Ysgol Gynradd Brynsaron Prosbectws Prospectus 2018 2019 Cymreictod
Ysgol Gynradd Brynsaron Prosbectws Prospectus 2018 -2019 Cymreictod Parchu ein gilydd Gwneud ein gorau glas Cerddwn law yn llaw i gopa’r bryn
CROESO i Ysgol Gynradd Brynsaron Diolch am eich diddordeb yn Ysgol Gynradd Brynsaron. Mae ein hysgol yn un braf iawn. Ceir amgylchedd diogel a hapus iddi lle gall y plant dyfu a dysgu. Parchwn yr enw da yma a pharhawn i weithio er mwyn cynnig profiadau eang a chytbwys i bob un plentyn. Mae’r profiadau yma nid yn unig yn cyflawni eu anghenion addysgol, ond hefyd yn cynnig cyfleoedd iddynt fedru datblygu’n unigolion annibynnol a chyfrifol. Ein prif nod yw i hybu’r cyrhaeddiad uchaf posib i bob plentyn mewn amgylchedd cyffrous ac anogol sy’n llawn gofal. Credwn taw’r unig ffordd i’r plant lwyddo gael y gorau yw trwy ddatblygu perthynas agos rhwng yr ysgol a’r cartref. Mae gennym bolisi drws-agored lle mae’n bosib i rieni ddod mewn i siarad a ’r athrawon am unrhyw agwedd o waith y plant. Ysgol cyfrwng Cymraeg yw Ysgol Brynsaron lle mae o leiaf 70% o’r addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Cymraeg yw iaith cyfathrebu gyda’r disgyblion a gwaith pob dydd yr ysgol. Rydym yn cyfathrebu a ’r rhieni yn y naill iaith neu’r llall. Cerddwn law yn llaw i gopa’r bryn
ENW A CHYFEIRIAD YR YSGOL: Ysgol Gynradd Brynsaron Saron Llandysul Sir Gaerfyrddin SA 44 5 EB Rhif Ffo n: 01559 370575 Cyfeiriad E-bost: admin@brynsaron. ysgolccc. org. uk Gwefan yr ysgol: www. brynsaron. amdro. org. uk Trydar: @ysgolbrynsaron PENNAETH (dros dro): Mrs Elin Watkins CADEIRYDD Y LLYWODRAETHWYR: Mrs Nia Stoakes Nifer ar y Gofrestr: 55 (Haf 2018) Capasiti : 137 Cerddwn law yn llaw i gopa’r bryn
Anelu at y sêr Ein Bwriad: • I annog y gorau o bob plentyn ac i’w helpu i gyrraedd eu llawn potensial. • I roi addysg ein plant yn gyntaf ac i anelu at welliant parhaus. • I annog plant i reoli eu dysgu gydag annibynniaeth gynyddol. • I greu ysgol gall y gymuned fod yn falch ohoni. Ein Gweledigaeth: I fod yn ysgol rhagorol sy'n cynorthwyo pob plentyn; eu galluogi a’u hysbrydoli i fod yn ddysgwyr annibynnol, gydol oes. Ein Gwerthoedd: • I greu gwerthoedd positif tuag at ddysgu. • I gynnig annogaeth a chefnogaeth ar bob adeg, codi hunan-hyder ac hunan-werth. • I greu amgylchedd gofalus, ysbrydoledig lle gall y disgyblion dyfu a dysgu. • I ddathlu cyrhaeddiad a llwyddiannau. Cerddwn law yn llaw i gopa’r bryn
Dewch i mewn… Cais am Le Pennaeth yn ogystal a gwneud cais swyddogol ar-lein sydd ar wefan Cyngor Sir Caerfyrddin, sef Ysgol gynradd gymunedol yw http: //www. sirgar. llyw. cymru/cartre Ysgol Brynsaron. Mae’r ysgol yn f/gwasanaethaur-cyngor/ Bydd gwasanaethu ardal ddaearyddol cyfle wedyn i’r rhieni wneud eang sy’n cynnwys pentrefi Saron, apwyntiad i ddod i weld yr ysgol. Rhos, Pentrecwrt, Bancyffordd a’r ardal wledig o’i chwmpas. Cynhelir Estynnwn wahoddiad i bob plentyn yr ysgol gan Awdurdod Lleol Sir cyn-derbyn ddod am ymweliad bore Gaerfyrddin. a phrynhawn er mwyn dod i adnabod eu dosbarth; i adnabod Derbynnir plant i’r ysgol yn llawn plant eraill; ac i ymgyfarwyddo ag amser ar ddechrau’r tymor maent yn aelodau o’r staff. cael eu pedwerydd penblwydd. Maent yn trosglwyddo i’r ysgol uwchradd ym mis Medi sy’n dilyn eu penblwydd yn 11 oed. Mae Ysgol Brynsaron yn rhan o’r dalgylch sy’n bwydo Ysgol Gyfun Emlyn ac Ysgol Bro Teifi. Cytundeb Cartref/Ysgol Mae gan yr ysgol ‘Gytundeb Cartref/Ysgol’ sy’n nodi’r Gofynnir i rieni sydd am gofrestru eu hyn a ddisgwylir gan yr ysgol o plant yn Ysgol Brynsaron gysylltu a ’r safbwynt ymrwymiad rhieni/gwarcheidwaid a disgyblion i gefnogi’r ysgol ynghyd ag ymrwymiad yr ysgol i gydweithio a darparu’r gwasanaeth gorau i rieni/gwarcheidwaid a disgyblion. Cerddwn law yn llaw gopa’r bryn i
Pam Dewis Addysg Gymraeg? Cerddwn law yn llaw i gopa’r bryn Yn unol â pholisi Awdurdod Addysg Sir Gaerfyrddin mae’r ysgol wedi ei chlustnodi yn ysgol Cyfrwng Derbyn ieithoedd a diwylliannau eraill Cymraeg. Gan fod dwy iaith yn rhoi profiad diwylliannol ehangach i bobl, yn aml iawn maent yn fwy parod i Yn ôl polisi’r Awdurdod, ‘Cymraeg yw iaith gwaith dderbyn gwahaniaethau mewn diwylliannau, credoau pob dydd yr ysgol. Blaenoriaeth fawr i greu ethos ac arferion y tu hwnt i'w profiad hwy eu hunain. Cymraeg. Mae’r ysgol yn cyfathrebu gyda rhieni yn y ddwy iaith. ’ Manteision i'r ymennydd Dangosodd gwaith ymchwil fod cael dwy iaith dda yn Golyga hyn y bydd y plant yn cael eu dysgu drwy gallu bod o fantais i bobl o ran y ffordd y maent yn gyfrwng y Gymraeg i fyny hyd at ddiwedd Cyfnod meddwl: Sylfaen. Yna yng Nghyfnod Allweddol 2 defnyddir y o Meddwl yn greadigol ddwy iaith ond gyda mwy o bwyslais ar y Gymraeg. o Sensitifrwydd o Cyniferydd Deallusrwydd MANTEISION BOD YN DDWYIEITHOG o Darllen Gall dwyieithrwydd gynyddu cyfleoedd a dewisiadau. Manteision addysgol Dwy iaith: dwywaith y dewis. Trydedd iaith yn haws Manteision o safbwynt cyflogaeth Cyfathrebu gyda'r teulu a'r gymuned gyfan Mwy o hunan-barch Mae bod yn ddwyieithog yn creu pont rhwng Llongyfarchiadau i Ysgol Brynsaron ar ennill y cenedlaethau. Mae gallu cyfathrebu rhwng Wobr Arian ar gyfer Siarter Iaith (Haf 2018) cenedlaethau'n helpu i greu ymdeimlad o berthyn i'r teulu estynedig. Cyfle i fod yn rhan o ddau ddiwylliant Un o fanteision bod yn ddwyieithog yw'r cyfle i fod yn rhan o ddau ddiwylliant - dau fyd gwahanol o brofiadau.
Trefn y diwrnod CYRRAEDD YR YSGOL Os fyddwch yn teithio i'r ysgol mewn car, gofynnwn yn garedig i chi ufuddhau i'r cyfarwyddiadau a rheolau traffig. Mae pob un ohonynt yno er mwyn diogelwch a lles eich plant. Pob plentyn i gael mynediad i’r ysgol drwy’r brif fynedfa’n unig. Petaech am siarad ag aelod o staff, cofiwch barcio ar yr iard waelod a cherdded tuag at y brif fynedfa. Os byddwch yn cyrraedd yn hwyr, carem ofyn i chi barcio tu allan i brif ietau’r ysgol a chydgerdded gyda’ch plentyn drwy’r iet fach ar ochr y brif heol, a dod i’r brif fynedfa i’w arwyddo i fewn. CLWB BRECWAST RHAD AC AM DDIM Mae clwb brecwast yn dechrau bob bore am 8: 05 yb. Dylech osgoi cyrraedd yr ysgol cyn hyn gan na fydd goruchwyliaeth wedi trefnu ar gyfer eich plant. Cofiwch gofrestru’ch plentyn pe baech am ddefnyddio’r gwasanaeth yma. AMSERLEN YR YSGOL Mae'r diwrnod ysgol yn cychwyn am 9: 00 yb. Fe fydd staff ar ddyletswydd o 8: 45 yb ymlaen. Mae'r gwersi yn gorffen ar amserau gwahanol ar ddiwedd y dydd. • Cyfnod Sylfaen (Dosbarth Wthan) 3: 10 yp. Bydd modd casglu’ch plant o ddrws Dosbarth Wthan (yr estyniad) • Cyfnod Allweddol 2 (Dosbarth Siedi) 3: 15 yp. Bydd modd casglu’ch plant o’r brif fynedfa. CLYBIAU AR O L YSGOL Cynhelir Glwb yr Urdd a Chlwb TGCh yn wythnosol tan 4. 15 yp sy’n cael eu rhedeg gan staff yr ysgol. Cerddwn law yn llaw i gopa’r bryn
Mae pob plentyn yn cyfri ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL y dylai pob plentyn gael cyfle cyfartal beth bynnag fo’i genedl, hil neu ei (ADY) allu. Caiff pob plentyn ei asesu yn gyson o Ein bwriad yw i feithrin agwedd fewn yr ysgol, a phan bo’r athro yn teimlo bod y plentyn yn cael anawsterau, yna iach ymhlith y plant tuag at bod yn wahanol ac i ddathlu’r ffaith fod cynhelir trafodaethau gyda’r Cydlynydd pawb yn wahanol i’w gilydd a bod ADY (CADY). Bydd y CADY wedyn yn gan pob unigolyn ei anghenion ei edrych ar waith y plentyn ac yn gwneud asesiad cyn trafod gyda rhieni. Wedi’r hun. cyfarfod yma bydd y plentyn yn cael ei osod ar Gofrestr ADY yr ysgol (yn fyr neu’n hir dymor) er mwyn derbyn DISGYBLION AG ANABLEDD unrhyw ymyrraeth i gwrdd a’i anghenion – boed yn lythrennedd, rhifedd a/neu sgiliau emosiynol a/neu chymdeithasol. Mae cynhwysiant yn allweddol bwysig i ni ym Mrynsaron. Os ydych yn teimlo bod gan eich plentyn Ymfalchïwn yn ein gallu i gynnig addysg broblemau addysgu yna cysylltwch a ’r sydd ddim yn gwahaniaethu rhwng naill plentyn a’r llall. Rydym yn annog ysgol – gallwn weithio gyda’n gilydd i plant gydag anabledd i fod yn rhan o bob helpu a goresgyn anawsterau. agwedd o fywyd ysgol. Mae’r ysgol Gosodir targedau clir o fewn Rhaglen hadeiladu ar un lefel. Addysgol Unigol i bob plentyn sydd ar y wedi ei Ailwampiwyd yr ysgol ym 2009, ac gofrestr a thrafodir cynnydd yn gyson. ers hyn, mae ganddi fynedfeydd sy’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn, ynghyd â chyfleusterau ymolchi a thŷ bach pwrpasol. CYFLE CYFARTAL Credwn yn gryf yn Ysgol Brynsaron Cerddwn law yn llaw i gopa’r bryn
Cadw’n heini ac yn iach gyfle i brofi amryw o weithgareddau – sgïo, dringo ac abseilio, clogwyno, saethyddiaeth, ayyb. Pwysleisiwn bob Disgwylir i bob plentyn ysgol gymryd rhan amser bod mwynhau a chymryd rhan mewn gwersi chwaraeon ac addysg yn mwy pwysig nag ennill, a dylai’r plant gorfforol h. y. dawns, athletau, nofio, a wneud eu hymdrechion gorau bob gweithgareddau allanol. amser. Chwaraeon ac Addysg Gorfforol Mae plant CA 2 yn derbyn gwersi nofio ym Mhwll Nofio Castell Newydd Emlyn. Os nad yw eich plentyn yn medru cymryd rhan mewn gwersi addysg gorfforol am unrhyw rheswm, yna gofynnwn i chi roi gwybod i’r ysgol drwy lythyr neu ganiad ffo n. Mae gan yr ysgol neuadd aml-bwrpas a ddefnyddir ar gyfer addysg gorfforol, gymnasteg a dawns. Mae gennym fuarth wyneb caled a chae bendigedig anferth ar gyfer pe l droed, rygbi ac athletau. Trefnir mabolgampau blynyddol, yn cynnwys pob plentyn, a dosbarthir y plant i bedwar tîm, sef Shadog, Dilen, Einon a Camnant. Dillad Addysg Gorfforol Gweithgareddau Mewnol Cyfnod Sylfaen a CA 2 – Mae angen i rieni ddarparu pa r o siorts du a chrys-T Caiff cystadleuthau eu trefnu rhwng gwyn. ysgolion cynradd lleol yn ogystal â Rhaid sicrhau bod enw eich plentyn chwaraeon wedi eu trefnu gan yr Urdd sy’n wedi ei ysgrifennu ar bob eitem o cynnig cyfleoedd i blant gymdeithasu a ddillad – gwisg ysgol a dillad Addysg phlant eraill yr ardal. Gorfforol. Yn ogystal, mae angen i ddisgyblion dynnu eu gemwaith i ffwrdd cyn cymryd rhan mewn gwersi Addysg Gorfforol, a gwallt hir wedi ei glymu. Cerddwn law yn llaw Caiff blant hŷn yr ysgol gyfle i fynychu i gopa’r bryn gwersylloedd yr Urdd Llangrannog neu Glan-llyn. Yn ystod yr wythnos ca nt
Gwisg Ysgol Ble i Brynu? Mae crys-T a siwmper swyddogol yr ysgol ar werth yn yr ysgol Bechgyn: � Trowsus llwyd � Siwmper werdd � Crys-t polo melyn � Esgidiau du � Siorts llwyd yn yr haf Merched: � Sgert/trowsus/pinaffor/cwlots llwyd � Siwmper werdd � Crys-t polo melyn � Esgidiau du � Teits llwyd neu Sanau llwyd/gwyn � Ffrog gingham werdd neu felen yn yr haf Cerddwn law yn llaw i gopa’r bryn
Mae fy mhlentyn yn sâl Teimlo’n sâl? Pan fydd eich plentyn yn sa l gofynnwn i chi ei gadw adref tan ei fod yn well. Cofiwch roi gwybod i’r ysgol pan fo’ch plentyn yn dost gan y byddwn yn ei gofrestru’n absennol heb ganiata d heb y wybodaeth yma. Polisi Meddyginiaeth Nid yw polisi’r ysgol yn caniata u i unrhyw aelod o staff gymryd cyfrifoldeb am weinyddu meddyginiaeth heb ganiatâd rhieni. Rhaid i’r ysgol dderbyn ffurflen wedi ei chwblhau gan rieni’r disgyblion yn gofyn am i’r ysgol ddarparu a rhoi’r feddyginiaeth yn ystod oriau’r ysgol yn gorwedd gyda’r Pennaeth sy’n cyd-weithio’n agos iawn gyda gweddill staff yr ysgol. Mae’n hanfodol bwysig bod yr ysgol yn derbyn gwybodaeth diweddaraf am gyfeiriadau’r plant yn ogystal a unrhyw newidiadau mewn rhifau ffo n. Os digwydd i blentyn gael damwain yn yr ysgol a bod angen triniaeth meddygol arno, byddwn yn ymdrechu i gysylltu a ’r rhieni. Petai hyn ddim yn bosib yna bydd plentyn sydd eisiau triniaeth ychwanegol yn cael ei gymryd at ei feddyg teuluol neu i’r ysbyty agosaf. Bydd damweiniau bach yn cael eu trin gan y goruchwylwyr sydd ar ddyletswydd ac yn cael eu cofnodi mewn llyfryn cymorth cyntaf. Os caiff plentyn anaf i’r pen, ymdrechwn i gysylltu gyda rhieni yn eu gwahodd i’r ysgol, os y dymunant. Yn ystod diwrnod ysgol mae yna oedolyn ar ddyletswydd 15 munud cyn ac ar ôl ysgol. Mae yna oedolion yn goruchwylio yn ystod pob amser egwyl. Gofal Bugeiliol Mae’r gofal eithaf am blant yr Cerddwn law yn llaw i gopa’r bryn
Agwedd bositif = Agwedd cadarnhaol Ymddygiad Positif a chânt wobr o’r twba lwcus. Hefyd, mae dosbarth CA 2 yn cael eu cymeradwyo â Disgynai cyfrifoldeb eithaf am phwyntiau i’r ddesg a’r ymddygiad plant gyda’r Pennaeth. ddesg sydd ar y brig ar Fodd bynnag, caiff gefnogaeth ddiwedd pob hanner tymor sy’n gan bawb sy’n gysylltiedig a ’r ysgol heb anghofio rhieni wrth derbyn amser aur o’u dewis. gwrs. Teimlwn fod gwobrwyo da ac ymddygiad yn Rydym yn disgwyl, ac yn annog gwaith hanfodol. Mae tystysgrifau plant i ddangos parch tuag at ‘Ymddygiad Ysgubol’ yn cael eraill ac i osod ymddygiad eu cyflwyno’n wythnosol yn ein disgyblaeth o’r safon uchaf. gwasanaeth gwobrwyo. Yn ein hardal allanol, ceir arwyddion Mae’r gosb am gamymddwyn yn ‘Byddwch yn ffrind da’ deg ar bob adeg. Ni chai unrhyw ynghyd â ‘ 5 ffordd i godi gwên’ blentyn ei eithrio o’r ysgol oni bai sy’n hybu ymddygiad da. fel cam olaf. Mae gan rieni’r hawl i apelio i’r Llywodraethwyr er Rheolau Aur Ysgol mwyn ail-dderbyn y plant. Brynsaron yw: 1. Parchu eraill Rydym wedi mabwysiadu system 2. Siarad Cymraeg sêr yn y Cyfnod Sylfaen: 3. Gwneud ein gorau glas 5 seren = Ysgytlaeth 4. Gofalu am ein hysgol 10 seren = Bisgedi gyda llaeth 5. Ymddwyn yn briodol 15 seren = Gweithgaredd o ddewis y plentyn o fewn y dosbarth 20 seren = Gwobr o’r twba lwcus Yn CA 2, mae’r disgyblion yn derbyn tocynnau da iawn am gyfleu ymddygiad arbennig, Cerddwn law yn llaw i gopa’r bryn
Ffrindiau gorau ‘Man Mêts’ Bwlian Gall blentyn gael ei fwlian pan fo rhywun yn ‘pigo’ arno ef/hi, neu pan caiff ei eithrio o’r chwarae. Yn fwy difrifol gall blentyn gael ei f/bygwth â niwed corfforol. Nid yw’n hawdd darganfod bwlian ac mae’r athrawon yn ymateb i unrhyw gŵyn. Mae’r ysgol yn delio â materion bwlio gyda difrifwch. Cofiwch ddod mewn i drafod pe bai unrhywbeth yn eich poeni cyn gynted ag y bo modd er mwyn i ni fedru datrys y broblem gyda’n gilydd. Cerddwn law yn llaw i gopa’r bryn
Meddwl am Grefydd Cyd-Addoliad Yn unol a deddf gwlad cynhelir gwasanaeth crefyddol yn yr ysgol bob dydd. Bydd y plant yn addoli gyda’i gilydd ar dri bore’r wythnos ac yna, ar y diwrnodau eraill, maent yn addoli yn eu dosbarthiadau unigol. Gall rieni eithro eu plentyn rhag mynychu’r gwasanaeth boreol drwy wneud cais ysgrifenedig i’r Pennaeth. Addysg Grefyddol Dysgir Addysg Grefyddol i bob plentyn yn yr ysgol. Mae’r gwersi yn cynnwys dysgu am grefyddau eraill fel rhan o’r cynllun gwaith. Cerddwn law yn llaw i gopa’r bryn Gall rieni eithro eu plentyn o wersi Addysg Grefyddol drwy wneud cais ysgrifenedig i’r Pennaeth.
Mynd â gwaith adref Gwaith Cartref Rhoddir ffeil werdd i bob plentyn wrth iddynt ddechrau Ysgol Brynsaron er mwyn cario’r gwaith sydd i’w gwblhau adref gyda rhieni. Gemau llythrennedd neu rhifedd gallwch chwarae gyda’ch plentyn bydd y gwaith ar y dechrau. Bydd y gwaith yn datblygu’n fwy anodd yn o l gallu eich plentyn. Bydd eich plentyn yn dod a gwaith adref unwaith bob wythnos. Mae’n amhosib i ni fod yn bendant am yr amser y dylai pob plentyn dreulio i gwblhau’r gwaith. Yn CA 2, bydd gwaith cartref Rhifedd a Llythrennedd yn cael ei osod bob yn ail wythnos ynghyd â geiriau sillafu yn wythnosol. Weithiau, bydd gofyn i ddisgyblion gyflawni eu tasgau ar blatfform HWB. Mae gan pob disgybl enw defnyddiwr a chyfrinair. Gofynnwn i rieni annog a chefnogi eu plentyn wrth gwblhau’r gwaith, gan gadw llygaid ar gyflwyniad a gofyn cwestiynau am y cynnwys. Awgrymir yn gryf i chi neilltuo cyfnod byr bob nos i wrando ar eich plentyn yn darllen llyfr sy’n addas i’w oed a’i ddatblygiad. Cerddwn law yn llaw i gopa’r bryn
Cadw Mewn Cysylltiad Cerddwn law yn llaw i gopa’r bryn Presenoldeb/Absenoldebau Teimlwn ei bod hi’n bwysig ein bod ni’n gwybod sut mae’r plant Rydym yn gweithio mewn partneriaeth yn cael eu casglu ar ddiwedd y dydd. gyda rhieni er mwyn annog ein Os oes newidiaeth i’r drefn disgyblion i ddod i’r ysgol yn gyson. arferol, a pherson gwahanol yn casglu Mae yna gysylltiad amlwg rhwng eich plentyn, gofynnwn i chi roi presenoldeb cyson yn yr ysgol a gwybod i ni o flaen llaw – yn chyflawniadau. Mae mynd i’r ysgol yn ddelfrydol gyda ffotograff o’r person rheolaidd yn allwedd i lwyddiant. Mewn achos o absenoldeb, gofynnwn i hynny. rieni gysylltu a ’r ysgol dros y ffo n ar y diwrnod cyntaf gydag eglurhad. Tywydd Garw Cofnodir pob absenoldeb heb eglurhad Gwneir pob ymdrech i gadw’r boddhaol fel ‘absenoldeb heb ganiata d’. ysgol ar agor yn ystod tywydd garw Mae’r ddeddf yn datgan bod rhaid i e. e. eira. Os digwydd i’r tywydd fod ysgolion nodi absenoldebau heb yn wael yn y bore byddwn yn anfon ganiata d. neges destun, yn ffonio Radio Sir Ga r sy’n darlledu’r wybodaeth i’r Os bydd angen i’ch plentyn adael ysgol cyhoedd ac yn rhoi’r wybodaeth yn gynnar, yna gofynnwn i rieni roi ar ‘Ysgolion ar gau’ ar wefan Cyngor gwybod i aelod o staff dros y ffo n neu Sir Gâr. Os ydych rhwng dau drwy lythyr. Bydd rhaid arwyddo’r feddwl, yna cyslltwch a ’r ysgol am plentyn allan wrth y brif fynedfa. ragor o wybodaeth. Casglu’r Plant Negeseuon Testun Mae gennym system neges destun sy’n medru cysyllu a rhieni yn uniongyrchol. Defnyddiwn y system yma yn gyson er mwyn anfon negeseuon a chadw mewn cysylltiad a rhieni. Cofiwch ein hysbysu os ydych yn newid eich rhif ffôn neu gyfeiriad e-bost.
Beth sy’n cael ei ddysgu? Cerddwn law yn llaw i gopa’r bryn Yn Ysgol Gynradd Brynsaron, anelwn i’n disgyblion fod yn … v ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes; v gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith; v ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd; ac v unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas. Bwriedir i’r amcanion addysgol sylfaenol o hyrwyddo datblygiad y disgybl gael eu hadlewyrchu drwy Chwe Maes Dysgu a Phrofiad. Mae Llythrennedd, Rhifedd a Chymhwysedd Digidol yn sail gadarn i strwythur y cwricwlwm. Bydd y disgyblion yn datblygu lefelau cymhwysedd uchel yn yr agweddau hynny a chânt gyfleoedd aml i’w datblygu, eu hymestyn a’u cymhwyso ar draws y cwricwlwm. Yn fwy aml na pheidio, mae llais y disgybl yn llywio gweithgareddau ar lawr a thu hwnt i’r dosbarth. Yn Ysgol Gynradd Brynsaron, anogwn ein disgyblion i. . . v ddatblygu Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yn ei holl ffyrdd, er mwyn iddynt fod yn ddulliau pwrpasol ac ystyrlon o gyfathrebu, gan gynnwys gwrando, siarad, darllen, ysgrifennu a gwerthfawrogi llên yn y famiaith a’r ail iaith; v ddatblygu medrau a deallusrwydd Mathemategol a Rhifedd; v ddatblygu medrau a deallusrwydd Gwyddonol a Thechnolegol mewn byd sy’n gyflym newid; v ddatblygu hunan fynegiant a’r Celfyddydau Mynegiannol trwy gerddoriaeth, drama, celf a dylunio ynghyd â dylunio a thechnoleg; v ddatblygu’r Dyniaethau yn ei chyfanrwydd drwy: v u feithrin deallusrwydd am yr amgylchedd a’r byd o’u cwmpas, e. e. drwy wersi byw, Cyngor Eco, Ysgolion Iach, a. y. y. b; u greu ymwybyddiaeth a gwerthfawrogiad o gymdogaeth, iaith, diwylliant ac amgylchedd y disgybl a bod yn ymwybodol o gyfnodau a mannau eraill; a u pharchu crefyddau a diwylliannau amrywiol. ddatblygu Iechyd a Lles drwy: u ddarparu cwricwlwm pwrpasol a llawn ar gyfer addysg gorfforol; u feithrin meddyliau bywiog ac ymchwilgar, gan gynnwys y gallu i holi a dadlau yn rhesymegol ac ymateb i dasgau; u feithrin hunanreolaeth wrth ddefnyddio offer a chyfarpar ym mhob agwedd o’r cwricwlwm; u feithrin arferion hunan-ddisgyblaeth; u greu ymwybyddiaeth o’r angen am lendid personol, moesgarwch a chwrteisi; a u hybu arferion diogelwch ac e-ddiogelwch yn yr ysgol, yn y cartref a’r gymdeithas.
Gweithgareddau Ychwanegol CODI TA L Gofynnir yn garedig i chi gyfrannu, o’ch gwirfodd, at: • ymweliadau addysgiadol; • fysiau ar gyfer gweithgareddau yn ymwneud a chwaraeon ac ymweliadau addysgiadol; • gwmni au theatr ac ymwelwyr/siaradwyr eraill; • ambell waith, adnoddau (e. e. Gwener Gwirion, cynhwysion ar gyfer coginio). Heb eich cefnogaeth, ni allwn gynnal gweithgareddau fel hyn sy’n fodd effeithiol o ddatblygu profiadau a chyfoethogi addysg ein plant. Ni fydd plentyn yn cael ei eithrio os nad ydy ei rieni yn medru talu. Mewn achosion dilys o brinder arian, cysylltwch a ’r Pennaeth os gwelwch yn dda. Cerddwn law yn llaw i gopa’r bryn
Diogelu Cerddwn law yn llaw i gopa’r bryn CANLLAWIAU AMDDIFFYN PLANT YR YSGOL Fel rhan o’r gyfundrefn amddiffyn plant, mae gan athrawon a staff ategol yr ysgol hon ddyletswydd i adnabod arwyddion o gamdriniaeth neu esgeulustod posibl a chyfeirio’u pryderon at y personau cyfrifol yn yr ysgol neu’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn syth. Pryderu am blentyn Cysylltwch a ’r isod os ydych yn pryderu bod plentyn yn dioddef niwed neu esgeulustod neu’n cael ei gamdrin. Gall y Gwasanaethau Cymdeithasol archwilio a gweithredu i warchod y plentyn, cynnig cefnogaeth a chyngor i helpu teuluoedd i gael cymorth angenrheidiol. Y Personau Cyfrifol am Amddiffyn Plant yn Ysgol Brynsaron yw: Mrs Elin Watkins a Mr Sion Owen Rhif ffo n cyswllt: 01559 370 575 Aelod o’r Llywodraethwyr â chyfrifoldeb dros Amddiffyn Plant yw Mrs Nia Stoakes. Tîm Atgyfeirio Canolog Cyngor Sir Caerfyrddin: 01554 742322 CRTChildren@carmarthenshire. gov. uk Lowri Tommason-James, Uwch Ymarferydd Ysgolion: 07964 122025 / 01267 246595 LATommason-James 1@sirgar. gov. uk Dylid cysylltu gyda’r person cyswllt yn yr awdurdod os oes honiadau sydd yn ymwneud ag Amddiffyn Plant yn erbyn y Pennaeth. FFRINDIAU YSGOL BRYNSARON https: //www. facebook. com/Ffrindiau. Ysgol. Brynsaron/ Annwyl gyd-rieni a chyfeillion, Prif no d ‘Ffrindiau Ysgol Brynsaron’ yw cyfoethogi’r profiadau mae ein plant ni yn eu cael yn yr ysgol a galluogi ein plant i gael mynediad i gyfoeth o weithgareddau sy’n datblygu sgiliau a hunan -hyder ein plant. Fel y gwyddoch mae ysgolion yn flynyddol yn derbyn cwtogiad yn eu cyllidebau ac o ganlyniad mae cyfraniad ariannol Ffrindiau Ysgol Brynsaron yn caniatau i’n plant barha u i fynd ar deithiau addysgol a chael adnoddau ar gyfer yr ysgol sy’n sicrhau bod ein plant ni ar flaen y ga d ac yn datblygu’n blant cyflawn. Mae Ffrindiau Ysgol Brynsaron yn cyfarfod yn dymhorol i drefnu a thrafod gweithgareddau ac rydym yn croesawu rhieni a chyfeillion newydd bob amser oherwydd mae gan bob rhiant a chyfaill i’r ysgol gyfraniad i’w gynnig ac rydym yn cydnabod hynny ac eisiau i bob rhiant fod a ro l weithredol. Yn gywir, Catherine Jones Cadeirydd Ffrindiau Ysgol Brynsaron
Dyddiadau Blwyddyn Academaidd 2018/2019 Cerddwn law yn llaw i gopa’r bryn
Perfformiad yr Ysgol 2017 -2018 CYFNOD SYLFAEN Canlyniadau Asesiadau Mae’r tabl canlynol yn cynnig crynodeb o berfformiad Ysgol Brynsaron mewn cymhariaeth ag asesiadau Cenedlaethol athrawon ar draws Cymru:
Perfformiad yr Ysgol 2017 -2018 CYFNOD ALLWEDDOL 2 Canlyniadau Asesiadau Mae’r tabl canlynol yn cynnig crynodeb o berfformiad Ysgol Brynsaron mewn cymhariaeth ag asesiadau Cenedlaethol athrawon ar draws Cymru: Diolch am ddarllen ein prospectws. Os ydych am ragor o wybodaeth mae croeso cynnes i chi ein ffonio neu e-bostio ac fe geisiwn ein gorau i’ch helpu.
- Slides: 22