Ynni Adnewyddadwy a Charbon Isel Yr Amgylchedd Naturiol
Ynni Adnewyddadwy a Charbon Isel Yr Amgylchedd Naturiol
Yr Amgylchedd Naturiol: Ynni Adnewyddadwy a Charbon Isel Braslun • Pam fod angen mathau amgen o ynni arnom ni? • Ffynonellau ynni adnewyddadwy ac anadnewyddadwy • Casgliadau
Yr Amgylchedd Naturiol: Ynni Adnewyddadwy a Charbon Isel Pam fod angen mathau amgen o ynni arnom ni? • Ers y chwyldro diwydiannol, cafwyd cynnydd o 38% yn lefelau'r CO 2 yn yr atmosffer (Y Swyddfa Dywydd, 2014). • Deellir mai'r cynnydd mewn CO 2 sy'n achosi newid hinsawdd ac mae wedi arwain at nifer o broblemau amgylcheddol
Yr Amgylchedd Naturiol: Ynni Adnewyddadwy a Charbon Isel GWEITHGAREDD 1 GOBLYGIADAU NEWID HINSAWDD
Yr Amgylchedd Naturiol: Ynni Adnewyddadwy a Charbon Isel Problemau amgylcheddol • Tymheredd uwch • Cafwyd cynnydd o 0. 89°C yn nhymheredd cyfartalog wyneb y blaned rhwng 1901 a 2012 • Ni chafwyd cynnydd mor gyflym â hyn cyn y chwyldro diwydiannol • Patrymau glawiad yn newid • Mae data'n awgrymu bod patrymau glawiad yn newid • Yn y DU, mae mwy o law yn y gaeaf; mae llai o law yn yr haf • Gogledd America – mae digwyddiadau glaw trwm yn fwy dwys • Byd natur yn newid • Mae newid i'r tymheredd wedi arwain at newid i'r tymhorau • Mae'n peri problemau i fywyd gwyllt • Mae'r gwanwyn yn dechrau'n gynharach yn y DU, ac felly mae glöynnod byw'n ymddangos yn gynharach ac mae adar yn newid eu patrymau mudo
Yr Amgylchedd Naturiol: Ynni Adnewyddadwy a Charbon Isel Problemau amgylcheddol • Rhew'n toddi a lefel y môr yn codi • Mae rhewlifoedd y byd yn toddi'n gyflymach • Mae Llenni Iâ'r Ynys Werdd a'r Antarctig, sy'n storio tua 99% o rew dŵr croyw'r ddaear, hefyd yn toddi'n gyflymach (NSIDC, 2015) • Pe bai Llenni Iâ'r Ynys Werdd a'r Antarctig yn toddi'n llwyr, byddai lefel y môr yn codi dros 70 metr (NSIDC, 2015) • Nid yw'n debygol o ddigwydd yn y dyfodol hyd y gallwn ei ragweld, ond mae lefel y môr yn codi'n araf ac fe allai hynny effeithio'n fawr ar ardaloedd arfordirol • Mae lefel y môr yn codi oherwydd dwy ffactor hinsoddol 1. Rhewlifoedd yn toddi gan fod y tymheredd yn codi • 2. Amcangyfrifir iddynt doddi ar gyfradd o 0. 69 mm y flwyddyn rhwng 1961 a 2003 (IPCC, 2007) Ehangiad thermol • Mae'r tymheredd uwch wedi arwain at ehangiad thermol y môr, ac felly mae lefel y môr wedi codi 0. 42 mm y flwyddyn rhwng 1961 a 2003 (IPCC, 2007)
Yr Amgylchedd Naturiol: Ynni Adnewyddadwy a Charbon Isel Problemau amgylcheddol • Rhew morol • Nid yw lefel y môr yn codi oherwydd bod rhew morol yn toddi gan ei fod eisoes ar y môr • Mae'n effeithio ar yr hinsawdd • Mae rhew morol yn helpu i gadw'r pegynau'n oer ac mae ei arwyneb llachar yn adlewyrchu 80% o olau'r haul yn ôl i'r gofod • Os bydd y rhew hwn yn toddi, bydd y cefnfor a fydd yn llygad yr haul yn amsugno 90% o olau'r haul ac fe allai beri i dymheredd y môr godi mwy (NSIDC, 2015) Os na wnaiff y byd weithredu, gallai'r tymheredd godi dros 4°C. Byddai cynnydd o 2°C yn cael effaith ddifrifol. Gallai cynnydd uwch fod yn drychinebus (Wicks, 2008).
Yr Amgylchedd Naturiol: Ynni Adnewyddadwy a Charbon Isel Ffynonellau ynni anadnewyddadwy • Ar hyn o bryd, mae'r DU yn llosgi tanwydd ffosil i ateb y galw am ynni • Glo, petrolewm a nwy naturiol • Pan fo tanwydd o'r fath yn cael ei losgi, mae'n rhyddhau llygryddion a nwyon tŷ gwydr, gan gyfrannu at newid hinsawdd • Fe'u gelwir yn "ffynonellau ynni anadnewyddadwy" oherwydd byddant yn dod i ben yn y pen draw
Yr Amgylchedd Naturiol: Ynni Adnewyddadwy a Charbon Isel GWEITHGAREDD 2 PWER NIWCLEAR A FFRACIO: ATEBION I’R DIFFYG YNNI NEU DRYCHINEBAU AR Y GORWEL?
Yr Amgylchedd Naturiol: Ynni Adnewyddadwy a Charbon Isel Ffynonellau ynni anadnewyddadwy • Glo • Mae’n dod o blanhigion wedi’u ffosileiddio • Mae’n cael ei gloddio o wythïen lo rhwng haenau o graig yn y ddaear • Mae’n cael ei losgi i ddarparu gwres neu drydan • Mae disgwyl iddo bara am 250 mlynedd • Mae’n creu llygryddion a nwyon tŷ gwydr (CO 2) • Olew • Hylif carbon sy’n dod o anifeiliaid wedi’u ffosileiddio yw olew • Mae’n cael ei bwmpio o gronfeydd rhwng gwythiennau o graig yn y ddaear • Mae’n cael ei ddefnyddio’n helaeth mewn diwydiant a thrafnidiaeth • Mae disgwyl iddo bara am 50 mlynedd • Mae’n creu llygryddion a nwyon tŷ gwydr (CO 2)
Yr Amgylchedd Naturiol: Ynni Adnewyddadwy a Charbon Isel Ffynonellau ynni anadnewyddadwy • Nwy naturiol • Nwy hydrocarbon sy’n cynnwys methan yn bennaf a nwyon eraill • Mae’n cael ei ryddhau drwy bibellau sy’n cael eu gosod mewn gwythiennau o graig lle mae’r nwy wedi’i ddal • Yn aml, mae’n cael ei ddefnyddio i wresogi • Mae disgwyl iddo bara am 70 mlynedd • Mae’n creu llygryddion a nwyon tŷ gwydr (CO 2) • Biomas (gall fod yn adnewyddadwy neu’n anadnewyddadwy ) • Mae’n dod o wastraff planhigion neu wastraff anifeiliaid sy’n pydru • Gellir defnyddio’r cemegau ar gyfer tanwydd mewn peiriannau disl, neu gellir llosgi deunydd organig i greu gwres a thrydan • Gall fod yn adnewyddadwy os caiff cnydau’u hailblannu. Os na chaiff cnydau’u hailblannu, nid yw biomas yn ffynhonnell ynni adnewyddadwy • Mae’n creu llygryddion a nwyon tŷ gwydr (CO 2)
Yr Amgylchedd Naturiol: Ynni Adnewyddadwy a Charbon Isel Ffynonellau ynni anadnewyddadwy • Pren (gall fod yn adnewyddadwy neu’n anadnewyddadwy ) • Ceir gafael arno drwy gwympo coed • Mae’n cael ei losgi i ddarparu gwres neu olau • Gall fod yn adnewyddadwy os caiff coed eu hailblannu. Os na chaiff coed eu hailblannu, nid yw'n ffynhonnell ynni adnewyddadwy • Mae’n creu llygryddion a nwyon tŷ gwydr (CO 2) • Niwclear • Mae’n cael ei gynhyrchu o fwynau ymbelydrol sy’n cael eu cloddio, fel wraniwm • Mae’n cael ei ddefnyddio i gynhyrchu ynni drwy hollti atomau yn y mwynau hyn mewn adweithyddion niwclear (ymholltiad niwclear) • Gall ychydig bach o ddeunydd ymbelydrol gynhyrchu llawer o ynni • Nid yw’n cynhyrchu llygryddion atmosfferig na nwyon tŷ gwydr • Mae gwastraff niwclear yn wenwynig iawn a rhaid ei storio’n ddiogel am gannoedd neu filoedd o flynyddoedd • Gall gollyngiadau a damweiniau fod yn drychinebus i bobl a’r amgylchedd (e. e. Chernobyl, 1986)
Yr Amgylchedd Naturiol: Ynni Adnewyddadwy a Charbon Isel Ffynonellau ynni adnewyddadwy • Nod y DU yw ateb 15% o’r holl alw am ynni drwy ddefnyddio ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2020 • Mae ffynonellau ynni adnewyddadwy’n cael eu hadnewyddu’n naturiol ac ni ddylent ddod i ben
Yr Amgylchedd Naturiol: Ynni Adnewyddadwy a Charbon Isel Ffynonellau ynni adnewyddadwy • Ynni solar • Mae celloedd ffotofoltäig/solar yn trosi golau’r haul yn drydan • Mae gweithfeydd pŵer solar yn dal gwres yr haul i gynhyrchu stêm ac i yrru generaduron trydan • Nid yw ynni solar yn llygru aer na dŵr • Mae’r ynni ar gael “am ddim” • Gall niweidio’r ecosystem os na chaiff ei reoli’n briodol • Pŵer y gwynt • Lleolir tyrbinau mewn ardaloedd lle mae’r gwynt yn gryf ac yn gyson – e. e. ar y môr ac ar dir uchel • Nid yw ynni gwynt yn llygru aer na dŵr, ond gall y prosesau gweithgynhyrchu rhywfaint o lygredd • Mae’r ynni ar gael “am ddim” • Mae angen ffermydd gwynt mawr i gynhyrchu trydan ar raddfa fawr
Yr Amgylchedd Naturiol: Ynni Adnewyddadwy a Charbon Isel Ffynonellau ynni adnewyddadwy • Pŵer y llanw • Mae symudiad y llanw’n gyrru tyrbinau i gynhyrchu ynni • Mae’r dŵr yn cael ei wthio drwy fylchau mewn morglawdd llanw sy’n cael ei adeiladu ar draws aber • Gall morgloddiau helpu i atal llifogydd a gallant hefyd fod yn bontydd • Nid yw pob aber yn addas • Gall effeithio’n negyddol ar fywyd gwyllt a gall rwystro carthion rhag llifo i’r môr • Pŵer y tonnau • Mae symudiad dŵr y môr yn cywasgu aer sydd wedi’i ddal mewn ceudwll ar y lan ac mae’n gyrru tyrbin i gynhyrchu ynni • Fel arfer, fe’i defnyddir ar raddfa leol
Yr Amgylchedd Naturiol: Ynni Adnewyddadwy a Charbon Isel Ffynonellau ynni adnewyddadwy • Ynni geothermol • Gellir defnyddio gwres naturiol y ddaear i gynhyrchu stêm i yrru tyrbinau ac i gynhyrchu trydan • Dim ond mewn ardaloedd lle mae gweithgarwch folcanig y mae’n gweithio • Rhaid gwaredu elfennau peryglus y ceir hyd iddynt o dan y ddaear yn ofalus • Pŵer trydan dŵr • Defnyddir symudiad dŵr drwy afonydd, llynnoedd ac argaeau i gynhyrchu ynni • Gall achosi llifogydd mewn ardaloedd cyfagos • Mae argaeau’n cael effaith ecolegol fawr ar hydroleg leol
Yr Amgylchedd Naturiol: Ynni Adnewyddadwy a Charbon Isel GWEITHGAREDD 3 DYFODOL CARBON ISEL
Yr Amgylchedd Naturiol: Ynni Adnewyddadwy a Charbon Isel Casgliadau • Wedi cyflwyno ffynonellau ynni adnewyddadwy ac anadnewyddadwy • Wedi asesu'r berthynas rhyngddynt a'r ddadl am newid hinsawdd • Wedi asesu manteision ac anfanteision y gwahanol ffynonellau • Wedi deall goblygiadau defnyddio'r ffynonellau sy'n cynhyrchu nwyon tŷ gwydr
- Slides: 18