Gweledigaeth ac athroniaeth Mae gwyddoniaeth a thechnoleg yn

  • Slides: 10
Download presentation

Gweledigaeth ac athroniaeth • Mae gwyddoniaeth a thechnoleg yn gysylltiedig o’u hanfod, ac mae’r

Gweledigaeth ac athroniaeth • Mae gwyddoniaeth a thechnoleg yn gysylltiedig o’u hanfod, ac mae’r maes yn cynnwys dylunio a thechnoleg, peirianneg, cyfrifiadureg, bioleg, cemeg a ffiseg. • Mae Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn gofyn am gael fframwaith cydlynol ar gyfer dysgu ar draws y meysydd traddodiadol, gan adlewyrchu anghenion y byd go iawn. • Mae cysyniadau sylfaenol gwyddoniaeth a meddwl cyfrifiadurol yn galluogi cynnydd technolegol. • Mae Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn cefnogi cynnydd o fewn ac ar draws arbenigeddau pynciol ac yn paratoi dysgwyr i ddefnyddio gwyddoniaeth a thechnoleg yn eu bywyd bob dydd.

Y sail resymegol dros newid • Mae ffiniau gwyddoniaeth a thechnoleg yn newid yn

Y sail resymegol dros newid • Mae ffiniau gwyddoniaeth a thechnoleg yn newid yn barhaus. • Rheidrwydd economaidd – cyfleoedd anferth i ddysgwyr. • Mae angen i ddysgwyr ymateb i heriau a chydio yng nghyfleoedd yr unfed ganrif ar hugain, beth bynnag fo’u dewis o ran gyrfa. • Nid yw’r gwaith presennol o baratoi dysgwyr yn ddigonol i ddiwallu’r anghenion. • Mae angen gwybodaeth a sgiliau – y cwbl wedi’u rhoi mewn cyd-destun drwy brofiadau. • Mae angen pobl sy’n creu technoleg ac yn ei ddefnyddio i greu, yn hytrach na defnyddwyr cymwys yn unig – dyma pam mae angen dealltwriaeth gysyniadol o gyfrifiannu.

Sut mae’n wahanol? • Mae cyfrifiannu yn elfen newydd ar gyfer 3 hyd 16

Sut mae’n wahanol? • Mae cyfrifiannu yn elfen newydd ar gyfer 3 hyd 16 oed. • Dulliau addysgu drwy dywys, sy’n cael eu harwain gan ddysgwyr, a dysgu ‘thematig’. • Gwell cydbwysedd rhwng caffael gwybodaeth a datblygu sgiliau drwy ddefnyddio profiadau dysgu yn y byd go iawn. • Mae’n debygol y bydd gofyn defnyddio dulliau amlddisgyblaethol. • Proses bontio sy’n fwy esmwyth – gyda gwell eglurdeb o ran yr hyn sydd wedi’i ddysgu’n barod ac ynghylch y camau nesaf. • Dysgu yn yr awyr agored i gyfoethogi’r profiad dysgu. • Pwyslais ar effaith gwyddoniaeth a thechnoleg ar fywydau dysgwyr ac ar yr amgylchedd.

Yr Hyn sy’n Bwysig mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg • Bod yn chwilfrydig a chwilio

Yr Hyn sy’n Bwysig mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg • Bod yn chwilfrydig a chwilio am atebion yn helpu i wella ein dealltwriaeth o’r byd naturiol ac yn hwyluso cynnydd cymdeithas. • Mae meddylfryd dylunio a pheirianneg yn ymdrechion technegol a chreadigol, a’u bwriad yw diwallu anghenion a dymuniadau cymdeithas. • Mae’r byd o’n cwmpas yn llawn pethau byw sy’n dibynnu ar ei gilydd i oroesi. • Deall natur atomig mater a’r modd y mae’n llywio’r byd. • Mae grymoedd ac egni yn pennu strwythur a deinamig y bydysawd. • Mae cyfrifiant yn cymhwyso algorithmau at ddata er mwyn datrys problemau go iawn.

Sut y gwnaethom ni gyrraedd yma? Dull gweithredu • Gweithio ac ymchwilio ar y

Sut y gwnaethom ni gyrraedd yma? Dull gweithredu • Gweithio ac ymchwilio ar y cyd i greu a threialu gwahanol syniadau; cael llawer o gyngor arbenigol. • Bu arbrofi gyda dull thematig yn defnyddio pynciau traddodiadol mewn pum datganiad bras o’r hyn sy’n bwysig yn cyfyngu ar gynnydd a chyfleoedd i arbenigo yn nes ymlaen. • Mae’r dull y cytunwyd arno’n seiliedig ar egwyddorion o ‘Big Ideas in Science’. • Y canlyniad y cytunwyd arno yw chwe datganiad o’r hyn sy’n bwysig sy’n gydgysylltiedig ac sy’n fwy hygyrch i bob athro, gan hwyluso dysgu â chwmpas eang a dysgu arbenigol.

Tystiolaeth a chyfraniad gan arbenigwyr Mae tystiolaeth a chyfraniad arbenigwyr mewn meysydd penodol yn

Tystiolaeth a chyfraniad gan arbenigwyr Mae tystiolaeth a chyfraniad arbenigwyr mewn meysydd penodol yn cynnwys y canlynol. • Ymarferwyr: Arloeswyr a’r rhai sydd ddim yn arloeswyr, ymgynghorwyr consortia rhanbarthol, addysg bellach. • Syniadau Mawr Gwyddoniaeth ac egwyddorion cynnydd: yr Athro Wynne Harlen. • Syniadau Mawr Dylunio a Thechnoleg: Dr David Barlex a Torben Steeg. • Cysyniadau cyfrifiadurol: yr Athro Crick, yr Athro Moller – Prifysgol Abertawe. • Gwyddoniaeth a Thechnoleg yng Nghymru: yr Athro Tucker/Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Tystiolaeth a chyfraniad gan arbenigwyr Mae tystiolaeth a chyfraniadau arbenigwyr mewn meysydd penodol yn

Tystiolaeth a chyfraniad gan arbenigwyr Mae tystiolaeth a chyfraniadau arbenigwyr mewn meysydd penodol yn cynnwys y canlynol. • Cwricwla rhyngwladol a ystyriwyd: Estonia, yr Almaen, Awstralia, Seland Newydd, UDA, Columbia Brydeinig, Singapôr, Ontario, y Ffindir a'r Alban. • Cyngor a chyfraniadau arbenigwyr: y Sefydliad Ffiseg, y Gymdeithas Gemeg Frenhinol, y Gymdeithas Fioleg Frenhinol, Wellcome Trust, DATA, Estyn, sefydliadau addysg uwch (Met Caerdydd, Abertawe, Bangor, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Glasgow, Stirling, Aberdeen), Engineering UK, Cymwysterau Cymru.

Ystyriaethau i ysgolion • Sut bydd eich arweinwyr, eich ymarferwyr a’ch rhwydweithiau’n gallu paratoi

Ystyriaethau i ysgolion • Sut bydd eich arweinwyr, eich ymarferwyr a’ch rhwydweithiau’n gallu paratoi ar gyfer y cyfnod nesaf o gyd-greu a rhoi adborth ystyrlon? • Beth, os o gwbl, yw’r goblygiadau o ran adnoddau (cenedlaethol a lleol)? • Sut y gallwch chi ddefnyddio dull ysgol gyfan a/neu rhyng-adrannol i sicrhau bod pawb yn: – gwybod am y cwricwlwm newydd? – deall sut i gyflwyno’r cwricwlwm newydd?

Ystyriaethau i ysgolion • Cynradd: gallai’r disgwyliadau ar gyfer dysgu yn y maes dysgu

Ystyriaethau i ysgolion • Cynradd: gallai’r disgwyliadau ar gyfer dysgu yn y maes dysgu a phrofiad hwn beri pryder i rai staff i ddechrau. Sut y byddwch yn lliniaru’r pryderon hyn? A fydd angen dysgu proffesiynol penodol? • Uwchradd: disgwyliad y bydd dysgwyr yn cael mynediad at athrawon sy’n arbenigwyr pwnc wrth iddynt symud ymlaen. Sut y byddwch chi’n hwyluso hyn yn eich ysgol chi? • Ystyriwch ehangder y maes dysgu a phrofiad hwn a sut y byddwch chi’n rheoli’r elfen gyfrifiant newydd. Beth sydd ei angen i sicrhau ei fod yn llwyddiant? • Beth yw’r goblygiadau o ran adnoddau ar gyfer eich ysgol chi sy’n deillio o’r maes dysgu a phrofiad penodol hwn?