Y Gorffennol Cryno Rydyn nin defnyddior amser yma
- Slides: 9
Y Gorffennol Cryno
Rydyn ni’n defnyddio’r amser yma i siarad am beth wnaethoch chi/rhywun arall yn y gorffennol. Gweithiais i’n galed yn y wers Gymraeg. Bwytodd y bachgen ei ginio i gyd.
Sut i ddefnyddio’r gorffennol cryno? Rhaid darganfod bôn y ferf…. . Fel arfer, rydyn ni’n tynnu rhan olaf y berfenw: rhed eg ___ bwyt a___ ond: Gyda berfau io e. e gweithio rydyn ni’n cadw’r i: gweithi o___
Ond!!! Weithiau, mae’n rhaid defnyddio’r berfenw i gyd! siarad ___ eistedd ___ darllen ___
Yna, at fôn y ferf rhaid ychwanegu: ____ais i ____aist ti ____odd o/hi ____odd Sion ____on ni ____och chi ____on nhw
Felly mae tri cham: gweld + ti = gwel daist ____ ti cerdded + fi = cerdded ais ____ i gwylio + ni = gwyli oon ____ ni Cam 1 Cam 2 Cam 3
Ymarfer 1: Cyfunwch y berfenw a’r person. siarad + ni = cerdded + ti = cysgu + hi = bwyta + fi = gweithio + nhw = agor + fi = gweld + o = eistedd + chi = ysgrifennu + y plant = sefyll + ni = ennill + ti = breuddwydio + Siôn =
Mae rhai berfau’n afreolaidd… …. dydyn nhw ddim yn dilyn yr un patrwm. mynd cael dod gwneud es i est ti aeth o/hi aeth Siôn ces i cest ti cafodd o/hi cafodd Siôn des i dest ti daeth o/hi daeth Siôn gwnes i gwnest ti gwnaeth o/hi gwnaeth Siôn aeth y plant cafodd y plant daeth y plant gwnaeth y plant aethon ni aethoch chi cawson ni cawsoch chi daethon ni daethoch chi gwnaethon ni gwnaethoch chi aethon nhw cawson nhw daethon nhw gwnaethon nhw e. e. aethon ni i Gaerdydd, cafodd y plant anrheg
Ymarfer 1: Rhowch y ffurf gywir yn y blwch. 1. ____ i i’r dref ddoe yn y glaw. (cerdded) 2. ____ hi ei harian i gyd yn y siop ddillad. (gwario) 3. ____ ni i’r ysgol yn y car heddiw. (dod) 4. ____ y plant ar y siglen yn y parc. (chwarae) 5. “____ ti’n rhy uchel Catrin” meddai’r athro. (siarad) 6. ____ o i’r sinema neithiwr. (mynd) 7. ____ i’r sŵn o fy ystafell wely. (clywed) 8. ____ y ferch i’w Mam-gu am yr anrheg. (diolch) 9. ____ ni lawer o waith gan yr athro. (cael) 10. ____ y bachgen y ras. (ennill)