Ond nid dim ond coed yn unig wnaeth hi blannu. Ysgogodd gymaint o bobl eraill. I ddarganfod mwy amdani – https: //www. greenbeltmovement. org/wangari-maathai/biography
Mae’n bwysig dros ben ein bod ni’n ceisio lleihau faint o CO 2 a nwyon tŷ gwydr eraill rydym yn eu rhoi yn yr atmosffer. Felly, mae gan bob un ohonom ni rôl i gyflawni’r NDCau.
- Slides: 15