Sesiwn Briffio Penaethiaid CCD Debbie Lewis Uwch Arweinydd
Sesiwn Briffio Penaethiaid CCD Debbie Lewis, Uwch Arweinydd ar gyfer Dysgu ac Addysgu Debbie. Lewis@cscjes. org. uk Tymor yr hydref 2018
Ymgysylltiad ysgolion mewn diwygio’r cwricwlwm • Mae bron i 90% o ysgolion wedi cwblhau’r Offeryn Parodrwydd • 81% o ysgolion y rhanbarth fynychodd hyfforddiant cychwynnol Creu’r Hinsawdd ar gyfer Newid • 79% o ysgolion fynychodd y sesiynau GGY gydag ysgolion arloesi.
Negeseuon o’r Offeryn Parodrwydd Mae ysgolion yn fwy hyderus yn y 4 diben nag y maent gyda’r egwyddorion addysgegol. Mae ysgolion yn fwy hyderus wrth sicrhau deilliannau nag wrth ddatblygu dysgu ac addysgu effeithiol. Dylai ysgolion gyrraedd yr adran ‘datblygu’ erbyn Ebrill 2019 er mwyn bod yn barod i dreialu’r cwricwlwm. Dylai diwygio’r cwricwlwm fod yn rhan annotod o’r cynllun datblygu ysgol. Mewn ymateb i’r offeryn parodrwydd, mae CCD wedi: - Hyfforddi holl ymgynghorwyr her yn y defnydd o’r offeryn parodrwydd er mwyn datblygu ysgolion - Cynhyrchu dewislen cymorth i ddangos y cyfleoedd ar gyfer datblygu dysgu ac addysgu ar draws Her Canol De Cymru - Darparu tri chyflwyniad i alluogi ysgolion i hyfforddi eu staff
Dewislen cymorth • Er mwyn i ysgolion allu dewis gweithgareddau dysgu proffesiynol sy’n eu cefnogi yn niwygio’r cwricwlwm • Cymorth pwrpasol ar gael i ysgolion sydd dan amgylchiadau heriol
Deunyddiau hyfforddi Cwricwlwm i Gymru ar gyfer ysgolion • Cyfres o dri chyflwyniad i’w cyflwyno gan arweinwyr i holl staff • Gwybodaeth hanfodol y dylai holl • Gwybodaeth ynglŷn ag ymelwa ar • Archwilio datblygu addysgeg yn staff fod yn gyfarwydd â hi. y cysylltiadau rhwng gwahanol barod ar gyfer diwygio’r agweddau ar y diwygio cwricwlwm.
Hyfforddiant Dylunio Cwricwlwm • Holl ysgolion yn barod i dreialu Cwricwlwm i Gymru yn Ebrill 2019 • Ar gael i holl ysgolion yn nhymor y gwanwyn • Hyfforddiant hanfodol yn cael ei gyflwyno i holl arweinwyr cwricwlwm ym mis Ionawr
Hyfforddiant Rheoli Newid • Cwricwlwm newydd i Gymru I gefnogi ysgolion trwy gyfnod o newid sylweddol, bydd CCD yn hwyluso hyfforddiant i benaethiaid – Tachwedd, Ionawr, Chwefror a Mawrth • Dull gweithredu cenedlaethol newydd ar gyfer Dysgu Proffesiynol • Cynnydd mewn cydweithredu ysgol i ysgol • Diwygio ADY a ffocws ar Degwch a Lles • Datblygiad Fframwaith Asesu ac Arfarnu newydd (gan gynnwys diwygiadau i arolygu ysgolion) • Diwygio darpariaeth Addysg Gychwynnol Athrawon • Sefydlu’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol • Y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth • Ailgysyniadoli ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu
Mae modd cadw lle ar yr hyfforddiant hwn trwy Cronfa. Cafwyd ymateb cadarnhaol i’r rhaglen hon oherwydd ei phwyslais ar y gweithgareddau ymarferol sy’n trosi newid ymddygiadol mewn i realiti. Mae ein rhesymeg dros gynnig yr hyfforddiant hwn yn adlewyrchu’r newid sydd ei angen o fewn y system ar bob lefel yn sgil diwygio’r cwricwlwm. Mae dogfen Dyfodol Llwyddiannus yn crybwyll y gair ‘newid’ dros 60 o weithiau. Hyfforddwr: Mae Melanie Franklin, o Agile Change Management Ltd hefyd yn Gadeirydd y Change Management Institute yn y DU. Mae hi’n gweithio’n weithredol gyda’r consortia rhanbarthol ac yn arwain ar fentrau newid mewn sawl sefydliad yn y sector preifat ac wrthi’n datblygu gallu Rheoli Newid yn y Cenhedloedd Unedig ar hyn o bryd.
Arolwg Staff a Disgyblion Canol De Cymru • 2 il blwyddyn o gynnal yr arolwg • 20% o ysgolion yn defnyddio sampl yn seiliedig ar gyflawniad cyfnodau allweddol, PYDd ac ardal. • 12 o ysgolion uwchradd, 51 cynradd • 863 aelod o staff (cyfradd dderbyn o 54%) wedi’u rhannu rhwng cyfnodau • Uwch arweinwyr, arweinwyr canol, athrawon dosbarth O ganlyniad i’r arolwg staff a disgyblion, bydd CCD yn: • Ymateb i anghenion dysgu proffesiynol gyda rhaglenni a chyfleoedd hyfforddi sy’n bodloni anghenion ymarferwyr ac arweinwyr • Arfarnu’r cynnig dysgu proffesiynol i sicrhau ei fod yn bodloni anghenion ymarferwyr • Darparu cyfleoedd hyfforddiant sy’n datblygu addysgeg i gefnogi’r themâu a amlgwyd yn yr arolwg disgyblion
Diweddariad Cwricwlwm i Gymru • Bydd drafft cyntaf y cwricwlwm yn cael ei gyhoeddi ym mis Ebrill 2019 • Ffocws Arloeswyr Cwricwlwm ar hyn bryd yw mireinio datganiadau ‘beth sy’n bwysig’ a’r camau cynnydd cysylltiedig • Mae Arloeswyr Dysgu Proffesiynol yn treialu a phrofi agweddau ar hyn ac yn adrodd yn ôl i’r grwpiau MDPh • Mae diweddariadau pellach i’w gweld ar y blog: https: //curriculumforwales. gov. wales/
Lleihau’r Baich Gwaith trwy Wella Adborth • Mae’r canllaw hwn yn ymrwymiad ar y cyd, wedi’i gymeradwyo gan Estyn, consortia addysg rhanbarthol, awdurdodau lleol, Cyngor y Gweithlu Addysg, undebau sy’n cynrychioli’r gweithlu addysg a Llywodraeth Cymru, i gynorthwyo athrawon ac arweinwyr i ddarparu dysgu ac addysgu effeithiol. • Prosiect traws-gonsortia i holl ysgolion yng Nghymru gael cyrchu’r un hyfforddiant o safon uchel. • ‘Mae addysgu da yn golygu defnyddio egwyddorion asesu ar gyfer dysgu’. Mae datblygiad yr egwyddor addysgegol hwn yn sail i ddatblygu strategaethau i annog plant i gymryd cyfrifoldeb dros eu dysgu eu hunain, datblygu annibyniaeth dysgwyr tra’n lleihau baich gwaith athrawon • Gan weithio ar y cyd, bydd ymarferwyr yn mireinio strategaethau ar gyfer adborth effeithiol ac effeithlon, defnyddio dull gweithredu seiliedig ar dystiolaeth i wella deilliannau disgyblion a sicrhau’r effaith fwyaf ar gynnydd disgyblion. • Ar gael trwy Cronfa • Mwyaf addas i arweinwyr sy’n gallu cael effaith ar bolisi ac ymarfer
Diwygio ADY Gwahoddiad i ysgolion fynychu digwyddiad sy’n canolbwyntio ar: • ADY a’r diwygiadau ehangach • Arolwg Cenedlaethol Parodrwydd Ysgolion ar gyfer diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol • Rhaglen e-Ddysgu i godi ymwybyddiaeth am y Ddeddf • Canllaw gweithredu Ll. C • Adborth ar y Cod Ymarfer • Gwybodaeth gynnar ynglŷn â’r cynnig dysgu proffesiynol cenedlaethol ar gyfer cydlynwyr ADY • Bydd arian ar gael i ddau aelod o staff o bob ysgol fynychu’r sesiynau hyn. Gan fod goblygiadau sylweddol i ddatblygiad y gweithlu ysgol gyfan, argymhellir i uwch arweinydd fynychu gyda’r cydlynydd ADY.
Cymhwysedd Digidol • Datblygu DCF – yw hyn yn flaenoriaeth yn eich ysgol? • Mae Estyn yn adrodd ar gynnydd disgyblion o ran cynllunio a gweithredu’r DCF ar draws y cwricwlwm. (Medi 18)
Cymraeg a’r dimensiwn Cymreig yw calon Cwricwlwm i Gymru • Cynllun Sabothol, ysgolion cyfrwng-Saesneg, yr ydym yn dechrau cymryd enwau ar gyfer 2019 -20 • Lansiwyd ‘Cymraeg Campus’ ym mis Gorffennaf a mae llawer o ysgolion cyfrwng Saesneg yn anelu am y wobr efydd • Cofiwch ein cyfarfodydd i gydlynwyr neu arweinydd y Gymraeg • Mae’r Gymraeg a Ff. CD i ysgolion cyfrwng Cymraeg yn hynod o boblogaidd ar CRONFA. Plis cymerwch olwg ar yr adnodd • Mae hyfforddiant gemau buarth ar gael i gymorthyddion neu staff eraill y ddau sector. Cysylltwch gyda’r tîm i drefnu dyddiad • Yr ydym angen pob clwstwr i enwebu ‘Pencampwr y Gymraeg’. Mae £ 1050 ar gael i bob clwstwr • Mae ysgolion cyfrwng Cymraeg yn anelu am wobr arian y Siarter iaith • 2 Hwb Cynradd mamiaith, 4 hwb Cynradd cyfrwng Saesneg, 3 hwb Uwchradd cyfrwng Saesneg ar gael i’w cefnogi yn y Gymraeg • Ydy disgyblion eich ysgol chi yn dawnsio, canu, adrodd, peintio, dylunio neu goginio? Cofiwch gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd sydd yn dychwelyd i Fae Caerdydd ym mis Mai. Mae mwy o fanylion ar www. urdd. org
Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth yn ei le i bawb o Fedi 2018 • Sioe Deithiol Ll. C gyda Mick Waters ym Mai 2018 • Cyflwynwyd dwy sesiwn ranbarthol i benaethiaid yng Ngorffennaf 2018 a roddodd sylw i’r cysyniadau sylfaenol sy’n tanategu’r safonau proffesiynol newydd ac a oedd yn seiliedig ar waith Mick Waters. • Tua 50% o benaethiaid y rhanbarth sydd wedi mynychu’r hyfforddiant. • Bydd CCD yn cynnal dwy sesiwn bellach ar 16 eg Tachwedd. • Bydd hyfforddiant pellach yn cael ei gynnal yn nhymor y gwanwyn i’ch cefnogi wrth roi’r gwaith hwn ar waith yn eich ysgol.
Dull gweithredu cenedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol Bydd defnyddio dull gweithredu cenedlaethol yn sicrhau: • cysondeb • Hawliau ymarferwyr; a • Bod darparwyr yn dilyn meini prawf dylunio Cynhelir digwyddiad lansio Ll. C ar gyfer y Model Cenedlaethol yn ein rhanbarth ar 13 eg Rhagfyr yng Nghanolfan y Holl Genhedloedd, Caerdydd. Kevin Palmer sy’n arwain y gwaith hyn yn Ll. C. Mae’r wybodaeth hon wedi cael ei chynnwys yn y bwletin ysgolion a gofynnwyd i arweinwyr gadw’r dyddiad yn rhydd.
Yr Ysgol fel Sefydliad Sy’n Dysgu Atebolrwydd Datblygu’r Cwricwlwm Digidol Dysgu Proffesiynol Asesu Yr Iaith Gymraeg Arweinyddiaeth ADY
Dysgu Proffesiynol Diwylliant Sefydliad Sy’n Dysgu Addysgeg Ymddirie -daeth Cydweithio Arweinyddiaeth 4 Diben Dysgu Proffesiynol Arloesedd Amser Meddwl ar y Cyd Technoleg Rydym wedi trefnu hyfforddiant i ysgolion ac rydym yn cymryd i ystyriaeth y meini prawf dylunio yn y dull gweithredu cenedlaethol. Mae’r pedwar rhanbarth yn cydweithio’n agos i ddatblygu cysondeb. Mae CCD yn adolygu cyflwyniad yr hyfforddiant ar hyn o bryd. Yn ystod tymor yr haf, rhoddwyd gwybod i holl ysgolion hwb bod angen ailosod mawr a bod y nifer presennol o hybiau ddim yn gynaladwy.
Bydd dysgu proffesiynol yn: • Cyfrannu at wireddu’r pedwar diben; • Symud ymarfer addysgu a dosbarth o safon uchel ymlaen; • Meithrin arweinyddiaeth ar bob lefel ac ar draws pob rôl; • Ymgysylltu ac ymestyn gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth presennol ar gyfer dysgu gydol gyrfa; • Seiliedig ar dystiolaeth, gan alluogi’r proffesiwn i ddefnyddio ymchwil ac ymholiad i hysbysu ymarfer presennol a’r dyfodol; • Gwella cyfleoedd ar gyfer cydweithredu proffesiynol – o fewn ysgolion, partneriaid a cymunedau dysgu ehangach; a • Chyfrannu at ddatblygu unigolion o fewn diwylliant sefydliad sy’n dysgu cefnogol. Diwylliant Sefydliad Sy’n Dysgu Addysgeg Ymddirie -daeth Cydweithio Arweinyddiaeth 4 Diben Dysgu Proffesiynol Arloesedd Amser Meddwl ar y Cyd Technoleg
Symud ymlaen Yn Consortiwm Canolbarth y De rydym wedi ymrwymo i gefnogi ein hysgolion trwy’r daith ddiwygio trwy ddapraru ystod o gyfleoedd dysgu proffesiynol sy’n rhoi sylw i anghenion cenedlaethol a rhanbarthol.
- Slides: 21