Rydw in gwybod beth syn iawn a beth
Rydw i’n gwybod beth sy’n iawn a beth sydd ddim yn iawn a pham. Gwrandewch ar y stori a dweud pam dyw sut mae’r anifeiliaid yn bihafio ddim yn iawn. Sut gallech chi helpu? Wedi'u haddasu o adnoddau S. E. A. L © Crown copyright 2010 gan R. Robbins.
Un dydd doedd gan Squeak mouse neb yn gwmni iddo fe amser chwarae. Edrychodd o amgylch y lle chwarae a gweld Snappy shark. ‘Eisiau chwarae gyda fi, DANNEDD MAWR? ’ meddai Squeak. Doedd Snappy shark ddim yn hoffi beth oedd Squeak mouse wedi dweud wrthi, ond roedd hi’n ofni Squeak ychydig bach, felly roedd hi’n meddwl bod well iddi ddweud bod hi’n fodlon chwarae. ‘Oce’, meddai Snappy shark, yn edrych braidd yn bryderus. Dywedodd Squeak mouse, ‘Iawn te. Dwi isie i ti fynd i ffeindio Sniffy rabbit a galw CLUSTIE MAWR arno fe. ’ Roedd Snappy shark yn gwybod hynny ddim yn garedig, a bod e ddim yn iawn, ond roedd hi’n rhy ofnus i wrthod gwneud e.
Pam mae Snappy’n ofnus? Ydych chi erioed wedi teimlo fel yna?
Daeth Snappy shark o hyd i Sniffy rabbit a dweud, ‘CLUSTIE MAWR, CLUSTIE MAWR. Mae gen ti GLUSTIE MAWR. ’ CLUSTIE MAWR, mae gen ti GLUSTIE MAWR.
Yna aeth hi’n ôl at Squeak mouse, oedd wedi bod yn gwylio. Roedd Squeak yn edrych yn falch, a dywedodd, ‘Reit, nawr dwi eisiau i fi ffeindio Henry hedgehog a dweud wrtho fe bod e’n dew. Brysia, bant â ti. ’
Roedd Snappy shark yn gwybod hi’n gwneud rhywbeth cas a drwg, ond roedd hi’n dal yn rhy ofnus i beidio gwneud beth roedd Squeak wedi dweud wrthi, ac mewn ffordd roedd hi’n teimlo’n bwerus yn ypsetio pobl yn y lle chwarae.
Beth yw ystyr pwerus – allwch chi ddefnyddio’ch corff i ddangos i fi? Ydy hi’n deg gwneud i bobl eraill wneud pethau sydd ddim yn garedig?
Aeth Snappy shark i chwilio am Henry hedgehog a dweud, ‘Rwyt ti’n bwdin tew, tew. ’ Rwyt ti’n bwdin tew, tew.
Dechreuodd Sniffy rabbit a Henry hedgehog grio. Roedden nhw’n teimlo’n drist ac yn anhapus iawn tu mewn, yn ddiflas ofnadwy. Roedd eu teimladau wedi brifo.
Y diwrnod nesa, pan oedd hi’n amser chwarae, daeth Squeak mouse o hyd i Snappy shark a rhoi rhagor o bethau cas iddi ddweud wrth Henry hedgehog a Sniffy rabbit. Roedd Snappy mor ofnus doedd hi ddim yn gwybod beth i’w wneud!
Aeth hyn ymlaen y diwrnod nesa hefyd, a’r diwrnod wedyn, nes bod Henry hedgehog mor drist ac wedi ypsetio cymaint fel bod e wedi dweud wrth ei Fam, a daeth hi i’r ysgol a dweud wrth yr athrawes.
Gofynnodd yr athro i’r holl anifeiliaid yn y dosbarth oedd ganddyn nhw unrhyw syniadau beth allen nhw wneud am y pethau oedd wedi bod yn digwydd yn ystod amser chwarae. Beth allwn ni wneud?
Oes unrhyw un yn gwybod beth sy’n digwydd i Squeak a Henry? Beth ddylai’r anifeiliaid wneud? Beth ddylai’r athro wneud? ‘ Pwy ych chi’n meddwl oedd yn bod yn gas a ddim yn garedig yn y stori? ’ Sut gallai hi fod wedi cael help os oedd hi’n ofnus? Beth gallai Snappy shark fod wedi dweud wrth Squeak mouse os doedd hi ddim eisiau gwneud y pethau cas? ‘Tasech chi wedi bod yn gwylio, beth ych chi’n meddwl gallech chi fod wedi gwneud i helpu?
- Slides: 13