Cyflogadwyedd Ymchwilio i Gyfleoedd am Swyddi Sgiliau Hanfodol
- Slides: 10
Cyflogadwyedd Ymchwilio i Gyfleoedd am Swyddi
Sgiliau Hanfodol a Chyflogadwyedd Dyma’r sgiliau y mae cyflogwyr ac addysgwyr cam nesaf yn eu gwerthfawrogi ac y mae eu hangen ar ddysgwyr er mwyn dysgu, gweithio a byw. . Llythrennedd Rhifedd P Llythrennedd digidol P Meddwl yn feirniadol a datrys problemau Cynllunio a threfnu Creadigrwydd ac arloesi P Effeithiolrwydd personol P Yn ystod y wers hon byddwch yn datblygu sgil Cynllunio a Threfnu
Dywedwch wrth y person nesaf atoch am yr yrfa rydych wedi’i dewis (yr ymchwiliwyd iddi yn y wers ddiwethaf). Esboniwch y sgiliau a rhinweddau y mae eu hangen.
Ble mae cael hyd i swydd? Gweithgaredd mewn parau – rhestrwch gynifer o leoedd â phosibl lle gellir cael hyd i swyddi. Cyflwynwch eich gwybodaeth mewn siart neu ddiagram. (Cadwch gofnod o’ch gwaith) Rhannwch eich syniadau gyda’r rhai sy’n eistedd yn eich ymyl ac ychwanegwch fwy o bwyntiau i’r rhestr.
GWEFANNAU: www. jobswales. co. uk/jobs www. fish 4. co. uk/jobs www. jobcentreplus. gov. uk Asiantaethau swyddi. Papurau newydd. Y rhyngrwyd – dewch o hyd i gwmnïau sy’n arbenigo yn eich maes gwaith dewisedig.
Gwybodaeth am y Farchnad Lafur Beth yw’r wybodaeth hon? Pam mae’n bwysig ei defnyddio?
• Mewngofnodwch i wefan Gyrfa Cymru. • Cliciwch ar chwiliad gyrfa. Rhowch yr yrfa rydych wedi’i dewis yn y blwch glas. • Bydd sgrin Ciplun yn ymddangos. Ar ochr chwith y sgrin, ceir y wybodaeth ganlynol: cyflog, swyddi gwag, cyfleoedd yn y dyfodol ac ati. Bydd y tab ‘galw yn y dyfodol ar gyfer y swydd hon yng Nghymru’ yn rhoi amcan ichi o nifer y swyddi y rhagwelir y byddant ar gael yn yr yrfa rydych wedi’i dewis.
• Yn y blwch Ciplun, cliciwch ar ‘Gwybodaeth am swyddi’. • Bydd yn eich cysylltu chi â thaflen wybodaeth am eich gyrfa. • Dewiswch ‘Offer ac Adnoddau’ yn y ddewislen ar frig y dudalen, wedyn dewiswch ‘Tueddiadau Swyddi’. Bydd yn rhoi mwy o wybodaeth am sgiliau a’r rhagfynegiadau ar gyfer y dyfodol. • Ewch yn ôl i’ch ‘Taflen Llwybr Gyrfa’ a chwblhau’r adrannau perthnasol.
Gweithgaredd Defnyddiwch wefan Gyrfa Cymru neu un o’r gwefannau eraill a drafodwyd i chwilio am swyddi gwag sy’n gysylltiedig â’r yrfa rydych wedi’i dewis. Gwnewch yn siŵr eich bod yn argraffu o leiaf 3 swydd wag ar gyfer pob gyrfa. RHAID i’r manylion nodi gofynion y cais.
Lanlwythwch y Taflenni Llwybr Gyrfa a’r swyddi gwag i’ch Cynllun Cyrchfan