Cyflwyniad i ddiogelu unigolion NOD Nodi diffiniadau syn

  • Slides: 21
Download presentation
Cyflwyniad i ddiogelu unigolion NOD Nodi diffiniadau sy'n gysylltiedig â cham-drin ac esgeulustod sydd

Cyflwyniad i ddiogelu unigolion NOD Nodi diffiniadau sy'n gysylltiedig â cham-drin ac esgeulustod sydd wedi'u cynnwys yn y canllawiau statudol i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)

Diffiniadau o 'oedolyn' a 'plentyn' At ddibenion y Ddeddf hon: • “Oedolyn” • –

Diffiniadau o 'oedolyn' a 'plentyn' At ddibenion y Ddeddf hon: • “Oedolyn” • – person sy'n 18 oed neu drosodd “Plentyn” – person dan 18 oed

Diffiniad o 'ofalwr' Person sy'n darparu neu'n bwriadu darparu gofal i oedolyn neu blentyn

Diffiniad o 'ofalwr' Person sy'n darparu neu'n bwriadu darparu gofal i oedolyn neu blentyn anabl ond Nid yw person yn ofalwr at ddibenion y Ddeddf hon os yw: - O dan gontract neu yn rhinwedd contract (yn cael budd o gontract) - Yn gwneud gwaith gwirfoddol - Yn cael ei gadw mewn carchar neu lety cadw ieuenctid, neu - Ar ôl cael ei gollfarnu o drosedd, yn preswylio mewn man a gymeradwywyd

Diffiniad o 'anabl' Mae person yn “anabl” os oes ganddo anabledd at ddibenion Deddf

Diffiniad o 'anabl' Mae person yn “anabl” os oes ganddo anabledd at ddibenion Deddf Cydraddoldeb 2010, yn ddarostyngedig i ddarpariaeth a wneir o dan is-adran (6) Caiff rheoliadau ddarparu bod person sy'n dod o dan gategori penodedig i'w drin neu i beidio â chael ei drin fel un sy'n anabl at ddibenion y Ddeddf hon.

Diogelu – amddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod Yn gysylltiedig ag egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol

Diogelu – amddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod Yn gysylltiedig ag egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) i hyrwyddo llesiant – mae hyn yn cyfeirio at lesiant unigolyn sydd angen gofal a chymorth yn ogystal â gofalwyr sydd angen cymorth ac mae'n cynnwys y canlynol: • Iechyd corfforol, iechyd meddwl a llesiant emosiynol • Amddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod • Addysg, hyfforddiant a gweithgareddau hamdden • Perthynas ddomestig, teuluol a phersonol • Gallu cymryd rhan a chyfrannu at gymdeithas • Parchu a sicrhau hawliau • Llesiant cymdeithasol ac economaidd • Llety preswyl addas

Oedolion sy'n wynebu risg – mae Adran 126 (1) yn diffinio oedolyn sy'n wynebu

Oedolion sy'n wynebu risg – mae Adran 126 (1) yn diffinio oedolyn sy'n wynebu risg fel oedolyn: • Sy'n cael, neu sy'n wynebu risg o gael, ei gam-drin neu ei esgeuluso • Y mae arno anghenion gofal a chymorth (p'un a yw'r awdurdod yn diwallu unrhyw un neu rai o'r anghenion hynny ai peidio), ac Nad yw'n gallu, o ganlyniad i'r anghenion hynny, amddiffyn ei hun rhag cael, neu'r risg o gael, ei gam-drin neu ei esgeuluso •

Diffiniadau o 'gam-drin' ac 'esgeulustod' – Adran 197 (1) o'r Ddeddf: Ystyr “camdriniaeth” a

Diffiniadau o 'gam-drin' ac 'esgeulustod' – Adran 197 (1) o'r Ddeddf: Ystyr “camdriniaeth” a “cham-drin” yw camdriniaeth gorfforol, rhywiol, seicolegol, emosiynol neu ariannol. • Mae'n cynnwys camdriniaeth sy'n digwydd mewn unrhyw leoliad, p'un ai mewn annedd breifat, mewn sefydliad neu mewn unrhyw fan arall. • • Mae “camdriniaeth ariannol” yn cynnwys: - Bod arian neu eiddo arall person yn cael ei ddwyn - Bod person yn cael ei dwyllo - Bod person yn cael ei roi o dan bwysau o safbwynt arian neu eiddo arall -Bod arian neu eiddo arall person yn cael ei gamddefnyddio

Diffiniad o 'esgeulustod' Adran 197 (1) o'r Ddeddf: Ystyr “esgeulustod” yw methiant i ddiwallu

Diffiniad o 'esgeulustod' Adran 197 (1) o'r Ddeddf: Ystyr “esgeulustod” yw methiant i ddiwallu anghenion corfforol, emosiynol, cymdeithasol neu seicolegol sylfaenol person, sy'n debygol o arwain at amharu ar lesiant y person (er enghraifft, amharu ar iechyd y person neu, yn achos plentyn, amharu ar ddatblygiad y plentyn).

Categorïau o gamdriniaeth ac esgeulustod: rhai enghreifftiau • Cam-drin corfforol – taro, slapio, gorddefnyddio

Categorïau o gamdriniaeth ac esgeulustod: rhai enghreifftiau • Cam-drin corfforol – taro, slapio, gorddefnyddio neu gamddefnyddio meddyginiaethau, ataliaeth ddiangen, neu gosbi amhriodol • Cam-drin rhywiol – treisio neu ymosodiad rhywiol neu weithredoedd rhywiol nad yw neu na allai'r unigolyn sy’n agored i niwed gydsynio iddynt a/neu a oedd wedi'i roi o dan bwysau i gydsynio • Cam-drin seicolegol – bygwth niweidio neu adael, rheolaeth gymhellol, bychanu, cam-drin geiriol, cam-drin hiliol, ynysu neu dynnu gwasanaethau neu rwydweithiau cymorth yn ôl; mae rheolaeth gymhellol yn weithred neu’n batrwm o weithredoedd o ymosodiadau, bygythiadau, bychanu, bygwth neu gam-drin arall a ddefnyddir i niweidio, cosbi neu ddychryn y dioddefwr.

Categorïau o gamdriniaeth ac esgeulustod: rhai enghreifftiau Esgeuluso - methiant i ganiatáu mynediad at

Categorïau o gamdriniaeth ac esgeulustod: rhai enghreifftiau Esgeuluso - methiant i ganiatáu mynediad at ofal neu wasanaethau meddygol; esgeulustod yn wyneb cymryd risgiau; methiant i roi meddyginiaethau rhagnodedig; methiant i helpu â hylendid personol neu ddarparu bwyd, lloches, dillad; esgeulustod emosiynol

Categorïau o gamdriniaeth ariannol • Newid ewyllys yn annisgwyl • Gwerthu neu drosglwyddo cartref

Categorïau o gamdriniaeth ariannol • Newid ewyllys yn annisgwyl • Gwerthu neu drosglwyddo cartref yn annisgwyl • Gweithgarwch anarferol ar gyfrif banc • Enwau ychwanegol wedi'u cynnwys ar gyfrif banc • Llofnod ddim yn edrych fel llofnod arferol y person • Amharodrwydd • Yn neu bryder wrth drafod eu materion ariannol rhoi anrheg sylweddol i ofalwr neu drydydd parti

Categorïau o gamdriniaeth ariannol • Diddordeb sydyn, annisgwyl gan berthynas neu drydydd parti arall

Categorïau o gamdriniaeth ariannol • Diddordeb sydyn, annisgwyl gan berthynas neu drydydd parti arall yn llesiant y person • Biliau heb eu talu • Cwynion bod eiddo personol wedi diflannu • Dirywiad yn ymddangosiad person a allai awgrymu bod diet a gofynion personol yr unigolyn yn cael eu hanwybyddu • Rhywun yn cael ei ynysu'n fwriadol rhag ffrindiau a theulu ac yn rhoi rheolaeth lwyr dros wneud penderfyniadau i rywun arall

Plentyn sy'n wynebu risg – mae Adran 130 (4) yn diffinio plentyn sy'n wynebu

Plentyn sy'n wynebu risg – mae Adran 130 (4) yn diffinio plentyn sy'n wynebu risg fel plentyn: • Sy'n cael, neu sy'n wynebu risg o gael, ei gam-drin neu ei esgeuluso neu ddioddef mathau eraill o niwed, ac • Y mae arno anghenion am ofal a chymorth (p'un a yw'r awdurdod yn diwallu unrhyw un neu rai o'r anghenion hynny ai peidio). • Mae nifer o'r diffiniadau o gam-drin ac esgeulustod sy'n berthnasol i oedolion hefyd yn berthnasol i blant. • Mae'n cynnwys hefyd gamdriniaeth sy'n benodol i blant, er enghraifft camfanteisio'n rhywiol ar blant.

Diffiniad o blentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol Mae plentyn sy'n derbyn gofal

Diffiniad o blentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol Mae plentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol yn blentyn: • Sydd yng ngofal yr awdurdod lleol, neu Y mae llety wedi ei ddarparu iddo gan yr awdurdod wrth i'r awdurdod arfer unrhyw un neu rai o'r swyddogaethau sy'n swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, ac eithrio swyddogaethau o dan Adran 15, Rhan 4, neu Adran 109, 114 neu 115. • Ystyr “llety” yw llety a ddarperir am gyfnod parhaus o fwy na 24 awr.

Diffiniad o bartner perthnasol i awdurdod lleol – Adran 162 (4) • Corff plismona

Diffiniad o bartner perthnasol i awdurdod lleol – Adran 162 (4) • Corff plismona lleol a phrif swyddog yr heddlu ar gyfer ardal heddlu • Unrhyw awdurdod lleol arall y mae'r awdurdod yn cytuno y byddai'n briodol cydweithredu ag ef • Yr Ysgrifennydd Gwladol i'r graddau y mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn cyflawni swyddogaethau o dan Adrannau 2 a 3 o Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2007 o ran Cymru • Unrhyw ddarparwr gwasanaethau prawf y mae'n ofynnol iddo gan drefniadau o dan Adran 3(2) o Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2007 weithredu fel partner perthnasol i'r awdurdod

Diffiniad o bartner perthnasol i awdurdod lleol – Adran 162 (4) • Bwrdd Iechyd

Diffiniad o bartner perthnasol i awdurdod lleol – Adran 162 (4) • Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer ardal y mae unrhyw ran ohoni o fewn ardal yr awdurdod • Ymddiriedolaeth GIG sy'n darparu gwasanaethau yn ardal yr awdurdod • Gweinidogion Cymru i'r graddau y maent yn cyflawni swyddogaethau o dan Ran 2 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 • Unrhyw bennu berson, neu berson o unrhyw ddisgrifiad, y bydd rheoliadau yn ei

Dyletswydd i hysbysu am oedolion sy'n wynebu risg • Os oes gan bartner perthnasol

Dyletswydd i hysbysu am oedolion sy'n wynebu risg • Os oes gan bartner perthnasol awdurdod lleol sail resymol dros gredu bod person yn oedolyn sy'n wynebu risg, a'i bod yn ymddangos bod y person hwnnw o fewn ardal yr awdurdod, rhaid iddo hysbysu'r awdurdod lleol am y ffaith honno. • Os yw'n ymddangos bod y person, y mae gan y partner perthnasol sail resymol dros gredu bod y person hwnnw yn oedolyn sy'n wynebu risg, o fewn ardal awdurdod lleol ac eithrio un y mae'n bartner perthnasol iddo, rhaid iddo hysbysu'r awdurdod lleol arall hwnnw. • Os oes gan awdurdod lleol sail resymol dros gredu bod person o fewn ei ardal ar unrhyw adeg yn oedolyn sy'n wynebu risg a'i fod yn byw neu'n bwriadu byw yn ardal awdurdod lleol arall (neu awdurdod lleol yn Lloegr), rhaid iddo hysbysu'r awdurdod arall hwnnw.

Dyletswydd i hysbysu am blentyn/plant sy'n wynebu risg • Os oes gan bartner perthnasol

Dyletswydd i hysbysu am blentyn/plant sy'n wynebu risg • Os oes gan bartner perthnasol awdurdod lleol sail resymol dros gredu bod plentyn yn blentyn sy'n wynebu risg, a'i bod yn ymddangos bod y plentyn hwnnw o fewn ardal yr awdurdod, rhaid iddo hysbysu'r awdurdod lleol am y ffaith honno. • Os yw'n ymddangos bod y plentyn y mae gan y partner perthnasol sail resymol dros gredu bod y plentyn hwnnw yn blentyn sy'n wynebu risg, o fewn ardal awdurdod lleol ac eithrio un y mae'n bartner perthnasol iddo, rhaid iddo hysbysu'r awdurdod lleol arall hwnnw.

Dyletswydd i hysbysu am blentyn/plant sy'n wynebu risg Os oes gan awdurdod lleol sail

Dyletswydd i hysbysu am blentyn/plant sy'n wynebu risg Os oes gan awdurdod lleol sail resymol dros gredu bod plentyn o fewn ei ardal ar unrhyw adeg yn blentyn sy'n wynebu risg a'i fod yn byw neu'n bwriadu byw yn ardal awdurdod lleol arall (neu awdurdod lleol yn Lloegr), rhaid iddo hysbysu'r awdurdod arall hwnnw. “Plentyn sy'n wynebu risg” yw plentyn: • Sy'n cael, neu sy'n wynebu risg o gael, ei gam-drin neu ei esgeuluso neu ddioddef mathau eraill o niwed, a • Y mae arno anghenion am ofal a chymorth (p'un a yw'r awdurdod yn diwallu unrhyw un neu rai o'r anghenion hynny ai peidio)

Dyletswydd i hysbysu am blentyn/plant sy'n wynebu risg Mae partner perthnasol awdurdod lleol yn:

Dyletswydd i hysbysu am blentyn/plant sy'n wynebu risg Mae partner perthnasol awdurdod lleol yn: • Berson sy'n bartner perthnasol yr awdurdod lleol at ddibenion Adran 162 (4) o'r Ddeddf • Tîm troseddwyr ifanc ar gyfer ardal y mae unrhyw ran ohoni yn dod o fewn ardal yr awdurdod Er mwyn gweld darpariaeth am ddyletswydd awdurdod lleol i ymchwilio i blant sy'n wynebu risg, ewch i Adran 47 o Ddeddf Plant 1989.

I gloi'r cyflwyniad hwn: Rydych chi wedi nodi diffiniadau sy'n gysylltiedig â cham-drin ac

I gloi'r cyflwyniad hwn: Rydych chi wedi nodi diffiniadau sy'n gysylltiedig â cham-drin ac esgeulustod sydd wedi'u cynnwys yn y canllawiau statudol ar Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). • • Mae'r Ddeddf hon yn cyfeirio at 'wynebu risg' sy'n adlewyrchu'r dull ataliol a rhagweithiol tuag at ddiogelu unigolion. Dim ond amlinelliad o'r diffiniadau sydd yn y cyflwyniad hwn – rydym yn eich annog chi i ymgyfarwyddo ag agweddau eraill ar Ran 7 (diogelu) Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), er enghraifft gorchmynion amddiffyn a chynorthwyo oedolion; dyletswydd i gydweithredu, adrodd ac ymholi; byrddau diogelu a'r bwrdd diogelu annibynnol cenedlaethol. •