TGAU CBAC Addysg Gorfforol Biomecaneg Dadansoddi symud Cefndir
TGAU CBAC Addysg Gorfforol Biomecaneg: Dadansoddi symud
Cefndir • Mae’r adnodd Power. Point hwn yn rhoi sylw i bedwar pwnc biomecaneg ar gyfer cwrs TGAU CBAC Addysg Gorfforol. • Mae’n ymwneud â’r trydydd maes allweddol – Dadansoddi symud.
Cynnwys • Mae’r pwnc hwn ‘Dadansoddi symud’ yn cynnwys y canlynol. – Cyfangiadau cyhyrol – System liferi – Planau ac echelinau symud – Technoleg chwaraeon • Hefyd mae adran Tasgau ar y diwedd sy’n cynnwys cwestiynau ac atebion sy’n gysylltiedig â’r wybodaeth o fewn y cyflwyniad hwn.
Trosolwg Mae Biomecaneg yn aml iawn yn cael ei ystyried yn dechneg wyddoniaeth sylfaenol. Mae perfformwyr a hyfforddwyr chwaraeon yn defnyddio dadansoddiad biomecanyddol i’w helpu i wella perfformiad, yn dechnegol ac yn dactegol, yn ogystal ag i ddeall sut a phryd mae’r corff yn symud fel y mae.
Cyfangiadau cyhyrol
Cyfangiadau cyhyrol Mae cyhyrau’n cyfangu ar draws cymalau i achosi symudiad. Mae cyhyrau’n gweithio mewn parau a phan fydd un cyhyr yn cyfangu, mae’r cyhyr gyferbyn yn ymlacio (gweithrediad cyhyrau gwrthweithiol).
Cyfangiadau cyhyrol Mae cyhyrau’n cyfangu mewn ffyrdd gwahanol i greu symudiad. • Cyfangiad isotonig: mae’r cyhyr sy’n creu’r tensiwn yn rheoli cyflymder y cyfangu. – Cyfangiad consentrig – byrhau’r cyhyr. – Cyfangiad ecsentrig – ymestyn y cyhyr. • Cyfangiad isometrig: mae’r cyhyr yn creu’r tensiwn ond yn aros yr un hyd.
System liferi
Liferi • Mae gwybodaeth am liferi’n datblygu dealltwriaeth o sut mae’r corff yn symud ac yn esbonio rhyngweithiad y system sgerbydol i greu symudiad. • Mae liferi’n caniatáu i ni greu symudiad sy’n fwy na’r grym a ddefnyddir.
Cydrannau system liferi Mae liferi’n cynnwys y tair gydran ganlynol. • Ffwlcrwm (colyn): y pwynt y mae’r lifer yn cylchdroi (colynnu) o’i gwmpas. • Ymdrech (grym): y man lle mae’r grym (ymdrech) yn cael ei roi. • Llwyth (gwrthiant): lleoliad y llwyth/pwysau sy’n cael ei symud/godi. Mae tri dosbarth o lifer. • Lifer dosbarth 1. • Lifer dosbarth 2. • Lifer dosbarth 3.
Lifer dosbarth 1 Llwyth Ffwlcrwm Llwyth Ymdrech Ffwlcrwm Enghreifftiau: • Ymestyn y gwddf. • Penio pêl. • Rhwyfo. Ymdrech Llwyth
Lifer dosbarth 2 Llwyth Ymdrech Ffwlcrwm Ymdrech Llwyth Ffwlcrwm Ymdrech Enghreifftiau: • Codi’r sawdl wrth sefyll. • Plygu gwadnol y pigwrn/ffêr, e. e. marcio mewn pêl-rwyd. Ffwlcrwm Llwyth
Lifer dosbarth 3 Ymdrech Llwyth Ffwlcrwm Y lifer yma sy’n cael ei Llwyth ddefnyddio fwyaf cyffredin mewn chwaraeon a symudiad. Enghreifftiau: • Cyrlio’r cyhyryn deuben. • Plygu’r pen-glin, e. e. cicio. Ffwlcrwm Ymdrech
Cymalau o bob math Mae gwybodaeth am y system sgerbydol a sut mae’n gweithio yn ein helpu ni i ddeall symudiad ac yn esbonio sut mae sgiliau’n cael eu perfformio. Mae gwybodaeth am symudiadau posibl pob cymal yn gallu helpu hyfforddwyr i ddeall datblygiad sgiliau ac Ysigiad penelin i wella perfformiad.
Cymalau Mae cymalau sgerbydol yn cael eu dosbarthu yn ôl eu hadeiledd a’u strwythur (ystod a math o symudiad). Mae tri dosbarthiad adeileddol ar gymalau: • sefydlog (ffibrog) • cartilagaidd • synofaidd.
Cymalau synofaidd Dyma nodweddion cymalau synofaidd: • y cymal mwyaf cyffredin yn y system sgerbydol ddynol • mae ceudod cymal ynddynt • esgyrn cymalog gyda gewynnau yn eu dal at ei gilydd • symudol iawn. Enghreifftiau: • Ysgwydd • Pen-glin.
Adeiledd cymalau synofaidd Mae cymalau synofaidd yn cynnwys y canlynol. • Ceudod synofaidd – gwagle llawn hylif sy’n gwahanu’r esgyrn cymalog. • Hylif synofaidd – hylif sy’n iro’r cymal ac yn rhoi maeth i’r cartilag cymalog. • Cartilag cymalog – mae cartilag hyalin yn gorchuddio’r arwynebau cymalog, yn lleihau ffrithiant ac yn gweithredu fel siocladdwr. • Gewynnau – yn cysylltu asgwrn ag asgwrn ac yn sefydlogi’r cymal. • Tendonau – yn cysylltu asgwrn â chyhyr ac yn galluogi symudiad.
llithro colfach colynnog Mathau o gymalau synofaidd pelen a chrau cyfrwy condylaidd Y cymalau ‘colfach’ a ‘phelen a chrau’ sy’n cael eu defnyddio fwyaf mewn chwaraeon, e. e. ysgwydd a phen-glin.
Cymal colfach • Mae cymal colfach yn gymal un echelin (fel colfach drws) – plygu ac estyn. • Mae’n caniatáu symudiad mewn un plân. Enghreifftiau: • Wlno-ysgwyddol (ulno-humeral). • Rhyng-ffalangol (inter-phalangeal).
Cymal pelen a chrau • Mae cymal pelen a chrau yn gymal tair echelin. • Mae’n caniatáu symudiad mewn tri phlân, e. e. plygu/estyn, adsymud/allsymud, cylchdroi. • Dyma’r math mwyaf symudol o gymal. Enghreifftiau: • Clun. • Ysgwydd.
Planau ac echelinau symud
Planau ac echelinau symud Pam mae’n bwysig gallu disgrifio symudiad? • Deall techneg. • Datblygu model technegol delfrydol o berfformiad. • Deall mecanweithiau anafiadau. • Deall y symudiadau sy’n cyfrannu at berfformiad llwyddiannus. • Cyfathrebu techneg: hyfforddwr–perfformiwr.
Planau symud Plân: arwyneb gwastad; gellir uno unrhyw ddau bwynt ar y plân gyda llinell syth heb groestorri’r plân. Plân symud: mae tri phlân anatomegol dychmygol sy’n croestorri craidd disgyrchiant y corff gan rannu’r corff yn ddarnau cyfartal.
Planau symud anatomegol Plân saethol Plân talcennol Plân traws (llorweddol)
Plân talcennol Plân fertigol dychmygol sy’n rhannu’r corff yn ddarnau cyfartal blaen ac ôl (anterior a posterior). Enghraifft: • Olwyn dro. Plân talcennol
Plân saethol Plân fertigol dychmygol sy’n rhannu’r corff yn ddarnau cyfartal de a chwith. Enghraifft: • Trosben am yn ôl (back flip). Plân saethol
Plân llorweddol/traws Plân llorweddol dychmygol sy’n rhannu’r corff yn ddarnau cyfartal uchaf ac isaf. Enghraifft: • Taflu disgen. Plân llorweddol
Planau symud Mae’r rhan fwyaf o symudiadau mewn chwaraeon yn digwydd mewn planau niferus. Fodd bynnag, mae rhai symudiadau’n fwy planar (mewn un plân) nag eraill. Pan mae symudiad mewn un plân mae’n golygu nad oes unrhyw ran o’r corff yn croesi o naill ochr y plân i’r llall yn ystod y symudiad.
Echelinau symud • Mae tair echelin anatomegol ddychmygol sy’n croestorri yng nghraidd disgyrchiant y corff. • Mae symudiad yn digwydd o amgylch yr echelinau Echelin hyn. traws • Yn y rhan fwyaf o weithredoedd chwaraeon, mae’r symudiad o amgylch mwy nag un echelin. Echelin hydredol Echelin dalcennol
Echelin hydredol Polyn dychmygol sy’n rhedeg yn fertigol drwy’r corff o’r top i’r gwaelod ac sy’n berpendicwlar i’r ddaear. Enghraifft: • Tro llawn (full twist).
Echelin traws Polyn dychmygol sy’n rhedeg yn llorweddol drwy’r corff o ochr i ochr (yn ochrol). Enghraifft: • Trosben.
Echelin dalcennol Polyn dychmygol sy’n rhedeg yn llorweddol drwy’r corff o’r blaen i’r cefn. Enghraifft: • Olwyn dro.
Patrymau symud Er mwyn deall perfformiad chwaraeon mae’n rhaid i ni allu disgrifio symudiad y corff dynol. Gan ddefnyddio planau ac echelinau symud a gweithredoedd cymalau gallwn ddisgrifio perfformiad a deall sut mae pobl yn symud.
Plygu/estyn Mae plygu ac estyn yn digwydd yn y plân saethol. • Plygu: ‘cau’ cymal. • Estyn: ‘agor’ cymal. Plygu Estyn
Adsymud/allsymud Mae adsymud ac allsymud yn ymwneud â symud cymalau oddi wrth a thuag at linell ganol y corff yn y plân talcennol. • Adsymud: symud cymalau oddi wrth y corff. • Allsymud: symud cymalau tuag at y corff. Adsymud Allsymud
Cylchsymud Mae cylchsymud yn disgrifio symudiad cylchol ac mae’n gyfuniad o blygu, estyn, adsymud ac allsymud.
Cylchdroi Mae cylchdroi yn disgrifio symudiad ‘troi’ (twist) yn y plân traws, o amgylch yr echelin hydredol fel rheol.
Technoleg chwaraeon
Technoleg chwaraeon Mae technoleg yn effeithio ar bob agwedd ar chwaraeon bron, o berfformiad ar y cae ac oddi arno i’w gwylio a’u proffil cyhoeddus. Mae datblygiadau mewn technoleg yn dylanwadu fwy a mwy ar chwaraeon ar lawr gwlad yn ogystal â chwaraeon elît.
Datblygiadau technolegol Mae technoleg a ddefnyddir mewn gweithgaredd corfforol wedi chwarae rhan bwysig mewn hyfforddi a chystadlu. Mae hyn yn amlwg mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan gynnwys creu cyfleusterau chwaraeon newydd, yr offer a ddefnyddir, dyfarnu, gwylio, hyfforddi a pherfformio (dadansoddi a hyfforddi). Technoleg defnyddiau Dillad Offer Defnyddiau Dyfarnu Cyfleusterau Hyfforddi Datblygiadau technolegol TGCh Nodweddion diogelwch Dadansoddi perfformiad Technoleg hyfforddi
Dadansoddi perfformiad Mae sawl dull y gall yr hyfforddwr neu’r athletwr ei ddefnyddio i ddadansoddi perfformiad gan gynnwys y canlynol. Techneg • Dadansoddiad fideo. • Patrymau a chyfnodau symud. • Agweddau technegol. Nodweddion corfforol • Dadansoddi amser/symud. • Pellter a deithir. • Profi/hyfforddi. Tactegau • Dadansoddiad nodiannol. • Monitro tueddiadau mewn perfformiad. • Systemau. Ymddygiad • Proffilio seicolegol. • Rhagweld ymddygiad. • Cymhelliant, straen, cynnwrf.
Tasgau: Cwestiynau ac atebion
Tasg: Cwestiwn 1. Sut byddech chi’n disgrifio’r symudiad hwn o ran planau ac echelinau symud? Sbring llaw am yn ôl
Tasg: Ateb 1. Wrth wneud sbring llaw am yn ôl, mae’r symudiad yn y plân saethol o amgylch yr echelin traws. Sbring llaw am yn ôl
Tasg: Cwestiwn 1. Beth yw gweithred y cymal yn ystod y symudiadau hyn? – Yn y penelin wrth daro ergyd flaenllaw mewn tennis. – Yn y pen-glin wrth gicio pêl droed.
Tasg: Ateb 1. Gweithred y cymal yn y penelin wrth daro ergyd flaenllaw mewn tennis = Plygu. Gweithred y cymal yn y pen-glin wrth gicio pêl droed = Estyn.
Tasg: Cwestiynau Beth yw’r symudiad yn y sgiliau canlynol? 1. Bowlio mewn criced. – Ym mha blân mae’r symudiad yn bennaf? – Beth yw gweithred y cymal yn yr ysgwydd? 2. Taflu morthwyl. – Ym mha blân mae’r symudiad yn bennaf? – O amgylch pa echelin mae’r perfformiwr yn cylchdroi? 3. Cyrlio’r cyhyryn deuben. – Beth yw gweithred y cymal yn y penelin?
Tasg: Atebion 1. Bowlio mewn criced. – Mae’r symudiad yn y plân talcennol yn bennaf. – Cylchsymud yw gweithred y cymal yn yr ysgwydd. 2. Taflu morthwyl. – Mae’r symudiad yn y plân traws yn bennaf. – Mae’r perfformiwr yn cylchdroi o amgylch ei echelin hydredol. 3. Cyrlio’r cyhyryn deuben. – Plygu yw gweithred y cymal yn y penelin.
Tasg: Cwestiwn 1. Pa ddosbarthiad o lifer yw penelin?
Tasg: Ateb 1. Mae penelin yn lifer math Dosbarth 3. Dyma’r lifer a ddefnyddir fwyaf cyffredin mewn chwaraeon a symud.
- Slides: 50