Uned 3 Goblygiadau yn y byd real Uned
Uned 3: Goblygiadau yn y byd real
Uned 3 • Bydd y papur yn cynnwys dwy adran A • Mae myfyrwyr yn ateb tri chwestiwn yn llawn. • Bydd dwy adran i bob cwestiwn (a a b). • Oherwydd yr opsiynau bydd pob cwestiwn yn werth y marciau canlynol – 10 AA 1, 5 AA 2 a 10 AA 3. • AA 1 = gwybodaeth a dealltwriaeth • AA 2 = cymhwyso a dethol deunydd a/neu gyfeirio at osodiad/senario • AA 3 = gwerthuso
Uned 3 • AA 1 = gwybodaeth a dealltwriaeth • AA 2 = cymhwyso a dethol deunydd a/neu gyfeirio at osodiad/senario Cymhwyso gwybodaeth at senarios • AA 3 = gwerthuso
YMDDYGIADAU Mae angen i fyfyrwyr astudio tri o'r chwe ymddygiad a nodir: • • • Ymddygiadau caethiwus Ymddygiadau'r sbectrwm awtistaidd Ymddygiadau bwlio Ymddygiadau troseddol Sgitsoffrenia Straen
Gwybod am nodweddion yr ymddygiad Enghraifft (a) Disgrifiwch nodweddion. . . e. e. Pe byddai'r cwestiwn yn trafod sgitsoffrenia gellid rhoi credyd am: · Rhithdybiau: am erledigaeth, am fawredd, am ddargyfeirio, am reolaeth · Rhithweledigaethau: e. e. clywedol (clywed lleisiau), gweledol (gweld gwrthrychau a/neu bersonau) · Lleferydd dryslyd: e. e. salad geiriau · Ymddygiad dryslyd; diffyg ataliaeth, ymddygiad od ac anrhagweladwy · Symptomau “negyddol”: encilio cymdeithasol, dirywiad mewn hylendid personol, anallu i wylo na mynegi llawenydd, anallu i ganolbwyntio · Unrhyw nodwedd berthnasol arall (fel sy'n cael ei ddangos gan DSM V)
Gwybod am nodweddion yr ymddygiad • Nid oes nodweddion DSM gan bob ymddygiad • Yn yr achos hwn mae'n gwbl iawn cysylltu hyn â diffiniadau neu ymchwil sy'n trafod nodweddion megis diffiniad 1993 Olweus o fwlio neu awgrym Griffith yn 2005 am y chwe maen prawf y mae angen eu bodloni er mwyn gallu ystyried bod ymddygiad yn gaethiwus.
GWYBOD A DEALL ESBONIADAU BIOLEGOL YR YMDDYGIADAU Enghraifft o'r DAE: Amlinellwch ddau esboniad biolegol am ymddygiadau caethiwus. Archwilio sail fiolegol ein profiad ac ymddygiad. • Enghreifftiau'n unig yw'r pwyntiau bwled yn y fanyleb. Cyn belled â'ch bod yn addysgu dau o leiaf gallwch ddewis unrhyw esboniadau eraill.
GWYBOD A DEALL ESBONIADAU GWAHANIAETHAU UNIGOL O'R YMDDYGIADAU • Nid oes cwestiynau o'r DAE am hyn i ddangos i chi. • Archwilio'r gwahaniaeth mewn ymddygiad rhwng unigolion. • Enghreifftiau'n unig yw'r pwyntiau bwled yn y fanyleb. Cyn belled â'ch bod yn addysgu dau o leiaf gallwch ddewis unrhyw esboniadau eraill.
GWYBOD A DEALL ESBONIADAU SEICOLEGOL CYMDEITHASOL AM YR YMDDYGIADAU Enghraifft o'r DAE: Amlinellwch ddau esboniad seicolegol cymdeithasol am ymddygiadau troseddol. Archwilio natur ac achosion ymddygiad unigol mewn sefyllfaoedd cymdeithasol. • Enghreifftiau'n unig yw'r pwyntiau bwled yn y fanyleb. Cyn belled â'ch bod yn addysgu dau o leiaf gallwch ddewis unrhyw esboniadau eraill.
GWERTHUSO ESBONIADAU'R YMDDYGIADAU Enghreifftiau o'r DAE: Gwerthuswch ddau esboniad unigol gwahanol am ymddygiadau caethiwus. ‘Cael eu geni mae bwlis ac nid eu gwneud’. Aseswch i ba raddau rydych chi’n cytuno â’r gosodiad hwn. Gwerthuswch gryfderau a gwendidau esboniad o straen.
GWYBOD A DEALL Y DULLIAU O ADDASU'R YMDDYGIADAU Enghraifft o'r DAE: • Disgrifiwch un dull o addasu ymddygiad bwlio.
GWYBOD A DEALL Y DULLIAU O ADDASU'R YMDDYGIADAU Enghraifft o'r DAE: Mae Ceri wedi newid ei swydd yn ddiweddar ac mae’n cael anhawster i gwrdd â’r terfynau amser a thargedau yn ei rôl newydd fel rheolwr. Mae e’n cael problemau cysgu, mae’n gorfwyta ac mae ei bwysedd gwaed wedi codi. Mae ei feddyg wedi gwneud diagnosis ei fod yn dioddef o straen. Disgrifiwch sut mae modd addasu’r symptomau o straen hyn.
GWYBOD A DEALL Y DULLIAU O ADDASU'R YMDDYGIADAU • Ar gyfer pob ymddygiad mae angen i chi addysgu'r ddau ddull addasu a nodwyd o'r fanyleb. • Gallwch ymdrin â mwy na'r ddau ddull o addasu ymddygiad ond dim ond am y dulliau a restrir yn y fanyleb y gallwn ni ofyn yn benodol amdanyn nhw.
CYMHWYSO'R ESBONIADAU AT DDULLIAU O ADDASU'R YMDDYGIADAU • Dylai hyn gael ei ystyried yn gymhwysiad o'r esboniad llawn (e. e. Biolegol) fel ffordd o esbonio'r rhesymeg y tu ôl i'r dull. • Efallai y byddwch yn gweld bod rhai enghreifftiau penodol, megis y ddamcaniaeth dopamin, yn gweithio'n dda wrth gymhwyso hyn at gyffuriau gwrthseicotig. • Fodd bynnag, gan mai cael ei gynnig fel enghraifft yn unig mae pob esboniad yn y fanyleb nid yw hyn yn golygu bod angen yn benodol i ymgeiswyr wybod sut mae pob enghraifft yn gymwys i'r dull.
GWERTHUSO'R DULLIAU O ADDASU'R YMDDYGIADAU Enghreifftiau o'r DAE: Gwerthuswch ffyrdd o addasu ymddygiadau’r sbectrwm awtistig. Trafodwch y safbwynt bod rheoli dicter yn ffordd fwy effeithiol o addasu ymddygiadau troseddol na chyfiawnder adferiadol(restorative justice).
MATERION DADLEUOL • Mae'n rhaid i ddysgwyr ateb un o ddau gwestiwn yn yr adran hon. • Gallai'r cwestiynau ymdrin â'r mater dadleuol cyfan neu ganolbwyntio ar bwyntiau bwled penodol fel y'u nodir yn y fanyleb. • Bydd y cwestiynau'n ymdrin â dau fater dadleuol gwahanol.
MATERION DADLEUOL • Mae materion dadleuol seicoleg yn sylfaenol i werthfawrogiad cyffredinol o ymdrechion seicolegol. Dylid bod yn ymwybodol o'r rhain drwy gydol yr astudiaeth o'r fanyleb. • Dylid cymryd gofal i beidio ag ailgylchu materion dadleuol mewn ffordd simplistig heb sicrhau eu bod yn gwbl berthnasol a phriodol i gyd-destun y cwestiwn.
MATERION DADLEUOL Am bob mater dadleuol bydd angen i'r myfyrwyr: • ddeall y mater a pham ei fod yn ddadleuol • cymhwyso gwybodaeth a dealltwriaeth at faterion dadleuol mewn seicoleg • Cyflwyno'r ddwy ochr i'r ddadl • llunio barn a dod i gasgliadau am y materion dadleuol o bersbectif seicolegol.
Beth sy'n gwneud traethawd da? • Dangosodd ymchwil, hyd yn oed heb ddefnyddio cynlluniau marcio, bod athrawon yn gallu cymharu traethodau'n ddibynadwy er mwyn penderfynu pa un o'r ddau sydd o safon well. • Beth am roi cynnig arni! • Darllenwch drwy'r pedwar traethawd ar esboniadau am sgitsoffrenia a gosodwch yr ymatebion yn eu trefn restrol. • Ar ôl penderfynu ar eich trefn restrol, rhowch gynnig ar nodi'r hyn sy'n gwneud y gwahaniaeth rhwng pob un o'r traethodau.
Beth mae myfyrwyr da yn ei wneud? • Maen nhw'n strwythuro eu traethodau mewn trefn resymegol • Maen nhw'n defnyddio geiriau trosiannol a geiriau cysylltu • Maen nhw'n ymhelaethu • Maen nhw'n gosod pethau mewn cyd-destun • Maen nhw'n cysylltu deunydd yn ôl at y cwestiwn • Maen nhw'n defnyddio terminoleg briodol
Dangos a chymhwyso gwybodaeth a dealltwriaeth Yn yr U 2 byddem yn disgwyl i atebion band uchaf gynnwys gwybodaeth drylwyr a manwl gywir. Lefel y manylder Ymateb myfyriwr Manylion sylfaenol Mae tystiolaeth ymchwil yn cefnogi natur enetig iselder. Mwy o fanylion Mae tystiolaeth ymchwil yn cefnogi natur enetig iselder, e. e. Nesse (1999). Mwy byth o fanylion Mae tystiolaeth ymchwil yn cefnogi natur enetig iselder, e. e. Nesse (1999) wnaeth ganfod cyfraddau cydgordiad o 68% am anhwylder deubegynol mewn efeilliaid unfath mewn adolygiad o ymchwil.
Dadansoddi, dehongli a gwerthuso Yn yr U 2 byddem yn disgwyl i atebion band uchaf gynnwys gwerthuso trylwyr. Gall myfyrwyr gyflawni hyn drwy archwilio tystiolaeth empirig mewn nifer o ffyrdd gwahanol: Defnyddio tystiolaeth empirig ar gyfer astudio ymddygiadau
Symud o'r cyffredinol i'r penodol • Gall helpu myfyrwyr i ddod i arfer llunio casgliadau o dystiolaeth ymchwil eu gwneud yn fwy hyderus wrth gymhwyso'u sgiliau AA 3. • Edrychwch ar ddwy enghraifft yn eich pecyn ac ystyriwch y casgliadau byr y gallai myfyrwyr ddod iddyn nhw.
Awgrymiadau o gasgliadau Ymchwil straen 1 - Straen a digwyddiadau bywyd Mae'r astudiaeth hon yn rhoi cefnogaeth gref i'r berthynas rhwng straen (digwyddiadau bywyd) a salwch. Fodd bynnag, gan nad oedd hwn yn arbrawf trin straen mae angen bod yn glir nad yw'n cynnig tystiolaeth i gysylltu straen a salwch mewn ffordd achosol. Ymchwil straen 2 - Brady - Rôl straen yn natblygiad briwiau Mae'r astudiaeth hon yn cefnogi'r casgliad mai 'cyfrifoldeb' ceisio osgoi'r siociau wnaeth achosi'r straen. Mewn geiriau eraill, mae cael rheolaeth yn achosi straen a dyna wnaeth achosi'r briwiau gastrig a laddodd y mwncïod gweithredol. Mae hyn yn cefnogi'r cysylltiad achosol rhwng straen a salwch drwy arbrawf gan fod hwn yn arbrawf oedd yn trin lefelau straen.
- Slides: 24