TAG DAEARYDDIAETH Sesiwn 3 Sgiliau gwaith maes ar

  • Slides: 36
Download presentation
TAG DAEARYDDIAETH Sesiwn 3: Sgiliau, gwaith maes a'r asesiad di-arholiad (ADA)

TAG DAEARYDDIAETH Sesiwn 3: Sgiliau, gwaith maes a'r asesiad di-arholiad (ADA)

Cynnwys: 1. Cyngor ymarferol ar ymgorffori'r SGILIAU Safon Uwch rhagnodedig yn eich cynlluniau gwaith.

Cynnwys: 1. Cyngor ymarferol ar ymgorffori'r SGILIAU Safon Uwch rhagnodedig yn eich cynlluniau gwaith. 2. Sut gallech chi fynd ati i ymgorffori GWAITH MAES yn eich cwrs Safon Uwch newydd a sut bydd yn cael ei arholi? 3. Mynd i'r afael â'r YMCHWILIAD ANNIBYNNOL (ADA) – gair i gall.

SGILIAU Daearyddol • Mae mwy o bwyslais ar sgiliau daearyddol gyda disgwyliadau manwl i

SGILIAU Daearyddol • Mae mwy o bwyslais ar sgiliau daearyddol gyda disgwyliadau manwl i ddatblygu sgiliau data ansoddol a meintiol. • Mae'n rhaid i'r cymhwyster Safon Uwch cyfan gynnwys yr ystod lawn o sgiliau rhagnodedig ac mae'n rhaid i'r UG gynnwys detholiad o'r sgiliau hyn (manylion yn y fanyleb) • Byddwch yn ymwybodol na fydd cyfrifiadau yn ofynnol ar gyfer gwyriad safonol, cyniferydd lleoliad, cyfeirnod Gini, Cydberthyniad Rhestrol Spearman na Chi-sgwâr yn yr arholiadau

Ymgorffori SGILIAU Daearyddol • • Mae tudalennau 57 – 61 yn mapio'r sgiliau yn

Ymgorffori SGILIAU Daearyddol • • Mae tudalennau 57 – 61 yn mapio'r sgiliau yn ôl uned – dilynwch y cyngor hwn i baratoi ar gyfer yr arholiadau AS yn 2017 Fel ellid defnyddio’r deunydd cartograffig a graffigol a restrir fel symbyliad yn y cwestiynau arholiad Yng nghefn y Canllawiau Addysgu, mae enghreifftiau o ymarferion sgiliau ystafell ddosbarth i chi roi cynnig arnynt Newydd ei gyhoeddi gan Hodder….

GWAITH MAES • Mae gennych rwydd hynt i ddewis y ffordd orau i ddefnyddio'r

GWAITH MAES • Mae gennych rwydd hynt i ddewis y ffordd orau i ddefnyddio'r amser a ddyrennir ar gyfer gwaith maes • Mae canllawiau'n nodi bod rhaid cwblhau o leiaf dau ddiwrnod o waith maes ar lefel UG (yn ymwneud â daearyddiaeth ffisegol a dynol) • Ar lefel Safon Uwch, gall myfyrwyr naill ai adeiladu ar eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o'r broses ymholi a enillwyd dros y ddau ddiwrnod ar lefel UG, neu ddefnyddio (o leiaf) pedwar diwrnod o waith maes i baratoi'n gyfan gwbl ar gyfer yr Ymchwiliad Annibynnol

Cynllunio eich GWAITH MAES • Sut gallech chi ymgorffori gwaith maes yn eich canolfan?

Cynllunio eich GWAITH MAES • Sut gallech chi ymgorffori gwaith maes yn eich canolfan? • Sut byddwch yn bodloni gofynion gwahanol y cyrsiau UG/Safon Uwch? • Sut dylech ddefnyddio canolfan astudiaethau maes? Mae gan yr FSC gyrsiau wedi'u teilwra yn arbenning ar gyfer manyleb CBAC. • Dylid cyflwyno’r broses ymholi

Sut gallech chi ymgorffori gwaith maes yn eich canolfan? • Byddwch yn greadigol –

Sut gallech chi ymgorffori gwaith maes yn eich canolfan? • Byddwch yn greadigol – mae mwy i waith maes na mynd i rywle ar fws • Cyflwynwch gais amserlennu yn gynnar fel bod eich myfyrwyr Safon Uwch gyda chi am gyfnod dwbl (y prynhawn fyddai orau) – mae hyn yn gwneud y broses o drefnu gwaith maes yn llawer haws • Defnyddiwch waith maes 'edrych a gweld' i ategu eich astudiaethau achos • Gweithiwch gydag ysgolion lleol eraill i gynllunio profiadau gwaith maes lleol

Y broses ymholi Mae’r broses ymholi yn creu fframwaith ar gyfer cymhwyso’r gwaith maes

Y broses ymholi Mae’r broses ymholi yn creu fframwaith ar gyfer cymhwyso’r gwaith maes a'r sgiliau daearyddol. • • • Cyd-destun a Chynllunio Casglu Data Cyflwyno - sut mae'r data a gesglir yn cael eu cyflwyno? Dadansoddi a dehongli tystiolaeth Casgliadau a sut maent yn ymwneud â'r nod cychwynnol? Gwerthuso'r ymchwiliad cyfan – cryfderau, cyfyngiadau, anghysondebau ac awgrymiadau ar gyfer gwella Fel nod, dylid anelu at adeiladu dealltwriaeth gyfannol o'r chwe cham uchod ar gyfer arholiadau AS a Safon Uwch.

Asesu Sut bydd sgiliau a gwaith maes yn cael eu hasesu? • Ar lefel

Asesu Sut bydd sgiliau a gwaith maes yn cael eu hasesu? • Ar lefel UG bydd gwaith maes yn cael ei asesu yn rhan o Arholiad Uned 2: Lleoedd Newidiol • Dyfernir 32 marc (20% o'r cymhwyster UG) am wybodaeth, dealltwriaeth a chymhwyso sgiliau daearyddol a thechnegau maes yn y rhan hwn • Ar lefel Safon Uwch bydd y sgiliau hyn yn cael eu hasesu drwy'r ymchwiliad annibynnol – a elwir yn asesiad di-arholiad hefyd (20% o'r cymhwyster)

Mae'n rhaid i'r ymchwiliad annibynnol: • • • fod yn seiliedig ar gwestiwn neu

Mae'n rhaid i'r ymchwiliad annibynnol: • • • fod yn seiliedig ar gwestiwn neu fater wedi'i ddiffinio gan y myfyriwr, sy'n ymwneud â'r cynnwys craidd neu anghraidd, gyda theitl unigol i'r myfyriwr hwnnw ymgorffori data maes a/neu dystiolaeth o ymchwiliadau maes defnyddio ymchwil y myfyriwr ei hun a/neu ddata eilaidd ei gwneud yn ofynnol i'r myfyriwr gyd-destunoli, dadansoddi a dod i gasgliadau cynnwys cyflwyniad o ddata a chanfyddiadau, ac ysgrifennu estynedig Adran Addysg, 2014

Mynd i'r afael â'r Asesiad Di-Arholiad (ADA) • Beth yw'r asesiad di-arholiad? • Pa

Mynd i'r afael â'r Asesiad Di-Arholiad (ADA) • Beth yw'r asesiad di-arholiad? • Pa gwestiynau y gallwn ofyn am yr asesiad diarholiad? • Pa waith papur y bydd angen ei gyflwyno? • Annibyniaeth yw’r ffocws yma – beth nad ydw i'n cael ei wneud? • Lle gallaf ddod o hyd i ragor o wybodaeth?

Beth yw'r asesiad di-arholiad? • Mae'r Asesiad Di-arholiad yn Ymchwiliad Annibynnol ac mae'n werth

Beth yw'r asesiad di-arholiad? • Mae'r Asesiad Di-arholiad yn Ymchwiliad Annibynnol ac mae'n werth 20% o'r cymhwyster Safon Uwch. • Adroddiad ysgrifenedig rhwng 3000 a 4000 o eiriau yw'r Ymchwiliad Annibynnol. • Mae angen i'r adroddiad fod yn gysylltiedig â'r fanyleb – ond gallai fod yn rhan o'r fanyleb nad yw'r myfyriwr ei hun wedi'i astudio.

Beth yw'r asesiad di-arholiad? • Bydd y pedwar diwrnod o waith maes a gwblheir

Beth yw'r asesiad di-arholiad? • Bydd y pedwar diwrnod o waith maes a gwblheir yn rhan o'r cwrs yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau y gallant eu defnyddio yn yr Ymchwiliad Annibynnol. • Gall myfyrwyr, ond nid oes rhaid iddynt, ddefnyddio data y gwnaethant gasglu yn ystod y pedwar diwrnod o waith maes fel rhan o'u Hymchwiliad Annibynnol. • Dewis arall yw cynnal yr Ymchwiliad Annibynnol ar destun ar wahân a chasglu data newydd.

Pa gwestiynau y gallwn ofyn am yr asesiad di-arholiad? A ddylwn i gael y

Pa gwestiynau y gallwn ofyn am yr asesiad di-arholiad? A ddylwn i gael y disgyblion i wneud yr asesiad di-arholiad dros yr haf? Ydw i'n cael defnyddio canolfan astudiaethau maes? Pa gwestiynau y gallwn eu gofyn? Pa feysydd ymchwil dylwn i ganolbwyntio arnynt? A yw fy holl fyfyrwyr yn gallu dilyn yr un testun? Pa lefel o annibyniaeth a ddylwn i sicrhau? Ydw i'n cael defnyddio gwaith maes UG fel sail? Ydw i'n gallu cael adborth ar deitlau unigol?

Pa waith papur y bydd angen ei gyflwyno? Mae'n rhaid i bob myfyriwr gyflwyno

Pa waith papur y bydd angen ei gyflwyno? Mae'n rhaid i bob myfyriwr gyflwyno gwaith fel a ganlyn: • wedi’i wneud gan ddefnyddio prosesydd geiriau, yn ffont Arial, Calibri neu Times New Roman • mewn maint ffont 11 pwynt • wedi'i osod â bylchiad llinell maint 1. 5 • gyda pob tudalen wedi'i rhifo • gyda rhif yr ymgeisydd a'r ganolfan naill ai yn y pennyn neu’r troedyn ar bob tudalen • gyda phenawdau ar bob graff, tabl, map, ffotograff ac allwedd/ eglurhad a graddfa ar fapiau

Pa waith papur y bydd angen ei gyflwyno? • Rhaid i ymchwiliadau ymgeiswyr gael

Pa waith papur y bydd angen ei gyflwyno? • Rhaid i ymchwiliadau ymgeiswyr gael eu hasesu'n fewnol a'u hanodi i ddangos sut mae marciau wedi'u dyfarnu • Dylai safoni mewnol ddigwydd os yw'n berthnasol. • Dylid cyflwyno marciau ar-lein a chynhyrchu sampl ym mis Mawrth • Dylid dychwelyd pob sampl gyda thair adran y ffurflen Ymchwiliad Annibynnol – adran ddilysu, adran gynnig a grid marciau

Canolbwyntio ar Annibyniaeth • • Yng nghyd-destun gwaith maes, nid yw 'annibynnol' yn golygu

Canolbwyntio ar Annibyniaeth • • Yng nghyd-destun gwaith maes, nid yw 'annibynnol' yn golygu gweithio ar eich pen eich hun. Gall myfyrwyr gasglu data mewn grwpiau Fodd bynnag, mae'n rhaid iddynt weithio'n annibynnol i gyd-destunoli, dadansoddi ac adrodd eu canfyddiadau i gynhyrchu Ymchwiliad Annibynnol gyda theitl unigol Mae'n rhaid i athrawon wirio teitlau i sicrhau y gall myfyrwyr fodloni'r meini prawf asesu Gall myfyrwyr weithio ar eu cyflymder eu hunain

Beth ydw i'n cael ei wneud? Datganiad Ydw Nac ydw Ateb go iawn a

Beth ydw i'n cael ei wneud? Datganiad Ydw Nac ydw Ateb go iawn a nodiadau Ydw i'n gallu creu llyfryn adnoddau ar gyfer y myfyrwyr, sy'n cynnwys atebion enghreifftiol a thempledi? Ydw i'n gallu rhoi cyngor i fyfyrwyr am ystyriaethau iechyd a diogelwch ac ystyriaethau moesegol? Ydw i'n gallu gwirio teitlau fy myfyrwyr a dweud wrthyn nhw a yw'n debygol o fodloni'r meini prawf asesu ai peidio?

Ydw i'n cael creu llyfryn adnoddau ar gyfer y myfyrwyr, sy'n cynnwys atebion enghreifftiol

Ydw i'n cael creu llyfryn adnoddau ar gyfer y myfyrwyr, sy'n cynnwys atebion enghreifftiol a thempledi? ✖ NAC YDYCH Na, ni chaniateir gwneud hyn. Gallwch esbonio'r gofynion ar gyfer y dasg ac esbonio'r meini prawf asesu a'r strwythur, ond ni allwch roi templedi, fframiau ysgrifennu, setiau data wedi'u cwblhau yn barod yn lle casglu data, asesiadau moesegol a risg.

Ydw i'n cael rhoi cyngor i fyfyrwyr am ystyriaethau iechyd a diogelwch ac ystyriaethau

Ydw i'n cael rhoi cyngor i fyfyrwyr am ystyriaethau iechyd a diogelwch ac ystyriaethau moesegol? ✔ YDYCH Ydych, mae hyn yn iawn. Gallwch a dylech roi cyngor am ystyriaethau iechyd a diogelwch, gan ddefnyddio offer a phryderon moesegol posibl.

Ydw i'n cael gwirio teitlau fy myfyrwyr a dweud wrthyn nhw a ydynt yn

Ydw i'n cael gwirio teitlau fy myfyrwyr a dweud wrthyn nhw a ydynt yn debygol o fodloni'r meini prawf asesu ai peidio? ✔ YDYCH Ydych, dyma rywbeth y mae'n rhaid i chi ei wneud a dweud y gwir. Gallwch hefyd gynnig arweiniad cyffredinol ar unrhyw ddiwygiadau sydd eu hangen i'r teitl.

Ydw i'n cael annog myfyrwyr i gydweithio i gynllunio methodolegau a strategaethau samplu? ✔

Ydw i'n cael annog myfyrwyr i gydweithio i gynllunio methodolegau a strategaethau samplu? ✔ YDYCH

Ydw i'n cael marcio drafft cyntaf ymchwiliad annibynnol fy myfyrwyr a rhoi cyngor penodol

Ydw i'n cael marcio drafft cyntaf ymchwiliad annibynnol fy myfyrwyr a rhoi cyngor penodol ac arweiniad unigol? ✖ NAC YDYCH Gallwch roi arweiniad yn y cam cynllunio ar y fethodoleg ac offer dadansoddol y mae'r myfyriwr yn bwriadu eu defnyddio, ond rhaid i'r canllawiau fod yn generig.

Ydw i'n cael rhoi thema neu restr o themâu iddynt ddewis ohonynt ar gyfer

Ydw i'n cael rhoi thema neu restr o themâu iddynt ddewis ohonynt ar gyfer eu hymchwiliad annibynnol? ✔ YDYCH Ydych, rydych chi'n gallu dewis lleoliad y gwaith maes a rhoi un neu fwy o themâu iddynt ddewis o'u plith.

A yw'r myfyrwyr yn cael gweithio mewn grwpiau bach i gasglu data gwaith maes

A yw'r myfyrwyr yn cael gweithio mewn grwpiau bach i gasglu data gwaith maes cynradd ar gyfer eu hymchwiliadau annibynnol. ✔ YDYNT Ydynt, gall myfyrwyr gasglu data'n annibynnol ond gallent hefyd gasglu data mewn grwpiau bach. Mae'n amhosibl gwneud rhai technegau os nad yw myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau (e. e. trawslun traeth!) ac mae agwedd iechyd a diogelwch i'w hystyried hefyd.

Canolbwyntio ar Annibyniaeth A yw myfyrwyr yn cael gweithio mewn grwpiau bach i gasglu

Canolbwyntio ar Annibyniaeth A yw myfyrwyr yn cael gweithio mewn grwpiau bach i gasglu data eilaidd ar gyfer eu hymchwiliadau annibynnol? ✖ NAC YDYNT Ni chaniateir hyn. Efallai nad yw data eilaidd o reidrwydd yn berthnasol i'r ymchwiliad annibynnol. Fodd bynnag, os yw'n berthnasol, mae'n rhaid casglu data yn hollol annibynnol. Mae'n rhaid i fyfyrwyr ddewis ffynonellau eilaidd o ddata ar eu pen eu hunain ac ni ellir defnyddio adnoddau a roddwyd iddynt gan bobl eraill.

Ydw i'n cael creu rhestr o 10 neu fwy o deitlau i fyfyrwyr fel

Ydw i'n cael creu rhestr o 10 neu fwy o deitlau i fyfyrwyr fel y gallant ddewis eu teitlau unigol o'r rhestr hon? ✖ NAC YDYCH Na, nid ydych yn cael gwneud hyn. Gallwch ddewis thema neu themâu i'ch myfyrwyr eu hymchwilio ond ni allwch greu rhestr o deitlau (dim ots pa mor hir!) iddyn nhw ddewis eu teitl ohono.

Ydw i'n cael rhoi caniatâd i fyfyrwyr fynd a'u gwaith adref gyda nhw i

Ydw i'n cael rhoi caniatâd i fyfyrwyr fynd a'u gwaith adref gyda nhw i weithio arno? ✔ YDYCH Gallwch, gall myfyrwyr fynd â'u gwaith adref gyda nhw i weithio arno. Fodd bynnag, mae'n rhaid i chi esbonio wrth y myfyrwyr bod unrhyw dystiolaeth sy’n dangos bod rhieni neu frodyr a chwiorydd wedi'u helpu yn cael ei ystyried yn gamymddwyn.

Ydw i'n cael rhoi cymaint o amser ag yr hoffwn i fyfyrwyr gwblhau eu

Ydw i'n cael rhoi cymaint o amser ag yr hoffwn i fyfyrwyr gwblhau eu hymchwiliad annibynnol? ✔ YDYCH Ydych, (mewn gwirionedd). Mae myfyrwyr yn cael eu hannog i weithio ar eu cyflymder eu hunain ac felly gallai'r amser a gymerir amrywio. Fodd bynnag, cofiwch mai gwerth 20% o'r cymhwyster yw'r ymchwiliad hwn ac rydych angen gweithio drwy weddill y cwrs hefyd.

A yw myfyrwyr yn cael gweithio mewn grwpiau bach i gyflwyno, dehongli a llunio

A yw myfyrwyr yn cael gweithio mewn grwpiau bach i gyflwyno, dehongli a llunio casgliadau o'u data. ✖ NAC YDYNT Ni chaniateir hyn. Mae'n rhaid i fyfyrwyr weithio'n gwbl annibynnol ar gyflwyno a dehongli eu data. Hefyd, mae'n rhaid iddynt weithio'n hollol annibynnol i lunio casgliadau o'u data ac i werthuso'u hymchwiliad.

Ydw i'n cael rhoi caniatâd i fyfyrwyr rannu adnoddau â'i gilydd? ✔ YDYCH Ydych,

Ydw i'n cael rhoi caniatâd i fyfyrwyr rannu adnoddau â'i gilydd? ✔ YDYCH Ydych, gall myfyrwyr rannu adnoddau ond mae‘n rhaid gwneud hynny yn unigol, ac ni ddylai myfyrwyr gopïo gwaith ei gilydd mewn unrhyw ffordd.

Ydw i'n cael rhoi caniatâd i fyfyrwyr yn fy nosbarth ddefnyddio teitlau sydd yn

Ydw i'n cael rhoi caniatâd i fyfyrwyr yn fy nosbarth ddefnyddio teitlau sydd yn union yr un fath? ✔ YDYCH Ydych, ond mae angen i chi sicrhau bod myfyrwyr wedi dyfeisio eu damcaniaeth, cwestiynau a ffocws (isgwestiynau) yn annibynnol, ond mae’n iawn i fyfyrwyr gael yr un teitlau neu deitlau tebyg.

Defnyddio'r cynllun marcio yn effeithiol. . Yn eich pecynnau, mae copi o'r adran Werthuso

Defnyddio'r cynllun marcio yn effeithiol. . Yn eich pecynnau, mae copi o'r adran Werthuso o Ymchwiliad Annibynnol sydd wedi'i wneud yn y gorffennol. Roedd yr ymchwiliad hwn yn edrych ar Ficrohinsawdd yn nhref Llanelli. • Defnyddiwch y cynllun marcio i osod lefel a marc ar gyfer y darn hwn o waith. • Mae'r ymchwiliad hwn wedi'i roi'n llawn ar ein gwefan. Yma gallwch weld sylwadau'r arholwr ar y chwe cham o'r ymholiad - yn gysylltiedig â chynllun marcio asesiad di-arholiad.

Oes mwy o wybodaeth ar gael? Mae’r Pwyllgor ar y Cyd o’r Byrddau Arholi

Oes mwy o wybodaeth ar gael? Mae’r Pwyllgor ar y Cyd o’r Byrddau Arholi wrthi’n ysgrifennu cyfres o gwestiynau ac atebion cyffredin, i’w cyhoeddi’n fuan. Bydd rhain hefyd ar gael ar wefan CBAC. Mae Swyddfa Arholiadau y CGC hefyd yn rhoi gwybodaeth a chefnogaeth ddefnyddiol. http: //www. jcq. org. uk/exams-office/non-examinationassessments

Ydw i'n gallu cael adborth ar deitlau unigol? Mae rhestr hir o deitlau posibl

Ydw i'n gallu cael adborth ar deitlau unigol? Mae rhestr hir o deitlau posibl yn y fanyleb (Atodiad C). Os hoffech gael mwy o sylwadau am unrhyw deitl – dylech eu hanfon at eich Swyddog Pwnc TAG, a fydd yn gallu gwneud sylwadau cyffredinol ar addasrwydd ac ehangder eich maes astudiaeth

Unrhyw gwestiynau? Cysylltwch â’n Swyddogion Pwnc arbenigol a thîm cefnogaeth weinyddol eich pwnc os

Unrhyw gwestiynau? Cysylltwch â’n Swyddogion Pwnc arbenigol a thîm cefnogaeth weinyddol eich pwnc os oes gennych unrhyw gwestiynau. Swyddog Pwnc TAG: Erin Roberts Ebost/Email: Erin. Roberts@cbac. co. uk Ffôn/Tel: 02920 265158 @wjec_cbac. co. uk