Rhaglen Datblygu Penaethiaid Profiadol Maer dystiolaeth yn awgrymu
Rhaglen Datblygu Penaethiaid Profiadol
“Mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod angen i staff ysgolion fod yn fwy beirniadol am eu perfformiad a’u hunain a’u hysgolion os ydynt am gyflawni dysgu dwfn a chynnydd cynaliadwy. ” Adroddiad OECD: Datblygu Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu Hydref 2018
Cynnwys Pam mae hyn wedi cael ei chreu? Beth yw pwrpas y rhaglen? I bwy mae’r rhaglen? Beth mae’r rhaglen yn ei gynnwys? Pryd bydd hyn yn digwydd? Beth mae angen i mi ei wneud nawr?
Pam mae hyn wedi cael ei chreu? Mae’r rhaglen hon wedi cael ei chreu i’ch galluogi i fyfyrio ar eich perfformiad presennol a phennu’r camau angenrheidiol er mwyn i chi fod yn Bennaeth mwy effeithiol fyth. Mae’r rhaglen hon wedi cael ei chreu i ddarparu her a chefnogaeth bersonol; i ddarparu lle i chi drafod syniadau, theorïau ac offer; a’ch galluogi i elwa ar, a helpu eraill sy’n wynebu heriau tebyg. Nod hyn oll yw eich helpu i wella.
Beth yw pwrpas y rhaglen? Mae’r rhaglen yn hyrwyddo arweinyddiaeth effeithiol iawn trwy hunanarfarnu a myfyrio, gan archwilio’r berthynas rhwng arweinyddiaeth, ysgolion llwyddiannus a’r gymuned ehangach. Bydd cyfranogwyr yn archwilio a datblygu effaith eu harweinyddiaeth er mwyn: • • Myfyrio ar eu dull arweinyddiaeth eu hun Myfyrio ar sut mae eu harweinyddiaeth yn effeithio ar bobl eraill Myfyrio ar effaith ystod o ddulliau arweinyddiaeth e. e. dosranedig, trawsffurfiannol a chydweithredol Deall theori newid gyda ffocws penodol ar y daith ddiwygio Myfyrio ar arweinyddiaeth i ddiogelu newid effeithiol ar y daith ddiwygio drawsffurfiannol Cydweithredu gydag eraill i arwain eu hysgolion yn effeithiol a chael effaith gadarnhaol ar arweinyddiaeth ar hyd a lled Cymru Gwreiddio diwylliant ac ymarfer arloesi priodol ar draws a’r tu hwnt i’w hysgolion.
I bwy mae’r rhaglen? Rydym wedi creu’r rhaglen hon i Benaethiaid profiadol yn benodol. Mae’n rhaid i chi ymdopi â chyfres barhaus o heriau bob dydd – o gadw at reoliadau, rheoli cyllidebau, rheoli pobl, gweithio gyda rhanddeiliaid, cydweithio ag awdurdodau lleol, adrodd i Lywodraethwyr, delio â materion lles, gweithredu newidiadau i’r cwricwlwm, cyfathrebu â rhieni a bod yn gyfrifol am addysg miloedd o’n pobl ifanc. Rydych chi’n gwybod, ac rydym ni’n gwybod, bod eich rôl ymhell tu hwnt i rôl athro neu reolwr – mae angen i chi arwain ym mhob un o’r meysydd uchod, felly mae’r rhaglen hon yn cydnabod y rôl honno ac mae wedi ei chynllunio i’ch cefnogi i fynd i’r afael â’r heriau hynny.
Beth mae’r rhaglen yn ei gynnwys? 360 Adolygiad arweinyddiaeth 360 gradd Hyfforddiant unigol Dau weithdy preswyl Cymunedau Ymarfer
Adolygiad Arweinyddiaeth 360 Gradd Bydd pawb sy’n cymryd rhan yn y rhaglen yn cwblhau adolygiad arweinyddiaeth 360 gradd. Bydd hyn yn rhoi modd i chi fesur eich hun yn erbyn cyfres o gymwyseddau arweinyddiaeth. Byddwch hefyd yn gallu mesur eich dyfarniad yn erbyn eich cymheiriaid a’ch cydweithwyr. Bydd hyfforddwr yn gweithio trwy’r adroddiad adborth gyda chi, gan archwilio gwahaniaethau o ran canfyddiadau, themâu, meysydd o gryfder a chlustnodi meysydd ar gyfer gwella. 360
Hyfforddiant unigol "Coaching is not telling people what to do; it's giving them a chance to examine what they are doing in light of their intentions. " James Flaherty Bydd pawb sy’n cymryd rhan yn y rhaglen yn cael prif hyfforddwr cymwysedig iawn. Byddant yn gweithio gyda chi ar sail gyfrinachol un i ganolbwyntio ar eich anghenion unigol. Bydd eich hyfforddwr proffesiynol yn darparu amgylchedd diogel, strwythuredig a chyfrinachol i’ch helpu i ddeall eich cymwyseddau presennol, clustnodi ac egluro goliau a’r camau gweithredu er mwyn cyflawni’r goliau hynny.
Gweithdai Preswyl Bydd y rhaglen yn cynnwys cyfres o ganolfannau preswyl, lle byddwch yn ymgynnull gyda chyfranogwyr eraill er mwyn: • Deall effaith eich arweinyddiaeth eich hun ar bobl eraill • Deall effaith dulliau arweinyddiaeth priodol • Deall theorïau newid • Deall a chefnogi pobl yn y broses newid gyda sylw penodol ar les • Cynllunio ar gyfer ac asesu eich parodrwydd ar gyfer newid • Datblygu’ch sgiliau cyfathrebu
Cymunedau Ymarfer Bydd y gweithdai hyn yn helpu i ddatblygu Cymunedau Ymarfer – sef grŵp o gymheiriaid profiadol sy’n gallu parhau i gwrdd, ac wrth wneud hynny, fod yn adnodd defnyddiol i gefnogi ei gilydd. Yn ystod y gweithdai hyn, byddwn yn cyflwyno syniadau, offer, syniadau a theorïau i chi eu hystyried, eu haddasu a’u mabwysiadu fel sy’n briodol i chi. Fodd bynnag, byddwch hefyd yn elwa ar rannu heriau a datrysiadau gyda chyfranogwyr eraill; o herio’ch gilydd a manteisio ar y gefnogaeth mae’r sgyrsiau hyn yn ei darparu, yn ogystal â phrofiadau pobl eraill.
Pryd bydd hyn yn digwydd? Medi 2019: Proses ymgeisio Hydref 2019: Cwblhau Adolygiad Arweinyddiaeth 360 Gradd a hyfforddiant unigol yn dechrau Tachwedd – Rhagfyr 2019: Gweithdai preswyl cyntaf (dau ddiwrnod) Mawrth – Mai 2020: Ail weithdai preswyl (dau ddiwrnod)
Beth mae angen i mi ei wneud nawr? • Trafod eich cais gyda’r personél perthnasol, gan sicrhau bod gennych chi a’ch ysgol y capasiti i ymrwymo’n llawn i’r rhaglen. • Sicrhau bod gennych gadarnhad gan Gadeirydd eich Corff Llywodraethu bod eich cais yn cael ei gefnogi. • Cwblhau’r ffurflen gais a’i chyflwyno i’ch cydlynydd rhanbarthol erbyn 13: 00 ar 23 ain Medi 2019.
“Leadership and learning are indispensable to each other. ” John F Kennedy
- Slides: 14