Pwyswch Esc i ddod r cyflwyniad i ben
Pwyswch ‘Esc’ i ddod â’r cyflwyniad i ben. Amddiffyn y Genedl
Pa awyren hoffech chi ei hastudio? Hawker Hurricane Boulton-Paul Defiant Supermarine Spitfire Bristol Blenheim Mae cyswllt i’r diffiniadau Geiriau Allweddol Darparwyd y delweddau gan Gymdeithas Hanesyddol Brwydr Prydain mewn gwyrdd.
Supermarine Spitfire Mae’n debyg mai dyma’r awyren ymladd enwoca’r Ail Ryfel Byd. Erbyn i’r Ail Ryfel Byd ddechrau roedd naw sgwadron wedi cael eu harfogi ag awyrennau Spitfire ac roedd cyfanswm o 1, 960 Spitfire wedi cael eu harchebu. . Dysgu mwy am y Spitfire Gair Allweddol - Sgwadron Darparwyd y ddelwedd a’r wybodaeth gan Gymdeithas Hanesyddol Brwydr Prydain
Hedfanodd brototeip cyntaf y Spitfire ym mis Mawrth 1936. Cyrhaeddodd yr awyrennau Spitfire cyntaf (Marc 1) o’r ffatri y Sgwadron 19 yn Duxford yn Awst 1938. Peiriant Merlin II yn gyrru propelor pren, dau lafn oedd gan yr awyrennau cyntaf hyn. Roedd wyth dryll peiriannol 0. 303 (7. 7 -mm) Browning ar y model hwn o’r Spitfire. Erbyn Medi 1939, 306 o awyrennau Marc I yn unig oedd wedi cael eu trosglwyddo i’r RAF. Aeth y Spitfire i ryfel am y tro cyntaf ar 16 Hydref 1939. Ymosododd Sgwadron 602 a 603 ar awyrennau bomio ger arfordir yr Alban a saethu rhai ohonynt i lawr. Erbyn canol 1940 roedd un deg a naw o sgwadronau wedi eu harfogi ag awyrennau Spitfire. Collwyd bron i draean o’r rhain wrth oruchwylio traethau Dunkerque yn ystod mis Mai. Gair Allweddol - Prototeip Gair Allweddol - Dunkierque
Roedd brwydr Prydain yn ei hanterth yn ystod haf 1940 ac awyrennau Spitfire a Hawker Hurricane oedd prif awyrennau ymladd yr RAF. Yn ystod y frwydr rhoddwyd nifer fechan o awyrennau oedd wedi’u harfogi â chanon, sef y Spitfire Marc IB, i Sgwadron 19. Er i’r gynnau newydd dagu weithiau, fe wnaethon nhw berfformio’n ddigon da i argyhoeddi’r Weinyddiaeth Awyr mai da o beth fyddai rhoi gynnau canon yn yr awyrennau Spitfire fyddai’n cael eu harchebu yn y dyfodol. Enillodd y Spitfire ei lle fel awyren rheng flaen yr RAF, hyd yn oed ar ôl i’r Ail Ryfel Byd ddod i ben. Cafodd ei disodli gan awyrennau peiriant jet mwy effeithiol yn ddiweddarach. Gair Allweddol - Arfogi
Hawker Hurricane Cafodd y mathau cyntaf o Hawker Hurricane eu cyflenwi i Sgwadron 111 yn RAF Northolt yn 1937. Ym mis Chwefror 1938 hedfanodd J. W. Gilan, pennaeth y Sgwadron, awyren Hurricane o Turnhouse yn yr Alban i Northolt. Roedd hynny’n bellter o 327 o filltiroedd. Llwyddodd i wneud hyn mewn 48 munud ar gyflymder cyfartalog o 409 m. y. a. Dysgu mwy am yr Hurricane Cynlluniau o’r Hurricane a chynlluniau lliw Darparwyd y ddelwedd a’r wybodaeth gan Gymdeithas Hanesyddol Brwydr Prydain
Cafodd Prydain wybod yr awyren ymladd newydd a chwyldroadol hon nawr ar gael i amddiffyn y wlad. Roedd hyn hefyd yn ddull o roi gwybod i i’r Almaen fod gan Brydain awyren ymladd fodern ac effeithiol, a allai sefyll yn erbyn awyrennau’r Luftwaffe. Pan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd roedd gan 19 o sgwadronau’r RAF awyrennau Hurricane ac anfonwyd Sgwadronau Rhif 1, 73, 85 ac 87 gyda’u hawyrennau i feysydd awyr yn Ffrainc. Hurricane o Sgwadron Rhif 1 oedd y cyntaf o awyrennau’r RAF i ddinistrio un o awyrennau’r Almaen uwchben Ffrainc yn ystod y rhyfel. Yn ffodus, wnaethon nhw ddim ymosod ar Ynysoedd Prydain yn syth. Rhoddodd hyn amser i’r RAF gynhyrchu mwy o awyrenau Hurricane a Spitfire a hyfforddi mwy o beilotiaid. Gair Allweddol - chwyldroadol Gair Allweddol – anfonwyd
Ar 10 Gorffennaf 1940 y dechreuodd Brwydr Prydain yn swyddogol. Erbyn mis Awst 1940 gallai’r RAF alw ar 32 o sgwadronau Hurricane ac 19 o sgwadronau Spitfire. Dinistriodd awyrennau Hurricane fwy o awyrennau’r gelyn na’r Spitfire yn ystod Brwydr Prydain. Yn wir, dinistriodd fwy nag unrhyw amddiffynfeydd eraill, boed nhw yn yr awyr neu ar y ddaear. Heb os, roedd yn un o awyrennau ymladd gorau’r Ail Ryfel Byd. Fodd bynnag, doedd cyflymder uchaf yr Hurricane ddim yn ddigon da i gael mantais ar y Messerschmitt Bf 109 mewn ysgarmes. Felly'r strategaeth oedd anfon y Spitfire cyflymach i ymladd â’r awyrennau Bf 109 er mwyn rhyddhau’r sgwadronau Hurricane i ymosod ar awyrennau bomio’r Almaen. Gweithgaredd - Labelu Hurricane Defnyddiwyd y ddelwedd gefndirol gyda chaniâtad
© Hawlfraint William G. Wade. Atgynhyrchwyd gyda chaniatâd. Hawker Hurricane Marc. I. 1940 Cuddliwiau Brwydr Prydain Mwy o gynlluniau lliw i’r Hurricane
Cynlluniau lliw Hurricane Marc I. © Hawlfraint William G. Wade. Atgynhyrchwyd gyda chaniatâd.
Allwch chi labelu’r Hurricane yn gywir? Lle’r peilot Propelor Mast Erial Pibell wacáu Offer glanio Darparwyd y ddelwedd gan Gymdeithas Hanesyddol Brwydr Prydain Asgell y Gynffon
Allwch chi labelu’r Hurricane yn gywir? Propelor Lle’r peilot Mast Erial Asgell y gynffon Pibell wacáu Offer glanio Darparwyd y ddelwedd gan Gymdeithas Hanesyddol Brwydr Prydain
Bolton Paul Defiant Uchafswm cyflymder y Defiant oedd 304 m. y. a. Gallai fynd 465 o filltiroedd ar un tanc o danwydd, a gallai ddringo i 30, 350 o droedfeddi. Hefyd, roedd gan yr awyren bedwar gwn peiriant Browning wedi’u lleoli mewn twred oedd yn wynebu am yn ôl. Fodd bynnag, profodd golledion trychinebus yn ystod y Frwydr dros Ffrainc a Brwydr Prydain. Yn y pendraw cafodd yr awyren ei defnyddio fel awyren ymladd yn ystod y nos yn unig. Dysgu mwy am y Defiant Darparwyd y ddelwedd a’r wybodaeth gan Gymdeithas Hanesyddol Brwydr Prydain
Awyren ymladd gyda dwy sedd ac un injan oedd y Defiant. Roedd pob un o’r gynnau arni wedi cael eu rhoi mewn twred mawr trydanol. Y gred oedd, y byddai gan ynnwr heb gyfrifoldeb am hedfan awyren, well cyfle i daro’r gelyn na pheilot oedd yn gorfod llywio’r awyren i’r cyfeiriad y dymunai danio hefyd. Roedd y peilot a’r gynnwr yn rhannu cyfrifoldeb a dyma’r brif broblem gyda’r awyren. Yn ogystal â hedfan yr awyren roedd rhaid i’r peilot feddwl am linell danio’r gynnwr. Daeth peilotiaid y Luftwaffe o hyd i fan dall yr awyren - o dan y gynffon - mewn dim. Drwy ymosodd oddi tan i’r Defiant cawsant effaith drychinebus.
Yn ystod dyddiau cyntaf yr ymladd yn Ffrainc achosodd y twred oedd wynebu am yn ôl dipyn o benbleth i beilotiaid y Luftwaffe. Cafwyd colledion trwm yn Ffrainc ond llwyddodd Sgwadron 264 i adfer ei nerth erbyn dechrau Brwydr Prydain. Dioddefodd peilotiaid Sgwadron 141 golledion trychinebus y tro cyntaf iddyn nhw baratoi i ymladd ag awyrennau Bf 109 ar 19 Gorffennaf. Collwyd dwy awyren yn ymosodiad cyntaf y Luftwaffe a phedair arall pan ymosododd y gelyn am yr ail dro o’r tu ôl ac oddi tanodd. Gair Allweddol – paratoi i ymladd Tebyg fu tynged Sgwadron 264 pan gawson nhw eu hanfon i’r frwydr ddiwedd mis Awst. Ymhen wythnos, dim ond tair awyren oedd dal i hedfan. Tynnwyd y ddwy sgwadron yn ôl o unrhyw ymladd yn ystod golau dydd. Nawr, dim ond yn y nos roedden nhw’n cael ymladd a buon nhw’n fwy llwyddiannus o lawer.
Bristol Blenheim IF Awyren ymladd taith hir, drom oedd y Bristol Blenheim 1 F. Roedd wedi ei harfogi â phum gwn peiriant Browning ac un gwn peiriant Vickers yn pwyntio o’r twred yn wynebu am yn ôl. Araf iawn oedd y Blenheim o’i chymharu ag awyrennau ymladd y Luftwaffe ac roedd yn anodd iawn ei llywio. Maes o law cafodd ei throsglwyddo i ddyletswyddau ymladd yn y nos yn unig. Dysgu mwy am y Bristol Blenheim Gair Allweddol - llywio Darparwyd y ddelwedd a’r wybodaeth gan Gymdeithas Hanesyddol Brwydr Prydain
Erbyn Gorffennaf 1940 roedd gan Rheolaeth Awyrennau Ymladd saith sgwadron Blenheim. Yn anffodus doedden nhw’n dda i ddim yn ystod y dydd yn erbyn awyrennau Bf 109 y Luftwaffe, oedd yn gallu gwibio ar gyflymder o 357 m. y. a. o’i gymharu â 285 m. y. a. y Blenheim. Bristol Blenheim Messerschmitt Bf 109 E Lled asgell 56 troedfedd a 4 modfedd 32 troedfedd a 4 ½ modfedd Hyd 39 troedfedd a 9 modfedd 28 troedfedd a 8 modfedd Uchafswm cyflymder 285 milltir yr awr (m. y. a. ) 357 milltir yr awr (m. y. a. ) 1, 125 milltir 412 milltir Cwmpas Messerschmitt Bf 109 E Darparwyd y ddelwedd a’r wybodaeth gan Gymdeithas Hanesyddol Brwydr Prydain
Arfogaeth – Yr arfau sydd gan rywbeth. Anfonwyd – Wedi cael eu hanfon i rywle. Dunkerque –Ardal ar arfordir Gogledd Ffrainc lle cafodd milwyr Prydain a Ffrainc eu hachub o’r traethau a’u cludo’n ôl i Brydain oherwydd bod yr Almaenwyr wedi goresgyn Ffrainc mor gyflym. Paratoi i ymladd – Bod yn y frwydr a dechrau ymladd. Llywio – Symud yr awyren (to manoeuvre). Cyrraedd safle dda sy’n rhoi mantais. Prototeip – Y model gwreiddiol y mae cynlluniau diweddarach yn seiliedig arno. Chwyldroadol – Rhywbeth sy’n wahanol ac yn achosi newid mawr. Sgwadron – Adran o’r Llu Awyr. Grŵp o beilotiaid ac awyrennau. Yn ôl i Spitfire Yn ôl i Hurricane Yn ôl i Defiant Yn ôl i Blenheim
- Slides: 18