Ymbelydredd a radioisotopau Dyddio Radiocarbon Technegau Dyddio Radiometrig
Ymbelydredd a radioisotopau • Dyddio Radiocarbon • Technegau Dyddio Radiometrig Eraill
Dyddio radiocarbon • Mae Carbon-14 (14 C) yn isotop ymbelydrol o’r Carbon y mae pob peth byw yn ei gymryd i mewn yn ystod ei fywyd. Ym mha ffordd mae'n wahanol i Carbon-12 anymbelydrol (12 C) Nid yw 14 C yn dod o bethau byw, ond caiff ei gynhyrchu yn yr Atmosffer. Mae Pelydrau Cosmig yn cynhyrchu Niwtronau cyflym sy'n taro atomau o Nitrogen-14 (14 N), gan droi'r 14 N hwn yn 14 C. Mae'r 14 C hwn yn cymysgu gydag Ocsigen i gynhyrchu 14 CO 2 a amsugnir gan blanhigion ac felly anifeiliaid.
Dyddio radiocarbon Hafaliadau geiriau • Ffurfiant 14 C: 14 N + niwtron (n) 14 C + proton (p) • Dadfeiliad 14 C: Yn y pen draw bydd 14 C yn dadfeilio nôl i 14 N drwy'r broses hon; 14 C 14 N + gronyn beta (b) HANNER OES 14 C YW 5730 O FLYNYDDOEDD, SY'N GOLYGU BYDD HANNER Y GRONYNNAU 14 C MEWN CREADUR WEDI MARW WEDI TROI NÔL YN 14 N AR ÔL POB 5730 BLWYDDYN.
Dyddio radiocarbon Sut mae'n gweithio? Ar ôl i beth byw farw mae'n peidio â chymryd 14 C i mewn, oherwydd mae'n peidio â bwyta ac anadlu. Felly, bydd y swm o 12 C (Carbon anymbelydrol) yn aros yr un peth, tra bydd y swm o 14 C yn lleihau. Trwy fesur y gymhareb 14 C/ 12 C yn yr atmosffer a'i chymharu â'r gymhareb yn y sampl marw mae gwyddonwyr yn mesur oedran y peth byw hwnnw ers ei farwolaeth. Noder Yr oedran mwyaf y gall radiocarbon ei roi yw 50000 o flynyddoedd, oherwydd ar ôl y terfyn hwnnw 14 mae'n amhosibl canfod y swm o C yn y sampl.
Dyddio radiocarbon CYMHAREB 14 C/ 12 C Cyfanswm y 14 C a 12 C mewn sbesimen (e. e. pren) Ar ôl marw, mae'r swm o 12 C yn aros yn gyson, ond mae'r swm o 14 C yn lleihau. 14 12 C (Yn lleihau gydag amser) C Swm y cysonyn Moment marwolaeth 14 14 C 14 12 Hen C C yn anfesuradwy C 12 Hŷn C 12 C Oedran yn anfesuradwy
Yr angen am raddnodi • Mae planhigion yn gwahaniaethu rhwng 12 C a 14 C, h. y. maen nhw'n cymryd llai o 14 C na'r disgwyl, gan wneud i'r sbesimen ymddangos yn hŷn. • Yn ystod y chwyldro diwydiannol roedd ffatrïoedd yn llosgi llawer o lo a thanwyddau ffosil eraill, gan ryddhau llawer o 12 C i'r atmosffer byddai mwy o 12 C yn golygu y byddai sbesimenau'n edrych yn hŷn nag y maent. • Mae rhai Gwyddonwyr yn credu bod llifogydd Genesis wedi claddu llawer o garbon a drodd yn lo, olew ac ati. Gwnaeth hyn ostwng y 12 C yn yr atmosffer, tra bod 14 C yn dal i gael ei gynhyrchu byddai mwy o 14 C yn y gymhareb ar ôl y llifogydd yn gwneud i sbesimenau cyn y llifogydd edrych yn hŷn nag y maent.
Dulliau dyddio radiometrig eraill Mae'r dulliau hyn yn defnyddio'r crynodiadau o gynhyrchion GWREIDDIOL ac EPIL mewn cadwynau dadfeiliad ymbelydrol. GWREIDDIOL yw’r sylwedd ymbelydrol ar y dechrau EPIL yw'r sylwedd mae'r GWREIDDIOL yn dadfeilio iddo. Enghraifft WRANIWM-238 PLWM-206 Yn dadfeilio i GWREIDDIOL EPIL
Tair tybiaeth angenrheidiol Mae gwyddonwyr yn defnyddio'r dull GWREIDDIOLEPIL i ddyddio creigiau. Mae'r dull hwn ond yn gweithio os yw'r holl dybiaethau canlynol yn wir. 1. Rydym yn gwybod beth yw'r amodau cychwynnol (e. e. Rydym yn gwybod faint o sylwedd gwreiddiol ac epil oedd yn bresennol ar y cychwyn) 2. Mae'r gyfradd ddadfeilio wedi bod yn gyson bob amser (h. y. Nid yw hanner oes y gwreiddiol na’r epil fyth wedi newid mewn amser) 3. Mae'r system yn gaeedig (h. y. Ni ychwanegwyd ac ni thynnwyd y gwreiddiol na’r epil o'r sampl)
Problemau gyda'r dulliau hyn • Ni ellir profi'r tybiaethau hyn oherwydd ni allant fod yn destun arsylwi gwyddonol uniongyrchol • Dylai'r dulliau weithio'n ddibynadwy ar bethau y mae eu hoedran yn ddiffiniedig • Dylai gwahanol dechnegau dyddio gytuno'n gyson
- Slides: 9