At ddefnydd TGAU Celfyddydau Perfformio CBAC Uned 1
At ddefnydd TGAU Celfyddydau Perfformio CBAC Uned 1 ac Uned 3 Tasg 1 Cerddoriaeth - Offerynnol Cywirdeb y Perfformiad
Tasg 1 – Gwrando ar eraill Cyn neu ar ôl dysgu darn o gerddoriaeth, dylech bob amser wrando ar eraill yn perfformio’r darn (yn fyw neu ar record). Gwrandewch ar gyd-ddisgyblion, athro/athrawes neu recordiad ar CD ac ati. Canolbwyntiwch ar y modd y defnyddir: Dynameg Tempo Techneg Brawddegu Traw a rhythm (cywir)
Tasg 2 – Clywed eich hun Perfformiwch ddarn o’ch dewis gydag eraill (yn unsain neu gan ddilyn sgôr). Dylid rhoi cyfle i bawb yn y grŵp yn ei dro chwarae’n uchel tra bod pob aelod arall yn chwarae’n dawel. Wedyn dylai pawb chwarae ar yr un lefel; os mai dim ond pobl eraill a glywch chi ac nid chi’ch hun dylech chwarae’n uwch; os mai dim ond chi’ch hun a glywch chi ac nid y lleill, mae angen ichi chwarae’n dawelach.
Tasg 3 – Clapio’r rhythm Fel dosbarth, dysgwch rythm darn newydd. Gwrandewch ar rywun arall yn clapio’r rhythm. Clapiwch bob patrwm rhythmig ychydig o weithiau gan hoelio’ch sylw ar adleisio’r rhythm yn gywir drwy’r amser. Efallai yr hoffech ymgymryd â rôl cyflwyno rhythm darn arall i’r lleill. Ydych chi’n ei chael hi’n haws neu’n anoddach ymgyfarwyddo â’r rhythm?
Tasg 4 – Chwarae adleisiol Dysgwch ddarn newydd drwy wrando arno fesul cymal. Fel dosbarth, dysgwch alaw darn. Gwrandewch ar rywun arall yn chwarae’r alaw a dilynwch y sgôr. Adleisiwch bob patrwm melodig ychydig o weithiau gan hoelio’ch sylw ar adleisio’r traw yn gywir drwy’r amser. Hwyrach yr hoffech ymgymryd â rôl cyflwyno alaw darn arall i’r lleill.
Tasg 5 – Chwarae cywir Ceisiwch berfformio eich darn mor gywir ag sy’n bosibl o ran traw a rhythm. Dylech bob amser dderbyn cyngor gan eich tiwtor offerynnol a’ch chyd-ddysgwyr. Gosodwch dargedau realistig i chi eich hun bob wythnos wrth ymarfer, gan roi sylw arbennig i draw a rhythm cywir. Ymarferwch adrannau penodol i’w gwella. Amrywiwch eich technegau ymarfer.
Tasg 6 – Astudio’r sgôr Os ydych yn chwarae o sgôr mae’n hanfodol ei dilyn a chanolbwyntio ar y gofynion. Astudiwch y sgôr a defnyddiwch bensel neu amlygydd i nodi unrhyw newidiadau o ran: Dynameg Tempo Techneg Brawddegu Arddull perfformiad Wrth ymarfer, canolbwyntiwch ar yr elfennau hyn i gyd fesul un.
Tasg 7 – Gêm y cof Pan fyddwch yn gyfarwydd ag un o’ch darnau, ceisiwch ei berfformio heb y copi. Wedi mynd i helynt ac anghofio, edrychwch ar y copi am 5 munud heb chwarae ac astudiwch y sgôr yn fanwl. Rhowch gynnig arall arni i weld a ydych chi’n cofio. Os cewch drafferth yn yr un lle eto, edrychwch ar y copi ac ymarferwch y bar neu’r adran am 5 munud, cyn rhoi cynnig arall ar berfformio heb gopi. Yn raddol, dros gyfnod o amser, ceisiwch ddysgu’r darn cyfan ar eich cof.
- Slides: 8