Effeithiolrwydd Personol Anwytho Sgiliau Uned 2 2 2

  • Slides: 15
Download presentation
Effeithiolrwydd Personol Anwytho Sgiliau Uned 2 - 2. 2 a

Effeithiolrwydd Personol Anwytho Sgiliau Uned 2 - 2. 2 a

Sesiwn heddiw O Byddwn ni’n edrych ar y ffordd yr ydym ni’n meddwl am

Sesiwn heddiw O Byddwn ni’n edrych ar y ffordd yr ydym ni’n meddwl am ddigwyddiadau pob dydd. O Byddwn ni’n edrych ar effaith y ‘llais mewnol’. O Byddwn ni’n edrych ar agweddau optimist a phesimist ac ar sut i newid eich ffordd o feddwl.

Rydych chi’n teimlo fel y ffordd yr ydych yn meddwl! Meddyliau Rhesymegol Mae Jake

Rydych chi’n teimlo fel y ffordd yr ydych yn meddwl! Meddyliau Rhesymegol Mae Jake yn dweud wrth ei hunan y gallai fod wedi gwneud yn well, ond ni wnaeth adolygu digon. Digwyddia d Mae Jake yn cael Gweithred marc iseluyn ei ffug Cred (am A) Emosiynau Dymunol Mae Jake yn siomedig gyda’i ymdrech. Ymddygiad Dymunol Mae Jake yn penderfynu rhoi mwy o ymdrech i mewn i’w adolygu. Goblygiadau (am B) arholiad Meddyliau Afresymol Mae Jake yn dweud wrth ei hunan y dylai fod wedi gwneud yn dda, ond fod y methiant hwn nawr yn mynd i arwain at fethiant yn ei holl arholiadau. Ymddygiad Annymunol Mae Jake yn penderfynu gadael y coleg. Emosiynau Annymunol Mae Jake yn teimlo mae’n rhaid ei fod yn anobeithiol yn ei bynciau.

Y Model ABC O Mewn grŵp bychan, cewch gerdyn senario O Eich tasg yw

Y Model ABC O Mewn grŵp bychan, cewch gerdyn senario O Eich tasg yw ystyried y meddyliau ac ymddygiad rhesymol ac afresymol, ynghyd â meddyliau y gallai unigolyn eu teimlo yn y sefyllfa honno.

Llais mewnol (Self-talk) Llais mewnol (beth ddwedwch chi wrth eich hunan) Yn ysgogi Perfformiad

Llais mewnol (Self-talk) Llais mewnol (beth ddwedwch chi wrth eich hunan) Yn ysgogi Perfformiad go iawn (sut y byddwch chi’n ymddwyn yn naturiol) Yn atgyfnerth u Rheoliada u Hunan-ddelwedd (beth yr ydych chi’n ei ‘wybod’ yr ydych chi)

Llais mewnol sydd ddim yn ddefnyddiol O Dramateiddio – gwneud môr a mynydd o

Llais mewnol sydd ddim yn ddefnyddiol O Dramateiddio – gwneud môr a mynydd o bethau O Cyffredinoli – cymryd yn ganiataol mai dyna sydd wastad yn wir O Personoli – gweld bai ar eich hunan bob amser O Beirniadu – rhoi amser caled i’ch hunan (ac eraill)

Ffyrdd o wella’r Llais Mewnol O Os wnewch chi gamgymeriadau, dwedwch O O ‘Dyw

Ffyrdd o wella’r Llais Mewnol O Os wnewch chi gamgymeriadau, dwedwch O O ‘Dyw hynny ddim fel fi. Tro nesa mi wnaf i …’ Yn hytrach na dweud na allwch chi wneud rhywbeth, dwedwch eich bod ‘yn dysgu gwneud. . . ’ Derbyniwch ganmoliaeth gyda ‘Diolch’. Myfyriwch ar eich llwyddiannau nid ar eich methiannau. Gwelwch eich hunan fel y mae eraill yn eich gweld chi.

Tasg Amlen O Rhannwch yn grwpiau o 4/5. O Ysgrifennwch eich enw ar amlen.

Tasg Amlen O Rhannwch yn grwpiau o 4/5. O Ysgrifennwch eich enw ar amlen. O Mae angen i bawb yn y grŵp ysgrifennu nodwedd bositif ar gyfer pob aelod arall o’r grŵp ar gerdyn ar wahân O Gosodwch y nodwedd yn yr amlen briodol.

Tasg Amlen O Pa mor hawdd oedd hi i ddod o hyd i’ch amlen

Tasg Amlen O Pa mor hawdd oedd hi i ddod o hyd i’ch amlen chi? O Ydych chi’n cytuno gyda beth sydd wedi’i ysgrifennu amdanoch chi? O Ydy hyn yn cyfateb â’r ffordd yr ydych chi’n gweld eich hunain? O Sut allwch chi ddefnyddio hyn i wella eich llais mewnol?

Optimistiaeth yn erbyn Pesimistiaeth Mae pesimist yn gweld yr anhawster gyda phob cyfle; mae’r

Optimistiaeth yn erbyn Pesimistiaeth Mae pesimist yn gweld yr anhawster gyda phob cyfle; mae’r optimist yn gweld y cyfle ddaw gyda phob anhawster - Winston Churchill Between the optimist and the pessimist, the difference is droll, the optimist sees the doughnut and the pessimist sees the hole. -Oscar Wilde, Dramodydd ac awdur, Mae’r rhan fwyaf o gysgodion bywyd yn dod o sefyll yn ffordd eich heulwen eich hunan–Ralph Waldo Emerson

Ennill y cyfeiriad meddwl (mind-set) cywir O Ffordd arall o ystyried optimistiaeth a phesimistiaeth

Ennill y cyfeiriad meddwl (mind-set) cywir O Ffordd arall o ystyried optimistiaeth a phesimistiaeth yw i ystyried dau gyfeiriad meddwl gwahanol. O Mae’r ffordd y gwelwch chi eich hunan yn gallu effeithio ar y ffordd yr ydych yn byw eich bywyd. Mae gennych chi’r grym i bennu os ydych chi’n dod yn berson yr hoffech chi fod ac os ydych chi’n mynd i gyflawni y pethau yr ydych chi’n eu hystyried yn werthfawr.

Pa gyfeiriad meddwl ydych chi? O Atebwch y cwestiynau hyn am pa mor alluog

Pa gyfeiriad meddwl ydych chi? O Atebwch y cwestiynau hyn am pa mor alluog yw 1. 2. 3. 4. person. Darllenwch bob datganiad gan nodi os ydych chi’n cytuno neu yn anghytuno ar y cyfan. Mae pa mor alluog ydych chi yn rywbeth eithaf sylfaenol amdanoch chi na allwch chi ei newid rhyw lawer. Gallwch ddysgu pethau newydd, ond allwch chi ddim newid pa mor alluog ydych chi mewn gwirionedd. Dim ots pa mor alluog ydych chi, gallwch wastad ei newid ychydig. Gallwch chi wastad newid pa mor alluog ydych chi’n sylweddol.

Pa gyfeiriad meddwl ydych chi? O Edrychwch ar y datganiadau hyn am bersonoliaeth a

Pa gyfeiriad meddwl ydych chi? O Edrychwch ar y datganiadau hyn am bersonoliaeth a chymeriad a phenderfynwch os ydych chi’n cytuno neu yn anghytuno ar y cyfan gyda phob un. 1. 2. 3. 4. Rydych chi’n fath arbennig o berson, a does fawr sy’n gallu cael ei wneud i newid hynny. Dim ots pa fath o berson ydych chi, gallwch chi wastad newid yn sylweddol. Gallwch chi wneud pethau yn wahanol, ond nid oes modd newid y rhannau pwysig o bwy ydych chi mewn gwirionedd. Gallwch chi wastad newid y pethau sylfaenol am y math o berson ydych chi.

Cyfeiriadau Meddwl O Mewn cyfeiriad meddwl sefydlog mae pobl yn credu fod rhinweddau sylfaenol

Cyfeiriadau Meddwl O Mewn cyfeiriad meddwl sefydlog mae pobl yn credu fod rhinweddau sylfaenol megis pa mor alluog yw rhywun, yn rinweddau sefydlog. Maen nhw hefyd yn credu fod talent yn ei hunan yn creu llwyddiant – heb ymdrech. O Mewn cyfeiriad meddwl twf, mae pobl o’r farn fod eu galluoedd sylfaenol hwy yn gallu cael eu datblygu trwy ddyfalbarhad a gwaith caled – ymennydd a thalent yw dechrau’r daith.

O https: //www. youtube. com/watch? v=U 0 l. Gc ESi. LWM

O https: //www. youtube. com/watch? v=U 0 l. Gc ESi. LWM