Ysgol Gynradd Tregatwg Prosiect Datblygu Cydberthnasau Iach dysgu
Ysgol Gynradd Tregatwg Prosiect Datblygu Cydberthnasau Iach ‘dysgu a thyfu gyda’n gilydd bod ein gorau am byth’’
Creu diwylliant o Gydberthnasau Iach ledled yr ysgol a'r gymuned a fydd yn effeithio ar ansawdd y Dysgu a’r Addysgu ‘dysgu a thyfu gyda’n gilydd bod ein gorau am byth’’
Diffinio Cenhadaeth: Byddwn yn ysbrydoli ac yn herio ein hunain a'n gilydd i ‘Ddysgu a Thyfu, Gyda'n Gilydd, a Bod ein Gorau am Byth!' Ein Gweledigaeth: • Grymuso dysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes • Creu unigolion mentrus a chreadigol sy'n cyfrannu at gymdeithas ac sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith. • Llunio a meithrin dinasyddion egwyddorol, gwybodus o Gymru a'r byd. • Meithrin unigolion iach, hyderus, sy'n barod i fyw bywydau cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas. • Cynnig cwricwlwm byrlymus ac arloesol sy'n herio, yn cyffroi ac yn ein hysbrydoli ni i gyd i ddysgu mewn ffordd sy’n addas i’r unfed ganrif ar hugain. • Ymrwymo i ganiatáu i'n plant berchnogi’r broses ddysgu yn hytrach na’u bod yn gynnyrch y broses. Eu galluogi i feistroli sgiliau drwy ddysgu yng nghyd-destun bywyd go iawn yn hytrach na dim ond ar lefel arwynebol. • Hyrwyddo addysgeg y Cyfnod Sylfaen i BAWB gan ddysgu o brofiad gweithredol drwy rannu profiadau, datblygu sgiliau a gwybodaeth allweddol. Defnyddio'r pedwar diben yn ganllaw i’n dysgu Pam? Tystiolaeth: dull anghyson o reoli ymddygiad sydd, yn y pen draw, yn effeithio ar addysgu a dysgu. Data: • Atebion cyflym yw’r ymyriadau presennol ar gyfer cau'r bwlch ac nid ydynt yn ymdrin â’r materion mwy • Adborth o'r holiadur- Ffurflenni, holiadur Estyn ac arolwg blynyddol gyda rhieni • Data o grwpiau ffocws - yr holl randdeiliaid eisiau agwedd fwy pwrpasol yn Nhregatwg ; ; Nid rheoli ymddygiad ond datblygiad cydberthnasau iach Hen Ddull = Rheolau – Canlyniadau - Gwobrwyon Dull newydd = Sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar gael ein cymell yn annibynnol i wneud y peth iawn oherwydd taw dyna'r peth iawn i’w wneud. Cydnabyddiaeth bod meithrin cydberthnasau iach yn sgil gydol oes a bod gwerthoedd cryf wrth wraidd llwyddiant! Ein hymddygiad: Bod yn ddiogel, Bod yn Barchus, Bod y gorau y gallwch fod! • • • Parchus Caredig Gonest Goddefgar Cydweithredol Moesegol Cred mewn tegwch i bawb! Mae ein credoau a’n rhagdybiaethau yn sail i’n harferion
Darganfod Wedi'i greu drwy ymgynghori’n wybodus â'r uwch dîm arwain, athrawon, cynorthwywyr cymorth dysgu, rhieni, plant a llywodraethwyr Perthnasoedd: Ein prif gymhelliad ar gyfer ein Cynllun Datblygu Ysgol yw ein hymagwedd athronyddol tuag at gydberthnasau. Bydd hyn yn rhan ganolog o'r tri maes i'w datblygu. Byddwn yn creu ‘Ffordd Tregatwg’ mewn modd cyfrifol ac atebol, wedi ei ategu gan ddysgu proffesiynol. Byddwn yn ymrwymo i weithredu ac ymgorffori ein polisi newydd, gan ei wneud yn rhan annatod o fywyd bob dydd yn Ysgol Tregatwg ar gyfer pawb sy’n ymwneud â’r ysgol. Bydd angen gwerthuso'r newid a bydd angen newid ein diwylliant ysgol gyda'n holl randdeiliaid yn ymrwymo i’n hymagwedd newydd 'beth bynnag y bo. . . ' os yw am fod yn gynaliadwy. Bydd y newid yn seiliedig ar weledigaeth o gyflawni ein gwerthoedd drwy ein grymoedd diwylliannol: Cyfathrebu, hyfforddi a mentora, amgylcheddau cymdeithasol a mannau penodol sydd oll yn seiliedig ar ymddiriedaeth ac ymrwymiad. Mae cydberthnasau iach yn ymwneud â'r ffordd yr ydym yn rhyngweithio ac yn ymwneud ag eraill a sut y gallwn greu agweddau cadarnhaol yn y cydberthnasau hynny fel y gallwn ni ddysgu a thyfu gyda'n gilydd a bod ein fersiwn gorau ohonom am byth. Y weledigaeth yw i ni i gyd ymgorffori'r pedwar diben gyda hyder a hunangred, ond dim ond os byddwn yn arferion iach bob dydd y gellir cyflawni hyn. Byddwn yn ymrwymo i feithrin a dysgu am gydberthnasau iach gan ddefnyddio dull ymholi: • Gwneud yn fawr o gryfderau ac ymreolaeth bersonol • Meithrin hunan-barch a hyder • Bod yn ymwybodol o’n hemosiynau ac yn gyfrifol amdanynt • Meithrin cydnerthedd, dycnwch a dyfalbarhad • Creu ffordd iach o fyw sy'n ymgorffori'r llaw, y galon a'r meddwl. Bydd yr holl randdeiliaid yn ymgymryd â dysgu proffesiynol ac yn defnyddio ymchwil berthnasol i ddatblygu gwell dealltwriaeth o gydberthnasau dynol a'r angen i fod yn oddefgar, yn garedig ac yn barchus tuag at ein gilydd. Byddwn yn datblygu strategaethau pwrpasol y byddwn yn ymrwymo iddynt, gan gynnwys: • Arferion Adferol - Parch, Cyfrifoldeb, Adfer, Ail-integreiddio • Hyfforddi a mentora • Iaith iach cyffredin • Ymarfer myfyriol -amser a gofod • Dulliau gwybodus am ACE - rheoli trawma Ni fydd gennym un dull cyffredinol i bawb ond byddwn yn ymrwymo i wybod beth mae ar ein plant a’n teuluoedd ei angen i ffynnu.
Y Freuddwyd Byddwn yn ymrwymo i ac yn arddel dull BETH BYNNAG Y BO …. . o weithio Dyma ni: plant, staff, rhieni, llywodraethwyr, y gymuned a phawb sy’n ymweld ag Ysgol Tregatwg Nodau: Yn Ysgol Tregatwg Byddwn yn gweithio ar ddatblygu cydberthnasau iach gan gydnabod fod hyn yn sgil gydol oes-Dyma 'Ffordd Tregatwg!' Byddwn yn creu amgylchedd diogel, hapus a meithringar sy'n annog pawb i fod y gorau y gallant fod Byddwn yn cefnogi ein gilydd i ddatblygu strategaethau i reoli ein cydberthnasau iach ein hunain Byddwn yn creu awyrgylch digynnwrf a phwrpasol fydd yn gartref oddi cartref Byddwn yn sicrhau ein bod i gyd yn teimlo ein bod yn perthyn, yn ddiogel, yn sicr ac yn cael ein gwerthfawrogi Byddwn yn ymddiried ac yn teimlo ymddiriedaeth Byddwn yn onest ac yn disgwyl gonestrwydd Byddwn yn cyfleu ac yn mynegi ein hemosiynau er mwyn adfyfyrio a rheoleiddio Ni fyddwn yn barnu nac yn labelu a byddwn yn cael gwneud camgymeriadau ac yn gallu dysgu ohonynt Byddwn bob amser yn gwneud ein gorau i'ch deall gan uniaethu a dangos tosturi Byddwn yn cyfathrebu gan ddefnyddio iaith gyffredin – dangos i mi/dweud wrthyf ac yn ymrwymo i wrando gweithredol Byddwn yn sicrhau tegwch-"Mae pob un ohonom yn wahanol" Byddwn yn ymrwymo i roi cydberthnasau o flaen popeth arall! Byddwn yn meithrin cydberthnasau iach drwy werthoedd ar y cyd Byddwn yn sicrhau y cawn ein cymell i wneud y peth iawn oherwydd taw dyna’r peth iawn i'w wneud! Byddwn yn wybodus ac ni fyddwn yn osgoi sgyrsiau Nid ydym yn berffaith - dim ond yn fodau dynol! Rydym yn deall y gall perthynas ddirywio ond byddwn bob amser yn gweithio i’w adfer. Byddwn yn barchus ac yn gwerthfawrogi pawb am fod yn wahanol Byddwn yn gwneud ein gorau i roi amser a lle i alluogi i gydberthnasau ffynnu Byddwn yn gwybod ein hawliau ac yn parchu hawliau pobl eraill ‘dysgu a thyfu gyda’n gilydd Bod ein gorau am byth’
Dyluniad – Sut? Strategaethau cynnar a dulliau adferol Canlyniadau Yn arbennig i'r sefyllfa a'r plentyn! Byddant yn briodol ac fe gânt eu dewis a’u cytuno arnynt rhwng pawb sy’n cymryd rhan Ni fydd y canlyniadau byth yn gysylltiedig â gwrthod hawl plentyn i, er enghraifft, wneud ymarfer corff neu gael profiad dysgu Cyfathrebu â rhieni Dylid rhoi adborth i rieni pan fydd plentyn wedi cael ei niweidio. Dylai unrhyw aelod o staff ddefnyddio ei farn broffesiynol ynghylch rhoi gwybod i riant y sawl a wnaeth y niwed am y digwyddiad. Dylid egluro i'r rhiant bob amser bod y sefyllfa wedi'i thrin mewn modd adferol a bod y sefyllfa wedi dod i ben nawr, gan fod pawb dan sylw yn teimlo bod y sefyllfa wedi ei datrys. Mae angen ymddiriedaeth gan y ddwy ochr bod y sefyllfa wedi'i thrin a'i bod bellach ar ben! Amser cylch/Cynadleddau adferol: Amser i siarad a myfyrio Yn bwrpasol i'r grŵp Darn siarad Yn cynnwys pawb Does dim rhaid iddo fod yn gylch Gall amrywio o ran maint Lle personol i rannu meddyliau a theimladau Yn barchus a chyfrinachol Meddyliau a theimladau Graff neu lun: Defnyddio rhywbeth gweledol i ddilysu’r ddealltwriaeth a’i dangos yn weledol Allwch chi ddangos i mi er mwyn fy helpu i ddeall? Cyfryngwyr cyfoedion Mae plant wedi’u hyfforddi yn gweithredu fel hwyluswyr i helpu datrys gwrthdaro ac adfer cydberthnasau. Crëir cyfleoedd i'r arweinwyr hyn weithredu'n gyfrifol ac i symud ymlaen. Bydd hyn yn digwydd pan fo'n briodol a gyda digwyddiadau nad ydynt yn ddifrifol iawn fel gwrthdaro rhwng ffrindiau, ffraeo oherwydd gemau, rhedeg yn y coridor a pheidio ag ymateb i geisiadau rhesymol gan oedolion. Empathi Adnabod anghenion gwaelodol Gweld gyda llygaid rhywun arall Gwrando gyda chlustiau rhywun arall Teimlo â chalon rhywun arall Cynllun cytundeb Addas-oedran a sefyllfa Pwyslais ar ddatrysiad Pryd fydd angen ailedrych ar y cynllun Amser a Lle: Eu cael i’r lle cywir Rhoi amser iddyn nhw baratoi Caniatau iddynt hunanreoleiddio Dewis Technegau gwrando gweithredol: Amser a Lle - angen bod yn barod Ychydig iawn o anogaeth Amserlen Crynodeb Adleisio Crynodeb Iaith y corff Cyfarfodydd ffurfiol Hwylusydd ar gael Lleoliad addas Gwaith papur Pataroi cyn y cyfarfod Cyfarfod dilynol Diogelwch i bawb Parodrwydd i gymryd rhan
Dyluniad – Sut? Dull adferol: Mae anelu at fod yn adferol yn meddylfryd sy'n effeithio ar bopeth a wnawn. Nid yw ein polisi cydberthnasau yn ymwneud â gorfodi rheolau. Mae’n ymwneud â’n hymagwedd at gydberthnasau iach, fel y gall pobl weithio gyda’i gilydd gyda'r diben cyffredin o fod ein gorau. Mae dulliau adferol yn seiliedig ar bedair nodwedd allweddol: PARCH – i bawb drwy wrando ar farn a dysgu eraill i'w gwerthfawrogi CYFRIFOLDEB - bod yn gyfrifol am eich gweithredoedd eich hun ADFER – datblygu'r sgiliau yng nghymuned yr ysgol fel bod gan ei haelodau unigol y sgiliau angenrheidiol i ganfod atebion sy'n unioni niwed ac yn sicrhau nad yw ymddygiad yn cael ei ailadrodd AIL-INTEGREIDDIO - gweithio drwy broses strwythuredig, gefnogol sy'n ceisio datrys y broblem a galluogi pobl ifanc i aros yn yr ysgol a ffynnu. Iaith gyffredin: Peidio byth â gofyn PAM!! Dweud Stori: Beth ddigwyddodd? Beth oeddech chi'n ei feddwl? Gwneud Cysylltiadau: Pwy arall sydd wedi cael eu heffeithio? Datrys Problemau: Beth sydd angen arnoch chi i deimlo'n well/cywiro pethau? Beth ydych chi eisiau ei weld yn digwydd er mwyn symud ymlaen? Defnyddio cardiau geiriau a gwrthrychau gweledol i gefnogi pan fo angen. Holi’r sawl a niweidiwyd yn gyntaf, ac yna’r niweidiwr . Rheolau Sgwrs Adferol: Dim ond un person sy'n siarad ar y tro! • • Dim torri ar draws. Byddwch yn barchus tuag at eich gilydd. Gwrandewch yn astud ar eich gilydd. Cyfrinachedd - esboniwch fod hyn rhwng y bobl berthnasol (ynghyd â’r rhieni os oes angen). • Byddwch yn ymwybodol o unrhyw faterion parthed diogelu. Os caiff rhywbeth ei ddatgelu yna mae mesurau priodol yn unol â pholisi diogelu. • Os nad yw pobl ifanc yn bodloni disgwyliadau neu’n dal yn ddig / yn dechrau gwylltio, rhowch y gorau i gyfryngu! ‘dysgu a thyfu gyda’n gilydd bod ein gorau am byth’
Tynged – Beth? Gorchmynion-Canlyniadau-Gwobrau Ymddygiad yw cyfathrebu: Fodd bynnag, deallwn y bydd plant o bryd i'w gilydd yn ymddwyn yn amhriodol am ba reswm bynnag. Pan fydd plant yn ymddwyn fel hyn, mae proses amlhaenog i'w hannog i reoli eu hymddygiad eu hunain mewn ffordd gadarnhaol. Ymrwymwn i feddwl 'mae pob ymddygiad yn gyfathrebu' a beth mae'r plentyn yn ceisio ei gyfathrebu. Mae cyd-destun y sefyllfa i'w ystyried bob amser. Ni ddylid diffinio plentyn yn ôl ei ymddygiad a dylid egluro wrth y plentyn ei fod wedi gwneud dewis anghywir. Cysylltir y dewis â’r gweithredoedd ac nid â’r plentyn. Nid yw plant yn cael eu diffinio gan ddigwyddiad. Maen nhw'n cael gwneud camgymeriadau ac yn gallu dysgu oddi wrthyn nhw. Ar ôl ymdrin â sefyllfa mae hi ar ben ac mae angen i hyn fod yn glir i'r plentyn. Ymddygiad: Byddwch yn ddiogel Byddwch yn barchus Byddwch y gorau y gallwch fod! Hunanreoleiddio: Y Cwtsh; Y diben Cam 1: Yn y dosbarth i ffwrdd o'r sefyllfa Cam 2: Ar y soffa y tu allan i'r ystafell ddosbarth Cam 3: Y Cwtsh Cam 4: Ystafell y Castell Lle i hunan-reoleiddio Lle i siarad a chael gwrandawiad gydag oedolyn sydd ar gael yn emosiynol Lle i roi amser i feddwl Cael blanced/synhwyrydd poeth ac oer Cael ymateb difyr sy’n seiliedig ar wybodaeth o’u stori bersonol. Peidiwch ag anwybyddu eu stori!!Cwtsh-ar gyfer rhieni Ar gyfer plant penodol Meithrin perthynas-dim ond cael cwtsh Lle i ymdawelu Lle i fynd os ydych chi'n cael eich brifo'n gorfforol neu'n emosiynol Gwneud y dewis cywir: Defnyddir iaith gyffredin: "Gwnewch y dewis cywir i gadw eich hun yn ddiogel a'r plant eraill yn ddiogel!"
Tynged – Beth? Dathlu ac Adborth Cadarnhaol: Ffordd Tregatwg! Mae'r ffordd newydd o weithio yn seiliedig ar gydnabyddiaeth ac adborth cadarnhaol nid ar ganmoliaeth na gwobrau! Mae gwobrwyon yn gweithio'n dda i'n cael ni i wneud rhywbeth nad ydym ni'n naturiol eisiau ei wneud, ar gyfer y tymor byr yn unig. Mae'r newid hwn mewn ymddygiad uniongyrchol yn ein gwobrwyo, ac yn ein cadw'n gaeth i wobrwyo. Mae canmol a gwobrwyo yn arferion sydd wedi ymwreiddio'n ddwfn ynom ni, yn enwedig gan mai dyna sut y cafodd y rhan fwyaf ohonom ein magu a'n haddysgu. Gall gymryd ymarfer i roi gwerthfawrogiad a chydnabyddiaeth yn eu lle, ond mae'r olaf o’r rhain yn teimlo'n fwy boddhaus ac yn meithrin cydberthnasau agosach. Yn sicr, gellir gwneud i blant wneud yr hyn nad ydynt eisiau neu nad ydynt yn hoff ohono drwy gynnig cymeradwyaeth, canmoliaeth neu wobrau eraill iddynt. Ond nid yw hyn yn eu gwneud nhw'n hapus! Dim ond drwy wneud yr hyn sydd yn ei hanfod yn foddhad inni y gellir cael hapusrwydd, ac nid yw hyn yn gofyn am gymeradwyaeth eraill. A ydym ni eisiau i'n plant fod yn gaeth i wobrau neu'n bobl sydd eisio plesio’r dorf, neu a ydym ni eisiau iddyn nhw allu cymell eu hunain, bod yn ffyddlon iddynt eu hunain, gan ddilyn eu diddordebau eu hunain a bod yn hoff o'r ysgol ac o ddysgu. Gwrando gweithredol: Ymrwymo i wrando gweithredol • Y Rheol 7 munud • Rydym ni eisiau cael ein clywed • Rydym ni eisiau i chi wybod • Rydym ni eisiau i chi ofyn • Rydym ni eisiau adrodd ein straeon Dathlu trwy gyfathrebu Twitter - I gydnabod a rhannu enghreifftiau o werthfawrogiad See. Saw - Rhannu dysgu i ymfalchïo ynddo ac i siarad amdano Ffôn/testun - I adrodd yn ôl am adegau balch a’u dathlu gan gydnabod llwyddiannau personol Tystysgrifau - I'w rhoi gan gyfoedion/staff fel adborth - yn gysylltiedig â'r tueddiadau ar gyfer dysgu ac yn bersonol i'r dosbarth/grŵp Adborth cadarnhaol: Helpwch nhw i hunanwerthuso Gofynnwch iddyn nhw am eu profiadau mewnol Defnyddiwch ddatganiadau ‘rydw i’ yn lle labelu’r plentyn Soniwch am yr ymddygiad, nid y person Siarad fel grŵp – sgyrsiau amser cinio mewn grwpiau bach gydag oedolion allweddol x 1 bob hanner tymor. Elfen o syndod: Teimlo gwerthfawrogiad mewn ffordd bwrpasol sy’n bersonol i’r berthynas a'r cyd-destun. Amser i siarad: Ymrwymiad gan oedolion allweddol i dreulio amser 1: 1 bob hanner tymor i feithrin cydberthnasau a sgwrsio wyneb yn wyneb Siarad fel grŵp – sgyrsiau amser cinio gyda grwpiau bach gydag oedolion allweddol x 1 hanner tymor Gwella presenoldeb: Rhannwch y gwir am golli’r ysgol – y wobr yw dysgu! Soniwch am y ffeithiau Dathlwch y llwyddiannau Angen i’r rhieni berchnogi’r syniad Staff i ymweld â’r cartref i fonitro presenoldeb os yw’n effeithio ar ddysgu
Tynged – Beth? Cydberthnasau Addysgu: Ffordd Tregatwg! Chwarae a bod yn chwareus: Plant ydyn nhw ac mae gan bob plentyn yr hawl i chwarae! Caniatáu i blant chwarae ar ba bynnag lefel Ystumio/defnyddio goslef llais/gwên/cyffyrddiad dynol – agored a chynhesrwydd i bawb Llenwi bwced: Ymrwymiad i fod yn gadarnhaol a gwneud i bobl deimlo’n arbennig Cyfarch eich gilydd wrth eich enwau a gwneud cyswllt llygaid Rhowch ganmoliaeth Defnyddiwch eiriau caredig Addysgu am gydberthnasau: • Gwneud yn fawr o gryfderau ac ymreolaeth bersonol • Meithrin hunan-barch a hyder • Bod yn berchen ar ein hemosiynau • Meithrin cydnerthedd a dycnwch a’r gallu i ddyfalbarhau • Creu ffordd iach o fyw yn ymgorffori’r llaw, y galon a’r meddwl • Gwerthfawrogi bod yn wahanol ac amrywiaeth Polisi drws agored: Ar yr adeg priodol, oedolion sydd ar gael i siarad â rhieni wrth i’r plant gyrraedd a gadael yr ysgol Cyfarchion personol Proffil Un Dudalen: Pob plentyn yn adnabod pobl allweddol yn yr ysgol Beth yw eu cryfderau personol Yr hyn sydd ei angen arnynt i ddysgu Gwerthfawrogi eu diddordebau a’u hoffterau Bod yn esiampl: Pob oedolyn i fod yn esiampl gan fod yn gyfrifol ac yn atebol beth bynnag yw’r amgylchiadau Cyfathrebu a thystiolaeth Wal Datblygu Cydberthnasau yn y fynedfa i gyfleu i bawb y weledigaeth o roi Cydberthnasau yn gyntaf ac o flaen popeth arall! ‘dysgu a thyfu gyda’n gilydd bod ein gorau am byth’
Tynged – Beth? Cydberthnasau Addysgu: Ffordd Tregatwg! Atebion parod: • • • Adnabod cyrhaeddiad gwael gan ddefnyddio data meddal a chaled Ymdrin â'r achosion yn hytrach na'r symptomau Canolbwyntio ar oresgyn y rhwystrau ac archwilio cymhellion sy'n unigryw i'r plentyn a/neu'r teulu Gweld plant fel unigolion gyda chyfres unigryw o heriau ac anrhegion Galluogi oedolion i'w deall a'u cefnogi i dyfu mewn sgiliau a dyheadau Os nad yw'n gweithio - newidiwch y dull gweithredu! Datblygu Cydberthnasau yn y gymuned • • Grwpiau dysgu pwrpasol ar gyfer rhieni Grwpiau pwrpasol eraill ar gyfer rhieni Gweithdai i rieni gyda’u plant Grwpiau cefnogi cydberthnasau cadarnhaol cysondeb dull • • Cyfleoedd i roi adborth ar y polisi cydberthnasoedd Clwb llenwi bwced Boreau Cwtsh - amser i siarad a rhannu Hyfforddiant ymwybyddiaeth ACE Pobl allweddol o ran datblygu cydberthnasoedd: Llywodraethwyr Natasha Cockram - Arweinydd ymgysylltu â theuluoedd Sesiynau dewch i adnabod eich llywodraethwyr yn Ruth Williams - cymorth ymgysylltu â theuluoedd yn y blynyddoedd cynnar ystod diwrnodau agored Rhian Milton - Cydlynydd ADY - cymorth ac arweiniad ALL Rhieni Llywodraethwyr - ar gael i siarad am Elle Peate - Cydlynydd ADY - cymorth ac arweiniad: Darpariaeth Benodol gydberthnasau Athrawon dosbarth a gweithwyr allweddol – cyfarfodydd 1: 1 achlysurol Llywodraethwr ynghlwm wrth grŵp blwyddyn drwy gydol y flwyddyn. Yn haws cysylltu am gymorth a phresenoldeb mwy gweladwy o gwmpas yr ysgol Cefnogaeth rhwng cymheiriaid: Rhieni yn cefnogi ei gilydd fel cyfryngwyr cymheiriaid Cyfryngwyr a hyfforddwyr ar gael i gefnogi datblygiad cydberthynas Ymwybyddiaeth ACE – Ymrwymiad i fynd i’r afael â materion Holiadur ACE i helpu adnabod a chefnogi anghenion penodol plant Hyfforddi’r holl oedolion gan ddefnyddio’r dull WINE
YMDDIRIEDAETH Caredig Chwilfrydedd Cydnerthedd Disgybledig Effeithlon Dyfalbarhad Goddefgarwch Dyfeisgar Cydweithrediadol Perchnogaeth a Chyfrifoldeb Rhoi Cydberthnasau o flaen popeth arall! ‘Cymhellol’ – adnodd i gefnogi dysgwyr agored i niwed Tîm o amgylch y plentyn Mwy o Amser a Lle Ymyriadau arbenigol gan arbenigwyr <al nn Cy > <- Ymyriadau penodol – pwrpasol i anghenion y plentyn OPP- gyda strategaethau wedi’u nodi Data meddal i wella data caled Amser ychwanegol i ddeall ac ymateb gydag oedolyn sydd ar gael yn emosiynol Llenwi’r bwced Anian ar gyfer dysgu Cyfathrebu yw ymddygiad Dealltwriaeth gyffredin o iaith Modelu ymddygiad u nn fy if in Adnabod anghenion penodol - y dull pwrpasol áu at ni ca Chwareus Goddefgarwch Chwilfrydedd Uniaethu Cyfryngu rhwng cymheiriaid yn M ei th rin CWTSH – aml-ddiben ol ha rn da ca > Ad fe r Dulliau therapiwtig u sa na rth be yd ec Ma Lleihau’r iaith – mwy o gyfathrebu dieiriau Symptomau, ymddygiad a phroblemau Amser dysgu – Cydberthnasau, adeiladu ar gryfderau, adnabod emosiynau Gwobrau a chanlyniadau pwrpasol ‘Hunlun’ –CA 2 AMSER A LLE Amgylchedd Meithringar Pobl allweddol a adnabuwyd ac ar gael Gwrando Gweithredol (7 mun) Gwyddor yr ymennydd OPP Dull hyfforddi i bawb Dathlu llwyddiant / adborth pwrpasol Rhyfeddu Dychmygu Sylwi Uniaethu
- Slides: 12