TRYDAN DOMESTIG CBAC Ffiseg Uned 1 1 4
TRYDAN DOMESTIG CBAC Ffiseg Uned 1 - 1. 4 CBAC Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 3 - 3. 4
Pŵer ac Egni Bwlb golau traddodiadol Mae egni yn cael ei fesur mewn unedau o’r enw Jouleau (J). Mae pŵer yn cael ei fesur mewn unedau o’r enw Watiau (W) Mae bwlb golau 100 Wat yn defnyddio 100 J o egni am bob eiliad mae’r bwlb wedi’i oleuo. Mae hyn yn golygu am bob awr mae’r bwlb wedi’i oleuo, mae’n defnyddio 60 x 100 Jouleau o egni = 360 000 J Mae hwn yn ffigur mawr iawn, felly mae egni’n cael ei fesur mewn unedau o’r enw cilojouleau (k. J) fel arfer. Mae 1 cilojoule yn hafal i 1 000 Jouleau. Felly mae’r bwlb trydan uchod yn defnyddio 360 k. J o egni pan mae wedi’i oleo am awr.
Bwlb golau egni isel Mae bwlb golau egni isel 11 W yn rhoi’r un faint o olau â bwlb traddodiadol 100 W ond dim ond 11 J o egni mae’n ei ddefnyddio. Mae hyn yn golygu os yw bwlb yn cael ei oleuo am awr, mae’n defnyddio 60 x 11 Jouleau o egni = 39 600 J. Mae hyn yn arbed _____ o’i gymharu â bwlb golau traddodiadol. Mae hyn yn dangos faint o egni mae bylbiau egni isel yn ei arbed. Mae’r math yma o ddyfais yn bwysig yn yr ymdrech i leihau cynhesu byd-eang.
Cyfraddau Pŵer Dyfeisiau Mae egni dyfais arbennig yn cael ei gyfrifo o’i gyfradd pŵer. Mae hwn ar blât metel ar gefn neu ochr y ddyfais. Mae gan y peiriant bara hwn gyfradd pŵer o 660 W, sy’n golygu ei fod yn defnyddio 660 Jouleau yr eiliad (J/s).
Egni, Pŵer ac Amser Mae pŵer unrhyw ddyfais yn dweud faint o egni mae’n ei ddefnyddio yr eiliad. Mae cyfanswm yr egni sy’n cael ei ddefnyddio Gan ddyfais yn hafal i’r pŵer wedi’i luosi â chyfanswm yr amser mae’n cael ei defnyddio. Mae’r berthynas hon i’w gweld yn yr hafaliad ganlynol: Egni (Jouleau) E = Pŵer (Watiau) = P x t x Amser (eiliadau)
Egni, Pŵer ac Amser Mae’r fformiwla triongl canlynol yn gallu cael ei ddefnyddio i gyfrifo gwerth, os ydym yn gwybod dau werth arall. E – egni (J) P – pŵer (W) t – amser (s) E P t
Egni, Pŵer ac Amser Mae gan dostiwr gyfradd pŵer o 1. 5 k. W. Mae’n cymryd 2 funud i dostio tafell o fara felly faint o egni sy’n cael ei ddefnyddio yn ystod yr amser hwn? Cymorth… Pa wybodaeth sydd gennych? (Cofiwch fod rhaid i unedau’r meintiau cydfynd â’r rhai yn yr hafaliad) Beth sydd angen i chi gyfrifo? Pa fersiwn o’r hafaliad bydd angen? E P× t
Egni, Pŵer ac Amser Mae gan dostiwr gyfradd pŵer o 1. 5 k. W. Mae’n cymryd 2 funud i dostio tafell o fara felly faint o egni sy’n cael ei ddefnyddio yn ystod yr amser hwn? Egni (Jouleau) = Pŵer (Watiau) x Amser (eiliadau) E = P E = 1500 E = x x 180, 000 J or 180 k. J t 2 x 60
Egni, Pŵer ac Amser Mae hob yn defnyddio 0. 5 k. W i goginio llysiau mewn sosban. Os yw 450 k. J o egni yn cael ei ddefnyddio i goginio y llysiau, am faint o amser gafodd y llysiau eu coginio? Hint… Pa wybodaeth sydd gennych? (Cofiwch fod rhaid i unedau’r meintiau cydfynd â’r rhai yn yr hafaliad) E Beth sydd angen i chi gyfrifo? Pa fersiwn o’r hafaliad bydd angen? P t
Egni, Pŵer ac Amser Mae hob yn defnyddio 0. 5 k. W i goginio llysiau mewn sosban. Os yw 450 k. J o egni yn cael ei ddefnyddio i goginio y llysiau, am faint o amser gafodd y llysiau eu coginio? Amser (eiliadau) = Egni (Jouleau) / Pŵer (Watiau) t = E / P t = 450, 000 J / 500 W t = t = 900 s 900/3600 h 0. 25 awr
Edrych ar unedau • O’r cyfrifiadau blaenorol dylai fod yn glir fod Joule yn uned bychan iawn o egni. • Mae hyd yn oed cilojoule (1000 J) yn ymddangos yn anaddas gan fod bwlb golau syml yn defnyddio 72 k. J mewn hanner awr. • Pe bai’r Joule yn cael ei ddefnyddio ar gyfer yr uned sylfaenol i dalu am drydan, yna byddai’r biliau hynny’n rhai sy’n gofyn am dal am filoedd o filiynau o Jouleau y mis.
• Mae angen uned newydd ar gyfer meintiau mawr o egni trydan. • Yr uned hon yw kilowat awr neu ‘k. Wh’. • Dyma faint o egni sy’n cael ei ddefnyddio gan ddyfais 1 k. W am awr. • Yn nhermau jouleau mae hyn yn: 1 k. Wh = 1000 x 60 = 3, 600, 000 J Hyd yn oed mewn ‘k. Wh’ mae rhai defnyddwyr yn defnyddio miloedd o k. Wh o drydan bob mis!
Y mesurydd trydan Mae mesurydd trydan yn mesur cyfanswm y trydan sy’n cael ei ddefnyddio mewn unedau o’r enw kilowat-awr (k. Wh). Y fformiwla i gyfrifo yr egni sy’n cael ei ddefnyddio mewn k. Wh yw: Egni neu Unedau(k. Wh) = Pŵer (k. W) x Amser (oriau) (Nodwch y newid i unedau o bŵer ac amser)
Cost cadw’n gynnes Cyfrifwch gost y trydan sydd yn cael ei ddefnyddio pan mae gwresogydd a 2 k. W yn cael ei ddefnyddio am 90 munud = 1. 5 awr E = E E = P x 2 k. W x t 1. 5 h 3 k. Wh = 3 uned I gyfrifo’r gost, mae’n rhaid lluosi y nifer o unedau gyda chost bob uned (12 c) 3 units x 12 c = 36 c
CU a CE Ystyr CU yw “Cerrynt Union” – mae’r cerrynt yn teithio mewn un cyfeiriad yn unig Foltedd(V) 1. 5 V e. e. batri 1. 5 V Amser(T) Osgilosgop 1 fed s 50 Foltedd(V) 230 V Amser(T) Osgilosgop Ystyr CE yw “Cerrynt Eiledol” – mae’r cerrynt yn newid 50 gwaith pob eiliad (amledd = 50 Hz). Dyma’r cerrynt sy’n dod o’r prif gyflenwad.
Pam 230 V? Mae’r Deyrnas Unedig a gwledydd Ewrop wedi defnyddio 230 V ers y dechrau. Costio llawer o arian i newid i foltedd îs bellach – offer yn defnyddio 230 V. Bydd angen llawer o newidyddion er mwyn i’r offer sydd gennym i weithio ar foltedd îs. Bydd angen gwifrau hyblyg a mwy trwchus (foltedd is cerrynt uwch er mwyn sicrhau yr un pŵer). Mae llawer o adeiladwyr yn defnyddio offer sy’n gweithio ar 110 V. Mae hyn yn foltedd sy’n sicrhau llai o siawns o gael eich lladd. Mae’r UDA wedi dewis foltedd o 120 V i’w phrif gyflenwad. Oherwydd hyn, mae rhai gwneuthurwyr offer trydanol yn cynnwys switsh ble mae modd dewis y foltedd mae’r darn o offer yn ei ddefnyddio – bydd defnyddio’r offer gyda’r switsh ar 120 V yn y wlad yma’n niweidiol i’r offer.
Plwg Trydanol Rhaid cofio: Y wifren fyw sy’n cludo’r trydan Y ffiws sy’n diogelu’r offer rhag niwed Y wifren ddaear sy’n gyfrifol am ein diolegu ni rhag nam yn y gylched Plastig neu rwber yw deunydd y plwg, a gorchudd y gwifrau Daear Byw Ffiws Niwtral Cêbl Daliwr Cêbl
Plwg Trydanol Pa blwg sydd wedi ei wifro’n gywir? A B C D E F
Gwaith y ffiws Mae’r cerrynt yn teithio ar hyd y wifren fyw, trwy’r offer (bwlb yn yr achos hwn), ac yn ôl ar hyd y wifren niwtral. `
Pŵer Trydanol a’r Ffiws Rhaid cofio: Pŵer Trydanol (W) = Cerrynt (A) × Foltedd (V) neu P = IV Cerrynt = ? Foltedd = 240 V Pŵer = 720 W Pŵer = 120 W Cerrynt = ? Foltedd = 240 V Pŵer = 3000 W Pŵer = 480 W Pa ffiws i’w defnyddio? 3 A 5 A 13 A
Gwaith y ffiws Dangosir yma beth sy’n digwydd pan fo nam yn y gylched. Mae gormod o gerrynt i gryfder y ffiws. Mae’n torri ac yn creu bwlch yn y gylched. Rhan o’r wifren fyw yn cyffwrdd ag ochr yr offer. Mae llawer o gerrynt yn llifo nawr ar hyd y wifren ddaear.
Torrwr cylched Defnyddir torrwr cylched mewn unedau defnyddiwr modern. Bydd torrwr cylched bach (MCB – miniature circuit breaker) yn cael ei ddefnyddio yn lle ffiws. Os yw’r cerrynt yn uwch na’r gwerth sy’n cael ei nodi, bydd cryfder yr electromagnet yn codi, ac yn gwahanu’r cysylltau gan greu bwlch yn y gylched a diffodd yr offer. Nid yw torrwr cylched yn eich amddiffyn os ydych cyffwrdd â chydran fyw – yn debyg i ffiws. Manteision dros y ffiws: Cliciwch yma am fwy o wybodaeth o’r we 1) Mae’n gweithio llawer yn gynt 2) Mae’n bosibl ei ail-osod
Dyfais Cerrynt Gweddillol (RCDs – residual current devices) Pwrpas hwn yw eich diogelu rhag sioc drydan. Mae’n fath arall o dorrwr cylched sy’n mesur a chymharu’r cerrynt yn y gwifrau byw a niwtral – os ydynt yn gyfartal mae popeth yn iawn. Os oes nam, fe gewch chi sioc bach, ond nid digon i’ch ladd. Dylech chi ddefnyddio RCD bob tro wrth weithio â pheiriannau yn yr awyr agored. Os oes gwahaniaeth yng ngherrynt y wifren byw o’i gymharu â’r niwtral, fe fydd electromagnet yr ochr byw yn tynnu’r bar haearn i lawr gan wthio’r botwm i fyny a chreu bwlch yn y gylched. Effaith hyn fydd i atal trydan rhag cyrraedd yr offer. Dechreuwch y dril i weld yr RCD wrth ei waith. Rhaid ail-osod y switsh cyn ddefnyddio’r RCD eto. Bwlch yn y gylched B colyn N bar haearn Coiliau gwifren (electromagnet) Troi’r dril ymlaen cerrynt i mewn cerrynt allan niwtral byw cyflenwad pŵer
- Slides: 23