SESIWN FRIFFIO 7 MUNUD Llais yr Oedolyn mewn

  • Slides: 8
Download presentation
SESIWN FRIFFIO 7 MUNUD Llais yr Oedolyn mewn Perygl a’r Broses Ddiogelu

SESIWN FRIFFIO 7 MUNUD Llais yr Oedolyn mewn Perygl a’r Broses Ddiogelu

Ymgysylltu Dinasyddion a’r Broses Ddiogelu Mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru’n cyfarfod ag amrywiaeth o

Ymgysylltu Dinasyddion a’r Broses Ddiogelu Mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru’n cyfarfod ag amrywiaeth o ddarparwyr a gwasanaethau eirioli i drafod profiadau dinasyddion o fewn y Broses Ddiogelu. Mae’r Gweithdrefnau Diogelu Oedolion Cymru Gyfan newydd yn rhoi fframwaith i ni sicrhau y gwrandewir ar Lais yr Oedolyn mewn Perygl Mae rhagdybio gallu ymhlyg drwy gydol y gweithdrefnau Caiff dyletswyddau ac ystyriaethau eirioli eu hamlygu’n glir Mae’r Oedolyn mewn Perygl yn ganolog ym mhob penderfyniad a wneir a chaiff cyfathrebu gyda’r oedolyn mewn perygl ei hybu drwy gydol y broses

Atal – beth mae’n ei olygu i mi Helpa fi i fod yn ddiogel,

Atal – beth mae’n ei olygu i mi Helpa fi i fod yn ddiogel, nawr ac yn y dyfodol Yn fy ngeiriau i, mae amddiffyn yn golygu’r canlynol: Rydw i eisiau gwybod na fydd hyn yn digwydd i unrhyw un arall. Rydw i eisiau teimlo’n ddiogel - a gwybod na fydd hyn yn digwydd eto. Rydw i’n gobeithio bod pobl wedi dysgu o’r hyn a ddigwyddodd i mi. Allwch chi ddim dal i ddweud ei bod hi’n iawn, bod y pethau yma‘ digwydd - dydi hi ddim yn iawn. Rydw i’n gwybod gyda phwy y galla' i siarad nawr os bydda' i angen gwneud hynny.

Amddiffyn – Beth mae’n ei olygu i mi Gweithia gyda fi, i fy helpu

Amddiffyn – Beth mae’n ei olygu i mi Gweithia gyda fi, i fy helpu i fod yn ddiogel Yn fy ngeiriau i, mae amddiffyn yn golygu’r canlynol Cael y cymorth rydw i ei angen Cael pobl ar fy ochr i Gwybod y bydd pobl yn fy helpu i Peidio teimlo’n ofnus drwy’r amser Gallu mynd allan eto Gadael i mi fyw fy mywyd yn fy ffordd fy hun

Ymateb i Bryder Diogelu Siarada gyda mi am y pryder Gofynna i mi beth

Ymateb i Bryder Diogelu Siarada gyda mi am y pryder Gofynna i mi beth rydw i eisiau ei weld yn digwydd Gofynna i mi pa newidiadau yr hoffwn i ei gwneud (fy nghanlyniadau dymunol) Siarada gyda fi am roi gwybod am bryderon Siarada gyda fi am beth sy’n digwydd ar y cam yma, a pham Siarada gyda fi am ba gamau sy’n cael eu cymryd, a pham Siarada gyda fi am risgiau Siarada gyda fi am gynlluniau i reoli’r risgiau hynny Dyweda wrtha’ i a ydi’r newidiadau rydw i eisiau eu gweld wedi cael eu gwneud ai peidio

Cyfarfod Cynllunio Diogelu Meddylia sut rydw i’n teimlo. Meddylia sut y byddet ti’n teimlo

Cyfarfod Cynllunio Diogelu Meddylia sut rydw i’n teimlo. Meddylia sut y byddet ti’n teimlo yn fy lle i Os oes yna gyfarfod amdana’ i nad ydw i’n cael mynd iddo fo – dyweda wrtha' i pam. Cofia fod pobl yn gwneud penderfyniadau am fy mywyd i Ychydig ddyddiau cyn y cyfarfod, ffonia fi neu anfona’ lythyr ata' i i ddweud beth fydd yn digwydd Cyflwyna bawb sydd yn yr ystafell i mi, gan ddweud wrtha’ i beth ydi teitl dy swydd, beth rwyt ti'n ei wneud a pham dy fod di yma Rydw i angen rhywun gyda fi y galla' i ymddiried ynddyn nhw i fy helpu i. Gwna’n siŵr fod hyn yn digwydd Gad i mi gael seibiant – sylwa pan fydda’ i wedi cael digon ac yn fodlon cytuno i unrhyw beth am fy mod i wedi cau i lawr Gofynna i mi beth rydw i ei eisiau o’r cyfarfod – paid â chymryd yn ganiataol dy fod yn gwybod Dangosa ddiddordeb yn yr hyn sydd gen i i’w ddweud – gofynna am fy marn i Ddylai pobl ddim bod yn siarad amdana’ i – dylai pobl fod yn siarad gyda mi, am yr hyn rydw i ei eisiau Eglura bethau mewn ffordd y galla’ i ei deall – gwna’n siŵr fy mod i’n deall

Beth rydw i ei eisiau gan y bobl sy’n fy helpu i Iddyn nhw

Beth rydw i ei eisiau gan y bobl sy’n fy helpu i Iddyn nhw fod yn agored ac yn onest Empathi, caredigrwydd, anhunanoldeb, amynedd Teimlo bod pobl yn cymryd gofal ohono’ i bob amser Teimlo bod rhywun yn ymorol amdana’ i ac yn siarad o fy mhlaid i pan na alla' i wneud hynny Hirhoedledd – bod yna i mi yn yr hirdymor - hyd yn oed pan fydd pethau'n anodd Cynnig cysur i mi, doed a ddêl Bod yn llawn gwybodaeth am y byd Gofyn i mi beth allan nhw ei wneud i fy helpu i Cynnig cymorth a llawer o anogaeth i mi Rhoi ystyriaeth i'r hyn rydw i wedi bod drwyddo Rhoi hyder i mi a’r gallu i weld fy ngwerth fy hun; pan fydd y cymorth yno, rydw i eisiau ei dynnu ata’ i gyda fy nwy fraich!

Goblygiadau ar gyfer Sefydliadau Diogelu Sut fyddwch chi fel sefydliad / unigolyn yn ymateb

Goblygiadau ar gyfer Sefydliadau Diogelu Sut fyddwch chi fel sefydliad / unigolyn yn ymateb i’r negeseuon allweddol hyn? Pwyslais clir ar gynllunio sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn o fewn y Gweithdrefnau Diogelu Cymru Gyfan newydd Byddwn ni fel Bwrdd Diogelu Oedolion Gogledd Cymru yn parhau i wrando ar gymaint o bobl ag sy’n bosib er mwyn dysgu lle y gallem ni wella a sut y gallem ni gydweithio’n well.