CYFLWYNIAD I GEMEG ALCENAU CEMEG ALCENAU Cyn i
- Slides: 19
CYFLWYNIAD I GEMEG ALCENAU
CEMEG ALCENAU Cyn i chi ddechrau, byddai’n ddefnyddiol … • Galw i gof y diffiniad o fond cofalent • Deall y gwahaniaeth rhwng ymholltiad homolytig a heterolytig • Gallu cydbwyso hafaliadau syml • Gallu ysgrifennu adeileddau hydrocarbonau • Galw i gof priodweddau cemegol a ffisegol alcanau
ADEILEDD ALCENAU Cyffredinol aelodau cyfres homologaidd hydrocarbonau – cynnwys C a H yn unig fformiwla gyffredinol yw Cn. H 2 n - ar gyfer alcenau anghylchol annirlawn – gellir ychwanegu atomau at eu fformiwla cynnwys bond dwbl C=C rhywle yn eu hadeiledd Adeiledd trefniant gofodol o gwmpas y C=C yn blanar mae onglau’r bondiau yn 120°
CROESRYWEDD ORBITALAU – ADOLYGU Ffurfwedd electronol atom carbon yw 1 s 22 p 2 2 2 p 2 s 1 1 s
CROESRYWEDD ORBITALAU – ADOLYGU Ffurfwedd electronol atom carbon yw 1 s 22 p 2 2 2 s 1 Wrth roi ychydig o egni, gallwch ddyrchafu (codi) un o’r electronau s i orbital p. Bellach, y ffurfwedd yw 1 s 22 s 12 p 3 2 p 2 1 s 2 p 2 s 1 1 s Mae’r broses yn ffafriol oherwydd trefniant yr electronau; pedwar heb baru a chyda llai o wrthyrru yn fwy sefydlog
CROESRYWEDD ORBITALAU – ALCANAU Mae’r pedwar orbital (s a thri p) yn cyfuno neu’n CROESRYWIO i roi pedwar orbital newydd. Mae’r pedwar orbital yn gyfartal. 2 s 22 p 2 2 s 12 p 3 4 x sp 3
CROESRYWEDD ORBITALAU – ALCENAU Fel arall, dim ond tri orbital (un s a dau p) sy’n cyfuno neu’n CROESRYWIO i roi tri orbital newydd. Mae’r tri orbital yn gyfartal. Nid yw’r orbital 2 p sy’n weddill yn newid. 2 s 22 p 2 2 s 12 p 3 3 x sp 2 2 p
ADEILEDD ALCENAU Mewn ALCANAU, mae’r pedwar orbital sp 3 yn gwrthyrru ei gilydd i drefniant tetrahedrol. ER HYNNY. . . Mewn ALCENAU mae’r tri orbital sp 2 yn gwrthyrru ei gilydd i drefniant planar ac mae’r orbital 2 p ar onglau sgwâr iddynt
ADEILEDD ALCENAU Caiff bondiau cofalent eu ffurfio wrth i’r orbitalau orgyffwrdd. Bond SIGMA (δ) yw enw’r bond hwn. Mae orbital sp 2 o bob carbon yn gorgyffwrdd i ffurfio bond sengl C-C.
ADEILEDD ALCENAU Mae’r ddau orbital 2 p hefyd yn gorgyffwrdd i ffurfio ail fond. Gelwir hwn yn fond PI (π). Er mwyn gorgyffwrdd cymaint â phosibl a chael y bond cryfaf, mae’r orbitalau 2 p mewn llinell. Dyma sy’n achosi’r trefniant planar o amgylch bondiau C=C.
ORBITALAU YN GORGYFFWRDD MEWN ETHEN – ADOLYGU Mae dau orbital sp 2 yn gorgyffwrdd i ffurfio bond sigma rhwng y ddau atom carbon Mae dau orbital 2 p yn gorgyffwrdd i ffurfio bond pi rhwng y ddau atom carbon Mae orbitalau s mewn hydrogen yn gorgyffwrdd â’r orbitalau sp 2 mewn carbon i ffurfio bondiau C-H Mae’r siâp dilynol yn blanar gydag onglau bond o 120º
ENWI ALCENAU Caiff alcenau eu henwi yn ôl rheolau safonol Undeb Rhyngwladol Cemeg Bur a Chymhwysol [IUPAC] • dewis y gadwyn hiraf o atomau C sy’n cynnwys y bond dwbl; • rhoi’r terfyniad EN ar ddiwedd yr enw sylfaenol • rhifo’r gadwyn gan ddechrau o’r pen sydd agosaf at y bond dwbl • defnyddio rhif i ddynodi carbon rhif isaf C=C • fel mewn alcanau, rhagddodi gydag atomau dirprwyol • mae safleoedd cadwyn ochr yn seiliedig ar y rhif sydd wedi’i roi i C cyntaf C=C • os ceir isomeredd geometrig, rhagddoddi gyda cis neu trans e. e. CH 3 - CH = CH - CH 2 - CH(CH 3) - CH 3 yn 5 -methylhecs-2 -en
ISOMEREDD MEWN ALCENAU Ceir dau fath o isomeredd mewn alcenau ADEILEDDOL GEOMETRIG
ISOMEREDD ADEILEDDOL MEWN ALCENAU Mae gwahanol adeileddau yn bosibl oherwydd. . . Gwahanol safleoedd i’r bond dwbl pent-1 -en pent-2 -en Canghennu 3 -methylbwt-1 -en
ISOMEREDD GEOMETRIG MEWN ALCENAU Cyflwyniad • • enghraifft o stereoisomeredd ceir mewn rhai alcenau, ond ddim pob un digwydd oherwydd CYLCHDROI CYFYNGEDIG bondiau C=C ceir dau ffurf… CIS Grwpiau/atomau ar YR UN OCHR o’r bond dwbl TRANS Grwpiau/atomau ar OCHRAU CYFERBYN i’r bond dwbl Isomerau - priodweddau ffisegol gwahanol e. e. berwbwyntiau, dwysedd - priodweddau cemegol tebyg – yn y rhan fwyaf o achosion
ISOMEREDD GEOMETRIG CYLCHDROI CYFYNGEDIG BONDIAU C=C Gall bondiau cofalent sengl gylchdroi yn rhwydd. Er bod yr adeiledd yn ymddangos yn wahanol, nid yw’n wahanol mewn gwirionedd. Mae’n ymddangos felly, ond oherwydd y ffordd yr ysgrifennir adeileddau, maent yr un fath. MAE’R ADEILEDDAU HYN I GYD YR UN FATH OHERWYDD MAE BONDIAU C-C YN CYLCHDROI YN RHYDD Animeiddiad ddim yn gweithio mewn hen fersiynau o Power. Point
ISOMEREDD GEOMETRIG CYLCHDROI CYFYNGEDIG BONDIAU C=C Cylchdro cyfyngedig sydd gan fondiau C=C felly mae’r grwpiau ar naill ben a llall y bond wedi’u ‘rhewi’ mewn un safle; nid yw’n hawdd symud rhwng y ddau. Animeiddiad ddim yn gweithio mewn hen fersiynau Power. Point Mae dau bosibilrwydd. Ni all y ddau adeiledd gyfnewid yn rhwydd, felly mae’r atomau yn y ddau foleciwl yn cymryd gwahanol safleoedd mewn gofod.
ISOMEREDD GEOMETRIG Sut i ddweud a yw’n bodoli neu beidio Dau atom/grŵp gwahanol ynghlwm Dau atom/grŵp tebyg ynghlwm Dau atom/grŵp gwahanol ynghlwm ISOMEREDD GEOMETRIG Unwaith mae dau atom/grŵp tebyg ynghlwm wrth un pen C=C, ni ellir cael isomeredd geometrig ISOMEREDD GEOMETRIG
ISOMEREDD GEOMETRIG Isomeredd mewn bwtan Mae 3 isomer adeileddol o C 4 H 8 sy’n alcenau. * O’r rhain, DIM OND UN sy’n arddangos isomeredd geometrig. BWT-1 -EN cis BWT-2 -EN trans BWT-2 -EN 2 -METHYLPROPEN * GELLIR CAEL ALCANAU SYDD ’R FFORMIWLA C 4 H 8 OS YW’R ATOMAU CARBON MEWN CYLCH