Defnyddiau Clyfar TGAU Cemeg CBAC Uned 2 2
Defnyddiau Clyfar TGAU Cemeg CBAC Uned 2 - 2. 1 (rhan) TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) CBAC Uned 5 - 5. 1 (rhan)
Defnydd clyfar (smart) yw defnydd sydd â’i briodweddau’n newid gyda newid yn ei amgylchedd e. e. tymheredd, golau neu p. H. Mae’r newidiadau hyn yn gildroadwy (reversible).
Paent thermocromig yw paent sydd yn newid ei liw wrth ei gynhesu. Mae’n cael ei ddefnyddio mewn mygiau a monitor bath baban, sy’n troi lliw os yw’r bath yn rhy boeth.
Defnyddiau ffotocromig Defnydd ffotocromig yw defnydd sy’n newid lliw os yw’r lefel golau o’i gwmpas yn newid. Mae’n cael ei ddefnyddio mewn lensiau sbectol haul sy’n newid lliw wrth i danbeidrwydd (intensity) golau gynyddu. Cynnau’r golau
Aloion sy’n cofio siâp Aloion (cymysgedd o fetelau) yw’r rhain sydd â’r gallu i gadw eu siâp wrth eu cynhesu. Mae nitinol, Ni. Ti, sy’n gymysgedd o nicel a titaniwm. Mae’r rhain i’w cael mewn thermostatau a fframiau sbectol.
Nicel Titaniwm Adeiledd nitinol
Polymerau sy’n cofio siâp Plastigion yw’r rhain sy’n cadw eu siâp gwreiddiol pan maen nhw’n cael eu cynhesu. Maen nhw’n cael eu defnyddio mewn meddygaeth – pwythau bioddiraddadwy sy’n tynhau eu hunain a rhannau o geir sydd yn adfer eu siâp wrth eu cynhesu’n ysgafn yn dilyn tolcio (denting).
Geliau polymer Geliau yw’r rhain, megis hydrogeliau, sydd ag adeiledd trawsgyswllt sydd yn gallu cael eu chwyddo gan hydoddydd fel dŵr. Mae’r gel yn gallu chwyddo neu crebachu (i fyny at 100 gwaith ei faint) gyda newidiadau bychain mewn tymheredd neu p. H. Maen nhw’n cael eu defnyddio mewn cewynau babi a chyhyrau artiffisial.
Mae defnyddiau clyfar yn newid eu priodweddau gyda newid yn yr amgylchedd e. e. newid mewn tymheredd, golau neu p. H. Enw’r defnydd clyfar Esboniad Defnydd Polymerau cofio siâp Rhywle rhwng thermoplastigion a thermosetiau. Meddalu wrth eu gwresogi, ac yn bosibl eu hanffurfio/ymestyn. Ail-wresogi yn eu newid yn ôl i’r siâp gwreiddiol. Cyrff ceir sy’n gallu adennill eu siâp ar ôl damwain. Pwythau meddygol a fydd yn addasu eu siâp ac yn sicrhau’r tyniant cywir yn awtomatig. Paent a phigmentau thermocromig Moleciwlau organig mewn inc/paent sy’n newid lliw gyda newidiadau mewn tymheredd. Print ar grysau ‘T’ sy’n newid lliw yn ôl tymheredd y corff. Mygiau sy’n dangos tymheredd yr hylif maent yn eu dal. Paent a phigmentau ffotocromig Moleciwlau organig sy’n newid lliw wrth i olau dywynnu arnynt (yn enwedig golau UF). Mae’r golau’n torri bondiau, ac mae’r atomau’n aildrefnu gan ffurfio moleciwlau â lliw gwahanol. Sbectol haul sy’n ymateb i gryfder golau. Efallai bydd moleciwlau ffotocromig yn cael eu defnyddio i greu systemau storio data 3 D yn y dyfodol. Aloion cofio siâp Aloion nicel/titaniwm a chopr/ alwminiwm/nicel sy’n ymddangos i fod yn elastig, ond yna’n newid yn ôl i’w siâpau gwreiddiol ar ôl eu gwresogi. Fframiau sbectol. Platiau llawfeddygol ar gyfer uno toriad asgwrn a gwifrau llawfeddygol i weithredu yn lle tendonau. Hydrogeliau Polymerau trawsgysylltiedig. Yn gallu amsugno neu allyrru dŵr o ganlyniad i newidiadau mewn tymheredd neu p. H. Cyhyrau artiffisial. Ysgogwyr robotiaid.
- Slides: 9