WJEC DESIGN AND TECHNOLOGY Product Design DYLUNIO A
















































- Slides: 48
WJEC DESIGN AND TECHNOLOGY Product Design DYLUNIO A THECHNOLEG CBAC Dylunio Cynnyrch TGAU Dylunio a Thechnoleg Dylunio Cynnyrch 2015
WJEC DESIGN AND TECHNOLOGY Product Design DYLUNIO A THECHNOLEG CBAC Dylunio Cynnyrch Choice page Tudalen ddewis Unit 1 Uned 1 Unit 2 Uned 2 Data Comments on exam Sylwadau ar yr arholiad 2015
WJEC DESIGN AND TECHNOLOGY Product Design DYLUNIO A THECHNOLEG CBAC Dylunio Cynnyrch Uned 1 – Arholiad 40% 2 awr GRADD * A B C D E F G U GRADD GMU 72 64 56 48 40 32 24 16 00 MARCIAU CRAI /120 100 87 74 62 50 39 28 17 00 Gradd A 11. 6 % Gradd C 52. 7 % Gradd F 94. 3 % SYLWADAU • • • Modiwlaidd / Llinol Cyfradd ymgeisio uchel iawn Cofrestriad mwy galluog Cofrestriad llai Cwrs mwy galluog a thalentog 2015
WJEC DESIGN AND TECHNOLOGY Product Design DYLUNIO A THECHNOLEG CBAC Dylunio Cynnyrch Uned 1 Arholiad 40% 2 awr Adolygiad Arholiad 2015 Cliciwch ar y tabl ar y dde 2015
WJEC DESIGN AND TECHNOLOGY Product Design DYLUNIO A THECHNOLEG CBAC Dylunio Cynnyrch Uned 2 – Tasg Asesu dan Reolaeth (TAR) 60% 30 awr GRADE * A B C D E F G U GRADD GMU 108 96 84 72 60 48 36 24 00 MARCIAU CRAI /180 151 132 113 95 75 55 36 17 00 Gradd A 32. 8 % Gradd C 76. 8 % Gradd F 96. 6 % SYLWADAU • Modiwlaidd / Llinol • Cyfradd ymgeisio uchel iawn • Mae’r ymgeiswyr wedi’u paratoi’n dda ar gyfer yr arholiad • Mae angen i ganolfannau fynd i’r afael â phob agwedd sydd yn y fanyleb 2015
WJEC DESIGN AND TECHNOLOGY Product Design DYLUNIO A THECHNOLEG CBAC Dylunio Cynnyrch Mae’r sleidiau canlynol yn enghreifftiau o dudalennau TAR o’r briffiau a osodwyd ar gyfer 2015. Briff 1: MODEL CYSYNIADOL Mae ymddangosiad technolegau newydd dros y blynyddoedd wedi ysbrydoli dyluniad nifer o gynhyrchion arloesol a newydd. Mae llawer o’r rhain yn cael eu dal â llaw neu’n ddyfeisiadau electronig cludadwy. Dyluniwch a gwnewch fodel cysyniad o ddyfais gludadwy electronig neu ddyfais llaw o’ch dewis. Rhaid i'r cynnyrch arddangos nodweddion arloesol trwy ddefnyddio technolegau neu ddefnyddiau newydd. Rhaid i chi ddarparu bwrdd cyflwyno sy'n tanlinellu arloesedd y cynnyrch newydd. Briff 2: DYLUNIAD GOLAU ÔL-WEITHREDOL Mae dylunwyr cynnyrch yn edrych yn ôl yn aml ar fudiadau dylunio hanesyddol fel ysbrydoliaeth ar gyfer nifer o gynhyrchion modern. Nodwch fudiad dylunio penodol o’ch dewis chi a dyluniwch a gwnewch olau sy’n amlwg wedi’i ddylanwadu gan y mudiad hwnnw. Rhaid i’r golau weithio oddi ar ffynhonnell bŵer foltedd isel. Briff 3: CYMHORTHYDD Mae dyddiol yn gallu bod yn broblematig i bobl ag anableddau corfforol. Nodwch ac ymchwiliwch i anabledd penodol a'r anawsterau sy'n deillio o berfformio tasg. Dyluniwch a gwnewch gynnyrch i oresgyn y broblem benodol rydych wedi'i nodi. 2015
WJEC DESIGN AND TECHNOLOGY Product Design DYLUNIO A THECHNOLEG CBAC Dylunio Cynnyrch Uned 2 – P 1 TAR 60% 30 awr • Y farchnad darged wedi’i nodi. • Ystyriaeth i anghenion y defnyddiwr. • Cyflwynir canlyniadau holiaduron gan ddefnyddio siartiau. • Dadansoddiad manwl o gynnyrch cyffelyb. 5 + Gallai’r dadansoddiad o’r cynnyrch fod wedi’i gyflwyno o dan benawdau priodol. Nesaf Meini Prawf Asesu 2015
WJEC DESIGN AND TECHNOLOGY Product Design DYLUNIO A THECHNOLEG CBAC Dylunio Cynnyrch Marc Disgrifiad o Gyrhaeddiad 0 - Nid oes unrhyw ddadansoddiad. 1 - Ceir dadansoddiad sylfaenol iawn o le’r cynnyrch yn y farchnad ynghyd â gwerthusiad cyfyngedig o gynnyrch cyffelyb. Nid yw’r gwaith a gyflwynir yn dangos fawr ddim tystiolaeth o ymchwil blaenorol a pharatoi. Efallai bod briff syml. 2 - Ceir dadansoddiad sylfaenol ond priodol o le’r cynnyrch yn y farchnad ynghyd â gwerthusiad sylfaenol o gynnyrch cyffelyb. Nid yw’r gwaith a gyflwynir yn dangos llawer o dystiolaeth o ymchwil blaenorol a pharatoi. Cynhwysir briff syml. 3 - Ceir dadansoddiad da o le’r cynnyrch yn y farchnad ynghyd â gwerthusiad o gynnyrch cyffelyb. Mae’r gwaith a gyflwynir yn dangos peth tystiolaeth o ymchwil blaenorol a pharatoi. Cynhwysir briff clir. 4 - Ceir dadansoddiad da iawn o le’r cynnyrch yn y farchnad ynghyd â gwerthusiad manwl o gynnyrch cyffelyb. Mae’r gwaith a gyflwynir yn dangos tystiolaeth dda o ymchwil blaenorol a pharatoi. Cynhwysir briff sydd wedi’i eirio’n dda. 5 - Ceir dadansoddiad cynhwysfawr o le’r cynnyrch yn y farchnad ynghyd â gwerthusiad manwl iawn o gynnyrch cyffelyb. Mae’r gwaith a gyflwynir yn dangos tystiolaeth glir o ymchwilio a pharatoi manwl. Cynhwysir briff clir a phriodol. Yn ôl 2015
WJEC DESIGN AND TECHNOLOGY Product Design DYLUNIO A THECHNOLEG CBAC Dylunio Cynnyrch Uned 2 – P 2 TAR 60% 30 awr • Defnydd o feini prawf SMART. • Pwyntiau mae’n amlwg y gellir eu mesur. • Penawdau priodol. • Rhestr wedi’i blaenoriaethu. • Gwybodaeth drefnus. 4 + Gellir cynnwys mwy o bwyntiau o dan y penawdau. + Gallai’r blaenoriaethu fod yn fwy penodol. Nesaf Meini Prawf Asesu 2015
WJEC DESIGN AND TECHNOLOGY Product Design DYLUNIO A THECHNOLEG CBAC Dylunio Cynnyrch Marc Disgrifiad o Gyrhaeddiad 0 - Nid oes unrhyw fanyleb. 1 - Manyleb ddylunio sy’n cynnwys rhestr o briodoleddau sylfaenol ar gyfer y cynnyrch. Ceir ychydig iawn o gysylltiadau, os o gwbl, rhwng y fanyleb a’r dadansoddiad o’r dasg. Mae’r wybodaeth wedi’i threfnu’n wael, ac ni wneir dim neu fawr ddim defnydd o iaith a geirfa dechnegol. Mae cyfathrebu ysgrifenedig yn gyfyngedig o ran trefnu’r deunydd, ac mae llawer o gamgymeriadau gramadeg, atalnodi a sillafu. 2 - Manyleb ddylunio sylfaenol sy’n cynnwys rhestr o briodoleddau perthnasol ar gyfer y cynnyrch. Ceir cysylltiadau arwynebol rhwng y fanyleb a’r dadansoddiad o’r dasg. Mae’r wybodaeth yn dangos tystiolaeth o strwythur, a defnydd cyfyngedig o iaith a geirfa dechnegol. Mae cyfathrebu ysgrifenedig yn gyfyngedig o ran trefnu’r deunydd, ac mae rhai camgymeriadau gramadeg, atalnodi a sillafu. 3 - Manyleb ddylunio dda sy’n cynnwys rhestr wedi’i blaenoriaethu o briodoleddau ar gyfer y cynnyrch a gyflwynir o dan benawdau priodol. Ceir cysylltiadau clir rhwng y fanyleb a’r dadansoddiad o’r dasg. Mae’r wybodaeth yn drefnus, a gwneir defnydd sylfaenol o iaith a geirfa dechnegol. Mae cyfathrebu ysgrifenedig yn ddigonol o ran trefnu’r deunydd, ac mae rhai camgymeriadau gramadeg, atalnodi a sillafu. 4 - Manyleb ddylunio gynhwysfawr sy’n cynnwys rhestr wedi’I blaenoriaethu o briodoleddau ar gyfer y cynnyrch a gyflwynir o dan benawdau priodol. Ceir cysylltiadau cryf rhwng y fanyleb a dadansoddi’r dasg. Mae’r wybodaeth wedi’i threfnu’n dda, a gwneir defnydd da o iaith a geirfa dechnegol. Mae cyfathrebu ysgrifenedig yn dda, a chyflwynir deunydd sy’n briodol ar y cyfan mewn ffordd eglur, gydag ychydig o gamgymeriadau gramadeg, atalnodi a sillafu. 5 - Manyleb ddylunio ardderchog sy’n cynnwys rhestr wedi’I blaenoriaethu o briodoleddau ar gyfer y cynnyrch a gyflwynir o dan benawdau priodol. Mae’r fanyleb wedi’i seilio’n gadarn ar y dadansoddiad o’r dasg. Mae’r wybodaeth wedi’i threfnu’n dda, ac fe’I cyflwynir mewn ffordd hynod o briodol, gan wneud defnydd da iawn o iaith a geirfa dechnegol. Mae cyfathrebu ysgrifenedig yn dda, a chyflwynir deunydd priodol mewn ffordd eglur, gydag ychydig iawn o gamgymeriadau. Yn ôl 2015
WJEC DESIGN AND TECHNOLOGY Product Design DYLUNIO A THECHNOLEG CBAC Dylunio Cynnyrch Uned 2 – P 3 TAR 60% 30 awr • Cyflwynir pedwar syniad. • Cyfathrebu graffigol ardderchog gan ddefnyddio tafluniad isometrig. • Anodi manwl gyda sylwadau gwerthusol. + Rhaid sicrhau bod cysylltiad agos rhwng yr anodi a’r fanyleb. + Gallai’r dyluniadau fod yn fwy manwl drwy ddefnyddio golwg amgen, golwg wedi’i chwyddo neu olwg taenedig. Nesaf Meini Prawf Asesu 2015
WJEC DESIGN AND TECHNOLOGY Product Design DYLUNIO A THECHNOLEG CBAC Dylunio Cynnyrch Marc Disgrifiad o Gyrhaeddiad 0 - Nid oes unrhyw syniadau. Nid oes unrhyw dystiolaeth o gyfathrebu ysgrifenedig. 1 - 2 Amrywiaeth fach o syniadau sydd ond prin yn briodol ac sydd wedi’u hanodi’n wael. Nid yw’r syniadau na’r anodi’n rhoi fawr ddim sylw i’r fanyleb. Mae’r wybodaeth wedi’i threfnu’n wael, ac ni wneir dim neu fawr ddim defnydd o iaith a geirfa dechnegol. Mae cyfathrebu ysgrifenedig yn gyfyngedig o ran trefnu’r deunydd, ac mae llawer o gamgymeriadau gramadeg, atalnodi a sillafu. 3 - 4 Amrywiaeth o syniadau priodol sydd wedi’u hanodi. Mae’r syniadau a’r anodi’n rhoi peth sylw i’r fanyleb. Mae’r wybodaeth yn dangos tystiolaeth o strwythur, a defnydd cyfyngedig o iaith a geirfa dechnegol. Mae cyfathrebu ysgrifenedig yn gyfyngedig o ran trefnu’r deunydd, ac mae rhai camgymeriadau gramadeg, atalnodi a sillafu. 5 - 6 Amrywiaeth o syniadau clir sydd wedi’u hanodi’n briodol. Mae’r syniadau a’r anodi’n rhoi peth sylw i’r fanyleb. Mae’r wybodaeth yn drefnus, a gwneir defnydd sylfaenol o iaith a geirfa dechnegol. Mae cyfathrebu ysgrifenedig yn ddigonol o ran trefnu’r deunydd, ac mae rhai camgymeriadau gramadeg, atalnodi a sillafu. 7 - 8 Amrywiaeth o syniadau cychwynnol da sydd wedi’u hanodi’n dda. Mae’r syniadau a’r anodi’n rhoi sylw da i’r fanyleb. Mae’r wybodaeth wedi’i threfnu’n dda, a gwneir defnydd da o iaith a geirfa dechnegol. Mae cyfathrebu ysgrifenedig yn dda, a chyflwynir deunydd sy’n briodol ar y cyfan mewn ffordd eglur, gydag ychydig o gamgymeriadau gramadeg, atalnodi a sillafu. 9 - 10 Amrywiaeth o syniadau cychwynnol ardderchog sydd wedi’u hanodi’n dda iawn. Mae’r syniadau a’r anodi’n rhoi sylw manwl i’r fanyleb. Mae’r wybodaeth wedi’i threfnu’n dda, ac fe’i cyflwynir mewn ffordd hynod o briodol, gan wneud defnydd da iawn o iaith a geirfa dechnegol. Mae cyfathrebu ysgrifenedig yn dda, a chyflwynir deunydd mewn ffordd eglur, gydag ychydig iawn o gamgymeriadau. Yn ôl 2015
WJEC DESIGN AND TECHNOLOGY Product Design DYLUNIO A THECHNOLEG CBAC Dylunio Cynnyrch Uned 2 – P 4 TAR 60% 30 awr • Cyflwynir y syniad dan sylw i safon uchel. • Anodi eglur. • Cysylltiadau â’r fanyleb. • Peth ymresymu. 9 + Mae angen i’r ymresymu fod yn fwy manwl ac yn fwy perthnasol i’r dyluniad dan sylw. Nesaf Meini Prawf Asesu 2015
WJEC DESIGN AND TECHNOLOGY Product Design DYLUNIO A THECHNOLEG CBAC Dylunio Cynnyrch Marc Disgrifiad o Gyrhaeddiad 0 - Nid oes unrhyw syniadau. Nid oes unrhyw dystiolaeth o gyfathrebu ysgrifenedig. 1 - 2 Amrywiaeth fach o syniadau sydd ond prin yn briodol ac sydd wedi’u hanodi’n wael. Nid yw’r syniadau na’r anodi’n rhoi fawr ddim sylw i’r fanyleb. Mae’r wybodaeth wedi’i threfnu’n wael, ac ni wneir dim neu fawr ddim defnydd o iaith a geirfa dechnegol. Mae cyfathrebu ysgrifenedig yn gyfyngedig o ran trefnu’r deunydd, ac mae llawer o gamgymeriadau gramadeg, atalnodi a sillafu. 3 - 4 Amrywiaeth o syniadau priodol sydd wedi’u hanodi. Mae’r syniadau a’r anodi’n rhoi peth sylw i’r fanyleb. Mae’r wybodaeth yn dangos tystiolaeth o strwythur, a defnydd cyfyngedig o iaith a geirfa dechnegol. Mae cyfathrebu ysgrifenedig yn gyfyngedig o ran trefnu’r deunydd, ac mae rhai camgymeriadau gramadeg, atalnodi a sillafu. 5 - 6 Amrywiaeth o syniadau clir sydd wedi’u hanodi’n briodol. Mae’r syniadau a’r anodi’n rhoi peth sylw i’r fanyleb. Mae’r wybodaeth yn drefnus, a gwneir defnydd sylfaenol o iaith a geirfa dechnegol. Mae cyfathrebu ysgrifenedig yn ddigonol o ran trefnu’r deunydd, ac mae rhai camgymeriadau gramadeg, atalnodi a sillafu. 7 - 8 Amrywiaeth o syniadau cychwynnol da sydd wedi’u hanodi’n dda. Mae’r syniadau a’r anodi’n rhoi sylw da i’r fanyleb. Mae’r wybodaeth wedi’i threfnu’n dda, a gwneir defnydd da o iaith a geirfa dechnegol. Mae cyfathrebu ysgrifenedig yn dda, a chyflwynir deunydd sy’n briodol ar y cyfan mewn ffordd eglur, gydag ychydig o gamgymeriadau gramadeg, atalnodi a sillafu. 9 - 10 Amrywiaeth o syniadau cychwynnol ardderchog sydd wedi’u hanodi’n dda iawn. Mae’r syniadau a’r anodi’n rhoi sylw manwl i’r fanyleb. Mae’r wybodaeth wedi’i threfnu’n dda, ac fe’i cyflwynir mewn ffordd hynod o briodol, gan wneud defnydd da iawn o iaith a geirfa dechnegol. Mae cyfathrebu ysgrifenedig yn dda, a chyflwynir deunydd mewn ffordd eglur, gydag ychydig iawn o gamgymeriadau. Yn ôl 2015
WJEC DESIGN AND TECHNOLOGY Product Design DYLUNIO A THECHNOLEG CBAC Dylunio Cynnyrch Uned 2 – P 5 TAR 60% 30 awr • Tystiolaeth o fodelu bloc solid a modelu 3 D CAM er mwyn datblygu ffurf. • Cynigir amrywiaeth o ddewisiadau. • Gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar ymresymu. 4 + Mae angen sylwadau mwy manwl a gwerthusol. + Mwy o frasluniau datblygiadol. Nesaf Meini Prawf Asesu 2015
WJEC DESIGN AND TECHNOLOGY Product Design DYLUNIO A THECHNOLEG CBAC Dylunio Cynnyrch Marc Disgrifiad o Gyrhaeddiad 0 - Dim tystiolaeth o ddatblygu ffurf. 1 - Tystiolaeth gyfyngedig o ddatblygu neu fodelu ffurf/arddull. Gall fod tystiolaeth o siâp neu arddull gwahanol. Nid oes unrhyw dystiolaeth o wneud penderfyniadau. 2 - Peth tystiolaeth o ddatblygu neu fodelu ffurf/arddull. Cyflwynir sawl dewis. Mae tystiolaeth o wneud penderfyniadau ond nid oes llawer o ymresymu. 3 - Tystiolaeth glir o ddatblygu neu fodelu ffurf/arddull. Cynigir sawl dewis. Mae tystiolaeth o wneud penderfyniadau rhesymegol. 4 - Tystiolaeth dda o ddatblygu neu fodelu ffurf/arddull. Mae sawl dewis priodol wedi cael ei gynnig. Mae tystiolaeth glir o wneud penderfyniadau gwybodus. 5 - Mae amrywiaeth o ffurfiau/arddulliau wedi cael eu datblygu ac mae siâp a ffurf y cynnyrch wedi cael eu datblygu a’u modelu gam wrth gam. Mae penderfyniad terfynol sy’n seiliedig ar ymresymu cadarn wedi cael ei wneud. Yn ôl 2015
WJEC DESIGN AND TECHNOLOGY Product Design DYLUNIO A THECHNOLEG CBAC Dylunio Cynnyrch Uned 2 – P 6 TAR 60% 30 awr • Cynigir defnyddiau a syniadau amgen. • Dealltwriaeth amlwg o briodweddau’r defnyddiau angenrheidiol ar gyfer y cydrannau. • Ymresymu eglur a thystiolaeth o wneud penderfyniadau. 4 + Nid oes angen cyflwyno gwybodaeth gyffredinol. + Rhaid sicrhau bod y sylwadau i gyd yn berthnasol i’r cynnyrch. + Mae angen ystyried cydrannau mewnol hefyd. Nesaf Meini Prawf Asesu 2015
WJEC DESIGN AND TECHNOLOGY Product Design DYLUNIO A THECHNOLEG CBAC Dylunio Cynnyrch Marc Disgrifiad o Gyrhaeddiad 0 - Dim tystiolaeth o ddatblygu defnyddiau/cydrannau. 1 - Tystiolaeth gyfyngedig o ddewis defnyddiau/cydrannau priodol. Mae’r defnyddiau/cydrannau wedi cael eu henwi. Nid oes unrhyw dystiolaeth o wneud penderfyniadau. 2 - Peth tystiolaeth o ddewis defnyddiau/cydrannau priodol. Mae defnyddiau/cydrannau eraill wedi cael eu cynnig. Mae peth tystiolaeth o wneud penderfyniadau. 3 - Tystiolaeth glir o ddewis defnyddiau/cydrannau priodol. Mae defnyddiau/cydrannau eraill wedi cael eu cynnig. Mae tystiolaeth o wneud penderfyniadau rhesymegol. 4 - Tystiolaeth glir o ddewis defnyddiau/cydrannau priodol. Mae defnyddiau/cydrannau priodol eraill wedi cael eu cynnig. Mae tystiolaeth glir o wneud penderfyniadau rhesymegol. 5 - Tystiolaeth lawn a chlir o ddewis defnyddiau/cydrannau priodol. Mae defnyddiau/cydrannau priodol eraill wedi cael eu cynnig. Mae tystiolaeth o wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar ymresymu cadarn. Yn ôl 2015
WJEC DESIGN AND TECHNOLOGY Product Design DYLUNIO A THECHNOLEG CBAC Dylunio Cynnyrch Uned 2 – P 7 TAR 60% 30 awr • Cynigir amrywiaeth o ddulliau. • Ystyrir y manteision. • Rhai penderfyniadau sy’n seiliedig ar ymresymu. • Peth tystiolaeth o brofi. 3 + Tystiolaeth o fodelu neu brofi dulliau gweithredu er mwyn cynorthwyo’r broses o wneud penderfyniadau. + Mae angen cynnig dulliau amgen. Nesaf Meini Prawf Asesu 2015
WJEC DESIGN AND TECHNOLOGY Product Design DYLUNIO A THECHNOLEG CBAC Dylunio Cynnyrch Marc Disgrifiad o Gyrhaeddiad 0 - Dim tystiolaeth o ddatblygu’r adeiladu/gwneud. 1 - Tystiolaeth gyfyngedig o ddatblygu’r adeiladu/gwneud. Mae dull adeiladu/gwneud wedi cael ei gynnig. Nid oes unrhyw dystiolaeth o wneud penderfyniadau. 2 - Peth tystiolaeth o ddatblygu’r adeiladu/gwneud. Mae amrywiaeth fach o ddulliau adeiladu/gwneud wedi cael eu cynnig. Mae peth tystiolaeth o wneud penderfyniadau. 3 - Tystiolaeth glir o ddatblygu’r adeiladu/gwneud. Mae amrywiaeth o ddulliau adeiladu/gwneud wedi cael eu cynnig. Mae tystiolaeth o wneud penderfyniadau rhesymegol. 4 - Tystiolaeth glir o ddatblygu’r adeiladu/gwneud. Mae amrywiaeth o ddulliau adeiladu/gwneud priodol wedi cael eu hystyried. Mae tystiolaeth o wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar ymresymu cadarn. 5 - Tystiolaeth lawn a chlir o ddatblygu’r adeiladu/gwneud. Mae amrywiaeth o ddulliau adeiladu/gwneud priodol wedi cael eu hystyried. Mae tystiolaeth o wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar ymresymu cadarn. Yn ôl 2015
WJEC DESIGN AND TECHNOLOGY Product Design DYLUNIO A THECHNOLEG CBAC Dylunio Cynnyrch Uned 2 – P 8 TAR 60% 30 awr • Ystyrir meintiau’r prif siâp. • Costiadau manwl. 3 + Mae angen cynnig syniadau amgen. + Datblygu’r cynnyrch mewn perthynas â’r maint – mae angen cynnwys brasluniau. + Cyfeirio’n ôl at ddull gweithredu’r modelu er mwyn arddangos y broses o ddatblygu’r maint. Nesaf Meini Prawf Asesu 2015
WJEC DESIGN AND TECHNOLOGY Product Design DYLUNIO A THECHNOLEG CBAC Dylunio Cynnyrch Marc Disgrifiad o Gyrhaeddiad 0 - Dim tystiolaeth o ddatblygu maint/nifer. 1 - Tystiolaeth gyfyngedig o ddatblygu meintiau a/neu niferoedd. Gall fod tystiolaeth o feintiau neu niferoedd. Nid oes unrhyw dystiolaeth o wneud penderfyniadau. 2 - Peth tystiolaeth o ddatblygu meintiau a/neu niferoedd. Mae tystiolaeth o feintiau a/neu niferoedd eraill. Mae peth tystiolaeth o wneud penderfyniadau. 3 - Tystiolaeth glir o ddatblygu meintiau a/neu niferoedd. Mae tystiolaeth o feintiau a/neu niferoedd eraill. Mae tystiolaeth o wneud penderfyniadau rhesymegol. 4 - Tystiolaeth glir o ddatblygu meintiau a/neu niferoedd. Mae meintiau a/neu niferoedd wedi cael eu datblygu gam wrth gam. Mae tystiolaeth o wneud penderfyniadau rhesymegol. 5 - Tystiolaeth lawn a chlir o ddatblygu meintiau a/neu niferoedd. Mae gwahanol feintiau a/neu niferoedd wedi cael eu gwerthuso’n systematig. Mae tystiolaeth glir o wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar ymresymu cadarn. Yn ôl 2015
WJEC DESIGN AND TECHNOLOGY Product Design DYLUNIO A THECHNOLEG CBAC Dylunio Cynnyrch Uned 2 – P 9 TAR 60% 30 awr • Cynigir gorffeniadau amgen ar gyfer pob cydran. • Peth tystiolaeth o wneud penderfyniadau yn seiliedig ar ymresymu. 3 + Mae angen trafod dulliau gweithredu sicrhau/rheoli ansawdd. + Mae angen cyflwyno ystyriaethau manwl ynglŷn â phob gorffeniad. Nesaf Meini Prawf Asesu 2015
WJEC DESIGN AND TECHNOLOGY Product Design DYLUNIO A THECHNOLEG CBAC Dylunio Cynnyrch Marc Disgrifiad o Gyrhaeddiad 0 - Dim tystiolaeth o ddatblygu gorffeniad/ansawdd. 1 - Tystiolaeth gyfyngedig o ddatblygu gorffeniad/ansawdd. Mae’n bosibl y cynigir gorffeniad addas. Nid oes unrhyw gyfeiriad at reoli ansawdd. Nid oes unrhyw dystiolaeth o wneud penderfyniadau. 2 - Peth tystiolaeth o ddatblygu gorffeniad/ansawdd. Mae gorffeniad gwahanol yn cael ei gynnig. Ceir cyfeiriad byr at reoli ansawdd. Mae tystiolaeth o wneud penderfyniadau. 3 - Peth tystiolaeth o ddatblygu gorffeniad/ansawdd. Mae gorffeniadau gwahanol yn cael eu cynnig. Ceir cyfeiriadau at agweddau ar reoli ansawdd. Mae tystiolaeth o wneud penderfyniadau. 4 - Tystiolaeth glir o ddatblygu gorffeniad/ansawdd. Mae gorffeniadau gwahanol yn cael eu cynnig. Ceir cyfeiriadau at agweddau ar reoli ansawdd. Mae tystiolaeth o wneud penderfyniadau rhesymegol. 5 - Tystiolaeth lawn a chlir o ddatblygu gorffeniad/ansawdd. Mae amrywiaeth o orffeniadau gwahanol yn cael eu cynnig. Ceir cyfeiriadau at amrywiaeth o faterion rheoli ansawdd. Mae tystiolaeth o wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar ymresymu cadarn. Yn ôl 2015
WJEC DESIGN AND TECHNOLOGY Product Design DYLUNIO A THECHNOLEG CBAC Dylunio Cynnyrch Uned 2 – P 10 TAR 60% 30 awr • Lluniadu o safon uchel wedi’i rendro gan ddefnyddio CAD. • Strwythur manwl gywir. • Manylion brandio. 4 + Mae angen dangos sut bydd y brandio yn ymddangos ar y cynnyrch. + Rhai manylion ar goll, er enghraifft ble bydd yr orsaf ddocio ar gyfer y ffôn. + Gellid hefyd cyflwyno golygon taenedig. Nesaf Meini Prawf Asesu 2015
WJEC DESIGN AND TECHNOLOGY Product Design DYLUNIO A THECHNOLEG CBAC Dylunio Cynnyrch Marc Disgrifiad o Gyrhaeddiad 0 - Dim tystiolaeth o gyflwyniad graffigol. 1 - Darlun sylfaenol o’r cynnyrch terfynol. Gellir ei adnabod ond nid oes ganddo ffurf briodol. Nid oes fawr ddim tystiolaeth o raddliwio neu rendro lliw. 2 - Darlun o’r cynnyrch terfynol. Gellir ei adnabod ac mae ganddo ffurf resymol. Mae tystiolaeth o raddliwio a/neu rendro lliw. 3 - Darlun clir o’r cynnyrch terfynol. Gellir ei adnabod ac mae ganddo ffurf dda. Mae tystiolaeth o raddliwio a/neu rendro lliw da. 4 - Cyflwyniad graffigol da iawn o’r cynnyrch terfynol. Mae’n defnyddio techneg graffigol gydnabyddedig, mae’n fanwl gywir o ran y lluniadu ac mae’n cynnwys graddliwio a/neu rendro lliw effeithiol. 5 - Cyflwyniad graffigol o safon uchel iawn o’r cynnyrch terfynol. Mae’n defnyddio techneg graffigol gydnabyddedig, mae’n fanwl gywir o ran y lluniadu ac mae’n cynnwys graddliwio a/neu rendro lliw mynegiannol. Yn ôl 2015
WJEC DESIGN AND TECHNOLOGY Product Design DYLUNIO A THECHNOLEG CBAC Dylunio Cynnyrch Uned 2 – P 11 TAR 60% 30 awr • Lluniadu orthograffig o safon uchel gan ddefnyddio CAD. • Pob dimensiwn allweddol yn bresennol. • Manylion am osodiadau’r peiriant wrth weithgynhyrchu. 4 + Gellid cynnwys ambell ddimensiwn manwl ychwanegol. + Gellid cynnwys rhestr fanwl o’r cydrannau. + Mae angen cynnwys lluniadau o’r cydrannau unigol. Nesaf Meini Prawf Asesu 2015
WJEC DESIGN AND TECHNOLOGY Product Design DYLUNIO A THECHNOLEG CBAC Dylunio Cynnyrch Marc Disgrifiad o Gyrhaeddiad 0 - Dim tystiolaeth o fanylion technegol. 1 - Tystiolaeth gyfyngedig o fanylion technegol. 2 - Tystiolaeth o rai manylion technegol. 3 - Tystiolaeth o lawer o fanylion technegol. 4 - Tystiolaeth o’r mwyafrif o fanylion technegol. 5 - Tystiolaeth o’r holl fanylion technegol bron. Yn ôl 2015
WJEC DESIGN AND TECHNOLOGY Product Design DYLUNIO A THECHNOLEG CBAC Dylunio Cynnyrch Uned 2 – P 12 TAR 60% 30 awr • Rhestr fanwl o gamau gweithgynhyrchu. • Yr amser sydd ei angen wedi’i nodi. • Offer, defnyddiau a gwaith rheoli/sicrhau ansawdd wedi’i nodi. • Gwybodaeth wedi’i threfnu mewn modd ardderchog. 8 + Gellid cyflwyno disgrifiadau mwy manwl o’r tasgau. Nesaf Meini Prawf Asesu 2015
WJEC DESIGN AND TECHNOLOGY Product Design DYLUNIO A THECHNOLEG CBAC Dylunio Cynnyrch Marc Disgrifiad o Gyrhaeddiad 0 - Nid oes unrhyw dystiolaeth o gynllunio ar gyfer y gwneud. Nid oes unrhyw dystiolaeth o gyfathrebu ysgrifenedig. 1 - 2 Ceir rhestr o gamau gweithgynhyrchu ond nid oes fawr ddim dealltwriaeth o’r gwaith mae angen ei wneud na’r amser sydd ei angen. Mae’r wybodaeth wedi’i threfnu’n wael, ac ni wneir dim neu fawr ddim defnydd o iaith a geirfa dechnegol. Mae cyfathrebu ysgrifenedig yn gyfyngedig o ran trefnu’r deunydd, ac mae llawer o gamgymeriadau gramadeg, atalnodi a sillafu. 3 - 4 Ceir rhestr o gamau gweithgynhyrchu sylfaenol. Mae’r camau’n cynnwys rhai manylion am y prosesau angenrheidiol. Nid oes fawr ddim ymdrech i feintioli’r amser sydd ei angen. Mae’r wybodaeth wedi’i threfnu, a gwneir defnydd sylfaenol o iaith a geirfa dechnegol. Mae cyfathrebu ysgrifenedig yn gyfyngedig o ran trefnu’r deunydd, ac mae rhai camgymeriadau gramadeg, atalnodi a sillafu. 5 - 6 Ceir rhestr o gamau gweithgynhyrchu realistig. Mae’r camau’n cynnwys rhai manylion am y prosesau angenrheidiol. Ceir ymdrech I feintioli’r amser sydd ei angen. Mae’r wybodaeth wedi’i threfnu, a gwneir defnydd sylfaenol o iaith a geirfa dechnegol. Mae cyfathrebu ysgrifenedig yn ddigonol o ran trefnu’r deunydd, ac mae rhai camgymeriadau gramadeg, atalnodi a sillafu. 7 - 8 Ceir rhestr o gamau gweithgynhyrchu realistig. Mae’r camau’n cynnwys rhai manylion am y prosesau sydd eu hangen ac yn nodi unrhyw gyfyngiadau. Ceir amcangyfrif realistig o’r amser sydd ei angen i weithgynhyrchu’r cynnyrch. Mae’r wybodaeth wedi’i threfnu’n dda, a gwneir defnydd da o iaith a geirfa dechnegol. Mae cyfathrebu ysgrifenedig yn dda, a chyflwynir deunydd sy’n briodol ar y cyfan mewn ffordd eglur, gydag ychydig o gamgymeriadau gramadeg, atalnodi a sillafu. 9 - 10 Ceir rhestr o gamau gweithgynhyrchu clir, priodol a manwl. Mae cyfyngiadau wedi cael eu cydnabod. Ceir amcangyfrif realistig o’r amser sydd ei angen i weithgynhyrchu’r cynnyrch. Mae’r wybodaeth wedi’i threfnu’n dda, ac fe’i cyflwynir mewn ffordd hynod o briodol, gan wneud defnydd da iawn o iaith a geirfa dechnegol. Mae cyfathrebu ysgrifenedig yn dda, a chyflwynir deunydd priodol mewn ffordd eglur, gydag ychydig iawn o gamgymeriadau. Yn ôl 2015
WJEC DESIGN AND TECHNOLOGY Product Design DYLUNIO A THECHNOLEG CBAC Dylunio Cynnyrch Uned 2 – P 13 TAR 60% 30 awr • Gwerthusiad sylfaenol sy’n cyfeirio at y fanyleb. • Ysgrifennu di-dor. • Cyfathrebu da. 6 + Gellid gwella ar y cyflwyniad drwy ddefnyddio colofnau. + Mae angen sylwadau mwy disgrifiadol a gwerthusol. + Mae angen trafod profion terfynol. Nesaf Meini Prawf Asesu 2015
WJEC DESIGN AND TECHNOLOGY Product Design DYLUNIO A THECHNOLEG CBAC Dylunio Cynnyrch Marc Cyrhaeddiad 0 - Nid oes unrhyw werthusiad. Nid oes unrhyw dystiolaeth o gyfathrebu ysgrifenedig. 1 - 2 Ceir gwerthusiad sylfaenol o’r canlyniad. Mae sylwadau’n gyffredinol eu natur ac nid ydynt yn cyfeirio’n ôl at y fanyleb gychwynnol. Mae’r wybodaeth wedi’i threfnu’n wael, ac ni wneir dim neu fawr ddim defnydd o iaith a geirfa dechnegol. Mae cyfathrebu ysgrifenedig yn gyfyngedig o ran trefnu’r deunydd, ac mae llawer o gamgymeriadau gramadeg, atalnodi a sillafu. 3 - 4 Ceir gwerthusiad o’r canlyniad. Mae sylwadau’n cynnig rhai manylion ac yn cyfeirio’n ôl yn rhannol at y fanyleb gychwynnol. Mae’r wybodaeth yn dangos tystiolaeth o strwythur, a defnydd cyfyngedig o iaith a geirfa dechnegol. Mae cyfathrebu ysgrifenedig yn gyfyngedig o ran trefnu’r deunydd, ac mae rhai camgymeriadau gramadeg, atalnodi a sillafu. 5 - 6 Ceir gwerthusiad beirniadol o’r canlyniad. Mae sylwadau’n cynnig rhai manylion ac yn cyfeirio’n ôl yn rhannol at y fanyleb gychwynnol. Mae’r wybodaeth yn drefnus, a gwneir defnydd sylfaenol o iaith a geirfa dechnegol. Mae cyfathrebu ysgrifenedig yn ddigonol o ran trefnu’r deunydd, ac mae rhai camgymeriadau gramadeg, atalnodi a sillafu. 7 - 8 Ceir gwerthusiad beirniadol o’r canlyniad. Mae sylwadau’n graff a manwl ac maent hwy’n cyfeirio’n ôl at y fanyleb gychwynnol. Mae’r wybodaeth wedi’i threfnu’n dda, a gwneir defnydd da o iaith a geirfa dechnegol. Mae cyfathrebu ysgrifenedig yn dda, a chyflwynir deunydd sy’n briodol ar y cyfan mewn ffordd eglur, gydag ychydig o gamgymeriadau gramadeg, atalnodi a sillafu. 9 - 10 Ceir gwerthusiad beirniadol o’r canlyniad. Mae sylwadau’n graff a manwl ac maent hwy’n cyfeirio’n ôl yn llawn at y fanyleb gychwynnol. Mae’r wybodaeth wedi’i threfnu’n dda, ac fe’i cyflwynir mewn ffordd hynod o briodol, gan wneud defnydd da iawn o iaith a geirfa dechnegol. Mae cyfathrebu ysgrifenedig yn dda, a chyflwynir deunydd priodol mewn ffordd eglur, gydag ychydig iawn o gamgymeriadau. Yn ôl 2015
WJEC DESIGN AND TECHNOLOGY Product Design DYLUNIO A THECHNOLEG CBAC Dylunio Cynnyrch Uned 2 – P 14 TAR 60% 30 awr • Newidiadau synhwyrol a chyfeiriadau at y fanyleb. • Defnydd da o CAD er mwyn rhoi enghraifft o welliant. • Cyfathrebu ysgrifenedig digonol. 5 + Mae angen awgrymu mwy o amrywiaeth o welliannau. + Dylai’r dudalen gynnwys mwy o ddylunio a lluniadau wedi’u hanodi. Nesaf Meini Prawf Asesu 2015
WJEC DESIGN AND TECHNOLOGY Product Design DYLUNIO A THECHNOLEG CBAC Dylunio Cynnyrch Marc Cyrhaeddiad 0 - Ni chynigir unrhyw welliannau. Nid oes unrhyw dystiolaeth o gyfathrebu ysgrifenedig. 1 - 2 Awgrymir gwelliant i’r dyluniad a/neu’r broses weithgynhyrchu. Mae cyfathrebu ysgrifenedig yn gyfyngedig o ran trefnu’r deunydd, ac mae llawer o gamgymeriadau gramadeg, atalnodi a sillafu. 3 - 4 Ceir sawl awgrym ar gyfer gwella’r dyluniad ynghyd ag awgrym ar gyfer gwella safon y gweithgynhyrchu. Mae cyfathrebu ysgrifenedig yn gyfyngedig o ran trefnu’r deunydd, ac mae rhai camgymeriadau gramadeg, atalnodi a sillafu. 5 - 6 Ceir sawl awgrym perthnasol ar gyfer gwella’r dyluniad ynghyd ag awgrymiadau ar gyfer gwella safon y gweithgynhyrchu. Mae cyfathrebu ysgrifenedig yn sylfaenol, ac mae rhai camgymeriadau gramadeg, atalnodi a sillafu. 7 - 8 Ceir awgrymiadau â sail gadarn ar gyfer gwella’r dyluniad ynghyd ag awgrymiadau ar gyfer gwella safon y gweithgynhyrchu. Mae’r wybodaeth wedi’i threfnu’n dda, a gwneir defnydd da o iaith a geirfa dechnegol. Mae cyfathrebu ysgrifenedig yn dda, a chyflwynir deunydd sy’n briodol ar y cyfan mewn ffordd eglur, gydag ychydig o gamgymeriadau gramadeg, atalnodi a sillafu. 9 - 10 Ceir awgrymiadau â sail gadarn ar gyfer gwella’r dyluniad ynghyd ag awgrymiadau manwl ar gyfer gwella safon y gweithgynhyrchu. Mae’r wybodaeth wedi’I threfnu’n dda, a gwneir defnydd da iawn o iaith a geirfa dechnegol. Mae ansawdd cyfathrebu ysgrifenedig yn dda, a chyflwynir deunydd priodol mewn ffordd eglur, gydag ychydig iawn o gamgymeriadau. Yn ôl 2015
WJEC DESIGN AND TECHNOLOGY Product Design DYLUNIO A THECHNOLEG CBAC Dylunio Cynnyrch Uned 2 – M 1 TAR 60% 30 awr Yr amrywiaeth o brosesau a’u hanhawster • Defnyddir amrywiaeth fach o brosesau – torri â laser, ffabrigo, prosesau electronig. • Project bach a thaclus ag iddo orffeniad proffesiynol o safon uchel. • Defnydd creadigol o CAM. 6 + Gellid bod wedi defnyddio prosesau mwy ymestynnol er mwyn creu cynnyrch mwy arloesol. Nesaf Meini Prawf Asesu 2015
WJEC DESIGN AND TECHNOLOGY Product Design DYLUNIO A THECHNOLEG CBAC Dylunio Cynnyrch Marc Cyrhaeddiad 0 - Dim tystiolaeth o brosesau ymarferol. 1 - 2 Tystiolaeth o un broses ymarferol syml. 3 - 4 Tystiolaeth o un neu ddwy broses ymarferol fwy ymestynnol. 5 - 6 Tystiolaeth o amrywiaeth o brosesau ymarferol gweddol ymestynnol. 7 - 8 Tystiolaeth o amrywiaeth o brosesau ymarferol ymestynnol. 9 - 10 Tystiolaeth o amrywiaeth o brosesau ymarferol heriol. Yn ôl 2015
WJEC DESIGN AND TECHNOLOGY Product Design DYLUNIO A THECHNOLEG CBAC Dylunio Cynnyrch Uned 2 – M 2 TAR 60% 30 awr Ansawdd yr adeiladu/gwneud • Cydrannau unigol wedi’u gweithgynhyrchu i safon uchel. • Mae’r cydrannau wedi’u gosod at ei gilydd yn gywir gan greu cynnyrch o safon. • Sgiliau gwneud effeithiol. 20 • Gellid gwella ar ansawdd y gorffeniad ar ymylon yr acrylig drwy ddefnyddio bwffio gwlyb/sych. Nesaf Meini Prawf Asesu 2015
WJEC DESIGN AND TECHNOLOGY Product Design DYLUNIO A THECHNOLEG CBAC Dylunio Cynnyrch Marc Cyrhaeddiad 0 - Dim tystiolaeth o brosesau ymarferol. 1 - 5 Nid oes fawr ddim manwl gywirdeb derbyniol yn yr adeiladu/gwneud. 6 - 10 Ceir lefel ddigonol o fanwl gywirdeb mewn ychydig o agweddau’n unig ar yr adeiladu/gwneud. 11 - 15 Ceir lefel ddigonol o fanwl gywirdeb mewn rhai agweddau ar yr adeiladu/gwneud. 16 - 20 Ceir lefel dda o fanwl gywirdeb ym mhob agwedd ar yr adeiladu/gwneud. 21 - 25 Ceir lefel uchel o fanwl gywirdeb ym mhob agwedd ar yr adeiladu/gwneud. Yn ôl 2015
WJEC DESIGN AND TECHNOLOGY Product Design DYLUNIO A THECHNOLEG CBAC Dylunio Cynnyrch Uned 2 – M 3 TAR 60% 30 awr Manwl gywirdeb y dimensiynau • Mae tebygrwydd agos rhwng y cynnyrch a’r ddelwedd ar dudalen 10 yn y llyfr gwaith. • Defnydd effeithiol o CAD/CAM er mwyn sicrhau cysondeb o’r cam dylunio i’r cam gweithgynhyrchu. • Mae tebygrwydd rhwng meintiau’r cynnyrch a mwyafrif y manylion technegol ar dudalen 11. 14 + Mae rhai rhannau ar goll ar dudalennau 10 ac 11 ac felly maent yn anodd eu mesur. Nesaf Meini Prawf Asesu 2015
WJEC DESIGN AND TECHNOLOGY Product Design DYLUNIO A THECHNOLEG CBAC Dylunio Cynnyrch Marc Cyrhaeddiad 0 - Dim tystiolaeth o brosesau ymarferol. 1 - 3 Nid oes fawr ddim tebygrwydd rhwng y cynnyrch gorffenedig a’r cynnig dylunio terfynol. 4 - 6 Mae tebygrwydd rhwng y cynnyrch gorffenedig a rhai o fanylion gweledol a thechnegol y cynnig dylunio terfynol. 7 - 9 Mae tebygrwydd rhwng y cynnyrch gorffenedig a llawer o fanylion gweledol a thechnegol y cynnig dylunio terfynol. 10 - 12 Mae tebygrwydd rhwng y cynnyrch gorffenedig a’r mwyafrif o fanylion gweledol a thechnegol y cynnig dylunio terfynol. 13 - 15 Mae tebygrwydd rhwng y cynnyrch gorffenedig a bron pob un o fanylion gweledol a thechnegol y cynnig dylunio terfynol. Yn ôl 2015
WJEC DESIGN AND TECHNOLOGY Product Design DYLUNIO A THECHNOLEG CBAC Dylunio Cynnyrch Uned 2 – M 4 TAR 60% 30 awr Ansawdd y gorffeniad/golwg • Gorffeniad o safon uchel. • Manylion drwy ddefnyddio CAM yn ychwanegu at ansawdd y cynnyrch. • Defnydd o beiriannau er mwyn rhoi gorffeniad proffesiynol i’r cydrannau. • Mae’r cynnyrch yn edrych ac yn ymddangos yn broffesiynol. 14 + Rhai rhannau garw o amgylch ymylon yr acrylig. + Gellid ychwanegu brandio at y cynnyrch i wella’i edrychiad. Nesaf Meini Prawf Asesu 2015
WJEC DESIGN AND TECHNOLOGY Product Design DYLUNIO A THECHNOLEG CBAC Dylunio Cynnyrch Marc Cyrhaeddiad 0 - Dim tystiolaeth o brosesau ymarferol. 1 - 3 Nid oes gan unrhyw ran o’r cynnyrch orffeniad digonol. 4 - 6 Mae gan rai rhannau o’r cynnyrch orffeniad digonol. 7 - 9 Mae gan y mwyafrif o rannau’r cynnyrch orffeniad digonol. 10 - 12 Mae gan y mwyafrif o rannau’r cynnyrch orffeniad da. 13 - 15 Cymerwyd gofal mawr i gynhyrchu gorffeniad o safon uchel ar bob rhan o’r cynnyrch. Yn ôl 2015
WJEC DESIGN AND TECHNOLOGY Product Design DYLUNIO A THECHNOLEG CBAC Dylunio Cynnyrch Uned 2 – M 5 TAR 60% 30 awr Gweithrediad • Mae’r cynnyrch yn gweithredu’n dda. • Mae’n ateb gofynion y briff ar dudalen 1. • Mae’n bodloni meini prawf y fanyleb ar dudalen 2. 8 + Nid yw’r cynnyrch yn cynnig unrhyw beth sy’n wahanol i’r cynhyrchion sydd ar y farchnad eisoes. + Mae angen mwy o arloesedd. Nesaf Meini Prawf Asesu 2015
WJEC DESIGN AND TECHNOLOGY Product Design DYLUNIO A THECHNOLEG CBAC Dylunio Cynnyrch Marc Cyrhaeddiad 0 - Nid yw’r cynnyrch yn gweithredu ar unrhyw lefel. 1 - 2 Mae’r cynnyrch yn gweithredu mewn ffordd gyfyngedig iawn neu mewn ffordd wedi’i rhannol gwblhau. 3 - 4 Mae’r cynnyrch yn gweithredu i ryw raddau. 5 - 6 Mae’r cynnyrch yn gweithredu’n weddol dda. 7 - 8 Mae’r cynnyrch yn gweithredu’n dda. 9 - 10 Mae’r cynnyrch yn gweithredu’n berffaith. Yn ôl 2015
WJEC DESIGN AND TECHNOLOGY Product Design DYLUNIO A THECHNOLEG CBAC Dylunio Cynnyrch Uned 2 – M 6 TAR 60% 30 awr Gweithio’n annibynnol • Nid oedd angen ond ychydig o gymorth. • Cwblhawyd y rhan fwyaf o’r agweddau heb unrhyw gymorth o gwbl. • Dilynwyd y cynllun ar dudalen 12 i weithgynhyrchu’r cynnyrch. 12 + Bu’n rhaid rhoi cyngor a chymorth i’r ymgeisydd gyda chanfod gwallau wrth adeiladu’r gylched. + Roedd rhai manylion ar goll yn y cynllun ar dudalen 12, ac roedd yr ymgeisydd yn methu â gwneud cynnydd o ganlyniad. Nesaf Meini Prawf Asesu 2015
WJEC DESIGN AND TECHNOLOGY Product Design DYLUNIO A THECHNOLEG CBAC Dylunio Cynnyrch Marc Cyrhaeddiad 0 - Ni all yr ymgeisydd weithio heb gymorth a chyngor cyson. 1 - 3 Bu’n rhaid rhoi cryn gymorth a chyngor i’r ymgeisydd wrth iddo/iddi wneud y cynnyrch. 4 - 6 Bu’n rhaid rhoi cymorth a chyngor yn weddol aml i’r ymgeisydd wrth iddo/iddi wneud y cynnyrch. 7 - 9 Bu’n rhaid rhoi peth cymorth a chyngor i’r ymgeisydd wrth iddo/iddi wneud y cynnyrch. 10 - 12 Nid oedd angen ond ychydig o gymorth a chyngor ar yr ymgeisydd wrth wneud y cynnyrch. 13 - 15 Mae’r ymgeisydd wedi gweithio heb unrhyw gymorth bron wrth wneud y cynnyrch. Yn ôl 2015
WJEC DESIGN AND TECHNOLOGY Product Design DYLUNIO A THECHNOLEG CBAC Dylunio Cynnyrch Gwybodaeth ddefnyddiol: 2013 Teacher INSET CPD • • www. cbac. co. uk – TGAU Dylunio a Thechnoleg Gweld pob un o’r manylebau asesu, Deunyddiau asesu enghreifftiol, Dogfennau Canllawiau i Athrawon, Adroddiadau’r Uwch Arholwyr ar gyfer arholiad pob maes penodol ar gyfer Uned 1, Adroddiad yr Uwch Safonwr ar gyfer TAR Uned 2, Deunyddiau Asesu a Chanllawiau i Athrawon. • • https: //www. wjecservices. co. uk/welsh/default (Bydd angen manylion cyfrif sy’n unigryw i’r ganolfan) Gweld y Data ar Lefel Eitem i gyd, Cymharu canlyniadau eich ymgeiswyr â chanlyniadau’r cofrestriad cyfan, Adnabod cryfderau a meysydd i’w datblygu, Cyn-bapurau a Chynlluniau Marcio, Cylchlythyrau a dogfennau PDF i’w lawrlwytho, Briffiau’r Asesiadau dan Reolaeth. • https: //hwb. wales. gov. uk/ • TGAU Dylunio a Thechnoleg – Adnoddau Addysgol ar gyfer Meysydd Penodol, • Deunyddiau rhyngweithiol. 2015
WJEC DESIGN AND TECHNOLOGY Product Design Cwestiynau? | Any Questions? DYLUNIO A THECHNOLEG CBAC Dylunio Cynnyrch Cysylltwch â’n Swyddogion Pwnc arbenigol a thîm cefnogaeth weinyddol eich pwnc os oes gennych unrhyw gwestiynau. Contact our specialist Subject Officers and administrative support team for your subject with any queries. steve. howells@wjec. co. uk rhodri. jenkins@wjec. co. uk @wjec_cbac @cbac_wjec cbac. co. uk wjec. co. uk 2015