Meddyginaethau ar gyfer y dyfodol chwilio am wrthfiotigau

  • Slides: 9
Download presentation
Meddyginaethau ar gyfer y dyfodol – chwilio am wrthfiotigau newydd ‘’Tydi pob bacteria ddim

Meddyginaethau ar gyfer y dyfodol – chwilio am wrthfiotigau newydd ‘’Tydi pob bacteria ddim yn cael ei ladd can wrthfiotigau erbyn hyn. Mae’r bacteria sydd yn gwrthsefyll gwrthfiotigau yn gwneud pobl yn sâl iawn. Rydym angen meddyginiaethau newydd drwy’r amser er mwyn parhau i frwydro yn erbyn afiechydon yn llwyddiannus’ ‘Nid yw yn hawdd canfod cemegau sy’n lladd bacteria ond sydd yn ddiogel i bobl. Mae’n rhaid i wyddonwyr chwilio ym mhob math o lefydd. ’

Gwyddonydd 1 ‘Mae llawer o’r gwrthfiotigau sydd gennym eisoes - fel penisilin - wedi

Gwyddonydd 1 ‘Mae llawer o’r gwrthfiotigau sydd gennym eisoes - fel penisilin - wedi eu creu o lwydni. Mae llawer o lwydni’n cael ei ganfod mewn priddoedd. Mae fy nhîm i yn edrych ar bridd ar draws y byd. Rydym yn chwilio am lwydni newydd sydd yn gwneud cemegau a fydd yn gallu lladd bacteria. ’

Gwyddonydd 2 ‘Rydw i’n edrych ar y ffordd y mae bacteria’n byw ac yn

Gwyddonydd 2 ‘Rydw i’n edrych ar y ffordd y mae bacteria’n byw ac yn tyfu, ac yna’n defnyddio fy nghyfrifiadur i geisio cynllunio cemegau newydd fydd yn rhwystro’r bacteria rhag tyfu, ac yn lladd y bacteria hynny’.

Gwyddonydd 3 ‘Roedd trigolion yr hen Aifft yn defnyddio mêl i geisio gwella briwiau.

Gwyddonydd 3 ‘Roedd trigolion yr hen Aifft yn defnyddio mêl i geisio gwella briwiau. Rydym yn credu fod y syniad yma yn un da!. Mae’n ymddangos bod mêl yn cynnwys cemegau sydd yn rhwystro heintiau sydd yn cael eu hachosi gan facteria. Rydym yn ceisio deall sut mae hyn yn gweithio. ’

Gwyddonydd 4 ‘Mae crocodeiliaid yn aml yn ymladd ac yn rhoi cnoadau câs i’w

Gwyddonydd 4 ‘Mae crocodeiliaid yn aml yn ymladd ac yn rhoi cnoadau câs i’w gilydd. Yn rhyfeddol dydi’r briwiau yma ddim yn mynd yn ddrwg er bod dannedd crocodeil yn fudr iawn a chrocodeiliaid yn byw mewn dŵr budr llawn bacteria. Buom yn edrych ar waed crocodeil - nid gwaith hawdd - i geisio canfod pam nad yw’r bacteria’n heintio’r crocodeiliaid. ’ ‘Rydym wedi canfod cemegyn mewn gwaed crocodeil sy’n lladd bacteria - hyd yn oed bacteria sydd yn gwrthsefyll gwrthfiotigau eraill. Rydym yn mawr obeithio y bydd crocodilin, fel yr ydym wedi galw’r feddyginiaeth, yn gallu bod yn feddyginiaeth bwysig yn y dyfodol!’

Gwyddonydd 5 ‘Busnes drewllyd ydi’n gwaith ymchwil ni! Mae’n ymddangos bod y llysnafedd ar

Gwyddonydd 5 ‘Busnes drewllyd ydi’n gwaith ymchwil ni! Mae’n ymddangos bod y llysnafedd ar groen pysgod yn eu gwarchod rhag haint. Os yw pysgod yn colli eu llysnafedd, bydd eu croen yn cael ei heintio’n fuan. Rydym eisiau gwybod a yw llysnafedd pysgod yn cynnwys cemegau y gallem eu defnyddio i wneud gwrthfiotigau defnyddiol i bobl’. Rydym yn tynnu cemegolion gwahanol o lysnafedd pysgodyn a chanfod pa mor dda y gallant ladd bacteria. Mae ffordd bell i fynd ond rydym yn obeithiol”.

Gwyddonydd 6 ‘Rydym yn edrych ar organebau o lan y môr wrth chwilio am

Gwyddonydd 6 ‘Rydym yn edrych ar organebau o lan y môr wrth chwilio am wrthfiotigau newydd. ‘Rydym wedi canfod bacteria ar draethau yn yr Alban sydd yn rhoi canlyniadau eithaf cyffrous i ni. Maent yn cynhyrchu cemegau sydd yn lladd bacteria – gan gynnwys bacteria sydd yn gwrthsefyll gwrthfiotigau eraill. ’

Gwyddonydd 7 ‘Rydym wedi bod yn edrych ar y moroedd hefyd – ond nid

Gwyddonydd 7 ‘Rydym wedi bod yn edrych ar y moroedd hefyd – ond nid ger y glannau! Gall rhai bacteria sydd wedi eu canfod yn nyfroedd dyfnaf y môr fod o ddefnydd i ladd bacteria eraill sydd yn achosi afiechydon. ‘Rydym wedi galw rhai o’r cemegau mwyaf defnyddiol a ganfuwyd hyd yn hyn yn abyssomycin gan eu bod yn dod o ddyfnderoedd mwyaf y môr, a elwir yn abyss. Byddwn yn dal i chwilio nes canfod y cemegau cywir!’

‘Waw – Dwi’n meddwl fod hynna’n wych. Dwi eisiau bod yn wyddonydd pan fyddai

‘Waw – Dwi’n meddwl fod hynna’n wych. Dwi eisiau bod yn wyddonydd pan fyddai wedi ‘A fi hefyd!’ tyfu’n fawr, a helpu i ganfod meddyginaetha u newydd…. ’ go back to the menu