TGAU ASTUDIAETHAU CREFYDDOL CBAC Manyleb B Haf 2015
TGAU ASTUDIAETHAU CREFYDDOL CBAC Manyleb B Haf 2015 Adborth Arholiadau
Adborth Crefydd a Materion Bywyd (4451) Haf 2015 * Gradd A B C D E F G U Ffin Gradd 090 080 070 060 050 040 030 020 000 GMU Ffin Gradd 081 068 055 043 034 026 018 010 000 Marciau Crai Gradd A* A B C D E F G U Materion Bywyd 9. 4% 16. 4% 23. 3% 20. 4% 12. 4% 7. 9% 5. 1% 2. 9% 1. 6% Graddau Cronnus A* A*-A A*-B A*-C A*-G 9. 4% 25. 8% 49. 1% 69. 5% 98. 4%
Adborth Crefydd a Materion Bywyd (4451) Haf 2015 Uned 1 Cwestiynau yn nhrefn gwerth cymedrig y marciau Ffactor Hygyrchedd Cw 1: Perthynas 13. 7 57. 3 Cw 2: A yw'n Deg? 12. 5 52. 1 Cw 4: Ein Byd 12. 1 50. 4 Cw 3: Chwilio am Ystyr 11. 7 48. 6 Marc cymedrig y cwestiwn (benywaidd) Marc cymedrig y cwestiwn (gwrywaidd) Gwahaniaeth 1 Perthynas 14. 8 12. 6 -2. 2 2 A yw'n Deg? 13. 4 11. 6 -2. 2 3 Chwilio am Ystyr 12. 5 10. 8 -1. 7 4 Ein Byd 13. 1 11. 0 -2. 1 Cyfartaledd -2. 05 3. 1 -0. 5 1(d) SAG 3. 6
Adborth Crefydd a Materion Bywyd (4451) Haf 2015
Sylwadau cadarnhaol ar berfformiad yr ymgeiswyr "Cafwyd enghreifftiau o atebion gwych, fel arfer, ac ymatebion manwl a meddylgar wedi'u mynegi'n dda. " "Cw 1(a) Cafwyd atebion da iawn gan nifer o ymgeiswyr, yn aml yn cyfeirio at gyfrifoldeb o ryw fath ac yn defnyddio enghreifftiau. " "Cw 3(b) Cafwyd. . . rhai atebion rhagorol yn gwneud defnydd da iawn o eiriau allweddol ac yn datblygu syniadau cymhleth. " "Roedd nifer o'r ymgeiswyr yn arddangos gwybodaeth wych am draddodiadau crefyddol, yn ogystal â dealltwriaeth gadarn o ddylanwad credoau a dysgeidiaethau crefyddol ar fywydau credinwyr crefyddol. " "Cafwyd atebion da iawn i Cw 3(a) – cafwyd diffiniadau cadarn gan nifer o'r ymgeiswyr a chyfeiriadau at Dduw fel creawdwr a'r Bod Mawr. Enillodd nifer o'r ymgeiswyr farciau llawn ar gyfer y cwestiwn hwn. " "Cw 4(d). . . roedd yr atebion gorau yn egluro sut mae agweddau yn seiliedig ar gredoau a dysgeidiaethau crefyddol. "
MATERION I'W TRAFOD "Ni chafwyd ymatebion llawn i ran (ch) y cwestiynau gan nifer fawr o'r ymgeiswyr eleni. Gofynnir am wybodaeth am ddau draddodiad crefyddol fel arfer. " "Cw 3(b) – sy'n cyfeirio at 'alwad'. Yn anffodus, mae'n amlwg nad oedd nifer o ganolfannau wedi dysgu'r term hwn i'w hymgeiswyr; roedd yr holl leoedd gwag heb eu llenwi o dan y cwestiwn yn dystiolaeth o'r ffaith hon. " ". . . roedd nifer o'r ymgeiswyr yn enwi un traddodiad crefyddol, ac yna'n ysgrifennu am draddodiad crefyddol gwahanol. " "Cw 2(b) Mae'r cwestiwn hwn yn amlwg yn gofyn i'r ymgeiswyr egluro sut y gallai person crefyddol neu sefydliad crefyddol weithio dros gyfiawnder. Yn anffodus, ysgrifennodd rhai ymgeiswyr am y ddau. Mae darllen y cwestiwn yn ofalus a chynnig ymateb priodol yn bwysig. " "Cw 4(a) Yn anffodus roedd rhai ymgeiswyr wedi diffinio'r term 'stiwardiaeth' yn hytrach na'r term 'awdurdod'. Unwaith eto, mae'n bwysig nodi bod angen dysgu pob un o'r termau allweddol sydd yn y fanyleb, a bod angen i'r ymgeiswyr ganolbwyntio ar ateb y cwestiwn sydd o'u blaenau. "
Adborth Crefydd a'r Profiad Dynol (4452) * Gradd A B C D E F G U Ffin Gradd 090 080 070 060 050 040 030 020 000 GMU Ffin Gradd 079 066 053 040 032 024 016 008 000 Marciau Crai Gradd A* A B C D E F G U Y Profiad Dynol 10. 9% 15. 8% 20. 2% 20. 0% 10. 2% 8. 6% 6. 4% 4. 9% 3. 0% Graddau Cronnus A* A*-A A*-B A*-C A*-G 10. 9% 26. 7% 46. 9% 66. 9% 97%
Adborth Crefydd a'r Profiad Dynol (4452) Uned 2 Cwestiynau yn nhrefn gwerth cymedrig y marciau Ffactor Hygyrchedd Cw 2: Crefydd a Meddygaeth 12. 2 50. 9 Cw 3: Mynegiant crefyddol 11. 8 49. 2 Cw 1: Crefydd a Gwrthdaro 11. 4 47. 4 Cw 4: Awdurdod – Crefydd a'r Wladwriaeth 11. 3 47. 1 Marc cymedrig y cwestiwn (benywaidd) Marc cymedrig y cwestiwn (gwrywaidd) Gwahaniaeth 1 Gwrthdaro 12. 4 10. 3 -1. 9 2 Meddygaeth 13. 4 10. 9 -2. 5 3 Mynegiant 12. 9 10. 6 -2. 3 4 Crefydd a'r Wladwriaeth 12. 5 10. 0 -2. 5 Cyfartaledd -2. 3 3. 0 -0. 5 1(d) SAG 3. 5
Adborth Crefydd a'r Profiad Dynol (4452)
Sylwadau cadarnhaol ar berfformiad yr ymgeiswyr "Roedd hi'n amlwg, ym mwyafrif y sgriptiau, fod yr ymgeiswyr wedi ymdaflu i'r cwrs, ac yn aml roeddent yn gallu cymhwyso sefyllfaoedd cyfoes perthnasol at eu hatebion. " "Cw 4(d) Cafwyd rhai atebion gwych yn arddangos tystiolaeth o ystyriaeth aeddfed a mewnwelediad. " "Cw 1(ch) Cafwyd rhai atebion gwych, yn enwedig yr atebion oedd yn trafod Bwdhaeth a Christnogaeth am eu bod yn cyfeirio at ddiwinyddiaethau penodol a thestunau sanctaidd. " "Cw 3(c) Cafwyd atebion da, ac yn aml roedd ystyriaeth aeddfed o natur addoli i'w gweld yn yr ymatebion. Roedd nifer o'r ymgeiswyr yn cymhwyso eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o adrannau eraill yn y fanyleb at eu hatebion i'r cwestiwn hwn. " "Cw 1(b) Cafwyd nifer o atebion da, gyda'r ymgeiswyr yn cymhwyso eu dealltwriaeth o'r cwrs er mwyn cyfeirio at berthynas, deialog rhwng crefyddau ac ati. Roedd ymgeiswyr yn aml yn cyfeirio at destunau sanctaidd yn eu hatebion. "
MATERION I'W TRAFOD ". . . gwelwyd diffyg ymwybyddiaeth o'r cysyniadau allweddol gan rai ymgeiswyr. Yn aml, canlyniad hyn oedd ymgeiswyr yn methu ag ateb rhan (a) y cwestiynau, ac yn methu â chymhwyso'r cysyniad allweddol at eu hatebion i'r cwestiynau eraill. " "Rhan (ch) y cwestiynau – mae cymhwyso gwybodaeth am grefyddau at y cwestiwn hwn yn parhau i fod yn wendid. Yn aml, cynigir sylwadau cyffredinol iawn neu ymatebion sy'n cymharu dwy grefydd yn hytrach nag amlinellu credoau'r ddwy grefydd ar wahân. " "Cw 1(d) Roedd atebion rhai ymgeiswyr yn hynod o gyfyng – cynigiwyd pwynt o blaid ac yn erbyn y datganiad, pwynt moesol a barn bersonol. . . roedd hi'n siomedig gweld bod rhai ymgeiswyr wedi hepgor y cwestiwn hwn yn gyfan gwbl. Roedd hyn hefyd yn golygu colli marciau SAG. " "Cw 4(a) Cafodd nifer o'r ymgeiswyr cyfrwng Saesneg drafferth yn egluro'r cysyniad allweddol hwn (hynny yw 'personal conviction') gyda'r ymatebion yn aml yn cyfeirio at ddyfarnu rhywun yn euog o drosedd (hynny yw, 'being convicted'). " ". . . roedd ymgeiswyr yn colli marciau pan nad oeddent wedi darllen y cwestiwn yn llawn. "
Nodweddion cyffredin yn atebion ymgeiswyr DA i bob math o gwestiwn: a) Roedd yr ymgeiswyr da wedi dysgu'r geiriau allweddol, yn gallu cynnig diffiniadau cywir o’r geiriau hyn ac yn arddangos eu dealltwriaeth ohonynt drwy ddefnyddio enghreifftiau. b) Roedd yr ymgeiswyr da yn darllen y cwestiwn yn ofalus, ac yn adnabod geiriau sbardun, er enghraifft 'Eglurwch sut. . . '. Roeddent yn gallu sefydlu cysylltiad clir rhwng credoau crefyddol ac arferion crefyddol. c) Roedd yr ymgeiswyr da yn cynnig dau reswm yn eu hymatebion i‘r cwestiwn hwn, ac roedd rhai ohonynt yn gallu cyfeirio at ddysgeidiaeth grefyddol benodol. Roeddent yn egluro eu rhesymu yn hytrach na rhestru pwyntiau cryno yn unig. ch) Yn hytrach na rhestru rhai pwyntiau perthnasol yn unig, roedd yr ymgeiswyr da yn egluro agweddau crefyddol tuag at y mater dan sylw yn fanwl. Roeddent hefyd yn defnyddio termau allweddol yn eu hymatebion. Roeddent yn addasu eu hatebion i gwrdd â gofynion y cwestiwn gan gyfeirio at un NEU ddau draddodiad crefyddol yn fanwl.
Nodweddion cyffredin yn ymatebion ymgeiswyr DA i bob math o gwestiwn: d) Roedd yr ymgeiswyr da yn darllen y cwestiwn yn ofalus ac yn cynnig ymatebion treiddgar i'r safbwynt dan sylw. Er enghraifft, yn Uned 1 Cw 3(d) dangosodd yr ymgeiswyr ddealltwriaeth dda iawn o bwysigrwydd addoli o fewn traddodiadau crefyddol, ac roeddent yn gallu cyflwyno dadl gytbwys rhwng pwysigrwydd addoli cyhoeddus a phwysigrwydd addoli preifat. Roedd rhai ymgeiswyr yn defnyddio termau allweddol yn ymwneud â'r arfer o addoli trwy gydol eu hatebion. Roedd yr ymgeiswyr da yn cyfeirio'n benodol at ymatebion crefyddol (gan gynnwys cyfeiriadau at destunau sanctaidd, arweinwyr crefyddol ac ati) ac yn cynhyrchu atebion cynhwysfawr a chytbwys. Roeddent yn cynnig mwy nag un safbwynt yn ogystal â rhesymau neu dystiolaeth i gefnogi eu hatebion.
Nodweddion cyffredin yn ymatebion ymgeiswyr GWAN i bob math o gwestiwn: Roedd yr ymgeiswyr gwan: • yn methu â darllen pob cwestiwn yn ofalus • yn methu â chanolbwyntio ar bob rhan o'r cwestiwn cyfan • yn cynnig atebion cyffredinol i rannau (ch) a (d) y cwestiynau, a phrin oedd y cyfeirio at grefydd os o gwbl. Adborth ar bob cwestiwn: a) Nid oedd yr ymgeiswyr gwan yn ymwybodol o ystyr rhai geiriau allweddol. Er enghraifft, yn Uned 2 Cw 4(a) roedd nifer wedi methu ag egluro ystyr y term 'argyhoeddiad personol‘ (‘personal conviction’). b) Nid oedd rhai ymgeiswyr yn gwybod ystyr y geiriau sbardun – er enghraifft, 'Eglurwch sut' – a chafwyd ymatebion amherthnasol, ar y cyfan, o ganlyniad i hyn. Nid oedd rhai ymgeiswyr eraill wedi dysgu'r termau allweddol (er enghraifft 'galwad' yn Uned 1 Cw 3(b)) ac felly nid oeddent yn gallu cwrdd â gofynion y cwestiwn cyfan.
Nodweddion cyffredin yn ymatebion ymgeiswyr GWAN i bob math o gwestiwn: c) Roedd yr ymgeiswyr gwan yn cynnig un rheswm yn unig (yr un rheswm ar gyfer crefyddau gwahanol weithiau) neu'n nodi rhestr o resymau syml heb ddatblygiad pellach. Ar gyfer Uned 2 Cw 1(c) cafwyd rhestr o'r mathau o brotestio di-drais gan ymgeiswyr gwan, heb nodi pa un ai ydy'r mathau hyn o brotestio yn gweithio neu beidio (sef un o ofynion y cwestiwn). ch) Cafwyd ymatebion byr gan yr ymgeiswyr gwan ac atebion cyffredinol, yn aml, heb dystiolaeth ategol. Atebwyd un rhan o'r cwestiwn yn unig gan rai ymgeiswyr – er enghraifft, Uned 1 Cw 1(ch) – ac roedd hyn yn cyfyngu ar lefel yr ymatebion. d) Nid oedd rhai ymgeiswyr wedi rhoi cynnig ar ateb cwestiwn 1(d) hyd yn oed. Pe baent wedi cynnig rhywfaint o wybodaeth berthnasol yng nghwestiwn 1(d) byddent wedi derbyn marciau SAG. Roedd methu ag ateb y cwestiwn o gwbl yn golygu colli 5 marc SAG yn ogystal. Cafwyd ymatebion byr gan yr ymgeiswyr gwan ac atebion cyffredinol, yn aml, heb dystiolaeth ategol, yn enwedig rhesymu crefyddol (er enghraifft, Uned 1 Cw 4(d) ac Uned 2 Cw 1(d)).
ADNODDAU I ATHRAWON Cefnogi addysgu a dysgu cbac. co. uk/cymwysterau Adnoddau penodol i'r pwnc rhad ac am ddim ar gael i bawb eu llwytho i lawr oddi ar ein gwefan adnoddau. cbac. co. uk Adnoddau digidol rhad ac am ddim i gefnogi addysgu a dysgu ystod eang o bynciau oer. wjec. co. uk Mae'r adnodd adolygu arholiadau ar-lein rhad ac am ddim yn caniatáu i athrawon ddadansoddi data ar lefel eitem, asesu papurau cwestiynau sampl yn feirniadol a derbyn adborth gan arholwr cbac. co. uk/siop Dewis enfawr o adnoddau addysgol, manylebau, cyn bapurau a chynlluniau marcio i gefnogi addysgu a dysgu'r pynciau mae CBAC yn eu cynnig
Unrhyw gwestiynau? Cysylltwch â Swyddog Pwnc arbenigol a thîm cefnogi gweinyddol eich pwnc os oes gennych unrhyw gwestiynau. tudor. thomas@cbac. co. uk Swyddog Pwnc christopher. barfoot@cbac. co. uk Swyddog Cefnogaeth Pwnc Dilynwch ni ar Twitter: @CBAC_Ast. Cref
- Slides: 17