Pwy oedd y Celtiaid Roedd Celtiaid yr Oes

  • Slides: 12
Download presentation

Pwy oedd y Celtiaid? Roedd Celtiaid yr Oes Haearn yn byw ym Mhrydain o

Pwy oedd y Celtiaid? Roedd Celtiaid yr Oes Haearn yn byw ym Mhrydain o 750 CC hyd at 43 OC. Daethant o Ewrop, o wledydd yn cynnwys Awstria, y Swistir, De Ffrainc a Sbaen. Mae’r gair ‘Celt’ yn dod o’r gair Groegaidd ‘Keltoi’, er nad oes neb yn sicr o ystyr y gair hwn. Ystyr 750 CC yw bod y Celtiaid ym Mhrydain 750 o flynyddoedd cyn geni Iesu Grist.

Llwythau Roedd y Celtiaid yn rhan o lwythau (grwpiau gwahanol), ac roedd gan bob

Llwythau Roedd y Celtiaid yn rhan o lwythau (grwpiau gwahanol), ac roedd gan bob llwyth frenin neu frenhines ei hun. Roedd hyn yn golygu llawer o ymladd rhwng llwythau cyfagos. Roedd tri phrif grŵp Celtaidd: Y Galiaid Y Brythoniaid Y Gaeliaid Y Frenhines Buddug: Buddug oedd brenhines llwyth yr Iceni. Cafodd ei disgrifio fel dynes dal gyda gwallt trwchus, coch. Gwisgai diwnig lachar a chlogyn. Dywed ei bod hi wedi chwifio ei chleddyf yn ffyrnig at filwr pan oedd yn ymladd yn erbyn y Rhufeiniaid. Roedd hi’n casáu’r Rhufeiniaid!

Celtiaid Yr Oes Haearn Fe’u gelwid yn Geltiaid yr Oes Haearn oherwydd eu bod

Celtiaid Yr Oes Haearn Fe’u gelwid yn Geltiaid yr Oes Haearn oherwydd eu bod wedi darganfod haearn. Roeddent yn grefftwyr arbennig. Byddent yn creu arfau ac eitemau haearn i’w cartrefi. Cyn hynny, efydd oedd y prif fetel a ddefnyddiwyd i greu arfau, gemwaith a gwrthrychau amrywiol.

Rhyfelwyr Roedd y Celtiaid yn ryfelwyr ffyrnig. Nid oeddent yn gwisgo arfwisgoedd i ymladd.

Rhyfelwyr Roedd y Celtiaid yn ryfelwyr ffyrnig. Nid oeddent yn gwisgo arfwisgoedd i ymladd. Yn hytrach, roeddent yn ymladd yn noeth, ac yn peintio eu cyrff gyda phatrymau glas arbennig er mwyn codi ofn ar eu gelynion. Glaslys oedd enw’r paent. Roedd ganddynt darianau wedi eu gorchuddio â chroen anifeiliaid. Chwifiwyd gwaywffyn hir wedi’u gwneud o haearn o gwmpas eu pennau. Roeddent hefyd yn ymladd gyda chleddyfau.

Cartrefi Roedd y Celtiaid yn byw mewn tai crwn. Adeiladwyd y tai o glai

Cartrefi Roedd y Celtiaid yn byw mewn tai crwn. Adeiladwyd y tai o glai (cymysgedd o wellt a mwd), a phren wedi’i blethu. Un ystafell fawr oedd gan bob tŷ gyda thân yng nghanol yr ystafell. Roedd y mwg yn dianc o dwll bach yn y to. Nid oedd unrhyw ffenestri yn y tŷ er mwyn sicrhau fod y tai’n cadw’n gynnes. Toeau gwellt oedd gan y tai. Adeiladwyd y tai yn agos at ei gilydd ar ben bryniau a elwid yn ‘Fryngaerau’. Gwnaethpwyd hyn er mwyn diogelu eu cartrefi ac amddiffyn eu tiriogaethau.

Bywoliaeth a Bywyd Pob Dydd Yn bennaf, ffermwyr oedd y Celtiaid. Roeddent yn tyfu

Bywoliaeth a Bywyd Pob Dydd Yn bennaf, ffermwyr oedd y Celtiaid. Roeddent yn tyfu ŷd a chasglwyd aeron, cnau a phlanhigion i’w bwyta. Roeddent yn helwyr arbennig ac yn bwyta ceirw, eirth, baeddod a physgod gwyllt. Casglwyd mêl ac wyau hefyd. Roedd y Celtiaid yn ffermio gwartheg, moch, geifr a defaid. Roedd yn rhaid i’r ffermwyr fod yn barod i amddiffyn eu tir ac i ymladd pan oedd angen!

Dillad Roedd y Celtiaid yn hoffi dillad lliwgar. Roeddent yn gwisgo dillad wedi’u gwneud

Dillad Roedd y Celtiaid yn hoffi dillad lliwgar. Roeddent yn gwisgo dillad wedi’u gwneud o wlân a’u lliwio gan ddefnyddio sudd planhigion ac aeron. Defnyddiwyd gwŷdd i wehyddu’r gwlân. Roeddent yn defnyddio nodwyddau metel neu esgyrn i wnïo darnau o ddefnydd at ei gilydd. Roedd y merched yn gwisgo sgertiau neu ffrogiau llaes at y llawr gyda chlogyn a broetsh. Roedd y dynion yn gwisgo tiwnig, bracae (trowsus) a gwregys.

Gemwaith Roedd y Celtiaid yn hoffi gemwaith wedi’i wneud allan efydd, aur, arian, cwrel

Gemwaith Roedd y Celtiaid yn hoffi gemwaith wedi’i wneud allan efydd, aur, arian, cwrel a thun. Pobl bwysig, fel y penaethiaid, fyddai’n gwisgo torchau aur o gwmpas eu gyddfau. Defnyddiwyd tlws neu froetsh i gau clogynnau.

Crefydd y Celtiaid Roedd gan y Celtiaid dros 300 o dduwiau a duwiesau. Roeddent

Crefydd y Celtiaid Roedd gan y Celtiaid dros 300 o dduwiau a duwiesau. Roeddent yn aberthu anifeiliaid i’r duwiau, sef lladd anifeiliaid a’u rhoi fel rhoddion. Byddent yn taflu arfau i mewn i afonydd a llynnoedd i fendithio’r duwiau ac i ddod â lwc dda i’r llwyth. Derwyddon oedd offeiriaid y Celtiaid. Roeddent yn gallu rhagweld y dyfodol trwy astudio natur. Roeddent yn defnyddio’r sêr er mwyn derbyn arweiniad a gwneud cysylltiadau rhwng y byd hwn a’r bywyd nesaf. Credai’r Celtiaid mewn bywyd ar ôl marwolaeth. Fe’u claddwyd gyda’u heiddo gan eu bod yn credu y gallent fynd â nhw i’r byd nesaf.

Y Goresgyniad Rhufeinig Daeth rheolaeth y Celtiaid ym Mhrydain i ben pan ymosododd y

Y Goresgyniad Rhufeinig Daeth rheolaeth y Celtiaid ym Mhrydain i ben pan ymosododd y Rhufeiniaid ar y wlad. Daeth y Rhufeiniaid o’r Eidal gan chwilio am drysor ac er mwyn ymestyn eu tiroedd. Roeddent yn drefnus ac yn ddisgybledig, yn wahanol iawn i’r Celtiaid, a dyna paham bu’r goresgyniad yn llwyddiannus. Dywedodd y Rhufeiniaid bod gan y Celtiaid dymer gwyllt a’u bod yn ffraeo llawer gyda’i gilydd. Roedd hyn yn golygu ei bod yn gymharol rwydd i’r Rhufeiniaid reoli Prydain ar ôl y goresgyniad. Bu’r Celtiaid a’r Rhufeiniaid yn byw ochr yn ochr â’i gilydd am sawl cenhedlaeth.