TGAU Mathemateg Datrys Problemau Trin Data Haen Uwch
TGAU Mathemateg Datrys Problemau Trin Data Haen Uwch
Mae Jacob yn rheoli ffatri greision. Mae Jacob eisiau penderfynnu a ddylai ddefnyddio tatws Lady Rosetta, Hermes neu Saturna i wneud ei greision. Mae’r 3 math o datws yr un pris i’w prynu fesul cilogram. Mae Jacob yn darganfod y wybodaeth ganlynol am y 3 math o datws. a) Mae’r tabl yn dangos dosraniad pwysau’r tatws mewn sach yn cynnwys 50 o datws Lady Rosetta. Pwysau (w grams) Amledd 100 < w ≤ 200 15 200 < w ≤ 300 23 300 < w ≤ 400 8 400 < w ≤ 500 4 Mae Jacob yn dweud y gall y tatws lleiaf bwyso 100 g. Ydy o’n gywir i ddweud hyn? Esboniwch eich ateb. Help Meddyliwch am yr anhafaleddau. Beth yw ystyr 100 < w ≤ 200 ? llaw
Ateb Mae Jacob yn dweud y gall y tatws lleiaf bwyso 100 g. Ydy o’n gywir i ddweud hyn? Esboniwch eich ateb. 100 < w ≤ 200 Ystyriwch yr ochr chwith: Mae hyn yr un peth a 100 < w w > 100 Mae hyn yn golygu fod y pwysau yn fwy na 100, nid yn fwy na neu’n hafal i, felly nid yw hyn yn gywir, ni all y tatws bwyso 100 g.
Mae’r histogram yn dangos dosraniad pwysau (mewn gramau), y tatws mewn sach o datws Hermes. Faint o datws sydd yn y bag? Dwysedd Amledd Pwysau tatws Hermes Amledd = Help Dwysedd amledd x lled y dosbarth Llaw
Ateb Mae’r histogram yn dangos dosraniad pwysau (mewn gramau), y tatws mewn sach o datws Hermes. Faint o datws sydd yn y bag? Dwysedd Amledd 100 x 0. 14 = 14 100 x 0. 22 = 22 100 x 0. 36 = 36 200 x 0. 14 = 28 Pwysau tatws Hermes 14 + 22 + 36 + 28 = 100
Mae’r histogram yn dangos dosraniad pwysau (mewn gramau), y tatws mewn sach o datws Hermes. Darganfyddwch y tebygolrwydd o ddewis tatws sydd yn pwyso o leiaf 280 g. Dwysedd Amledd Pwysau tatws Hermes Help llaw Rydych chi wedi darganfod yr amledd ar gyfer 300 < w ≤ 500. Darganfyddwch yr amledd ar gyfer 280 < w ≤ 300.
Ateb Mae’r histogram yn dangos dosraniad pwysau (mewn gramau), y tatws mewn sach o datws Hermes. Darganfyddwch y tebygolrwydd o ddewis tatws sydd yn pwyso o leiaf 280 g. Dwysedd Amledd Darganfyddwch yr arwynebedd i’r chwith o’r llinell yma 28 20 x 0. 36 = 7. 2 Pwysau tatws Hermes 280 7. 2 + 28 = 35. 2, felly’r tebygolrwydd yw 35. 2/100 = 0. 352,
Mae’r tabl yn dangos gwybodaeth am sach yn cynnwys 25 o datws Saturna. Ystadegaeth Pwysau (g) Cymedr 300 Canolrif 320 Modd 330 Amrediad 370 Mae Jacob eisiau defnyddio’r math o datws sydd â’r pwysau cymedrig uchaf i greu ei greision. Defnyddiwch y wybodaeth a roddir i benderfynnu pa un o’r tri math o datws y dylai Jacob eu prynu. Help llaw Defnyddiwch y wybodaeth sydd wedi ei roi yn y tabl uchod ynghyd a’r wybodaeth yr ydych chi wedi ei gasglu hyd yn hyn. Ystyriwch gymedr/canolrif/modd/amrediad/ tebygolrwydd y tatws.
Mae Jacob eisiau defnyddio’r math o datws sydd â’r pwysau cymedrig uchaf i greu ei greision. Defnyddiwch y wybodaeth a roddir i benderfynnu pa un o’r tri math o datws y dylai Jacob eu prynu. Ateb Ystyriwch y canolrif ar gyfer y 3 math o datws: Pwysau ( w gram) Lady Rosetta: 50 tatws Amledd Amcangyfrif ar gyfer y canolrif - y 25 ain gwerth. 100 < w ≤ 200 15 Mae hyn yn gorwedd yn y cyfwng 200 < w ≤ 300 23 300 < w ≤ 400 8 400 < w ≤ 500 4 200 < w ≤ 300 Saturna: Ystadegaeth Pwysau (g) Cymedr 300 Canolrif 320 Modd 330 Amrediad 370 Gwerth 1 -15 Y 23 gwerth nesaf h. y. 16 - 38 Mae’r 25 ain gwerth yn gorwedd fan yma.
Hermes: 100 tatws. Amcangyfrif ar gyfer y canolrif - 50 fed gwerth. Dwysedd Amledd Y 36 14 gwerth cyntaf 1 -14 Y gwerth 22 nesaf gwerth 37 -72 Mae’r 50 fed gwerth yn gorwedd yn y cyfwng 200 < w ≤ 300 nesaf 15 -36 Pwysau tatws Hermes Mae’r canolrif ar gyfer tatws Lady Rosetta a Hermes yn gorwedd rhwng 200 < w ≤ 300. Tatws Saturna sydd gyda’r anolrif uchaf sef 320 g, h. y mae 50% o datws Saturna yn pwyso o leiaf 320 g. Dyma’r tatws gorau i’w dewis wrth ystyried y canolrif.
Wrth ystyried y tebygolrwydd o ddewis tatws sydd yn pwyso o leiaf 300 g gwelwn : Lady Rosetta: 8 + 4 = 12 tatws yn pwyso o leiaf 300 g 12/50 = 24% Hermes: 28 tatws yn pwyso o leiaf 300 g 28/100 = 28% Pwysau (w gram) Amledd 100 < w ≤ 200 15 200 < w ≤ 300 23 300 < w ≤ 400 8 400 < w ≤ 500 4 Saturna: 50% o’r tatws yn pwyso yn fwy na 320 g (o’r canolrif), felly mae mwy na 50% yn pwyso o leiaf 300 g Ystadegaeth Pwysau (g) Cymedr 300 Canolrif 320 Modd 330 Amrediad 370 28 Mae’r canlyniadau yn dangos fod yna gyfrannedd uwch o datws trymach gan datws Saturna. Dylai Jacob brynu tatws Saturna.
- Slides: 11