NPEP Prosiect Ymholi Proffesiynol Cenedlaethol Ysgol Gynradd Christchurch

  • Slides: 15
Download presentation
NPEP – Prosiect Ymholi Proffesiynol Cenedlaethol Ysgol Gynradd Christchurch Michael Hunter (Dirprwy Bennaeth)

NPEP – Prosiect Ymholi Proffesiynol Cenedlaethol Ysgol Gynradd Christchurch Michael Hunter (Dirprwy Bennaeth)

Pa ddull adborth sy’n cael yr effaith fwyaf ar y ffordd y mae disgyblion

Pa ddull adborth sy’n cael yr effaith fwyaf ar y ffordd y mae disgyblion yn dysgu prif gysyniadau mathemategol? Adborth geiriol ynteu adborth ysgrifenedig?

Trosolwg o’r prosiect Roedd angen i fy ymholiad ddeillio o rywbeth a oedd yn

Trosolwg o’r prosiect Roedd angen i fy ymholiad ddeillio o rywbeth a oedd yn ddiddorol i mi, rhywbeth nad oedd gen i ateb ffurfiol iddo eisoes. Roedd angen iddo fod yn rhywbeth a oedd â chysylltiad agos â’r cynllun datblygu ysgol, ond yn rhywbeth hefyd a fyddai’n ddefnyddiol i mi’n bersonol ac a fyddai’n cael effaith ar fy addysgu ac ar fy ystafell ddosbarth. Rydyn ni’n arloesi dull o addysgu yn ein hysgol sy’n canolbwyntio ar gyfnod yn hytrach nag oedran. Rydyn ni’n arbenigo hefyd i ryw raddau, fi yw Cydgysylltydd Mathemateg/Rhifedd yr ysgol.

Penderfynais astudio dau grŵp canolog o ran gallu, yn hytrach na grwpiau gallu uwch

Penderfynais astudio dau grŵp canolog o ran gallu, yn hytrach na grwpiau gallu uwch neu allu is. Mae’r grwpiau hyn yn gymysgedd o oedrannau a rhywiau. Dewisais weithio gyda’r grwpiau hyn oherwydd fy mod yn teimlo mai dyma’r grwpiau y gellir eu diystyru ac anaml iawn y byddan nhw’n cael unrhyw fath o ymyraethau. Cafodd y ddau grŵp eu trin yn wahanol wrth gael adborth – roedd un grŵp yn cael adborth ysgrifenedig yn unig, ar ffurf enghreifftiau o symud y plant ymlaen (cyfrifiadau ymestynnol, rydyn ni’n galw hyn yn ‘Waith Gwyrdd’). Roedd hyn yn cael ei ysgrifennu ar ôl pob darn o waith fel y gallai’r disgybl ymateb iddo ar gychwyn y wers nesaf. Dim ond adborth llafar ar eu gwaith yr oedd y grŵp arall yn ei gael a hynny ar gychwyn y wers nesaf. Roedd hwn yn adborth unigol neu grŵp; pa un bynnag a oedd yn angenrheidiol.

Cynhaliwyd y prosiect yn ystod tymor yr hydref a thymor y gwanwyn. Casglais ddata

Cynhaliwyd y prosiect yn ystod tymor yr hydref a thymor y gwanwyn. Casglais ddata sylfaenol gan ddefnyddio ‘incerts’, a’i drosi i swm digidol a adolygwyd ar y diwedd. Rhywbeth arall a gasglwyd oedd gwybodaeth am ymagwedd, ar ffurf holiadur ar ddiwedd y prosiect. Roedd rhai agweddau ar y prosiect nad oeddwn i’n gallu eu rheoli tua diwedd y prosiect. Hoffwn fod wedi cael mwy o amser i ymestyn rhai o’r syniadau a gafwyd o’r holiadur, ond oherwydd y pandemig doedd hynny ddim yn bosibl.

Beth wnes i ddysgu o’r prosiect hwn? O’r data yn unig, ychydig iawn o

Beth wnes i ddysgu o’r prosiect hwn? O’r data yn unig, ychydig iawn o newid a welwyd o ran cynnydd rhwng y ddau grŵp ffocws. Roedd y cynnydd yn y ddau grŵp yn debyg iawn. Roedd hyn yn dangos nad oedd y dulliau adborth gwahanol yn cael effaith sylweddol. Fodd bynnag, wrth edrych ar y wybodaeth a gafwyd o’r holiadur, roedd yn glir pa ddull adborth oedd yn well gan y plant. Cafwyd eu safbwyntiau hefyd o ran sut dylid cyflwyno adborth da ac roedden nhw’n teimlo hefyd nad oedd y prosiect wedi cael effaith negyddol ar eu dysgu.

Canlyniadau/Casgliadau Rhan fwyaf diddorol y prosiect oedd edrych ar ymagwedd y cyfranogwyr at adborth.

Canlyniadau/Casgliadau Rhan fwyaf diddorol y prosiect oedd edrych ar ymagwedd y cyfranogwyr at adborth. Doeddwn i ddim wedi meddwl llawer am hyn o’r blaen. O’r plant a holwyd, roedd yn well gan 88% ohonyn nhw ‘Adborth Ysgrifenedig’ a dim ond 12% a oedd yn ffafrio ‘Adborth Geiriol’

Pam? Mae’n well gen i adborth ysgrifenedig oherwydd gallaf bob amser edrych yn ôl

Pam? Mae’n well gen i adborth ysgrifenedig oherwydd gallaf bob amser edrych yn ôl drwy hen waith os oes rhywbeth yn anodd. Falle byddwn ni’n anghofio pethau ond bydd yn dal yno. Gallwch edrych yn ôl drwy eich hen waith.

Pam? Mae gan i gof gwael. Mae modd edrych yn ôl drwy eich llyfr.

Pam? Mae gan i gof gwael. Mae modd edrych yn ôl drwy eich llyfr. Mae’n haws cofio. Dw i’n hoffi gwneud gwaith gwyrdd - mae’n gwneud mwy o synnwyr. Dw i’n hoffi adborth ysgrifenedig oherwydd gallwch chi edrych yn ôl a’i ddarllen eto ac felly gallwch chi ei ddeall.

Beth wnaethoch chi ei ddysgu, yn bersonol ac fel ysgol, o ganlyniad i’r broses

Beth wnaethoch chi ei ddysgu, yn bersonol ac fel ysgol, o ganlyniad i’r broses ymholi? O’r prosiect, credaf yn wirioneddol y dylai ein cam nesaf ganolbwyntio ar wella gwerth adborth geiriol. Mae angen i ni gydnabod pwysigrwydd y ddau fath o adborth wrth ddatblygu dysgu. A yw hyn yn rhywbeth y mae angen i ni ei ystyried yn fanylach a newid y ‘ffordd o feddwl’ sef bod adborth geiriol yr un mor bwysig ag adborth ysgrifenedig. Drwy holi’r plant a oedd yn rhan o’r prosiect, gwelsom eu bod nhw’n cydnabod y dylid defnyddio’r ddau ddull adborth i gael adborth da, ond roedd adborth ysgrifenedig ‘yn bwysicach’ nag adborth geiriol. Fel ysgol ac fel athrawon unigol, mae angen i ni fod yn fwy ymwybodol o’r ffordd y gall safbwyntiau personol y plant effeithio ar eu dysgu.

Beth wnaeth weithio’n dda? Beth fu’n fwy o her? Drwy ddefnyddio ‘incerts’, roedd modd

Beth wnaeth weithio’n dda? Beth fu’n fwy o her? Drwy ddefnyddio ‘incerts’, roedd modd i mi weld cynnydd mewn mathemateg fel gwerth rhifyddol. Roeddwn i’n teimlo bod hyn yn gweithio’n dda oherwydd roedd yn golygu bod modd cael cymhariaeth glir rhwng y ddau grŵp. Roeddwn i’n gallu canfod cyfartaledd a chymharu’n uniongyrchol. Yr her oedd nad oeddwn i’n gallu rheoli’r math o adborth mewn gwersi eraill. Dyw eu cynnydd mathemategol ddim yn gysylltiedig â’m gwersi a’m sesiynau i yn unig. Hefyd, roedd gennyf fyfyriwr yn gweithio gyda mi ar y pryd a olygodd fy mod wedi colli rhywfaint o reolaeth o ran y ‘ffordd’ yr oedd yr ‘adborth’ yn cael ei roi.

Pa agweddau fu fwyaf defnyddiol? Beth fyddech chi wedi’i wneud yn wahanol? Roedd y

Pa agweddau fu fwyaf defnyddiol? Beth fyddech chi wedi’i wneud yn wahanol? Roedd y broses o ystyried ‘Moeseg’ yn ddefnyddiol iawn yn fy marn i. A ddylech chi wneud rhywbeth dim ond am eich bod yn cael ei wneud e? Os yw ymholiad yn cael effaith gadarnhaol ar un grŵp, mae angen i ni fod yn ymwybodol ein bod ni’n peri anfantais i grŵp arall. Roedd hyn yn rhywbeth roeddwn i’n ystyriol iawn ohono gydol y broses. Roeddwn i’n hapus â’r ymholiad a ddewisais, ond byddai wedi bod yn ddefnyddiol cael yr un prosiect mewn ysgol wahanol a chydweithio â chydweithiwr arall gan gymharu’r broses a’r canlyniadau. Byddai hyn wedi cynyddu’r data a gafwyd gyda’r gobaith y byddai wedi rhoi mwy o eglurder i unrhyw ganfyddiadau. Sylweddolais fod gweithio ar fy mhen fy hun yn golygu bod cyfle wedi’i golli i rannu fy meddyliau a’m syniadau.

A fyddech chi’n argymell ‘Ymholi Proffesiynol’ i gydweithwyr? Byddwn, gan ei fod yn gwneud

A fyddech chi’n argymell ‘Ymholi Proffesiynol’ i gydweithwyr? Byddwn, gan ei fod yn gwneud i chi feddwl mewn ffordd fwy proffesiynol. Mae’n datblygu ein dealltwriaeth o’r gwahanol brosesau a geir yn ein hystafelloedd dosbarth rydyn ni’n eu cymryd yn ganiataol yn aml iawn. Mae dysgu’r broses yr un mor bwysig â’r canlyniad. Os oes rhywbeth yn eich ystafell ddosbarth sydd ddim yn gweithio, mae angen i chi ystyried sut i’w wella. Mae Ymholi Proffesiynol yn rhoi’r adnoddau i chi i wneud hyn mewn ffordd drefnus a strwythuredig. Dw i wedi sylweddoli hefyd bod gweithio fel rhan o’r grŵp ymholi proffesiynol wedi rhoi profiad i mi o rywbeth na fyddwn i wedi dewis ei wneud ond nawr dw i’n teimlo y bydd yn rhan hanfodol o fod yn athro ac o ddatblygu’n broffesiynol.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i ysgolion sy’n ystyried mynd i’r afael â’u

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i ysgolion sy’n ystyried mynd i’r afael â’u ‘Hymholiad Proffesiynol’? eu hunain? • Mae’n rhaid iddo gychwyn bob amser efo ‘rhywbeth’ sydd o wir ddiddordeb i chi. • Dylech ddewis rhywbeth clir y gellir ei gyflawni - allwch chi ddim gwneud popeth ar unwaith. • Peidiwch â phoeni os yw’r hyn roeddech chi am ddysgu yn wreiddiol yn newid i rywbeth arall, gall ymholiad arwain at agweddau mwy diddorol a gwerthfawr. • Darllenwch syniadau pobl eraill, efallai nad chi yn unig sydd wedi meddwl am syniad eich ymholiad chi. • Gofynnwch am gyngor. Yn aml iawn bydd gweithio mewn tîm yn egluro syniadau, pan nad ydych chi’n sicr beth i’w wneud nesaf.

Manylion Cyswllt • Hunter. M 6@hwbcymru. net • www. christchurchpri. co. uk • Christchurch.

Manylion Cyswllt • Hunter. M 6@hwbcymru. net • www. christchurchpri. co. uk • Christchurch. Primary@CPrimarywales