Ymchwilo teganau neu gemau poblogaidd Sut caiff microbrosesyddion
Ymchwilo teganau neu gemau poblogaidd. Sut caiff microbrosesyddion eu defnyddio mewn teganau electronig? Dadosod car tegan Cefndir y cynnyrch. Mae pedwar botwm y gellir eu pwyso ar do’r car. O gael eu pwyso bydd pob un yn creu sŵn gwahanol a bydd y prif oleuadau a’r golau glas yn fflachio. Efallai eich bod chi hefyd wedi sylwi ar deganau tebyg. Beth ydych chi’n meddwl sy’n rheoli’r goleuadau a’r sŵn?
Sut caiff microbroesyddion eu defnyddio mewn teganau electronig? Gadewch i ni edrych y tu mewn i’r car Dau brif ran sydd i’r car. Pa ddull cynhyrchu a ddefnyddiwyd i wneud y ddau ran? Mae paent arian wedi cael ei chwistrellu ar dop y car. Pa faterion iechyd a diogelwch sy’n berthnasol i weithwyr a defnyddwyr offer chwistrellu paent? Allwch chi weld y cylchred electronig y tu mewn? Mae pedair sgriw hunandapio yn uno dau ran y car at ei gilydd. Pam na ddefnyddiwyd glud i wneud hyn?
Sut caiff microbrosesyddion eu defnyddio mewn teganau electronig? Mae angen batris i wneud i’r tegan hwn weithio felly mae angen i ddylunydd tegan ystyried sawl ffactor. Sut y gellir sicrhau y bydd oedolyn (ond nid plentyn) yn gallu adnewyddu’r batris yn hawdd, ? Sut mae sicrhau y bydd y batris yn aros yn eu lle os yw’r tegan yn cael ei drin yn galed? Beth yw’r foltedd diogel isaf y gall y tegan ei ddefnyddio? Sut bydd y defnyddiwr yn gwybod pa fatris i’w defnyddio? Sut bydd y defnyddiwr yn gwybod sut i’w ffitio y ffordd gywir? Batri AA DIAGRAM Caead wedi’i sgriwio i lawr SBRING METAL Dim ond dau fatri 1. 5 folt, batris mathau AA neu R 6. Maen nhw wedi’u cysylltu mewn cyfres fel eu bod yn cynhyrchu 3 folt.
Sut caiff microbrosesyddion eu defnyddio mewn teganau electronig? IS-SYSTEM MEWNBWN SWITSHIS PWYSO Mae pedwar switsh pwyso yn ymwthio allan trwy do’r car. Mae’r rhain yn anfon signal i’r microbrosesyddion Mae dau fath o FEWNBWN sy’n anfon signal trydanol. . SWITSHIS yw’r grŵp cyntaf. Maen nhw’n cael eu galw’n ddyfeisiadau digidol oherwydd mai dim ond mewn dau gyflwr y gallant fod – YMLAEN / I FFWRDD, 1/0 neu UCHEL / ISEL. SYNWYRYDDION yw’r ail grŵp. Dyfeisiadau analog yw’r rhain fel arfer oherwydd gall y signal maen nhw’n ei yrru amrywio yn ôl gwerth yr hyn sy’n cael ei synhwyro ganddynt. Er enghraifft is system mewnbwn yw synhwyrydd tymheredd. Bydd y signal sy’n cael ei hanfon allan yn amrywio yn ôl y tymheredd. Tasg: Ymchwiliwch y gwahanol switshis sydd ar gael. Tynnwch lun ohonynt a’u labelu. Rhowch esiamplau o’r defnydd a wneir ohonynt.
Sut caiff microbrosesyddion eu defnyddio mewn teganau electronig? Y tu mewn i’r car hwn mae’r microbrosesydd mewn sglodyn sy’n cael ei alw’n Microbrosesydd PIC. IS-SYSTEM BROSESU MICROREOLYDD (PIC) Mae smotyn o resin plastig du caled yn gorchuddio’r sglodyn PIC. Mae hyn yn diogelu’r sglodyn rhag lleithder a chrafiadau. Gellir cael sglodion PIC mewn pecyn gwahanol sy’n cael ei alw’n becyn DIL. Ystyr DIL yw Mewn Llinell Ddeuol (dual in line) am fod y cysylltiadau mewn dwy res. PCB Traciau Gosodwyd y sglodyn PIC ar fwrdd cylched printiedig (PCB), sef bwrdd fflat a thraciau copr wedi’u hargraffu arno. Mae’r signal trydanol yn teithio ar hyd y traciau hyn. Mae cot o farnais gwyrdd ar y traciau i’w diogelu
Sut caiff microbrosesyddion eu defnyddio mewn teganau electronig? Mae’r signal trydanol yn teithio ar hyd gwifrau o’r is system MEWNBWN i’r microbrosesydd PIC. Mae’r gwifrau wedi cael eu gwneud o gangau copr wedi’u taenu â thun a’u gosod mewn tiwb PVC. SODRO yw’r dechneg a ddefnyddir i uno’r gwifrau i’r PCB’s.
Sut caiff microbrosesyddion eu defnyddio mewn teganau electronig? Beth yw micro-reolydd MIC? Yn aml iawn caiff microreolydd ei ddisgrifio fel ‘cyfrifiadur ar sglodyn’. Mae’n gylched cost isel sy’n cynnwys: Cof Microbrosesydd a Cylched mewnbwn/allbwn. Y cyfan mewn un uned. Mae’r microreolydd PICAXE 08 M yn boblogaidd dros ben am ei fod yn fach iawn ac yn gallu chwarae gwahanol alawon. Bydd micro reolyddion yn cael eu prynu’n ‘wag’ ac yna cânt eu rhaglennu â rhaglen reoli benodol. Bydd y rhaglen yn darllen y mewnbwn o’r switshis a’r synwyryddion ac yn rheoli dyfeisiadau allbwn megis swnwyr a lampau. Bydd gosod micro-reolydd sydd wedi’i raglennu’n barod mewn cynnyrch yn gwneud y cynnyrch yn fwy deallus ac yn haws ei ddefnyddio.
Sut caiff microbrosesyddion eu defnyddio mewn teganau electronig? IS SYSTEM ALLBWN Yr is-systemau allbwn yw’r rhannau sy’n gwneud y tegan yn ddiddorol i’r plentyn. Mae dau allbwn yn y car tegan, sef golau a sain. Pedwar bwlb golau llachar bychan sy’n darparu’r golau ac mae un uchelseinydd yn darparu’r sain. Gwydr yw’r bylbiau a defnyddiwyd gwn glud poeth i’w rhoi’n sownd. Mae dwy sgriw hunan dapio, un bob ochr, yn dal y seinydd. Mae slotiau yn y gwaelod i adael y sain allan. Tasg: Beth yw eich barn chi ar ddefnyddio bylbiau golau sydd wedi cael eu gludo yn eu lle. Oes gwell datrysiad? Cynhyrchwch daflen ffeithaiu am LED’s. Gwnewch restr o ffeithiau sy’n dangos pam eu bod yn well na bylbiau golau.
Sut caiff microbrosesyddion eu defnyddio mewn teganau electronig? Y system electronig gyflawn sy’n cael ei defnyddio yn y car tegan MEWBWN switshis pwyso PROSES Microreolydd neu sglodyn PIC ALLBWN Bylbiau golau a seinydd
Oed? Datblygu Manyleb Grŵp. Targed Dyluniwch degan neu gêm newydd sy’n adlewyrchu dymuniadau ac anghenion defnyddwyr posibl. Eich Tasg: Bachgen neu Ferch neu’r Ddau? Coed Defnyddiau Metal Plastig Dioglewch • Cynnyrch terfynol arloesol Cynaladwy • Defnyddio microreolydd electronig. Effaith ar yr amgylchedd? • Poblogaidd ymysg defnyddwyr terfynol. Nodweddion Beth fydd yn ei wneud yn boblogaidd? Gogwyddion Cyfredol Cynnyrch Sy’n Bodoli Eisoes Beth sy’ gan y gystadleuaeth i’w gynnig? Pwrpas Beth fydd e’n wneud? Sut fydd e’n gweithio? Amser Cynllunio dyluniad realistig. Cost Canfod prisiau cyfredol Themau Posibl Teledu, Miwsig, Natur, Anifeiliaid. Edrychiad Arloesol, Creadigol, Siap, Maint, Lliw Y Gemau Diweddaraf, Ffilmiau, Ffasiwn
Datblygu Manyleb Briff: Dyluniwch degan neu gêm newydd sy’n adlewyrchu dymuniadau ac anghenion defnyddwyr posibl. Eich Tasg: Design an innovative electronic toy or game Cynnyrch arloesol that reflectsterfynol the wants and needs of its Defnyddio micro reolydd electronig. potential users Poblogaidd ymysg defnyddwyr terfynol. CAM 1 Dewiswch y grŵp targed ar gyfer eich tegan electronig. PLANT – Pa oed? POBL IFANC(ARDDEGAU) – Bechgyn neu Ferched? OEDOLION – Proffil person? Chwaraeon? • Ysgrifennwch rai llinellau i ddisgrifio’r math o berson fydd yn mwynhau chwarae gyda’r math o degan neu gêm electronig y byddwch yn ei gynhyrchu. • Ysgrifennwch am eu diddordebau eraill. • Ai gemau timau neu gemau i unigolion sydd orau ganddynt? • Ai hwyl yntau cystadleuaeth sy’n apelio atynt fwyaf?
Datblygu manyleb Dyma rai esiamplau: Defnydd: Mae’r map meddwl wedi codi sawl cwestiwn. Yr atebion y byddwn yn penderfynu arnynt fydd y sail i’n manyleb. Os yw ein manyleb yn gywir yna mae’n fwy tebygol y bydd ein dyluniad yn llwyddiannus. TASG: Datblygwch ymhellach y materion allweddol a ganfuwyd o ganyliad i’r map meddwl drwy restru’r ffactorau pwysicaf. Cafodd Defnyddiau ac Edrychiad eu cwblhau yn barod. Yn ddiogel i’r defnyddiwr Gwydn – bydd yn para’n hir ac felly yn werth da am arian. Yn ddeniadol heb ei beintio. Yn gallu gwrthseyll crafiadau. Yn hawdd ei lanhau. Dylai’r panet/ farnais fod yn ddiwenwyn. Edrychiad: Dylai fod ag apêl arbennig i’r grŵp defnyddwyr rydych wedi’i ddewis. Mae’n rhaid iddo edrych yn ddeniadol. Mae’n rhaid i’r lliwiau apelio. Mae’n rhaid i’r siap fod yn ddiogel –dim ochrau miniog. Dim rhannau rhydd. Y maint cywir i’r grŵp oed. Mae’n rhaid i’r ffynhonell bŵer a’r offer electronig ffitio yn y cas.
Datblygu Manyleb Pwyntiau Allweddol Grŵp Targed Edrychiad Diogelwch Cost Pwrpas Maint Gwydnwch Cynaladwyedd Fy grŵp targed i fydd bechgyn yn eu harddegau, tua 15 oed. Eu diddordebau yw pêl droed, rygbi, cerddoriaeth, ceir a beiciau. Tasg: Ysgrifennwch eich manyleb. Efallai y bydd y rhestr o bwyntiau allweddol sydd ar y chwith yn help i chi. Efallai mai un frawddeg yn unig fydd rhai pwyntiau manyleb tra bydd angen paragraff 50 gair neu fwy i ddisgrifio rhai o’r lleill.
- Slides: 13