SGILIAU SYRCAS SGILIAUR CORFF CYFAN At ddefnydd TGAU

  • Slides: 11
Download presentation
SGILIAU SYRCAS: SGILIAU’R CORFF CYFAN At ddefnydd TGAU Celfyddydau Perfformio CBAC

SGILIAU SYRCAS: SGILIAU’R CORFF CYFAN At ddefnydd TGAU Celfyddydau Perfformio CBAC

GÊM UN Gêm ystwytho corfforol Hwyaden, Gŵydd • Ffurfiwch gylch. Bydd un person (A)

GÊM UN Gêm ystwytho corfforol Hwyaden, Gŵydd • Ffurfiwch gylch. Bydd un person (A) yn cerdded o amgylch tu allan y cylch ac yn cyffwrdd ag aelodau eraill y grŵp yn ysgafn ar eu pennau gan ddweud ‘Hwyaden’ gyda phob cyffyrddiad. Ar ryw bwynt bydd A yn cyffwrdd â rhywun ac yn dweud ‘Gŵydd’. • Rhaid i’r sawl a gyffyrddwyd (B) redeg ar ôl A o amgylch y cylch, a bydd ras rhwng y ddau i sefyll yn y safle lle roedd B yn sefyll. • Bydd pwy bynnag sy’n cyrraedd gyntaf yn dod yn rhan o’r cylch a bydd y llall yn cymryd rôl A ac yn dechrau cerdded o amgylch y cylch gan gyffwrdd pennau pobl. Aiff y gêm ymlaen fel hyn.

GÊM DAU Gêm cydsymud Jyglwyr Ninja • Daliwch bêl jyglo ar eich pennau (e.

GÊM DAU Gêm cydsymud Jyglwyr Ninja • Daliwch bêl jyglo ar eich pennau (e. e. peli meddal neu ‘hacky sacks’) a dewch o hyd i le i’ch hun o gwmpas yr ystafell. • Mae’r nod yn syml, sef bwrw pêl pawb arall oddi ar eu pennau nes mai chi yw’r unig un sy’n dal i sefyll â phêl ar eich pen. Os caiff eich pêl ei tharo oddi ar eich pen rydych ‘allan’ a rhaid ichi sefyll ar yr ochr. Os yw eich pêl yn disgyn oddi ar eich pen rydych allan hefyd. • Does dim cyffwrdd corfforol i fod yn ystod y gêm.

GÊM TRI Gêm canolbwyntio Cylch Peli Anweledig • Ffurfiwch gylch. Bydd un person yn

GÊM TRI Gêm canolbwyntio Cylch Peli Anweledig • Ffurfiwch gylch. Bydd un person yn dechrau drwy ddweud enw aelod arall o’r grŵp a ‘Pêl goch’, wedyn bydd yn ‘taflu’ y bêl goch anweledig i’r sawl a enwodd. Bydd y person a ‘ddaliodd’ y bêl goch anweledig yn dilyn yr un patrwm, gan ddweud enw rhywun, a ‘Pêl goch’. • Wedyn, bydd eich athro’n ychwanegu rhagor o ‘beli anweledig’ o ba liw bynnag. • Canolbwyntiwch a bod yn glir iawn wrth gyhoeddi lliw’r bêl. • Ar ddiwedd y gêm bydd eich athro’n gofyn ichi ddweud pa liw pêl sydd gennych. Bydd hi’n ddiddorol a oes yr un nifer o beli anweledig yn dal ar ôl yn y grŵp. Fel arfer bydd nifer a lliw’r peli wedi newid oni bai eich bod yn grŵp hynod o dda am ganolbwyntio!

Sgiliau sylfaenol • Ar ddechrau pob sesiwn bydd eich athro’n ymarfer elfennau sylfaenol y

Sgiliau sylfaenol • Ar ddechrau pob sesiwn bydd eich athro’n ymarfer elfennau sylfaenol y sgiliau’n gyflym. Bydd hyn yn help i gadarnhau’r hyn sy’n cael ei ddysgu ac yn gwella eich techneg gyffredinol. • Os ydych chi o hyd yn ceisio triciau newydd heb fyth ymarfer y sgiliau sylfaenol, ni fydd dim o’ch triciau’n gadarn i’w perfformio. Bydd hyn hefyd yn eich ystwytho’n barod i roi cynnig ar driciau mwy heriol. • Rhestrir rhai o’r sgiliau sylfaenol ar y sleidiau nesaf.

SGÌL UN Llath • Ffigur wyth – ymarferwch hyn â’r ddwy law, mwy ar

SGÌL UN Llath • Ffigur wyth – ymarferwch hyn â’r ddwy law, mwy ar y llaw wannaf os oes angen. • Troelli gwastad – i’r ddau gyfeiriad os oes modd. • Planau – ceisiwch weithio trwy gymaint o blanau gan ddefnyddio’r patrwm ffigur wyth ag y gall y dysgwr eu cyflawni’n rhwydd. Gellir ymarfer troelli gwastad hefyd y tu ôl i’r cefn (plân mur) ac uwch y pen (plân nenfwd). • Ceisiwch hefyd ymarfer troi’r corff, cysylltu symudiadau ac unrhyw driciau eraill y mae’r dysgwr yn gyfforddus â nhw.

SGÌL DAU Cylchyn Hwla • Cylchdroi am y canol – i’r ddau gyfeiriad yn

SGÌL DAU Cylchyn Hwla • Cylchdroi am y canol – i’r ddau gyfeiriad yn ddelfrydol. • Cylchdroi â llaw – i’r ddau gyfeiriad, y ddwy law, ar gymaint o blanau ag y gallwch eu cyflawni’n gyfforddus. • Cylchdroi â’r corff – dylech ymarfer unrhyw ran arall o’r corff lle gallwch droi cylchyn yn gyfforddus. • Mae’n syniad da hefyd ymarfer unrhyw driciau eraill y gellir eu perfformio’n gyfforddus.

SGÌL TRI Diablo • Cynyddu cyflymder – yn aml byddwch yn ceisio gwneud triciau

SGÌL TRI Diablo • Cynyddu cyflymder – yn aml byddwch yn ceisio gwneud triciau heb fod y Diablo’n troelli’n ddigon cyflym i wneud y symudiad yn llyfn. Felly mae cadarnhau’r dechneg sylfaenol hon yn bwysig iawn. Gallwch chwarae â gwahanol amrywiadau ar gyflymu’r Diablo. • Taflu – dyma un o’r triciau cyntaf y dylid ei ddysgu, a bydd ei angen er mwyn perfformio llawer o driciau eraill, felly mae ymarfer yn hanfodol. • Eto, dylech ymarfer unrhyw driciau eraill y gallwch eu cyflawni’n gyfforddus.

Sgiliau uwch a dilyniant • Ar ôl treulio ychydig o amser yn mynd trwy’r

Sgiliau uwch a dilyniant • Ar ôl treulio ychydig o amser yn mynd trwy’r sgiliau sylfaenol, bydd eich athro/athrawes yn siarad â chi i weld pa driciau newydd yr hoffech eu dysgu ac yn cynnig cyngor ynghylch pa dechnegau sydd orau i’w hymarfer. • Wrth ganolbwyntio ar un tric newydd am sesiwn, byddwch yn aml yn gallu ei ddysgu erbyn diwedd y wers, a byddwch yn teimlo ichi gyflawni rhywbeth.

Creu trefniant sylfaenol • Mae creu trefniant yn rhan hanfodol o berfformio syrcas, felly

Creu trefniant sylfaenol • Mae creu trefniant yn rhan hanfodol o berfformio syrcas, felly syniad da iawn yw dysgu’r sgiliau sylfaenol nawr. • Perfformiwch y triciau y rydych chi’n gyfforddus â nhw yn gyntaf, cyn gorffen gyda’r tric newydd y buoch chi’n ei ymarfer yn y sesiwn honno.

Dangos yr hyn a ddysgwyd • Mae perfformio’n rheolaidd o flaen cynulleidfa’n hanfodol hefyd

Dangos yr hyn a ddysgwyd • Mae perfformio’n rheolaidd o flaen cynulleidfa’n hanfodol hefyd wrth ddysgu syrcas. • Cynhaliwch sioe fach ar ddiwedd pob sesiwn lle gall pob un berfformio yn ei dro, yn unigol, fesul dau neu mewn grwpiau. • Bydd hyn yn gwella eich presenoldeb llwyfan yn aruthrol ac yn helpu lleihau nerfau yn y dyfodol. • Mae’n bwysig eich bod yn gefnogol iawn i’ch cydberfformwyr yn y rhan hon o’r sesiwn.