Tafodau Symudol Myrddin ap Dafydd Helo Geisia be
Tafodau Symudol Myrddin ap Dafydd Helo? Geisia be'? Dwi wedi cael plastic tw-tôn am fy ffôn - fy ffôn ar y lôn. Da 'te? tafodau – tongues geisia be - guess what ffôn-ar-y-lôn - mobile phone da 'te - good isn't it
Helo? Diolch am y CD sacsoffôn. Ti isio rhannu toblerôn? Wela' i di wrth giât lôn. Trra! ti isio - do you want rhannu - to share wela i di - see you giât - gate
Helo? Sgen ti rif Megan Fôn? Mae hithau wedi cael ffôn - dyna ydi'r sôn ar y lôn. Da 'te? sgen ti - have you got rhif – number dyna ydi'r sôn - that's what they say da 'te - good isn't it
Helo? Sssh! Prawf Daearyddiaeth. Lle mae Afon Rhône? Rho ganiad yn ôl ar fy ffôn-ar-y-lôn. Brysia! prawf – test caniad – ring ffôn-ar-y-lôn - mobile phone brysia - hurry up
Helo? Newydd gael caniad gan Joan ar y ffôn o Barcelona. Roedd hi’n binc fel King Prôn. Bechod ‘te? newydd gael - just had caniad - ring bechod - what a pity
Helo? Mae Siân sy’n mynd efo Siôn lawr i saith stôn. Dyna ydi’r sôn ar y ffôn. Oeddat ti’n gwybod hynny? sy'n mynd efo - who's going out with dyna ydi'r sôn - that's what they say oeddat ti'n gwybod hynny? - did you know that?
Helo? Mae ‘na rywbeth yn bod efo tôn blip ar y ffôn. Ydi o’i wneud efo twll yr osôn? mae 'na rywbeth yn bod - there's something wrong ydi o i'w wneud efo? - is it to do with? twll - hole
Helo? Ma Bygsi Malôn newydd ddweud dros y megaffôn y bydd yr ysgol yfory yn ffôn-ar-y-lôn-ffri-sôn. Fedar o ddim! newydd ddweud - just said ffôn-ar-y-lôn - mobile phone fedar o ddim - he can't
Helo? Geisia be? Mae Dad wedi cael bil fy ffôn ar y lôn. Mae o gymaint â Sir Fôn. Be’ ‘na i? geisia be - guess what ffôn-ar-y-lôn - mobile phone cymaint â - as big as be' 'na i? - what shall I do?
- Slides: 9