saernor Sgript Saernor Sgript saernor Sgript Gweithgaredd yn
- Slides: 8
saernïo'r Sgript Saernïo'r Sgript saernïo'r Sgript Gweithgaredd yn seiliedig ar ‘’Cwtsho’ saernïo'r Sgript gan Manon Rhys saernïo'r Sgript saernïo'r Sgript saernïo'r Sgript saernïo'r Sgript
Sut mae dechrau? Darllenwch Cwtsho eto gan wneud nodyn o’r gwahanol olygfeydd sy’n y stori a’r rhai sy’n cael eu crybwyll. Gallwch eu rhoi mewn trefn gronolegol wedyn.
Be’ nesa’? Edrychwch ar y golygfeydd sydd gennych ac ystyriwch a oes gennych ddigon o amrywiaeth i gadw diddordeb eich cynulleidfa. Gallwch wedyn ddewis pa olygfeydd i’w defnyddio a’u datblygu, pa rai i’w gadael a dechrau meddwl am rai i’w hychwanegu. Rhowch sylw arbennig i amrywio: LLEOLIAD AMSER CYMERIADAU
LLEOLIAD AMSER CYMERIADAU o Nodwch leoliadau’r golygfeydd sy’n cael eu crybwyll yn y stori. o Meddyliwch am 3 lleoliad arall i osod golygfeydd gwreiddiol.
LLEOLIAD GORFFENNOL AMSER PRESENNOL Y ferch a Pwten yn y gwely CYMERIADAU PRESENNOL Meddyliwch am dair golygfa i’w gosod yn y gorffennol a thair i’w gosod yn y dyfodol (ar ôl y stori. )
LLEOLIAD AMSER CYMERIADAU o Nodwch y cymeriadau sy’n ymddangos neu sy’n cael eu crybwyll yn y stori. o Pa is gymeriadau ellid eu datblygu ymhellach? o Meddyliwch am gymeriad(au) newydd i’w defnyddio. (Cofiwch fod hon yn stori o safbwynt plentyn a byddai gosod golygfeydd o safbwynt oedolion yn cyfoethogi’ch dealltwriaeth ohoni yn ogystal â chynnig amrywiaeth a gwreiddioldeb. )
Yr Olygfa Agoriadol Bydd golygfa agoriadol dda yn. . cyflwyno cymeriad . . . ddramatig . . . dal diddordeb y gynulleidfa. . . cyflwyno thema. . . rhoi syniad i’r gynulleidfa o natur y rhaglen
Cynllunio Defnyddiwch eich syniadau i greu cynllun bras ar gyfer sgriptio ‘Cwtsho’. Cofiwch werthuso’ch gwaith wedyn gan ystyried a oes digon o amrywiaeth a gwreiddioldeb ynddo. Cewch fwy o arweiniad ar greu undod yn yr uned ‘Cysylltu Golygfeydd’.