Tasg Lafar Edrychwch ar y lluniau Mewn parau

  • Slides: 6
Download presentation

Tasg Lafar Edrychwch ar y lluniau. Mewn parau trafodwch y cwestiynau isod. Beth a

Tasg Lafar Edrychwch ar y lluniau. Mewn parau trafodwch y cwestiynau isod. Beth a welwch yn y lluniau? Pryd ydych chi’n meddwl y cafodd y lluniau eu tynnu? Sut mae’r lluniau yn gwneud i chi deimlo? Pa lun sydd yn tynnu eich sylw a pham? Beth yw’r gwahaniaethau rhwng y ddau lun? Beth ddigwyddodd tu allan i’r castell? Dychmygwch beth oedd tu mewn i’r castell yng nghyfnod Owain Glyndŵr ? Sut fywyd oedd ganddynt? Sut fywyd oedd gan y bobl gyffredin a oedd yn byw tu allan i’r castell? Beth arall ydych yn ei wybod am gastell Harlech ?

Rhai pethau i’w cofio: § Dychmygwch eich bod yn ohebydd. Rydych wedi eich danfon

Rhai pethau i’w cofio: § Dychmygwch eich bod yn ohebydd. Rydych wedi eich danfon at y castell i adrodd hanes y frwydr. Mae’n rhaid i chi: § benderfynu pwy rydych am ei holi § feddwl ble, pryd, pam, a sut? § beth rydych am ei wybod? § benderfynu sut rydych am gychwyn y cyfweliad teledu § ofyn cwestiynau diddorol § rhoi eich hun yn esgidiau y cymeriadau § ddefnyddio’r wybodaeth o’r llyfr i’ch helpu § sôn am deimladau § gorffen y cyfweliad yn effeithiol

Model i’ch helpu !! Gohebydd : Bore da a chroeso i benawdau’r newyddion. Ar

Model i’ch helpu !! Gohebydd : Bore da a chroeso i benawdau’r newyddion. Ar hyn o bryd rwyf yn sefyll tu allan i gastell anferthol Harlech ac yn edrych ymlaen yn arw i gael sgwrs gyda’r dyn ei hun Owain Glyndŵr, arwr Cymru a lwyddodd i oresgyn y castell. Croeso mawr i chi. Glyndŵr : Diolch yn fawr iawn. Gohebydd: Pam eich bod wedi penderfynu ymosod ar gastell Harlech? Glyndŵr : Mae gen i freuddwyd ers blynyddoedd fy mod am reoli Cymru. Oherwydd y brenin Harri yn y bôn. Mae’n trin y Cymry yn ofnadwy. Mae ei ddeddfau yn achosi llawer o ddioddefaint i fy mhobl i. Gohebydd : Sut y llwyddoch i ymosod ar y castell ?

Model i’ch helpu !! Glyndŵr : Cuddiais mewn coedwig uwchlaw’r dre gan aros i’r

Model i’ch helpu !! Glyndŵr : Cuddiais mewn coedwig uwchlaw’r dre gan aros i’r milwyr gyrraedd. Arhosais yno am gyfnod eithaf hir. Gohebydd: Sut brofiad oedd hynny? Glyndŵr: Wrth gwrs roedd yn galed ar brydiau, ond roedd gweld fy mhobl yn dioddef yn gwneud i’m gwaed ferwi. Roeddwn yn benderfynol o ymosod ar y Cwnstabl a’i filwyr. Gohebydd : Sut roedd ganddoch ddigon o egni i ymosod ar y gelyn a chithau wedi bod yn byw yn y creigiau heb fawr o fwyd ers dyddiau? Glyndŵr : Chwarae teg i’r hen fynach sydd yn byw yn y dref. Roedd o’n dod â physgod a bara i mi yn aml felly roedd gen i ddigonedd o egni! Gohebydd: Wel, ga ddiolch i chi, ac mae’n rhaid eich llongyfarch hefyd wrth gwrs! Ac yn nawr nôl a ni i’r stiwdio.

Eich Tro Chi! § Gohebydd : Pwy wnaeth eich helpu i ennill y frwydr

Eich Tro Chi! § Gohebydd : Pwy wnaeth eich helpu i ennill y frwydr ? § Glyndwr : Y milwyr wrth gwrs, roeddent yn wych am ymladd. Ond roedd un person pwysicach na neb sef Rhys. Mae fy nyled i’n fawr iddo fo. § Gohebydd : Pam felly ? § Glyndwr : … § Beth am i chi orffen y ddeialog uchod neu greu deialog eich hunan. § Cofiwch ddilyn y meini prawf.