Proses Gynllunio Ysgol Gynradd Gilwern Iechyd a Lles

  • Slides: 2
Download presentation
Proses Gynllunio Ysgol Gynradd Gilwern Iechyd a Lles WM 1: Mae datblygu iechyd a

Proses Gynllunio Ysgol Gynradd Gilwern Iechyd a Lles WM 1: Mae datblygu iechyd a lles y corff yn arwain at fuddiannau gydol oes. WM 2: Mae’r ffordd yr ydym yn prosesu ein profiadau ac yn ymateb iddynt yn effeithio ar ein hiechyd meddwl a’n lles emosiynol. WM 3: Mae’r ffordd yr ydym yn gwneud penderfyniadau yn effeithio ar ansawdd ein bywydau ni a bywydau eraill. WM 4: Mae’r ffordd yr ydym yn ymwneud â dylanwadau cymdeithasol yn siapio pwy ydym ni ac yn effeithio ar ein hiechyd a’n lles. WM 5: Mae cydberthnasau iach yn hanfodol ar gyfer ein lles. Y Celfyddydau Mynegiannol WM 1: Mae archwilio'r celfyddydau mynegiannol yn hanfodol er mwyn dyfnhau sgiliau a gwybodaeth gelfyddydol ac mae'n galluogi dysgwyr i ddod yn unigolion chwilfrydig a chreadigol WM 2: Mae ymateb a myfyrio, fel artist ac fel cynulleidfa, yn rhan hanfodol o ddysgu yn y celfyddydau mynegiannol. WM 3: Mae creu yn cyfuno sgiliau a gwybodaeth, gan dynnu ar y synhwyrau, ysbrydoliaeth a’r dychymyg. Y Dyniaethau WM 1: Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, y presennol a'r dyfodol. WM 2: Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth a chânt eu hamgyffred, eu dehongli a’u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd. WM 3: Mae ein byd naturiol yn amrywiol a deinamig, wedi’i ddylanwadu gan brosesau a gweithredoedd dynol. WM 4: Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac Yn cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl. WM 5: Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol. Gwyddoniaeth a Thechnoleg WM 1: Mae bod yn chwilfrydig a chwilio am atebion yn hanfodol i ddeall a rhagfynegi ffenomenau. WM 2: Mae meddylfryd dylunio a pheirianneg yn cynnig ffyrdd technegol a chreadigol o ddiwallu anghenion a dymuniadau cymdeithas. WM 3: Mae’r byd o’n cwmpas yn llawn pethau byw sy’n dibynnu ar ei gilydd i oroesi. WM 4: Mae mater a'r ffordd y mae'n ymddwyn yn diffinio ein bydysawd ac yn ffurfio ein bywydau. WM 5: Mae grymoedd ac egni yn gosod sail i ddeall ein bydysawd. WM 6: Mae cyfrifiaduraeth yn gosod sail i’n byd digidol. Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu unigolion iach, hyderus sy'n: • meddu ar werthoedd cadarn ac yn sefydlu eu credoau ysbrydol a moesegol • meithrin eu lles meddwl ac emosiynol drwy ddatblygu hyder, gwydnwch ac empathi • cymhwyso gwybodaeth am yr effaith y caiff deiet ac ymarfer corff ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl yn eu bywydau dyddiol • gwybod sut i ddod o hyd i'r wybodaeth a'r cymorth i gadw'n ddiogel ac yn iach • cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol • gwneud penderfyniadau pwyllog am ffordd o fyw a rheoli risg • hyderus i gymryd rhan mewn perfformiad • ffurfio perthnasoedd cadarnhaol yn seiliedig ar ymddiriedaeth a pharch at ei gilydd • wynebu a goresgyn heriau • meddu ar y sgiliau a'r wybodaeth i reoli bywyd dyddiol mor annibynnol ag y gallant ac yn barod i fyw bywyd boddhaus fel aelodau gwerthfawr o'r gymdeithas. dysgwyr uchelgeisiol a galluog sy’n: • gosod safonau uchel iddynt eu hunain, ac yn chwilio am heriau a’u mwynhau • datblygu corff o wybodaeth ac yn meddu ar y sgiliau i gysylltu a chymhwyso'r wybodaeth honno mewn gwahanol gyd-destunau • cwestiynu ac yn mwynhau datrys problemau • gallu cyfathrebu'n effeithiol mewn gwahanol ffurfiau a lleoliadau, gan ddefnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg • gallu esbonio'r syniadau a'r cysyniadau y maent yn dysgu amdanynt • gallu defnyddio rhif yn effeithiol mewn gwahanol gyd-destunau • deall sut i ddehongli data a chymhwyso cysyniadau mathemategol • defnyddio technolegau digidol yn greadigol i gyfathrebu, darganfod a dadansoddi gwybodaeth • gwneud gwaith ymchwil ac yn gwerthuso'n feirniadol yr hyn y maent yn ei ganfod ac yn barod i ddysgu trwy gydol eu hoes. dinasyddion egwyddorol a gwybodus sy’n: • canfod, gwerthuso a defnyddio tystiolaeth wrth lywio safbwyntiau • ymgysylltu â materion cyfoes yn seiliedig ar eu gwybodaeth a'u gwerthoedd • deall ac arfer eu cyfrifoldebau a'u hawliau dynol a democrataidd • deall ac ystyried effaith eu gweithredoedd wrth wneud dewisiadau a gweithredu • wybodus am eu diwylliant, y gymuned, y gymdeithas a'r byd, yn awr ac yn y gorffennol • parchu anghenion a hawliau pobl eraill, fel aelodau o gymdeithas amrywiol, • dangos eu hymrwymiad i gynaliadwyedd y blaned ac yn barod i fod yn ddinasyddion Cymru a'r byd. cyfranwyr creadigol mentrus sy’n: • cysylltu a chymhwyso eu gwybodaeth a’u sgiliau i greu syniadau a chynnyrch • meddwl yn greadigol er mwyn ailfynegi a datrys problemau • nodi ac yn manteisio ar gyfleoedd • cymryd risgiau mesuredig • arwain ac yn chwarae rolau gwahanol mewn timau yn effeithiol ac yn gyfrifol • mynegi syniadau ac emosiynau trwy wahanol gyfryngau • defnyddio eu hegni a'u sgiliau fel y bydd pobl eraill yn elwa, ac yn barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith. MEITHRIN GRYMUSO CYFLAWNI WM 1: Mae ieithoedd yn ein cysylltu ni. WM 2: Mae deall ieithoedd yn allweddol i ddeall y byd o'n cwmpas ni WM 3: Mae mynegi ein hunain drwy ieithoedd yn allweddol i gyfathrebu. WM 4: Mae llenyddiaeth yn tanio’r dychymyg ac yn ysbrydoli creadigrwydd. Mathemateg a Rhifedd WM 1: Defnyddir y system rifau i gynrychioli a chymharu’r perthnasoedd rhwng rhifau a meintiau. WM 2: Mae algebra’n defnyddio systemau symbolau i fynegi strwythur perthnasoedd mathemategol. WM 3: Mae geometreg yn canolbwyntio ar berthnasoedd sy’n ymwneud â siâp, gofod a safle, ac mae mesur yn canolbwyntio ar feintioli ffenomena yn y byd ffisegol. WM 4: Mae ystadegau yn cynrychioli data, mae tebygolrwydd yn modelu siawns, ac mae’r ddau yn cefnogi casgliadau a phenderfyniadau gwybodus.

Proses Gynllunio Ysgol Gynradd Gilwern Iechyd a Lles WM 1: Mae datblygu iechyd a

Proses Gynllunio Ysgol Gynradd Gilwern Iechyd a Lles WM 1: Mae datblygu iechyd a lles y corff yn arwain at fuddiannau gydol oes. WM 2: Mae’r ffordd yr ydym yn prosesu ein profiadau ac yn ymateb iddynt yn effeithio ar ein hiechyd meddwl a’n lles emosiynol. WM 3: Mae’r ffordd yr ydym yn gwneud penderfyniadau yn effeithio ar ansawdd ein bywydau ni a bywydau eraill. WM 4: Mae’r ffordd yr ydym yn ymgysylltu â dylanwadau cymdeithasol yn siapio pwy ydym ni ac yn effeithio ar ein hiechyd a’n lles. WM 5: Mae cydberthnasau iach yn hanfodol ar gyfer ein lles. Y Dyniaethau WM 1: Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, y presennol a'r dyfodol. WM 2: Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth a chânt eu hamgyffred, eu dehongli a’u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd. WM 3: Mae ein byd naturiol yn amrywiol a deinamig, wedi’i ddylanwadu gan brosesau a gweithredoedd dynol. WM 4: Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac Yn cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl. WM 5: Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol. Gwyddoniaeth a Thechnoleg WM 1: Mae bod yn chwilfrydig a chwilio am atebion yn hanfodol i ddeall a rhagfynegi ffenomenau. WM 2: Mae meddylfryd dylunio a pheirianneg yn cynnig ffyrdd technegol a chreadigol o ddiwallu anghenion a dymuniadau cymdeithas. WM 3: Mae’r byd o’n cwmpas yn llawn pethau byw sy’n dibynnu ar ei gilydd i oroesi. WM 4: Mae mater a'r ffordd y mae'n ymddwyn yn diffinio ein bydysawd ac yn ffurfio ein bywydau. WM 5: Mae grymoedd ac egni yn gosod sail i ddeall ein bydysawd. WM 6: Mae cyfrifiaduraeth yn gosod sail i’n byd digidol. unigolion iach, hyderus sy’n: meddu ar werthoedd cadarn ac yn sefydlu eu credoau ysbrydol a moesegol meithrin eu lles meddwl ac emosiynol drwy ddatblygu hyder, gwydnwch ac empathi cymhwyso gwybodaeth am yr effaith y caiff deiet ac ymarfer corff ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl yn eu bywydau dyddiol gwybod sut i ddod o hyd i'r wybodaeth a'r cymorth i gadw'n ddiogel ac yn iach WM 1: Mae ieithoedd yn ein cysylltu ni. WM 2: Mae deall ieithoedd yn allweddol i ddeall y byd o'n cwmpas ni WM 3: Mae mynegi ein hunain drwy ieithoedd yn allweddol i gyfathrebu. WM 4: Mae llenyddiaeth yn tanio’r dychymyg ac yn ysbrydoli creadigrwydd. cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol gwneud penderfyniadau pwyllog am ffordd o fyw a rheoli risg hyderus i gymryd rhan mewn perfformiad ffurfio perthnasoedd cadarnhaol yn seiliedig ar ymddiriedaeth a pharch at ei gilydd wynebu a goresgyn heriau meddu ar y sgiliau a'r wybodaeth i reoli bywyd dyddiol mor annibynnol ag y gallant, ac yn barod i fyw bywyd boddhaus fel aelodau gwerthfawr o'r Y Celfyddydau Mynegiannol WM 1: Mae archwilio'r celfyddydau mynegiannol yn hanfodol er mwyn dyfnhau sgiliau a gwybodaeth gelfyddydol ac mae'n galluogi dysgwyr i ddod yn unigolion chwilfrydig a chreadigol WM 2: Mae ymateb a myfyrio, fel artist ac fel cynulleidfa, yn rhan hanfodol o ddysgu yn y celfyddydau mynegiannol. WM 3: Mae creu yn cyfuno sgiliau a gwybodaeth, gan dynnu ar y synhwyrau, ysbrydoliaeth a’r dychymyg. Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu gymdeithas. MEITHRIN GRYMUSO CYFLAWNI Mathemateg a Rhifedd WM 1: Defnyddir y system rifau i gynrychioli a chymharu’r perthnasoedd rhwng rhifau a meintiau. WM 2: Mae algebra’n defnyddio systemau symbolau i fynegi strwythur perthnasoedd mathemategol. WM 3: Mae geometreg yn canolbwyntio ar berthnasoedd sy’n ymwneud â siâp, gofod a safle, ac mae mesur yn canolbwyntio ar feintioli ffenomena yn y byd ffisegol. WM 4: Mae ystadegau yn cynrychioli data, mae tebygolrwydd yn modelu siawns, ac mae’r ddau yn cefnogi casgliadau a phenderfyniadau gwybodus.