Portread H Ll Beth ydi Portread Mae portread
Portread H. Ll.
Beth ydi Portread? Mae portread yn disgrifio person. Mae angen disgrifio gwahanol agweddau o’r person hwnnw, a sôn ychydig am y nodweddion sy’n arbennig iddo.
Iaith ac Arddull Chi sydd yn ysgrifennu am rhywun arall felly rhaid i chi ysgrifennu yn y trydydd person e. e. Mae o/ hi. . Dydi o /hi ddim. . Defnyddio ansoddeiriau a chymhariaethau i ddisgrifio e. e. Mae ei wallt trwchus fel nyth blêr. Rhannu’ch gwaith yn baragraffau, rydych chi angen sôn am edrychiad y person, ac am ei bersonoliaeth. Rydych chi angen cynnwys stori neu atgof bach amdno/amdani.
Mae gan Siwsi lygaid tywyll, treiddgar. Trwyn cam fel bachyn pysgota sydd ganddi, a gên fain, bigog. Mae hi’n ddigon caredig gyda phobl sydd yn ei thrin hi’n iawn. Ond peidiwch a chyffwrdd yn ei llyfr swynion hi, neu mi fydd yn flin fel tincar. Un tro, rhedodd ar ôl Jac a bygwth ei roi yn y gawell. Diolch byth fod Jac yn redwr chwim! Chwiliwch am y nodweddion § Trydydd person § Ansoddair § Cymhariaeth § Edrychiad § Cymeriad § Atgof
§ § § Chwiliwch am y nodweddion Trydydd person Ansoddair Cymhariaeth Edrychiad Cymeriad Atgof Mae o’n dal ac yn gryf. Pan fydd yn marchogaeth bydd y ddaear yn crynu. O dan ei helmed mae’r llygaid craff yn gwylio popeth sydd yn disgwydd – yn union fel eryr doeth. Nid yw’n ofni dim, mae ei ddewrder yn enwog trwy’r wlad i gyd. Ef fydd ar flaen pob brwydr yn arwain ei ddynion. Mae’n arweinydd cadarn, yn sefyll yno fel craig heb symud cam. Nid yw’n fyrbwyll chwaith. Mae’n barod i aros ei gyfle, yn gyfrwys a gofalus. Felly y goresgynodd gastell Harlech, wrth aros a gwylio a chymryd ei gyfle.
Portread Saif ei wallt piws llachar fel blew cath wedi ei dychryn. Yn ei glust dde, mae clustdlws llachar yn hongian yn llipa a llewys ei grys-t carpiog wedi rhwygo fel tudalen flêr mewn llyfr. Mae ganddo lygaid mawr brown yn chwyrnu’n slei ar bawb a’i wyneb brawychus yn syllu’n filain arnom. Cryna’r llawr fel daeargryn wrth iddo darannu i lawr y grisiau fel ceffyl gwyllt. Tafla ei ddillad ar lawr ei lofft gan wylltio mam yn gacwn. Er ei bod hi’n pregethu dragwyddol ac yn bloeddio, ‘Cadw dy ddillad yn drefnus!’, dydy o ddim yn malio’r un botwm corn, dim ond chwerthin am ei phen. Ychydig iawn o amynedd sydd ganddo – yn sicr does ganddo ddim amynedd efo merch fach ddiniwed a da fel fi. Fy mrawd mawr ydy o. Eirian Jones
Ansoddeiriau: Addfwyn Ffyddlon Meddylgar Serchog Styfnig Rhywiol Lletchwith Esgyrnog Direidus Hoffus Dauwynebog Cariadus Cenfigennus Cwerylgar Gwawdlyd. Cyfrwys Treiglad meddal ar ôl ‘ei’ gwrywaiadd. ei ben Treiglad llaes ar ôl ‘ei’ benywaidd. ei phen Trefn: -Paragraff cychwynnol. -Darlun nodweddiadol (hanesion diddorol, personoliaeth, arferion, barn eraill am y person). -Pryd a gwedd- Llygaid, wyneb, gwallt, corff, dillad. -Llais, atgofion. -Diweddglo. GCa. D
- Slides: 7