CELFYDDYDAU PERFFORMIO THEATR NOD YR UNED Pam y

  • Slides: 22
Download presentation
CELFYDDYDAU PERFFORMIO THEATR

CELFYDDYDAU PERFFORMIO THEATR

NOD YR UNED Pam y daw hi’n amser i chi ddyfeisio dramâu eich hun,

NOD YR UNED Pam y daw hi’n amser i chi ddyfeisio dramâu eich hun, mi fyddwch angen defnyddio technegau theatr gwahanol. Byddwch yn eu defnyddio i greu a datblygu dramâu a chymeriadau diddorol a dealladwy i’r gynulleidfa. Yn ystod yr wythnosau nesaf byddwch yn arbrofi a dysgu mwy am y technegau yma drwy waith ymarferol.

Fe fydd disgwyl i chi gadw cofnod o’r strategaethau gwahanol a ddefnyddiwyd gennym fel

Fe fydd disgwyl i chi gadw cofnod o’r strategaethau gwahanol a ddefnyddiwyd gennym fel tystiolaeth eich bod yn deall eu defnydd yn y theatr. ENW’R DECHNEG DISGRIFIAD DEFNYDD YN Y THEATR

Y Technegau d d y n u Llo a i n u l L

Y Technegau d d y n u Llo a i n u l L Cadair Goch o i r y f y Byrf Llwybr Monolog Cydwy bod Tracio Meddyliau Ydych chi wedi clywed am rai o’r rhain?

Tasg 1 Trafodaeth ddosbarth Beth yw’r rhai problemau mae pobl ifanc yn dod ar

Tasg 1 Trafodaeth ddosbarth Beth yw’r rhai problemau mae pobl ifanc yn dod ar eu traws wrth dyfu i fyny? Ff u a i rind Teulu Cyffuriau u a b e d l o f i r f y C l o g e n a w h c y Edryc hiad Pwysau g waith Dros y gwersi nesaf rydym am edrych ar wrthdaro rhwng teulu, rhieni a’u plant!

Tasg 2 Gwaith Grŵp Mewn grwpiau o 2 neu 3 ewch ati i greu

Tasg 2 Gwaith Grŵp Mewn grwpiau o 2 neu 3 ewch ati i greu golygfa FYRFYFYR (gwneud i fyny ar y pryd) o’r senario yma. Mae plentyn tua’r un oed a chi eisiau mynd i barti ar nos Sadwrn yn nhŷ ffrind. Nid oes oedolion am fod yno. Nid yw’r rhiant / rhieni yn fodlon gadael i’r plentyn fynd. Mae gwrthdaro yn digwydd! COFIWCH Dechrau, canol a diwedd i’ch golygfa Llais clir a symudiadau addas Lleoliad y gynulleidfa (peidio a throi eich cefn arnynt. )

ENW’R DECHNEG DISGRIFIAD DEFNYDD YN Y THEATR Byrfyfyrio Yn eich geiriau eich hun, disgrifiwch

ENW’R DECHNEG DISGRIFIAD DEFNYDD YN Y THEATR Byrfyfyrio Yn eich geiriau eich hun, disgrifiwch beth yw BYRFYFYRIO. Pa ddefnydd gall ddramodwyr ac actorion ei wneud o FYRFYFYRIO?

Tasg 3 Ar ôl i chi berfformio eich golygfa un waith i weddill y

Tasg 3 Ar ôl i chi berfformio eich golygfa un waith i weddill y dosbarth. Perfformiwch eich golygfa am yr ail dro. Y tro hwn bydd aelodau o’r gynulleidfa yn cael clapio eu dwylo a gofyn i chi rewi (dim mwy na 3 gwaith. ) Ar ôl rhewi bydd pob cymeriad yn ei dro yn dweud yr hyn maent yn ei feddwl, ar yr eiliad honno, allan i’r gynulleidfa. Gallwch drafod teimladau’r cymeriad tuag at y cymeriad arall, neu at y digwyddiadau ar y llwyfan. Gelwir y dechneg hon yn ‘TRACIO’R MEDDWL’. Pwy ma hi’n feddwl ydi hi! Dweud wrtha i be’ i’w wneud! Dwi’n cychwyn gwylltio efo fo! Dydi o ddim yn gwrando arna i!

Tracio Meddyliau Beth yw Tracio Meddyliau? Pan mae’r ddrama yn rhewi ac mae cymeriad

Tracio Meddyliau Beth yw Tracio Meddyliau? Pan mae’r ddrama yn rhewi ac mae cymeriad yn dweud ei deimladau neu ei feddyliau yn uchel i’r gynulleidfa. Nid yw’r cymeriadau eraill yn ei glywed. Gall hyn ddigwydd unrhyw adeg yn ystod drama.

ENW’R DECHNEG DISGRIFIAD DEFNYDD YN Y THEATR Tracio Meddyliau Yn eich geiriau eich hun,

ENW’R DECHNEG DISGRIFIAD DEFNYDD YN Y THEATR Tracio Meddyliau Yn eich geiriau eich hun, disgrifiwch beth yw. TRACIO MEDDYLIAU. Pa ddefnydd gall dramodwyr ac actorion ei wneud o DRACIO MEDDYLIAU?

Tasg 4 d o b y w b y C r b Llwy 1)

Tasg 4 d o b y w b y C r b Llwy 1) Nid yw’r cymeriad yn gwybod beth i’w wneud! Mynd i’r parti heb ganiatad, neu aros gartref! Mae’n angen iddo feddwl am ei opsiynau. Fel dosbarth mae angen i chi greu dwy linell yn wynebu eich gilydd. 2) Bydd un ochr yn ceisio perswadio’r cymeriad i fynd i’r parti, a’r ochr arall yn ei berswadio i aros gartref. 3) Bydd y cymeriad yn cerdded rhwng y ddwy linell ac fe fydd angen i bawb gymryd eu tro i ddweud eu dadl. 4) Yna wedi cyrraedd diwedd y llinell fe fydd angen i’r cymeriad ddod i benderfyniad.

LLWYBR CYDWYBOD Dadleuon negyddol Mae pawb arall o dy ffrindiau yn mynd! Cymeriad yn

LLWYBR CYDWYBOD Dadleuon negyddol Mae pawb arall o dy ffrindiau yn mynd! Cymeriad yn cerdded lawr y canol ac y gwrando ar y dadleuon Fydd dy fam a dy dad yn dy gosbi di am fisoedd! Dadleuon Positif

ENW’R DECHNEG DISGRIFIAD DEFNYDD YN Y THEATR Llwybr Cydwybod Yn eich geiriau eich hun,

ENW’R DECHNEG DISGRIFIAD DEFNYDD YN Y THEATR Llwybr Cydwybod Yn eich geiriau eich hun, disgrifiwch beth yw LLWYBR CYDWYBOD. Pa ddefnydd gall dramodwyr ac actorion ei wneud o Lwybr Cydwybod?

Tasg 5 Gwaith Unigol Mae pawb bellach yn berson ifanc sy’n eistedd yn ei

Tasg 5 Gwaith Unigol Mae pawb bellach yn berson ifanc sy’n eistedd yn ei ystafell wely yn meddwl am yr hyn a ddywedodd ei rieni. Ysgrifennwch FONOLOG eich cymeriad. Yn ystod y fonolog fe ddylai’r cymeriad fynd drwy rhai o’r dadleuon a ddefnyddiwyd yn ystod ymarfer Llwybr Cydwybod. Ar ddiwedd y fonolog fe ddylai’r cymeriad ddod i’r penderfyniad ei fod o/hi yn mynd i’r parti!

Beth yw MONOLOG? Monolog yw pan mae cymeriad yn adrodd ei feddyliau yn uchel

Beth yw MONOLOG? Monolog yw pan mae cymeriad yn adrodd ei feddyliau yn uchel i’r gynulleidfa. Mewn monolog fe ddylai’r cymeriad drafod ei deimladau a digwyddiadau pwysig ei fywyd.

ENW’R DECHNEG DISGRIFIAD DEFNYDD YN Y THEATR Monolog Yn eich geiriau eich hun, disgrifiwch

ENW’R DECHNEG DISGRIFIAD DEFNYDD YN Y THEATR Monolog Yn eich geiriau eich hun, disgrifiwch beth yw MONOLOG. Pa ddefnydd gall dramodwyr ac actorion ei wneud o fonologau?

Tasg 6 Mae eich cymeriad wedi mynd i’r parti heb ganiatâd. Ond mae yna

Tasg 6 Mae eich cymeriad wedi mynd i’r parti heb ganiatâd. Ond mae yna helynt yno. Bu ymladd a cham ddefnyddio alcohol. Mae’r papur newydd wedi cael gafael ar lun o’r digwyddiad. Bellach mae’r llun ar dudalen flaen eich papur newydd lleol. Gwaith Grŵp (5/6 aelod) 1) Ewch ati i greu LLUN LLONYDD o’r helynt yn y parti (y llun sydd ar dudalen flaen y papur newydd. ) 2) Creu Pennawd i gyd-fynd â’r llun. Dylech ddweud y pennawd mewn ffordd greadigol yn ystod eich perfformiad o’r llun llonydd.

Beth yw LLUN LLONYDD? Mae’r actorion yn dod at ei gilydd ac yn defnyddio

Beth yw LLUN LLONYDD? Mae’r actorion yn dod at ei gilydd ac yn defnyddio eu cyrff i greu delwedd o ddigwyddiad. Byddant yn rhewi ac felly maent fel llun. I wneud llun llonydd effeithiol COFIWCH ddefnyddio: u Lefela Ffocws l Dyfnder y llwyfan lygaid n bo e n y tw a i g e n My l Osgo ac ystumiau clir

ENW’R DECHNEG DISGRIFIAD DEFNYDD YN Y THEATR Lluniau Llonydd Yn eich geiriau eich hun,

ENW’R DECHNEG DISGRIFIAD DEFNYDD YN Y THEATR Lluniau Llonydd Yn eich geiriau eich hun, disgrifiwch beth yw LLUN LLONYDD. Pa ddefnydd gall dramodwyr ac actorion ei wneud o Luniau llonydd?

Tasg 7 Cadair Goch Yr Ymarfer Rydych yn eistedd ar y gadair fel eich

Tasg 7 Cadair Goch Yr Ymarfer Rydych yn eistedd ar y gadair fel eich cymeriad. Mae’r gynulleidfa yn gofyn cwestiynau i chi. Mae angen i chi ateb y cwestiynau FEL EICH CYMERIAD. Mae ymarfer y Gadair Goch yn eich helpu i chi ddod i adnabod eich cymeriad yn well. Canolbwytio Meddwl yn gyflym SGILIAU Dychymyg Gwybodaeth flaenorol

ENW’R DECHNEG DISGRIFIAD DEFNYDD YN Y THEATR Cadair Goch Yn eich geiriau eich hun,

ENW’R DECHNEG DISGRIFIAD DEFNYDD YN Y THEATR Cadair Goch Yn eich geiriau eich hun, disgrifiwch beth yw y GADAIR GOCH. Pa ddefnydd gall dramodwyr ac actorion ei wneud o y GADAIR GOCH?

Y CAM NESAF? ? Rydych bellach wedi dysgu gwahanol dechnegau y gallwch eu defnyddio

Y CAM NESAF? ? Rydych bellach wedi dysgu gwahanol dechnegau y gallwch eu defnyddio wrth archwilio cymeriad a chreu dramâu eich hunain. Y cam nesaf yw defnyddio’r technegau yma wrth fynd ati i greu eich drama a’ch cymeriadau eich hunain.