Sgiliau Hanfodol a Chyflogadwyedd Dymar sgiliau y mae
- Slides: 15
Sgiliau Hanfodol a Chyflogadwyedd Dyma’r sgiliau y mae cyflogwyr ac addysgwyr cam nesaf yn eu gwerthfawrogi ac y mae eu hangen ar ddysgwyr er mwyn dysgu, gweithio a byw. Llythrennedd Rhifedd Llythrennedd Digidol Meddwl yn feirniadol a datrys problemau Cynllunio a threfnu Creadigrwydd ac arloesi Effeithiolrwydd personol P P P Yn ystod y wers hon byddwch yn datblygu sgil Effeithiolrwydd Personol.
Llwybrau Gyrfa Posibl
Mae gennych benderfyniadau pwysig i’w gwneud yn y flwyddyn nesaf ynghylch eich cynlluniau yn y dyfodol. Wrth benderfynu ar y llwybr gyrfa gorau mae angen ichi ystyried nifer o ffactorau gan gynnwys eich diddordebau a’ch galluoedd. Llwybr Gyrfa Galluoedd Diddordebau
• Y cam cyntaf yn y broses hon yw creu diagram gwe corryn sy’n dangos eich diddordebau personol Fy niddordebau Yn ail, cysylltwch y rhain â dewisiadau posibl o ran gyrfa: DIDDORDEB LLWYBR GYRFA POSIBL e. e. Ieithoedd Athro Cyfieithydd
Datblygu Llwybrau Gyrfa • Ewch i’r wefan: http: //www. careerswales. com/cy/eich-gyrfa/gyrfaplws/ Mewngofnodwch a defnyddiwch y teclyn Gyrfa + i greu’ch proffil. Bydd hwn yn caniatáu ichi ymchwilio rhagor i’ch syniadau. Tystiolaeth: mae angen ichi gynhyrchu taflen A 4 sy’n nodi pa ddau lwybr gyrfa rydych wedi’u dewis a pham.
Mae angen ichi ddatblygu rhagor ar y ddau lwybr gyrfa rydych wedi’u dewis. Rhaid ichi edrych ar: • Y sgiliau penodol sy’n ofynnol ar gyfer y llwybrau hyn • Priodoleddau dymunol • Gofynion sy’n gysylltiedig â phrofiad • Y cymwysterau mae eu hangen
Geiriau Allweddol Sgil Nodwedd a ystyrir yn rhan nodweddiadol neu gynhenid o rywun neu rywbeth Priodoledd Llwyddo mewn arholiad neu gwblhau cwrs yn swyddogol gan arwain at gydnabyddiaeth mewn proffesiwn Profiad Medr neu ddeheurwydd a geir neu a ddatblygir trwy hyfforddiant neu brofiad Cymhwyster Achos penodol o ddod ar draws neu fynd trwy rywbeth yn bersonol
National Career Service https: //nationalcareersservice. direct. gov. uk/Pages/Home. aspx Bydd y wefan hon yn fan cychwyn da ichi gael y wybodaeth hon.
Bydd angen ichi gynhyrchu dau adroddiad manwl ar yr hyn sy’n ofynnol ar gyfer y ddau lwybr rydych wedi’u dewis. Trafodwch yr enghraifft hon sef athro ieithoedd cyn dechrau’ch un eich hun.
Sgiliau penodol Mae’r sgiliau penodol y mae eu hangen i fod yn athro ysgol uwchradd yn dibynnu ar y pwnc yr ydych yn penderfynu arbenigo arno. Er enghraifft, fy newis i fyddai addysgu Ieithoedd Tramor Modern. Felly, byddai angen imi fod â sgiliau penodol yn yr ieithoedd yr hoffwn eu haddysgu. Un sgil arall sy’n hanfodol ar gyfer addysgu yw bod yn drefnus ac ymrwymiad i’r gwaith. I fod yn athro ysgol uwchradd bydd hefyd arnaf angen sgiliau cyfathrebu rhagorol a’r gallu i ysbrydoli ac ysgogi’r disgyblion i ddysgu.
Priodoleddau Mae fy ngwaith ymchwil wedi dangos mai’r canlynol yw’r priodoleddau y bydd eu hangen arnaf er mwyn bod yn athro ysgol uwchradd: brwdfrydedd dros y pwnc y gallu i feithrin perthnasoedd gweithio da gydag amrywiaeth fawr o bobl y gallu i weithio mewn tîm yn ogystal â gweithio o’m pen a’m pastwn fy hun syniadau creadigol rhagorol i ysbrydoli plant sgiliau da wrth drefnu ac wrth reoli amser y gallu i reoli dosbarthiadau ac ymdrin ag ymddygiad heriol sgiliau cyfathrebu rhagorol amynedd a synnwyr digrifwch da.
Profiad Nid oes angen unrhyw brofiad penodol er mwyn bod yn athro ysgol uwchradd, er y byddai profiad gwirfoddol yn fanteisiol.
Y cymwysterau sy’n ofynnol Mae gwahanol lwybrau y gellir eu dilyn i fod yn athro ysgol uwchradd. Un o’r rhain yw Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon (HAGA) a chael Statws Athro Cymwysedig (SAC). Gallai’r rhain fod yn hyfforddiant mewn prifysgol trwy gwrs israddedig neu’n ddyfarniad ôl-radd neu’n hyfforddiant seiliedig ar waith mewn ysgol. I’r holl lwybrau hyn, bydd arnoch angen: • TGAU (A*-C) mewn Cymraeg/Saesneg a mathemateg (a gwyddoniaeth, gan ddibynnu ar y pwnc y byddwch yn ei addysgu) neu gymwysterau cyfwerth • llwyddo (cyn dechrau ar HAGA) mewn profion sgiliau rhifedd a llythrennedd • Gwiriadau cefndir manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd – y Swyddfa Cofnodion Troseddol gynt.
Cysylltu â chyflogwr Mae’n ofynnol ichi gysylltu’n uniongyrchol â chyflogwyr i holi am eu gofynion. Cynllun gweithredu: • Ymchwilio i gyflogwyr posibl i gysylltu â nhw • Sut fyddwch chi’n cysylltu â nhw? • Pa gwestiynau fyddwch chi’n eu gofyn?
I gloi • Mewn parau, dadansoddwch yn feirniadol bob cynllun gweithredu mewn perthynas â chysylltu â chyflogwr ar gyfer y llwybrau gyrfa rydych wedi’u dewis. Rhowch adborth manwl i’ch partner.
- Phylum platyhelminthes characteristics
- Marx mae
- Welsh national anthem in english
- Hopi yellow watermelon
- Mae lai
- Distortion energy theory formula
- Alora walter
- Placame
- Huay mae khamin waterfalls
- 2 mae
- Evangelho segundo o espiritismo honrar pai e mãe
- Jordan redd
- Mae kelly
- Talia bettcher
- Carrie mae weems blue notes
- Mae matlab