Y Llygad CBAC Bioleg Uned 2 2 5
Y Llygad CBAC Bioleg Uned 2 – 2. 5 d
Strwythur y llygad lens retina iris coroid hylif dyfrllyd sglera cannwyll y llygad hylif gwydrog dallbwynt nerf optig cornbilen Dangos/cuddio’r saethau Dangos/Cuddio’r labeli gewyn cynhaliol Dangos/cuddio’r dallbwynt cyhyr ciliaraidd Dim lliw
Tasg – mae gennych un funud o amser dechrau’r cloc i gofio cymaint o enwau a lleoliadau strwythurau’r llygad ag sy’n bosib… Dechrau’r cloc
Gallwch chi nawr enwi’r strwythurau? 1 13 4 12 3 11 2 5 10 9 6 7 8 Munud arall
Prawf y dallbwynt Tynnwch lun croes a chylch tua 5 centimetr ar wahân i’w gilydd ar ddarn o bapur. Daliwch y papur ar hyd braich. Caewch eich llygad chwith a ffocysu gyda’ch llygad dde ar y ×. Wedyn, dewch â’r papur yn araf yn agosach at eich llygad. Bydd yn ymddangos bod y cylch yn “diflannu”. Dyma eich dallbwynt. 5 cm
Ffeithiau diddorol… • Mae’r golwg yn rhoi mwy o fewnbwn i’r ymennydd na’r holl synhwyrau eraill gyda’i gilydd! • Mae pob nerf optig yn cynnwys miliwn o ffibrau nerfau • Amcangyfrifir bod mwy na hanner y wybodaeth yn y meddwl ymwybodol yn dod i mewn trwy’r llygaid.
Edrychwch yn agosach ar y llygad Mae llygaid buchod yn debyg iawn i lygaid dynol, ond ychydig yn fwy! Felly cliciwch ar fy llygad i weld dyraniad! Mwwwww
Gwallau plygiannol Mae pobl â golwg arferol yn gweld pethau pell ac agos mewn ffocws Golwg byr Mae pethau agos fel y gadair mewn ffocws, mae pethau pell yn aneglur. www. uniteforsight. org Golwg hir www. uniteforsight. org Mae pethau pell mewn ffocws, ond mae pethau agos megis y cadeiriau yn aneglur www. uniteforsight. org
Golwg byr • Mae pelen y llygad yn rhy hir o’i chymharu â gallu’r gornbilen a’r lens i ffocysu. • Mae pelydrau golau yn cael eu ffocysu o flaen y retina ac mae’r ddelwedd yn aneglur. • Trwy wisgo sbectol gyda lens geugrwm, mae’r pelydrau golau yn plygu ar wahân fel eu bod yn cael eu ffocysu ar y retina. Retina Pelydrau golau Lens ceugrwm
Golwg hir • Mae pelen y llygad yn rhy fyr o’i chymharu â gallu’r gornbilen a’r lens i ffocysu. • Mae’r pelydrau golau’n cael eu ffocysu y tu ôl ac mae’r ddelwedd yn aneglur. • Trwy wisgo sbectol gyda lens amgrwm, mae’r pelydrau golau’n plygu gyda’i gilydd fel eu bod yn cael eu ffocysu ar y retina. Retina Pelydrau golau Lens amgrwm
Astigmatedd Mae hyn yn gyfuniad o olwg byr a golwg hir, sy’n peri i bob peth fod yn aneglur www. uniteforsight. org
- Slides: 11